Os yw’ch cais am forgais yn cael ei wrthod, mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i wella’ch cyfle o gael eich cymeradwyo y tro nesaf. Peidiwch â brysio at ddarparwr benthyciadau arall yn syth oherwydd gallai pob cais ymddangos ar eich ffeil gredyd.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Rhesymau cyffredin dros wrthod cais am forgais a beth i’w wneud
Hanes credyd gwael
Gwiriwch eich ffeil gredyd gyda’r asiantaethau gwirio credyd (ExperianYn agor mewn ffenestr newydd, EquifaxYn agor mewn ffenestr newydd a TransUnionYn agor mewn ffenestr newydd) i weld pa wybodaeth sydd ganddynt amdanoch.
Os yw unrhyw ran o’r wybodaeth ar eich adroddiad credyd yn anghywir, gallwch ei gywiro.
Heb eich cofrestru i bleidleisio
Mae angen i chi fod ar y gofrestr etholiadol yn eich cyfeiriad presennol er mwyn i ddarparwyr benthyciadau allu cadarnhau pwy ydych a’ch cyfeiriad.
Mae’n hawdd ac yn gyflym gwneud hyn ar-lein yn Electoral Commission neu drwy eich cyngor lleol
Gormod o geisiadau am gredyd
Pan wnewch gais am gredyd, bydd y darparwr benthyciadau yn chwilio drwy eich adroddiad credyd er mwyn gwirio’ch addasrwydd.
Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau yn cael eu cofnodi naill ai fel 'chwiliad meddal' neu 'chwiliad caled'. Ni all cwmnïau eraill weld chwiliad meddal, felly fel arfer nid ydynt yn effeithio ar eich ffeil credyd. Fodd bynnag, bydd chwiliad caled yn gadael marc ar eich ffeil credyd.
Mae gwneud llawer o geisiadau am gredyd dros gyfnod byr o amser yn ymddangos fel bod gennych broblemau ariannol, felly ceisiwch osgoi cymryd cytundebau credyd newydd am o leiaf blwyddyn cyn i chi ymgeisio am forgais.
Gormod o ddyled
Mae cael gormod o ddyled yn barod yn debygol o leihau’ch tebygrwydd o gael eich derbyn am forgais.
Os oes gennych bryderon ariannol, mae digon o gyngor am ddim a chyfrinachol ar gael i’ch helpu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help os ydych yn cael trafferth gyda dyledion
Benthyciadau diwrnod cyflog
Bydd unrhyw fenthyciad diwrnod cyflog a gawsoch yn ystod y 6 blynedd diwethaf wedi ei restru ar eich ffeil, hyd yn oed os gwnaethoch ei ad-dalu’n brydlon. Gallai ddal i gyfrif yn eich erbyn gan y gallai darparwyr benthyciadau feddwl na allwch ymdopi gyda’r cyfrifoldeb ariannol o gael morgais.
Bydd effaith cael benthyciad diwrnod cyflog yn amrywio o un darparwr i’r llall a ni fydd hyn o reidrwydd yn golygu y cewch eich gwrthod ar gyfer morgais.
Gwallau gweinyddol
Nid yw darparwyr benthyciadau yn berffaith. Mae llawer ohonynt yn rhoi manylion o’ch cais i mewn i gyfrifiadur felly mae’n bosibl methodd eich cais o ganlyniad i gamgymeriad neu wall ar eich ffeil credyd. Mae darparwr yn annhebygol o roi rheswm penodol i chi pam rydych wedi methu â chais am gredyd ar wahân i’r ffaith ei fod yn ymwneud â’ch ffeil gredyd.
Os bydd hyn yn digwydd, dylai’r darparwr roi manylion yr asiantaeth gyfeirio credyd a wnaethant ei ddefnyddio i chi.
Ddim yn ennill digon
Gallwch ofyn am forgais llai neu weld a ydych yn gymwys am gyd-berchnogaeth neu help trwy un o gynlluniau prynu cartref y llywodraeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynlluniau’r llywodraeth ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf a pherchnogion tai cyfredol
Ddim yn cyfateb â phroffil y darparwr benthyciadau
Mae’n well gan rai darparwyr benthyciadau fenthyca i fath penodol o berson, gallai fod yn seiliedig ar oedran neu leoliad neu faint rydych am ei fenthyg.
Mae gan gynghorydd morgais annibynnol brofiad o’r farchnad ac mae’n debygol o fod â gwell syniad o’r math o fenthyciwr y bydd y darparwr benthyciadau eisiau ei ddenu.
Blaendal bach
Os mai dim ond blaendal bach rydych wedi gallu ei gynilo, efallai caiff eich ceisiadau eu gwrthod oherwydd eich bod am fenthyg gormod o arian.
Mae rhai cynigion morgais ar gael os oes gennych blaendal bach o 5 i 10%, ond bydd angen i chi chwilio amdanynt.
Gallwch geisio cynilo am gyfnod hwy o amser fel bod gennych blaendal mwy, neu mae cynlluniau gan y llywodraeth i’ch helpu os mai blaendal bach yn unig sydd gennych.
Dysgwch fwy drwy ein canllaw Cynilo arian ar gyfer blaendal morgais
Rhesymau eraill posibl dros wrthod morgais i chi
Os ydych yn hunangyflogedig neu’n weithiwr ar gontract
Mae rhaid i chi brofi eich bod yn cael incwm rheolaidd drwy ddangos cyfriflenni treth a chyfrifon busnes am y ddwy i dair blynedd diwethaf o leiaf.
Efallai y bydd yn ofynnol i chi brofi bod gennych waith wedi ei sicrhau ar gyfer y dyfodol hefyd – ond bydd y penderfyniad hwnnw’n amrywio o un darparwr benthyciadau i’r llall.
Os ydych wedi byw yn y DU am lai na thair blynedd
Mae’r rhan fwyaf, ond nid pob un darparwr benthyciadau yn anfodlon benthyca i bobl sydd newydd gyrraedd y DU.
Bydd angen i chi ddangos eich cytundeb cyflogaeth a fisa, sy’n profi bod gennych hawl i fyw a gweithio yn y DU.
Ble i fynd am gymorth os gwrthodir eich cais am forgais
Bydd brocer morgais proffesiynol a chynghorydd ariannol annibynnol sy’n arbenigo mewn morgeisi’n gyfarwydd â’r morgeisi sydd ar gael.
Byddant yn ymwybodol o’r hyn mae wahanol ddarparwyr benthyciadau yn chwilio amdano cyn cynnig morgais, a byddant yn siarad â’r darparwr ar eich rhan.