Darganfyddwch sut y gall eich morgais, cynilion, benthyg a phensiynau gael eu heffeithio gan godiad neu gwymp mewn cyfradd llog – a sut i gynllunio ar ei gyfer.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pam mae cyfraddau llog yn codi neu'n gostwng?
- Sut mae cyfraddau llog yn gostwng o fudd i berchnogion tai
- Sut mae cynnydd mewn cyfradd llog yn effeithio ar eich morgais
- Paratoi ar gyfer cynnydd cyfradd llog ar eich morgais
- Rheoli cynnydd cyfradd llog ar eich morgais
- Effaith gostyngiad cyfradd llog ar forgeisi
- Mae Newidiadau cyfradd llog yn effeithio ar eich cynilion
- Sut mae newidiadau cyfradd llog yn effeithio ar fenthyg
- Newidiadau cyfraddau llog a phensiynau
Pam mae cyfraddau llog yn codi neu'n gostwng?
Mae llawer o gyfraddau llog yn y DU yn gysylltiedig mewn rhyw ffordd â chyfradd banc (neu 'gyfradd sylfaenol') Banc Lloegr (BoE). Dyma'r gyfradd llog y bydd eich banc yn ei thalu os oes angen iddo fenthyg arian (yn aml fel y gall wedyn gynnig morgeisi a benthyciadau eraill) ac mae'n golygu y byddwch fel arfer yn talu mwy na'r gyfradd sylfaenol i fenthyg arian.
Mae nifer o ffactorau yn penderfynu ar y gyfradd sylfaenol, gan gynnwys yr hyn sy'n digwydd yn economi'r DU yn ehangach - fel costau byw.
Os byddwch yn clywed ar y newyddion bod cyfraddau llog wedi newid, mae'n debygol oherwydd bod y gyfradd sylfaenol wedi cynyddu neu ostwng.
Beth yw cyfradd sylfaenol Banc Lloegr ar hyn o bryd?
Y gyfradd sylfaenol ar hyn o bryd yw 5%.
Sut mae cyfraddau llog yn gostwng o fudd i berchnogion tai
Gallai’r rhan fwyaf o bobl sydd â morgais elwa os bydd cyfraddau llog yn gostwng. Er, fe allai olygu ennill llai o log ar eich cynilion neu bensiwn.
Ond os oes gennych forgais amrywiol neu dracio, gallech weld eich taliad misol yn mynd i lawr gyda'r gyfradd sylfaenol. Weithiau hyd yn oed o'ch ad-daliad nesaf.
Os ydych yn gorffen morgais cyfradd sefydlog, gallech chi gael cyfradd is drwy gael bargen newydd.
Sut mae cynnydd mewn cyfradd llog yn effeithio ar eich morgais
Gallai gynyddu eich ad-daliadau misol neu wneud ailforgeisio'n ddrutach.
Er nad oes rhaid i fenthycwyr ddilyn penderfyniadau cyfradd sylfaen, gallant newid cost benthyg (y llog rydych yn ei dalu) ar gyfer cwsmeriaid morgeisi.
Mae benthycwyr yn aml yn newid eu cyfraddau eu hunain cyn unrhyw gyhoeddiad BoE, gan eu bod yn rhagweld sut y gallai cost eu benthyg nhw newid.
Mae pryd, ac os, bydd newid cyfradd llog yn effeithio ar eich ad-daliadau morgais yn dibynnu ar ba fath o forgais sydd gennych a phryd y bydd eich cytundeb presennol yn dod i ben.
Os oes gennych forgais olrhain cyfradd amrywiol, sy'n gysylltiedig â chyfradd sylfaenol BoE, mae'n debygol y bydd eich taliadau misol yn newid ar unwaith (a mynd i fyny).
Mae'n debygol y bydd pobl sydd â morgeisi gyfradd sefydlog yn cael eu heffeithio ar ôl iddynt gyrraedd diwedd eu cytundeb presennol.
Paratoi ar gyfer cynnydd cyfradd llog ar eich morgais
Mae'n dda cael cynllun ar waith fel y byddwch yn gwybod sut i dalu'r gost uwch os bydd cyfraddau'n codi.
- Yn gyntaf, cyfrifwch faint mwy y gallai eich morgais ei gostio bob mis. Defnyddiwch ein Cyfrifiannell morgais i ddarganfod faint yn ychwanegol y bydd angen i chi ei dalu.
- Cadwch gofnod o’ch cyllid cyfredol gyda'n Cynlluniwr cyllideb. Gall eich helpu i weld ble mae'ch arian yn cael ei wario ac a allwch gynyddu incwm a thorri costau i dalu'r gost fisol ychwanegol.
Rheoli cynnydd cyfradd llog ar eich morgais
Os bydd cyfraddau llog yn codi, defnyddiwch ein canllaw cam wrth gam Help gyda chyfraddau llog morgais. Mae'n rhoi rhestr gwirio i chi ei ddilyn.
Os ydych chi'n poeni am fforddio eich ad-daliadau, siaradwch â'ch darparwr neu edrychwch ar ein canllaw ar Help gyda thaliadau morgais.
Effaith gostyngiad cyfradd llog ar forgeisi
Os bydd cyfraddau'n gostwng, gallai eich ad-daliadau misol hefyd ostwng ar unwaith os oes gennych gyfradd amrywiol.
Os ydych chi'n talu llai yn ôl bob mis, mae'n werth meddwl beth i'w wneud gyda'r hyblygrwydd ychwanegol yn eich cyllideb trwy:
- greu cynllun cynilo – gallai hyn helpu i glirio'ch morgais yn gynt neu eich cefnogi pe bai'r cyfraddau'n codi
- gordalu – gallai talu mwy na'r swm ad-dalu misol lleiaf hefyd helpu.
