Treth Dir y Dreth Stamp: trosglwyddo perchnogaeth tir neu eiddo yn Lloegr a Gogledd Iwerddon

Efallai y tybiwch mai un taliad unwaith ac am byth yw Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) pan brynwch gartref ac ni fydd angen ei dalu fyth eto ar yr eiddo hwnnw. Ond, os bydd y perchennog yn trosglwyddo rhan neu’r cyfan o’r eiddo, yna gall SDLT fod yn daladwy. Yn y canllaw hwn, darganfyddwch pryd gallai SDLT fod yn ddyledus.

Pryd gallai Treth Stamp ddod yn daladwy?

Ar gyfer trafodiadau preswyl, gallai Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) fod yn daladwy os, er enghraifft:

  • trosglwyddir rhan neu’r cyfan o eiddo i chi, a
  • bod gwerth yr hyn a drosglwyddir dros y trothwy SDLT.

Band dim cyfradd Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yw £250,000 (o 23 Medi 2022). Bydd hyn yn parhau tan 31 Mawrth 2025.

Bydd faint o SDLT a dalwch yn dibynnu ar yr hyn a elwir yn ‘ystyriaeth daladwy’.

Y pris a dalwyd am yr eiddo yw’r ystyriaeth daladwy gan gynnwys unrhyw osodiadau a ffitiadau. Efallai bydd hyn yn golygu taliad mewn arian parod, gan ysgwyddo’r cyfrifoldeb am ran neu’r cyfan o weddill y morgais neu gyfuniad o’r ddau.

Fodd bynnag, gall gynnwys unrhyw beth o werth ariannol, fel cynnig i dalu ffioedd cyfreithiol neu drosglwyddo asedau eraill, fel tir neu eiddo eraill, fel rhan o’r cytundeb.

Mae’r canlynol yn enghreifftiau o bryd efallai na fydd SDLT yn daladwy wrth drosglwyddo neu roi tir ac eiddo yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Pryd fydd Treth Stamp yn daladwy

Efallai y bydd angen i chi dalu Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) pan drosglwyddir y cyfan neu ran o fuddiant mewn tir neu eiddo i chi a'ch bod yn rhoi unrhyw beth o werth ariannol yn gyfnewid (yr ystyriaeth drethadwy).

Efallai y bydd Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) yn ddyledus os yw'r ystyriaeth drethadwy dros y trothwy o £250,000.

Ar gyfer eich prif eiddo, codir Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) ar 5% rhwng £250,001 a £925,000, 10% rhwng £925,001 a £1.5 miliwn a 12% ar unrhyw beth uwch na £1.5 miliwn.

Os mai ail eiddo yw hwn, neu eiddo prynu i osod,  byddwch yn talu 3% ychwanegol ar yr holl fandiau perthnasol os yw’n werth mwy na £40,000.

Os bydd angen i chi dalu SDLT, bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth SDLT, oni bai fod y trafodiad wedi ei eithrio - er enghraifft gall hyn fod oherwydd nad oes unrhyw arian neu taliad wedi ei gyfnewid.

Trosglwyddo ecwiti lle mae morgais sy'n ddyledus yn bodoli o fewn trothwy SDLT

Mae trosglwyddo ecwiti yn golygu newid ym mherchnogaeth gyfreithiol eiddo. Yn aml bydd yn digwydd pan fydd benthyciwr yn cael ei ychwanegu at forgais neu ei ryddhau ohono. Bydd faint o SDLT rydych yn ei dalu yn dibynnu ar amgylchiadau'r trosglwyddiad eiddo.

Efallai y bydd cyd-berchnogion (gan gynnwys gyplau dibriod) yn cytuno i drosglwyddo perchnogaeth eiddo sydd ganddynt i un ohonynt yn unig. Er enghraifft, efallai byddai rhaid i bâr dibriod sy’n gwahanu ac un ohonynt yn cymryd perchnogaeth lwyr angen talu SDLT ar gyfanswm yr ystyriaeth daladwy.

Er enghraifft, rhoddwyd gwerth o £200,000 ar dŷ, gyda £100,000 yn weddill ar y morgais a £100,00 mewn ecwiti.

Mae’r sawl sy’n cymryd y berchnogaeth:

  • yn talu £50,000 i’r llall am hanner arall y £100,000 o'r ecwiti sydd ar ôl yn yr eiddo a
  • yn dod yn gyfrifol am hanner arall y morgais sy’n weddill, sef £50,000 (gan dybio bod yr eiddo mewn cyfranddaliadau cyfartal)

Mae hyn yn creu ystyriaeth daladwy o £100,000.

Pan fo unigolyn wedi cymryd perchnogaeth o ecwiti mewn eiddo sydd â morgais, yna dim ond os yw’r ystyriaeth daladwy yn uwch na’r trothwy cyfredol o £250,000 y bydd treth stamp yn daladwy. Yn y sefyllfa yma byddai'n rhaid i'r person sy'n cymryd perchnogaeth dalu dim mewn Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT).

