Mae cael morgais yn un o'r penderfyniadau ariannol mwyaf y byddwch yn ei wneud, felly mae'n bwysig ei gael yn iawn. Gall gweithiwr proffesiynol eich helpu i lywio'r farchnad morgeisi i ddod o hyd i'r cynnig cywir. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Beth mae cynghorydd morgeisi yn ei wneud?
Mae cynghorydd morgeisi yn weithiwr proffesiynol sy'n chwilio'r farchnad forgeisi ar eich rhan ac yn argymell y cynnig orau ar gyfer eich anghenion.
Fe'u gelwir hefyd yn froceriaid morgais, ond mae'r ddau yn gwneud yr un gwaith.
Maent naill ai'n annibynnol neu wedi'u 'clymu' â darparwr morgais, lle gallent fod wedi'u cyfyngu i rai cynigion neu ddarparwyr.
I roi cyngor morgais i chi, mae'n rhaid eu bod wedi cwblhau cymhwyster o'r enw Tystysgrif mewn Cyngor ac Ymarfer Morgeisi (CeMAP), sydd wedi'i gymeradwyo gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
Gwnewch yn siŵr bod y cwmni rydych chi'n ei ddewis yn cael ei reoleiddio drwy wirio cofrestr yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd
Oes angen cynghorydd morgeisi arnoch?
Mae gan gynghorwyr morgeisi annibynnol wybodaeth eang o'r morgeisi sydd ar gael gan wahanol fenthycwyr a'u meini prawf benthyca. Gallant chwilio'r farchnad ac argymell y cynnig orau i chi.
Mae dod o hyd i'r cynnigion hyn ar eich pen eich hun yn golygu llawer o ymchwil a thrafod eich amgylchiadau llawer o weithiau gyda gwahanol fenthycwyr.
Efallai y bydd cynghorydd hefyd yn gallu dod o hyd i gynnig na allwch ddod o hyd iddo ar eich pen eich hun. Gallant hefyd wella eich cyfle o gael eich derbyn am forgais gan y byddant yn gwybod pa fenthycwyr sydd fwyaf addas i'ch amgylchiadau.
Gallant fod yn arbennig o ddefnyddiol os:
- oes gennych flaendal bach
- nad ydych wedi bod gyda'ch cyflogwr ers amser hir
- ydych yn hunangyflogedig.
Risgiau o beidio â chael cyngor morgais
Pan fyddwch yn cael cyngor ar forgais rheoledig yn hytrach na gwneud ymchwil ar eich pen eich hun, bydd eich cynghorydd morgais yn argymell morgais priodol ar gyfer eich anghenion a'ch amgylchiadau.
Os bydd y morgais yn anaddas am unrhyw reswm yn ddiweddarach, gallwch wneud cwyn. Os oes angen, gallwch fynd â'ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd Mae hyn yn golygu bod gennych fwy o hawliau yn awtomatig pan fyddwch yn derbyn cyngor.
Mae peidio â chael cyngor yn golygu bod yn rhaid i chi gymryd cyfrifoldeb llawn am eich penderfyniad morgais.
Os na fyddwch yn cael cyngor, gallech ddod o hyd i:
- forgais sydd yn anaddas ar gyfer eich sefyllfa
- morgais sydd ddim yn cyd-fynd â meini prawf benthyca'r benthyciwr.
Pryd i weld cynghorydd morgeisi
Mae’n bwysig gweld ymgynghorydd ar ddechrau eich taith morgais, p’un a yw’n forgais cyntaf neu rydych yn ystyried ailforgeisio. Bydd yn arbed llawer o amser ac ymdrech i chi yn y tymor hir.
Mae’n syniad da siarad ag ychydig o gwmnïau gwahanol i weld beth sydd ar gael ac i gymharu ffioedd.
Mae dau brif fath o gynghorydd morgeisi
Cynghorwyr morgeisi sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â benthyciwr
- Fel arfer maent ond yn argymell morgeisi gan ddarparwr penodol.
- Gallant fod yn rhatach wrth i chi osgoi ffioedd brocer ymlaen llaw.
- Bydd gan rai benthycwyr gyfraddau neu ostyngiadau unigryw ar gael i'w cwsmeriaid presennol yn unig.
- Os ydych yn ailforgeisio ac eisiau aros gyda'ch benthyciwr presennol, gallai defnyddio eu cynghorydd morgeisi weithio orau ar eich cyfer
Broceriaid morgeisi neu gynghorydd ariannol annibynnol
- Gallant gynnig morgeisi gan lawer o wahanol fenthycwyr ac yn aml maent yn gwybod pa feini prawf y mae angen i chi eu bodloni i chi gael eich derbyn.
- Byddant yn delio â'r benthyciwr ar eich rhan.
