Cymharu cyfrifon banc
Gall cael cyfrif banc eich helpu i gadw golwg ar eich cyllid fel bod gennych fwy o reolaeth o’ch cyllid ac yn gallu cynilo arian. Ond gyda llawer o wahanol fathau o gyfrifon, ffioedd a nodweddion, gall fod yn anodd gweithio allan p’un sydd fwyaf addas i'ch anghenion. Gall ein Teclyn Cymharu Cyfrifon Banc hawdd ei ddefnyddio helpu.
Gallwch ddefnyddio ein teclyn i:
-
chwilio a gweld cyfrifon cannoedd o fanciau mewn eiliadau
-
cymharu ffioedd, nodweddion, mynediad a chostau
-
fynd i wefan y darparwr i agor neu newid cyfrif.
Nid yw’r teclyn hwn yn cynnwys:
-
pob cyfrif allai fod ar gael
-
cyfrifon cynilo neu gardiau credyd.
Gwybodaeth ychwanegol
Darllenwch ein canllawiau
Mae yna nifer o fathau o gyfrifon, ac mae’n dda i wybod am beth maent yn cael ei ddefnyddio. Mae ein canllawiau’n lle da i ddechrau:
Ymchwiliwch eich anghenion
Mae’n bwysig ystyried:
- pa fath o gyfrif sydd ei angen arnoch
- sut rydych am ddelio â’ch banc
- newid, os nad yw’ch banc yn cynnig popeth sydd ei angen arnoch.
Cael eich dogfennau’n barod
Efallai bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth hunaniaeth gan y banc os ydych yn dewis agor cyfrif. Gall hyn cynnwys:
- eich pasbort a bil diweddar gyda’ch enw, dyddiad geni a chyfeiriad, neu
- llythyr o berson cyfrifol sy’n eich adnabod, fel meddyg teulu, athro, gweithiwr cymdeithasol neu swyddog prawf.