Trosglwyddiadau ecwiti dros y trothwy SDLT

Mae perchennog eiddo gwerth £700,000, gyda morgais heb ei dalu o £600,000, yn priodi.

Maent yn trosglwyddo hanner yr eiddo i'w partner, sy'n cymryd cyfrifoldeb am hanner y morgais.

Mae gan y sawl sy'n derbyn y trosglwyddiad ystyriaeth drethadwy o £300,000, sydd dros drothwy'r Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT).

Bydd gan y perchennog newydd atebolrwydd Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) o £2,500 (0% o £250,000 a 2% o £50,000).

Os oes rhaniad anghyfartal

Os bydd cyd-berchnogion yn rhannu eiddo’n anghyfartal a bod y sawl sydd â’r gyfran fwyaf yn digolledu’r llall, gallai’r iawndal hwnnw fod yn destun SDLT os yw’n uwch na’r trothwy £250,000.

Er enghraifft, rhennir tŷ deulawr yn ddwy fflat, ond mae gan y fflat ar y llawr gwaelod, a dim ond y fflat honno, fynediad i’r ardd. Yn sgil hynny, mae’r fflat llawr gwaelod yn werth mwy o arian ac mae perchennog rhan hon o’r eiddo’n digolledu’r llall yn ariannol.

Os yw’r iawndal yn uwch na £250,000 bydd rhaid i’r sawl sy’n cael ei ddigolledu dalu SDLT ar y swm sydd dros y trothwy a chyflwyno ffurflen dreth SDLT.

Fodd bynnag, os bydd y perchennog yn penderfynu peidio â digolledu’r llall, neu caiff ei roi fel rhodd, nid oes ystyriaeth na SDLT i’w dalu.

Pryd efallai na fydd Treth Stamp yn daladwy

Os mai rhodd yw’r trosglwyddiad

Os mai rhodd yw’r trosglwyddiad ac nid oes ystyriaeth, nid yw SDLT yn berthnasol gan amlaf.

Mae rhodd yn wahanol i drosglwyddiad gan nad oes trosglwyddiad o werth ariannol. Golyga hyn nad yw’r unigolyn sy’n cael yr eiddo’n talu unrhyw arian parod am ei gyfran, nid yw’n cymryd cyfrifoldeb am y morgais ac nid yw’n cynnig unrhyw ased yn gyfnewid, felly nid oes ystyriaeth daladwy.

Er enghraifft, mae perchennog tŷ yn priodi, yn cael partneriaeth sifil neu’n symud i mewn gyda’i bartner ac yn penderfynu trosglwyddo hanner yr eiddo i’w bartner. Os nad yw’r partner yn talu unrhyw beth mewn arian parod am hyn ac nid yw’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb cyfreithiol am unrhyw forgais sy’n weddill, yna ystyrir hynny’n rhodd ac nid yw’n destun SDLT.

Os etifeddwch yr eiddo mewn ewyllys

Os byddwch yn etifeddu tir neu eiddo dan delerau ewyllys, nid oes angen hysbysu HMRC ac ni fyddwch yn talu SDLT fel rheol, ar yr amod na roddwyd unrhyw ystyriaeth arall. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os byddwch yn ysgwyddo morgais sy’n weddill ar yr eiddo ar y dyddiad y bu farw’r person.

Os byddwch yn trosglwyddo perchnogaeth eiddo yn sgil ysgariad, gwahanu neu ddiweddu partneriaeth sifil

Fel arfer nid oes angen i chi dalu SDLT os ydych yn trosglwyddo budd mewn tir neu eiddo i’ch partner fel rhan o gytundeb neu orchymyn llys yn sgil un ai:

  • ysgariad
  • diddymu partneriaeth sifil.

Mae hyn yn berthnasol hefyd os yw’r partneriaid un ai:

  • yn dirymu eu priodas
  • yn gwahanu’n gyfreithiol.

Yn yr achosion hyn, nid oes angen hysbysu HMRC ynglŷn â’r trosglwyddiad, hyd yn oed os yw’r gwerth yn uwch na’r trothwy SDLT.

Os bydd cyd-berchnogion yn ddibriod ac nid mewn partneriaeth sifil pan fyddant yn trosglwyddo budd mewn tir neu eiddo o un cyd-berchennog i’r llall, efallai y bydd angen i chi dalu SDLT.

Os ydych yn rhannu eiddo sydd â chyd-berchnogaeth os nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Os yw dau neu fwy o bobl yn cyd-berchnogion ar eiddo, un ai fel cyd-denantiaid neu denantiaid ar y cyd a rhennir perchnogaeth yn gyfartal nid yw SDLT fel arfer yn daladwy.

Pan fydd trosglwyddiad eiddo yn arwain at berchnogaeth anghyfartal neu pan fydd un person yn cymryd perchnogaeth o'r eiddo cyfan ac yn talu arian parod neu ryw fath arall o ystyriaeth yn gyfnewid sydd dros y trothwy SDLT cyfredol yna gall treth fod yn daladwy.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.