Mae rhyddhau ecwiti yn ffordd o fenthyg arian parod sydd ynghlwm mewn eiddo heb werthu eich cartref. Ond mae morgeisi diweddarach mewn bywyd yn gymhleth ac mae'n bwysig edrych ar y manteision a'r anfanteision ac unrhyw ddewisiadau eraill. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Esboniad o ryddhau ecwiti
- Sut mae rhyddhau ecwiti yn gweithio?
- Dewisiadau eraill i ryddhau ecwiti
- Egluro opsiynau rhyddhau ecwiti
- A yw rhyddhau ecwiti yn syniad da?
- Sut i ddod o hyd i ymgynghorydd rhyddhau ecwiti
- Defnyddio rhyddhau ecwiti ar gyfer problemau dyled
- Defnyddio rhyddhau ecwiti ar gyfer costau gofal yn ddiweddarach mewn bywyd
Esboniad o ryddhau ecwiti
Mae rhyddhau ecwiti yn fath o forgais sy'n eich galluogi i gael gafael ar yr arian sydd ynghlwm wrth werth eich cartref.
Gallwch ddewis gwneud ad-daliadau a pharhau i fyw yn eich cartref. Mae'r swm a fenthycwch (ynghyd â llog) yn cael ei ad-dalu drwy werthu eich cartref pan fyddwch yn marw neu'n symud i ofal hirdymor.
Y mathau mwyaf cyffredin o ryddhau ecwiti yw dychweliad cartref neu forgais gydol oes.
Ond mae rhyddhau ecwiti yn dod â rhai risgiau, a bydd angen i chi siarad yn gyntaf ag ymgynghorydd rhyddhau ecwiti arbenigol neu frocer morgeisi.
Sut mae rhyddhau ecwiti yn gweithio?
Mae ecwiti yn rhan o eiddo rydych chi'n berchen arno. Felly, os oes gennych forgais, yr ecwiti yw'r gwahaniaeth rhwng gwerth presennol eich cartref a'r hyn sydd ar ôl i'w dalu ar y morgais.
Os ydych chi'n berchennog tŷ sy'n 55 oed neu'n hŷn, gall rhyddhau ecwiti ganiatáu i chi fenthyca yr arian hwn o'ch cartref heb werthu.
Gallwch ei gymryd fel:
- cyfandaliad (mae'r rhan fwyaf o fenthycwyr yn dweud o leiaf £10,000),
- symiau llai a gymerir pan fyddwch ei angen neu fel incwm rheolaidd – a elwir yn 'tynnu i lawr', neu
- cyfuniad o'r ddau.
Ond gall fod yn ffordd ddrud o godi arian. Po gynharaf y byddwch yn cymryd cynnyrch rhyddhau ecwiti, yr hiraf y bydd gennych y benthyciad, a po fwyaf o log sy'n cronni.
Mae'n ymrwymiad gydol oes a all effeithio ar:
- eich cynlluniau yn y dyfodol, gan gynnwys gofal yn y cartref,
- cymhwysedd ar gyfer budd-daliadau, a
- etifeddiaeth.
Cyn penderfynu, rhaid i chi siarad ag arbenigwr rhyddhau ecwiti am y risgiau neu drafod opsiynau eraill gyda ymgynghorydd morgais.
Dewisiadau eraill i ryddhau ecwiti
EGall rhyddhau ecwiti fod yn gymhleth. Dylech bob amser edrych ar yr opsiynau eraill sydd ar gael i chi, yn enwedig os oes angen i chi godi arian ar gyfer pethau fel ariannu gofal bywyd diweddarach.
Siaradwch am y dewisiadau eraill hyn gyda ymgynghorydd morgais.
Symud i gartref llai o faint
Un opsiwn yw gwerthu a symud i gartref llai (o'r enw symyd i gatref llai o faint). Yna gallwch ddefnyddio'r elw gwerthu i godi'r arian sydd ei angen arnoch.
Darllenwch fwy yn ein canllaw Symud i gartref llai o faint
Morgais ymddeol llog yn unig
Gallwch ystyried cymryd morgais ymddeol llog yn unig os gallwch fforddio gwneud ad-daliadau misol.
Bob mis, byddwch yn gwneud taliad i dalu am log y benthyciad, ond fel arfer dim ond pan fyddwch yn gwerthu eich cartref, yn symud i ofal hirdymor neu pan fyddwch yn marw y telir y swm a fenthycwch.
