Canllaw prynwr cartref am y tro cyntaf

Beth yw morgais?

Yn gyffredinol, mae person yn cael ei ddosbarthu fel prynwr tro cyntaf os ydynt yn prynu eu unig neu brif breswylfa ac nad ydynt erioed wedi bod yn berchen ar rydd-ddaliad neu ddal prydles mewn eiddo preswyl yn y DU neu dramor.

Mae morgais yn fenthyciad a gymerir i brynu eiddo neu dir. Mae'r mwyafrif yn rhedeg am 25 mlynedd, ond gall y tymor fod yn fyrrach neu'n hwy.

Bydd angen isafswm o 5% o'r pris prynu arnoch fel blaendal, a benthyg gweddill yr arian (y morgais) gan fenthyciwr fel banc neu gymdeithas adeiladu.

Mae’r benthyciad yn cael ei ‘sicrhau’ yn erbyn gwerth eich cartref nes ei fod wedi’i dalu i gyd.

Os na allwch gadw i fyny a’ch ad-daliadau, gall y benthyciwr adfeddiannu (cymryd yn ôl) eich cartref a'i werthu fel eu bod yn cael ei arian yn ôl.

Faint o flaendal rwyf ei angen i brynu ty?

Cyn cychwyn edrych ar eiddo, bydd angen i chi gynilo ar gyfer blaendal.

Yn gyffredinol, bydd angen i chi geisio cynilo o leiaf 5% o gost y cartref yr hoffech ei brynu.

Er enghraifft, os hoffech brynu cartref sydd yn werth £150,000, bydd angen i chi gynilo o leiaf £7,500 (5%) ar gyfer y blaendal.

Bydd cynilo mwy yn rhoi mynediad i ystod ehangach o forgeisi rhatach sydd ar y farchnad ac i gyfradd llog is.

Help i brynwyr y tro cyntaf

Mae ystod o gynlluniau ar gael i helpu prynwyr tro cyntaf i'ch helpu chi i fynd ar yr ysgol dai, yn enwedig os mai ond blaendal bach sydd gennych.

Benthyciad i Werth

Wrth siarad am forgeisiau, efallai y byddwch yn clywed pobl yn sôn am ‘Benthyciad i Werth’ neu LTV.

Yn syml, dyma'r swm rydych wedi'i fenthyg i brynu'ch cartref (y benthyciad) o'i gymharu â phrisiad benthyciwr morgais o’r eiddo.

Er enghraifft, os ydych yn prynu cartref am £200,000, yn rhoi £20,000 i lawr fel blaendal a bod gennych forgais o £180,000 - eich LTV yw 90%. Mae hyn oherwydd bod y swm rydych wedi'i fenthyg (£180,000) yn 90% o werth y cartref (£200,000).

Po isaf yw'r LTV, po isaf y mae eich cyfradd llog yn debygol o fod. Mae hyn oherwydd bod y benthyciwr yn cymryd llai o risg wrth benthyca llai.

Mae'r cyfraddau rhataf fel arfer ar gael i bobl sydd â blaendal o 40%, sy'n cyfrif fel LTV o 60%.

Gwnewch yn siwr eich bod yn gallu fforddio eich ad-daliadau misol

Fel prynwr tro cyntaf, y peth pwysicaf i’w ystyried yw a ydych wir yn gallu fforddio cymryd y cam hwn.

Mae’n beth doeth llunio cyllideb cyn i chi ddechrau chwilio am eiddo. Meddyliwch faint y gallwch fforddio ei dalu bob mis, gan gofio y bydd rhaid i chi ddal i dalu costau bob dydd fel nwy, trydan a bwyd.

