Gall prynu a pherchen ar gartref fod yn garreg filltir bwysig. P’un a ydych yn prynu am y tro cyntaf neu’n lleihau maint eich cartref ar ôl ymddeol, gall ein canllawiau helpu.
Mae’r adran hon yn sôn am ochr ariannol prynu cartref, ni waeth pa gam rydych ynddo. Byddwch yn dysgu am forgeisi, costau prynu a gwerthu, a’r cymorth sydd ar gael i brynu cartref.
Os ydych chi’n cael trafferth talu’ch morgais, eisiau ailforgeisio neu angen arian ar gyfer ymddeoliad, rydym yn cynnwys hynny hefyd.