Cyfnewid asedau eraill
Meddyliwch am gyfnewid unrhyw fuddsoddiadau neu ddefnyddio cynilion cyn cymryd cynnyrch rhyddhau ecwiti.
Os ydych chi'n ystyried rhyddhau ecwiti i dalu dyledion problemus, siaradwch ag ymgynghorydd hyfforddedig i gael help.
Dewch o hyd i gyngor dyled cyfrinachol ac am ddim yn agos atoch chi gan ddefnyddio ein teclyn lle i gael cyngor ar ddyledion.
Egluro opsiynau rhyddhau ecwiti
Mae dau opsiwn rhyddhau ecwiti:
1) Morgais gydol oes
Dyma lle rydych yn cymryd benthyciad morgais a sicrhawyd ar eich eiddo - dysgwch fwy am forgeisi gydol oes.
2) Cynllun dychweliad cartref
Dyma pryd y byddwch yn gwerthu'r cyfan neu ran o'ch eiddo i ddarparwr, fel arfer o dan werth y farchnad - darllenwch fwy am dychweliad cartref.
Pa bynnag opsiwn a ddewiswch:
- byddwch yn aros yn ddi-rent yn eich cartref am weddill eich oes
- Fel arfer mae opsiynau talu hyblyg, gan gynnwys yr opsiwn i dalu dim
- mae'r benthyciad, ynghyd â llog (os yw'n berthnasol), yn cael ei ad-dalu o werthiant eich cartref ar ôl i chi farw neu symud i ofal hirdymor.
I weld faint y gallech ei ryddhau o'ch cartref, ceisiwch chwilio am ddarparwyr ar-lein neu defnyddiwch gyfrifiannell rhyddhau ecwitiYn agor mewn ffenestr newydd am ddim StepChange
A yw rhyddhau ecwiti yn syniad da?
IMae'n demtasiwn canolbwyntio ar yr hwb uniongyrchol y gallwch ei gael o'r arian rydych chi'n ei ddatgloi gyda rhyddhau ecwiti. Ystyriwch sut y gallai effeithio ar eich dewisiadau yn y dyfodol a beth rydych am ei wneud yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae p'un a yw'n iawn i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, megis:
- oedran
- Iechyd
- cyllid
- faint rydych chi am ei ryddhau
- y math o eiddo (a'i werth posibl yn y dyfodol)
- eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Ond mae'n bwysig sicrhau bod gennych ddigon o incwm ar gyfer eich anghenion yn y dyfodol. Defnyddiwch ein cynlluniwr cyllideb am ddim i weld ble mae'ch arian yn cael ei wario bob mis.
Os ydych chi eisiau codi arian parod yn unig, siaradwch ag ymgynghorydd morgais am y dewisiadau eraill yn lle rhyddhau ecwiti a all helpu i roi hwb i'ch balans banc.
A yw rhyddhau ecwiti yn iawn i mi?
Mae'n dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Ystyriwch fanteision ac anfanteision pob opsiwn.
Manteision rhyddhau ecwiti
-
- Arian parod di-dreth
- Derbyn cyfandaliad di-dreth neu incwm rheolaidd.
-
- Ad-daliadau misol opsiynol
- Dewiswch a ddylid gwneud ad-daliadau i leihau eich dyled derfynol.
-
- Aros yn eich cartref eich hun
- Mwynhau eich ymddeoliad mewn amgylchedd cyfarwydd. Defnyddiwch yr arian ar gyfer addasiadau i'ch cartref i'ch helpu i aros yn eich cartref eich hun yn hirach wrth i'ch anghenion gofal newid.
-
- Tawelwch meddwl
- Ar gyfer benthycwyr ar y cyd, yn byw yn eich cartref heb gosb, neu gyda llai o bwysau ariannol os yw'ch partner yn marw neu'n symud i ofal hirdymor.
-
- Manteisio o werth eiddo cynyddol
- Parhau i elwa o werth cynyddol eich cartref (neu'r rhan yr ydych yn berchen arni o hyd) heb wneud taliadau ychwanegol.
-
- Cymhwysedd ehangach
- Yn wahanol i forgais safonol, nid oes asesiad fforddiadwyedd ac mae'r uchafswm oedran pan fyddwch yn gwneud cais fel arfer yn llai cyfyngol.
