Cynllun gan y llywodraeth yw Cymorth i Brynu i helpu prynwyr tro cyntaf i gael eiddo gyda blaendal o 5% yn unig. Gallwch fenthyg 20% o’r pris prynu (gallwch fenthyg 40% yn Llundain), yn ddi-log am bum mlynedd. Gallwch wneud cais i'r cynllun yn Lloegr hyd at 31 Hydref 2022, a rhaid bod pryniannau cartref wedi'i gwblhau erbyn 31 Mawrth 2023.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Sut mae Cymorth i Brynu yn gweithio
Mae’r cynllun Cymorth i Brynu yn cynnig benthyciad ecwiti lle mae’r llywodraeth yn benthyca arian i brynwyr tro cyntaf yn Nghymru i brynu cartref sydd newydd ei adeiladu.
Rhaid defnyddio hwn i brynu’ch prif breswylfa ac ni ellir ei ddefnyddio i brynu ail gartref neu eiddo prynu-i-osod.
Mae angen blaendal o leiaf 5% o’r pris prynu arnoch.
Gallwch fenthyg 20% o’r pris prynu. Mae’r swm hwn yn ddi-log am bum mlynedd.
Uchafswm y pris prynu eiddo Cymorth i Brynu yw £300,000.
Ni allwch ddefnyddio Cymorth i Brynu i brynu eiddo sy’n uwch na’r terfyn hyn.


Mae Cymorth i Brynu ar gael yn amodol ar gymhwysedd, telerau ac amodau. Darganfyddwch fwy ar Own Your HomeYn agor mewn ffenestr newydd
Gwahaniaethau cenedlaethol
Mae gan Ogledd Iwerddon gynllun rhannau ecwiti gwahanol o’r enw Co-Ownership. Darganfyddwch fwy ar wefan Co-ownership
Sut i ad-dalu eich benthyciad
- Mae’r benthyciad ecwiti yn ddi-log am bum mlynedd.
- Ar ôl pum mlynedd, codir 1.75% arnoch. Ar ôl y chweched flwyddyn, bydd y llog ar y benthyciad ecwiti yn cynyddu yn ôl y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) ynghyd â 2% (1% os gwnaethoch gymryd y benthyciad ecwiti cyn mis Rhagfyr 2019).
- Rhaid ad-dalu’r benthyciad ecwiti ar ôl 25 mlynedd, neu’n gynharach os ydych yn gwerthu’ch cartref.
- Rhaid i chi ad-dalu’r un ganran o enillion y gwerthiant â’r benthyciad ecwiti cychwynnol. Felly os cawsoch fenthyciad ecwiti am 20% o bris prynu eich cartref, rhaid i chi ad-dalu 20% o enillion y gwerthiant yn y dyfodol.
Enghraifft o sut mae'r benthyciad ecwiti Cymorth i Brynu yn gweithio
Enw’r cost | Canran y cyfanswm | Gwerth £ |
---|---|---|
Eich blaendal |
5% |
£10,000 |
Benthyciad ecwiti |
20% |
£40,000 |
Morgais |
75% |
£150,000 |
CYFANSWM |
|
£200,000 |
Y gyfradd llog ar gyfer talu’n ôl eich benthyciad di-log
Unwaith y daw’r cyfnod di-log i ben bydd y cyfraddau llog a godir ar eich benthyciad yn codi bob blwyddyn ym mis Ebrill gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), ynghyd â 2%.
Blynyddoedd 1-5: dim ffioedd
Blwyddyn 6: 1.75% o’r benthyciad
Blwyddyn 7 ynlaen: 1.75% + CPI + 2% (1% os ydych wedi cymryd y benthiciad ecwiti cyn Rhagfyr 2019).
Byddwch hefyd yn talu ffi reoli misol £1 trwy ddebyd uniongyrchol. Pan fyddwch yn cymryd eich benthyciad ecwiti, rydych chi'n cytuno i'w ad-dalu'n llawn, ynghyd â ffioedd llog a rheoli.
Enghraifft sy'n dangos codiadau cyfradd llog nodweddiadol ar eich benthyciad o’r llywodraeth
Blwyddyn | Cyfradd llog |
---|---|
1 |
Dim taliadau llog |
2 |
Dim taliadau llog |
3 |
Dim taliadau llog |
4 |
Dim taliadau llog |
5 |
Dim taliadau llog |
6 |
1.75% |
7 |
1.82% |
8 |
1.90% |
Mae'r ffigurau uchod yn tybio bod CPI yn gyson ar 2% a dim gostyngiad yn swm y benthyciad.
O’r tabl, bydd eich taliad llog cyntaf yn 1.75% o’r swm y gwnaethoch ei fenthyg.
Bydd eich llog yn cynyddu bob blwyddyn ym mis Ebrill gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), ynghyd â 2%. Cyfrifir hyn trwy luosi swm y benthyciad (pris prynu x canran benthyciad ecwiti). Bydd canran y benthyciad ecwiti yn lleihau os bydd unrhyw ad-daliad rhannol yn cael ei wneud.
Mae’r gyfradd llog yn cynyddu bob blwyddyn trwy ychwanegu CPI ynghyd â 2%. Yna defnyddir y gyfradd llog o’r flwyddyn flaenorol i gyfrifo’r codiad cyfradd llog ar gyfer y flwyddyn ganlynol
Er enghraifft, mae’r canlynol yn dangos sut mae unrhyw gynnydd yn y gyfradd llog yn cael ei gyfrif gan dybio bod CPI yn aros yn gyson ar 2% ac na wneir unrhyw daliadau i ad-dalu benthyciad o’r llywodraeth:
1.75% (y gyfradd ym mlwyddyn 6) + 0.07% (1.75% x (0.02 CPI + 0.02) = 1.82%
1.83% (y gyfradd ym mlwyddyn 7) + 0.07% (1.83% x (0.02 CPI + 0.02) = 1.90%
Pan fyddwch yn gwerthu’ch cartref
Pan fyddwch yn gwerthu’ch cartref, neu pan fydd y morgais yn cael ei ad-dalu’n llwyr, mae’n rhaid i chi ad-dalu’r benthyciad ecwiti ynghyd â chyfran o unrhyw gynnydd yn y gwerth.
Enghraifft o sut mae'n gweithio pan fyddwch yn gwerthu'ch cartref
Cynnydd mewn gwerth |
25% |
Ad-dalu benthyciad ecwiti |
£50,000 (£40,000 + 25% o elw) |
Morgais |
£150,000 (llai ad-daliadau cyfalaf) |
Eich cyfran |
o leiaf £50,000 |
Gall y £50,000 sy’n weddill (neu’n fwy) gael ei ddefnyddio fel blaendal ar eich cartref nesaf.
Mae’r union swm yn dibynnu ar faint rydych wedi’i dalu oddi ar eich morgais.
Gallwch hefyd dalu rhan neu’r cyfan o’ch benthyciad yn ôl ar unrhyw adeg.
Y canran isaf y gallwch ei dalu yn ôl yw 10% o werth y farchnad eich cartref.
Bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn ôl yn dibynnu ar werth y farchnad ar y pryd.