Cyllidebu ar gyfer y costau eraill sy’n gysylltiedig â phrynu cartref

Ar wahân i’ch taliadau morgais misol, mae costau eraill ynghlwm â phrynu cartref.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cost arolwg
  • ffioedd cyfreithiwr neu drawsgludwr (mae hyn yn aml yn cynnwys costau ychwanegol, fel ffioedd chwilio a Chofrestrfa Tir)
  • ffioedd trefnu morgais a ffioedd prisio
  • costau symud a symud i mewn
  • yswiriant adeiladau
  • costau cychwynnol ddodrefnu ac addurno
  • Treth Trafodiadau Tir (neu Dreth Trafodiadau Tir ac Adeiladau yn yr Alban, neu Dreth Stamp yn Lloegr a Gogledd Iwerddon)

Dod o hyd i forgais

Gallwch wneud cais am forgeisi yn uniongyrchol gan fanc neu gymdeithas adeiladu.

Ond efallai yr hoffech feddwl am ddefnyddio cynghorydd morgais rheoledig hefyd. Mae cynghorwyr yn gwybod llawer am y farchnad morgeisi a gallant eich helpu i ddod o hyd i'r morgais sy'n gweddu orau i'ch anghenion.

Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os:

  • dim ond blaendal bach sydd gennych
  • rydych yn hunangyflogedig
  • mae amgylchiadau eraill fel y math o eiddo, er enghraifft mae angen morgais arnoch ar gyfer cynllun cydberchnogaeth. 

Defnyddio gwefannau cymharu morgais

Mae gwefannau cymharu yn fan cychwyn da ar gyfer cymharu cyfraddau llog morgais. Gallwch ddefnyddio'r gwefannau hyn i gymharu morgeisi.

Mathau o forgais

Mae llawer o wahanol fathau o forgeisi ar y farchnad, a bydd deall yr opsiynau hyn yn eich helpu i wneud y dewis cywir.

Y peth cyntaf i feddwl amdano yw'r gyfradd llog. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cychwyn ar gynnig cyfradd sefydlog am nifer penodol o flynyddoedd. Ar ôl hyn, byddech fel arfer yn cael eich symud i gyfradd amrywiol safonol ddrutach eich benthyciwr. Mae hyn oni bai eich bod yn newid i forgais arall â'ch benthyciwr presennol, neu'n ail-forgeisio i fenthyciwr newydd.

Morgeisi ad-dalu yw'r rhai mwyaf cyffredin, lle rydych yn gwneud taliadau misol am y swm y gwnaethoch ei fenthyg a'r llog.

Gelwir y math arall o forgais yn forgais ‘llog yn unig’. Ond nid yw'r rhain ar gael yn aml oni bai eich bod yn chwilio am forgais prynu-i-osod.

Rhyddfraint neu brydles

Os ydych yn bwriadu prynu tŷ mae’n debyg mai’r rhyddfraint byddwch yn ei brynu. Mae hyn yn golygu mai chi sy’n berchen ar yr eiddo a’r tir y mae’r tŷ wedi cael ei adeiladu arno.

Os ydych yn prynu fflat, byddwch naill ai’n prynu prydles neu’n prynu cyfran o ryddfraint.

Y broses o wneud cais am forgais

Gall ymgeisio am forgais ymddangos fel proses hir a dryslyd, â llawer o ffurflenni i'w llenwi.

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch incwm, ymrwymiadau credyd a'ch gwariant. Os ydych yn hunangyflogedig, bydd angen i chi ddarparu ffurflenni treth a chyfrifon busnes am y ddwy neu dair blynedd diwethaf.

Bydd benthycwyr yn cynnal yr hyn a elwir yn asesiad fforddiadwyedd. Dyma gipolwg manwl ar eich cyllid, y mae benthycwyr yn ei ddefnyddio i weithio allan a allwch fforddio'ch ad-daliadau tymor hir.

Os ydych yn cael trafferth i gynilo ar gyfer blaendal

Os ydych yn cael trafferth cynilo am flaendal digon mawr, mae rhai opsiynau ar gael i chi.

Mae hyn yn cynnwys ystod o forgeisi cymorth teulu. Dyma lle mae pwy bynnag sy'n eich cefnogi yn rhoi canran o'r arian rydych yn edrych i'w fenthyg i gyfrif cynilo penodol, neu'n sicrhau'r morgais yn erbyn canran o'u heiddo eu hunain.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.