-
- Hyblygrwydd
- Gallwch ddefnyddio'r cyfandaliad ar gyfer pryniannau mawr neu fel rhodd i rywun agos.
Anfanteision rhyddhau ecwiti
-
- Effaith ar fudd-daliadau
- Gellid effeithio ar hawl i fudd-daliadau'r wladwriaeth sy'n destun prawf modd, Grantiau Awdurdodau Lleol neu ostyngiadau'r Dreth Gyngor. Gweld mwy am fudd-daliadau yn mewn ymddeoliad.
-
- Cyfradd llog uwch
- Gall morgeisi gydol oes fod â chyfraddau llog uwch na morgeisi cyffredin. Mae hyn yn golygu y gall dyled gynyddu'n gyflym.
-
- Ffioedd ymgeisio
- Gall fod ffioedd sylweddol i wneud cais, gan gynnwys taliadau am gyngor, cyfreithwyr, prisio a threfniant. Gallai'r cyfanswm fod rhwng £1,500 a £3,000.
-
- Yn effeithio ar gynlluniau gofal yn y dyfodol
- Efallai y bydd angen yr ecwiti yn eich eiddo arnoch i ariannu gofal hirdymor i chi neu'ch partner. Mae rhyddhau arian yn cyfyngu eich opsiynau yn gynnar.
-
- Mae'n anodd newid
- Gall cytundebau fod yn anodd eu newid neu gynnwys codiannau ad-dalu cynnar.
-
- Cyfyngiadau ar eich ffordd o fyw
- Gall cyfyngiadau fod yn berthnasol, megis methu â defnyddio'ch cartref fel llety gwyliau, ei adael yn wag am gyfnodau hir, neu wneud newidiadau strwythurol mawr.
-
- Etifeddiaeth is
- Dros amser, mae'r benthyciad a'r llog cynyddol yn lleihau'r ecwiti yn eich cartref. Os byddwch yn gadael yr eiddo i rywun yn eich ewyllys, byddant ond yn derbyn yr hyn sy’n weddill ar ôl i’r benthyciad gael ei ad-dalu, neu’r gyfran na wnaethoch ei werthu.
Gall ymgynghorydd morgais neu arbenigwr rhyddhau ecwiti argymell y dewis gorau i chi - gweler isod am fanylion ble mae cymorth am ddim ar gael.
Sut i ddod o hyd i ymgynghorydd rhyddhau ecwiti
Mae'n rhaid i gwmnïau rhyddhau ecwiti roi gwybodaeth bwysig benodol i chi i'ch helpu i benderfynu a ddylech chi fynd i mewn i gynllun. Bydd ymgynghorydd arbenigol yn eich helpu i ddeall eich dewisiadau a gwneud y penderfyniad cywir ar gyfer eich amgylchiadau.
Dod o hyd i arbenigwr rhyddhau ecwiti gan ddefnyddio'r cyfeirlyfr Equity Release Council (ERC)Yn agor mewn ffenestr newydd Neu i gael cymorth gydag opsiynau morgais eraill, defnyddiwch ein canllaw i ddod o hyd i ymgynghorydd proffesiynol.
Mae gan aelodau ERC safonau penodol (canllawiau) i'w bodloni wrth wneud argymhelliad, gan gynnwys:
- sicrwydd y byddwch yn aros yn eich cartref am oes, neu hyd y byddwch yn symud i ofal,
- gwarant dim ecwiti negyddol a
- log sefydlog neu wedi'i gapio.
Rhaid iddynt ddweud os na fodlonir safon gyda'r benthycwyr y maent yn eu hargymell ac egluro'n glir y risgiau i chi.
Mae ein cyfeirlyfr ymgynghorwyr ymddeol hefyd yn rhestru ymgynghorwyr ariannol cofrestredig sy'n arbenigo mewn cynllunio ymddeoliad.
Sicrhewch bob amser fod eich ymgynghorydd wedi'i gofrestru gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)Yn agor mewn ffenestr newydd
Wrth gysylltu â chynghorydd, cadarnhewch:
- eu ffioedd
- pa ffioedd eraill y byddwch yn eu talu (megis costau cyfreithiol, prisio a chostau sefydlu)
- os ydynt yn chwilio'r farchnad gyfan
- pa fath o gynhyrchion rhyddhau ecwiti y gallant eu cynnig.