Os ydych chi ar gyfnod penodol, yna fel arfer bydd yn rhaid i chi aros nes ei fod yn ei chwe mis olaf i archwilio cael bargen newydd. Gallwch wneud hyn gyda'ch benthyciwr presennol trwy gael trosglwyddiad cynnyrch. Efallai y gallwch newid eich cytundeb yn gynnar ond efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi ad-dalu cynnar. Dylech gael cyngor gan frocer morgais neu gynghorydd ariannol os ydych am ystyried hyn.
Neu gallwch siopa o gwmpas – dechreuwch y broses newid chwe mis cyn i'ch cytundeb presennol ddod i ben. Os penderfynwch symud i rywle arall, fel arfer bydd angen i chi aros nes bod eich cytundeb presennol wedi dod i ben er mwyn osgoi taliadau ad-dalu cynnar.
Byddwch yn ofalus - gallech sicrhau cytundeb newydd nawr ac yna mae cyfraddau llog yn gostwng yn y misoedd cyn iddo ddechrau. Ond yna gallwch ofyn am newid os bydd cyfradd well ar gael, o dan y 'siarter morgais'. Gweler ein canllaw ar ailforgeisio.
Mae Newidiadau cyfradd llog yn effeithio ar eich cynilion
Gall cyfraddau llog cynyddol ennil mwy ar eich cynilion. Felly mae'n bwysig gwirio pa fath o gyfrif sydd gennych a beth mae eich cynilion yn ei dalu ar hyn o bryd.
Nid yw banciau bob amser yn cynyddu eich cyfradd cynilo yn awtomatig pan fydd y gyfradd llog yn codi - felly hyd yn oed os oes gan eich banc y fargen gynilo orau, efallai na fyddwch arno.
Chwiliwch o gwmpas i weld a allai newid wneud mwy o arian i chi.
Am fwy o wybodaeth a chymorth, gweler ein canllawiau:
Sut mae newidiadau cyfradd llog yn effeithio ar fenthyg
Mae newidiadau cyfradd llog hefyd yn effeithio ar faint y codir arnoch i fenthyg arian, fel benthyciadau nad ydynt wedi'u gwarantu ar eich cartref. Mae'r llog a godir arnoch yn dibynnu'n bennaf ar faint rydych chi'n ei fenthyg ac am faint, y math o fenthyciad rydych chi ei eisiau a'ch sgôr credyd. Ond gall newid cyfradd llog sylfaenol effeithio ar hyn hefyd. o.
Os ydych eisoes yn benthyca
Fel arfer, ni fydd unrhyw fenthyciadau rydych eisoes wedi'u cymryd yn cael eu heffeithio gan newid cyfradd llog oherwydd cytunwyd ar gyfradd sefydlog pan gymeroch y benthyciad allan.
Er y gall taliadau llog cardiau credyd a gorddrafft gynyddu, nid ydynt wedi'u cysylltu'n uniongyrchol â newidiadau cyfradd sylfaenol.
Rhaid i'ch darparwr roi rhybudd i chi o unrhyw newidiadau - a gallwch ganslo'r cerdyn credyd cyn belled â'ch bod yn ad-dalu'r balans sy'n weddill o fewn 60 diwrnod (bydd unrhyw log a ychwanegir yn ystod yr amser hwnnw ar y gyfradd is). Gweler ein canllaw syml i gardiau credyd.
Ar gyfer eich benthyg yn y dyfodol
Gall y gyfradd llog a godir ar fenthyciadau personol gynyddu ar ôl i gyfradd llog godi. Felly siopwch o gwmpas a defnyddiwch ein teclyn i weld y gwahanol opsiynau credyd sydd ar gael i chi - Eich opsiynau ar gyfer benthyca arian.
Gallwch hefyd roi'r holl arian sy'n ddyledus gennych mewn un benthyciad. Ond mae angen i chi ystyried hyn yn ofalus. Mae p'un a yw hyn yn iawn i chi yn dibynnu ar lawer o bethau, gan gynnwys a fyddai’n talu eich holl ddyledion cyfredol ac yn lleihau'r hyn y mae eich benthyg cyffredinol yn ei gostio i chi. Cyn i chi wneud unrhyw beth arall, gweler ein canllaw ar fenthyciadau cydgrynhoi dyled.
Newidiadau cyfraddau llog a phensiynau
Os ydych yn agosai at ymddeoliad ac ar fin prynu blwydd-dal, gall cynnydd cyfradd llog fod yn newyddion da.
Mae hyn oherwydd bod darparwyr blwydd-dal yn tueddu i brynu bondiau'r llywodraeth a phan fydd cyfraddau llog yn codi, mae adenillion bond yn codi gyda nhw, gan roi hwb i gyfraddau blwydd-dal. Mae cyfraddau blwydd-dal yn talu incwm gwarantedig am oes neu dymor penodol. Gellir cloi'r incwm a gewch ar y diwrnod y byddwch yn prynu'ch blwydd-dal (yn amodol ar fynegeio), felly gall cyfraddau blwydd-dal cyfredol wneud gwahaniaeth mawr i'ch sicrwydd ariannol hirdymor.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Incwm Ymddeol Gwarantedig (blwydd-daliadau) wedi’i egluro.
Ni all pobl sydd eisoes wedi cymryd blwydd-dal newid. Ond gallwch barhau i elwa o gyfraddau llog gwell trwy roi'r arian o'r blwydd-dal mewn cyfrif cynilo.