- Mae rhai broceriaid yn 'farchnad gyfan' a gallant gynnig ystod ehangach o gynhyrchion. Ond efallai na fyddant yn ymdrin â phopeth. Os oes angen morgais penodol arnoch, fel Prynu i Osod neu Llog yn unig, bydd angen i chi ddod o hyd i'r cynghorydd cywir ar gyfer eich anghenion.
- Os ydych chi'n siopa o gwmpas am forgais, mae'n gwneud synnwyr dewis brocer neu gynghorydd, yn enwedig un sy'n darparu gwasanaeth 'marchnad gyfan'.
Cymharwch gynigion bob amser gan gynnwys ffioedd a thaliadau i ddewis yr opsiwn gorau ar eich cyfer.
Rhesymau eraill i ddefnyddio cynghorydd
- Byddant yn gwirio'ch cyllid i sicrhau eich bod yn debygol o fodloni meini prawf benthyca a fforddiadwyedd y benthyciwr unigol.
- Maent yn aml yn eich helpu i gwblhau'r gwaith papur, felly dylid delio â'ch cais yn gyflymach.
- Gallant addasu eich benthyca os yw'r swm yn newid o ganlyniad i drafodaethau.
- Byddant yn eich helpu i ystyried holl gostau a nodweddion y morgais, y tu hwnt i'r gyfradd llog.
- Dylent ond argymell morgais priodol i chi a byddant yn dweud wrthych pa rai rydych yn debygol o'u cael.
Dod o hyd i gynghorydd morgeisi
Gallwch ddod o hyd i ymgynghorydd morgeisi rheoledig ar y gwefannau hyn:
Mae hefyd yn syniad da dewis cwmni sy'n aelod o’r Association of Mortgage Intermediaries (AMI)Yn agor mewn ffenestr newydd
Gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu rheoleiddio trwy wirio cofrestr yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd
Allwch chi siarad â chynghorydd morgeisi am ddim?
Efallai y bydd cynghorwyr morgeisi yn codi tâl arnoch am eu gwasanaeth, yn dibynnu ar y cynnyrch rydych chi'n ei ddewis neu werth y morgais. Gallai'r tâl hwn fod yn gyfradd safonol neu fesul awr, neu'n ganran o'r swm rydych chi'n ei fenthyg. Bydd eraill yn rhad ac am ddim ond mae'r cynghorydd yn derbyn comisiwn gan y benthyciwr.
Mae rhai yn codi ffioedd ac yn derbyn comisiyn, ond dylech gael gwybod ymlaen llaw sut y bydd cynghorydd yn cael ei dalu a'r holl gostau sy'n gysylltiedig â darparu'r cyngor.
Gellir ychwanegu'r ffi at y morgais, ond mae'n rhaid i chi gytuno i hyn yn gyntaf a byddwch yn talu llog ar y ffi yn ogystal â gweddill y morgais, nes bod y swm cyfan yn cael ei dalu.
Ni fydd y rhan fwyaf o gynghorwyr morgeisi yn codi tâl am eich sgwrs gychwynnol, ond gwiriwch bob amser a fyddwch yn talu am hyn. Os yw'n rhad ac am ddim, gallwch siarad â mwy nag un cyn penderfynu.
Unwaith y bydd wedi'i logi, bydd eich cynghorydd yn gwneud argymhellion ac mae'n rhaid iddo roi dogfen darlunio morgais i chi.
Dogfen darlunio morgeisi
Mae'r ddogfen darlunio morgeisi yn amlinellu llawer o'r manylion am y morgais rydych yn ei gynnig. Mae hyn yn cynnwys:
- amlder a nifer eich ad-daliadau
- unrhyw ffioedd neu daliadau y mae'n rhaid i chi eu talu ymlaen llaw i gael y morgais
- cost gyffredinol y morgais, gan gynnwys llog, dros y tymor llawn
- cyfradd llog neu gyfradd tâl ganrannol flynyddol (APRC), a'r math o log (sefydlog neu amrywiol)
- beth sy'n digwydd os bydd cyfraddau llog yn codi a sut mae hyn yn effeithio ar eich ad-daliadau
- os oes unrhyw nodweddion arbennig o'r morgais, megis y gallu i ordalu neu dandalu
- os gallwch wneud gordaliadau i'r morgais ac unrhyw gosbau am wneud hynny
- beth sy'n digwydd os nad ydych am gael y morgais mwyach
- hyd y cyfnod i newid meddwl (o leiaf saith diwrnod, neu fwy yn dibynnu ar y benthyciwr).
Mae hyn yn eich helpu i ddeall yr hyn rydych yn cytuno iddo ac mae'n ffordd hawdd o gymharu cynigion morgais yn uniongyrchol.
Fel arfer, darperir adroddiad addasrwydd i'r ddogfen hon, sy'n rhestru pam mae'r cynghorydd morgais wedi penderfynu bod y cynnyrch hwn yn addas ar eich cyfer.