Mae'r ymgynghorydd yn rhoi argymhelliad personol i chi
Unwaith y byddwch wedi siarad â chynghorydd, byddant yn gwneud argymhelliad ar gyfer eich sefyllfa ac yn darparu:
- 'llythyr addasrwydd' neu 'lythyr cadarnhau cynnyrch', a
- darlun ffeithiau allweddol (KFI).
Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn rhoi adroddiad personol i chi. Mae'r KFI yn amlinellu telerau eich cynllun a argymhellir, gan gynnwys:
- enw'r darparwr a disgrifiad o'r cynllun
- cost gyffredinol y cynllun ac unrhyw ffioedd i'w talu
- y gwasanaeth rydych chi'n ei gael, ynghyd ag unrhyw nodweddion eraill
- y fargen gyfradd llog (ar gyfer morgeisi gydol oes)
- manylion taliadau rheolaidd a faint y byddent pe bai cyfraddau llog yn cynyddu (ar gyfer morgeisi gydol oes).
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ei ddarllen yn llawn a gofynnwch iddynt egluro unrhyw beth sy'n aneglur.
Gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon i siopa o gwmpas a chymharu cynlluniau tebyg gan ddarparwyr eraill.
Byddwch yn derbyn cynnig i gyfreithiwr wirio
Unwaith y byddwch yn hapus ac yn cytuno i'ch cynllun gyda'ch ymgynghorydd, bydd angen i'ch cais gael ei gymeradwyo.
Pan fydd hyn yn cael ei gadarnhau, byddwch yn derbyn dogfen gynnig.
Bydd yn cynnwys manylion fel:
- y ffioedd
- eich enw a'ch cyfeiriad
- y swm y byddwch yn ei dderbyn
- unrhyw amodau arbennig fel clirio unrhyw forgeisi sy'n weddill.
Darllenwch ef yn ofalus. Os nad ydych chi'n hapus neu'n ansicr, does dim rhaid i chi fwrw ymlaen.
Yn olaf, bydd angen i chi logi'ch cyfreithiwr eich hun i wirio'r manylion unwaith y byddwch wedi cytuno ar gynllun rhyddhau ecwiti.
Defnyddio rhyddhau ecwiti ar gyfer problemau dyled
Os ydych yn cael trafferth cadw lan gyda phopeth ac yn chwilio am gymorth ariannol, mae asiantaethau ac elusennau sy'n darparu gwybodaeth a chyngor am ddim.
Siaradwch â rhywun os ydych yn cael trafferth
Os ydych am ddefnyddio rhyddhau ecwiti i glirio dyledion neu help gyda'ch ad-daliadau misol, cofiwch y bydd angen ad-dalu'r benthyciad ecwiti hefyd.
Os ydych chi'n poeni am arian, darllenwch ein canllaw ar help os ydych yn cael trafferth gyda dyledion.
Sefydliadau eraill sy'n gallu helpu
Mae yna bethau eraill y gallwch eu gwneud i ddatrys eich anawsterau, gan gynnwys cael cyngor ar ddyledion am ddim.
- Llinell Ddyled GenedlaetholYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch 0808 808 4000
- Elusen Dyled StepChangeYn agor mewn ffenestr newydd
- PayPlanYn agor mewn ffenestr newydd
- Rhwydwaith Cynghorwyr Arian
Dod o hyd i ymgynghorydd dyledion am ddim yn agos atoch chi, ar-lein neu ar y ffôn.
Defnyddio rhyddhau ecwiti ar gyfer costau gofal yn ddiweddarach mewn bywyd
Os ydych am ddefnyddio rhyddhau ecwiti i gefnogi anghenion gofal chi neu'ch partner, siaradwch â'ch cyngor am gael asesiad anghenion gofal. Mae hyn yn gwirio os ydych yn gymwys i gael cymorth gan awdurdodau lleol.
Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i ddarganfod yn gyflym beth allai fod gennych hawl iddo.
Grantiau ar gyfer cadw'ch cartref yn gynnes os ydych dros 60 oed
Yn dibynnu ar eich oedran a'ch amgylchiadau, efallai y bydd gennych hawl hefyd i gael grantiau ynni, cymorth ariannol neu gymorth gan y llywodraeth.
- Ymddiriedolaeth Arbed YnniYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch 0800 444 202 (ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon), 0808 808 2282 (ar gyfer yr Alban)
- Nyth (Cymru)Yn agor mewn ffenestr newydd