Gall fod yn anodd rheoli’r holl filiau a thaliadau gwahanol yn ein bywydau.
Gall canlyniadau methu rhai mathau o filiau bod yn fwy difrifol nag os ydych yn cwympo tu ôl ar eraill.
Gall ein Blaenoriaethwr Biliau eich helpu i roi’ch biliau a thaliadau yn y drefn gywir. Os ydych yn cael trafferth talu, bydd yn dweud wrthych beth i’w wneud mewn dau gam hawdd cyn i chi fethu taliad.
Cam un
Dewiswch y biliau rydych yn poeni amdano
Cam dau
Cael cymorth ar sut i ddelio gyda nhw a pha rhai i ddelio â'n gyntaf
Edrychwch ar ein Blaenoriaethwr Biliau i’ch helpu i ddod yn ôl ar y trywydd iawn.
Dywedwch wrthym beth rydych yn poeni amdano
Ydych chi’n ei chael hi’n anodd cadw golwg ar yr holl daliadau gwahanol sydd gennych bob mis? Rhowch wybod i ni pa rai rydych yn cael trafferth gyda nhw a gallwn ni helpu i flaenoriaethu eich biliau a chael yr help sydd ei angen arnoch cyn i chi fethu taliad.
Dyma’r biliau a’r taliadau y mae angen i chi fynd i’r afael â nhw yn gyntaf
Rydym wedi rhestri’r rhai yr ydych wedi dweud wrthym eich bod yn poeni amdanynt yn nhrefn blaenoriaeth, fel eich bod yn gwybod pa rhai i edrych arnynt yn gyntaf. Mae’n bwysig mynd i’r afael â’r rhain yn gyntaf gan mai nhw sy’n arwain at y canlyniadau mwyaf difrifol os nad ydych yn eu talu.
I gael cymorth penodol ar filiau a thaliadau sy’n berthnasol i chi, dewiswch o’r Blaenoriaethwr Biliau uchod
Treth Cyngor neu Gyfraddau
Siaradwch â’ch cyngor lleol
Os ydych yn cael trafferth i dalu Treth Cyngor neu’ch Ardrethi, cysylltwch â’ch cyngor ar unwaith a dywedwch wrthynt am eich sefyllfa. Peidiwch ag aros iddynt gysylltu â chi. Gall methu eu talu – hyd yn oed un taliad misol – fod yn eithaf difrifol. Mae gan bob cyngor gynlluniau i’ch helpu i reoli eich taliadau mewn symiau llai.
Efallai y gallant gynnig:
- cynlluniau talu hyblyg – er enghraifft, gallwch ofyn am wasgaru taliadau dros 12 mis yn hytrach na 10 mis, sy’n golygu y byddwch yn gwneud taliadau llai bob mis
- Seibiant rhag talu Treth Cyngor neu Ardrethi – er enghraifft, os byddwch yn gofyn am gael talu mewn rhandaliadau 10 mis, gallwch fwynhau seibiant yn eich bil yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth.
- Gostyngiadau Treth Cyngor, Gostyngiad Ardrethi neu Ad-daliad Ardrethi os ydych ar fudd-daliadau neu ar incwm isel, neu
- Gostyngiadau Treth Cyngor neu Ardrethi os ydych yn byw ar eich pen eich hun neu mai chi yw'r unig oedolyn yn y cartref.
Mae rhai cynlluniau gan y llywodraeth y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer i helpu i leddfu effaith costau byw uwch.
Chwiliwch am eich cyngor lleol i gysylltu:
Os ydych yn byw yng Lloegr, ewch i GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i llyw.cymruYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yn Yr Alban, ewch i mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Rhent
Siaradwch â’ch landlord neu gymdeithas tai
Os ydych yn cael trafferth i dalu eich rhent, y peth cyntaf i’w wneud yw siarad â’ch landlord, cyngor neu gymdeithas tai.
Mae’n naturiol efallai eich bod yn ofni egluro y byddwch yn hwyr gyda’r rhent. Ond mae'n llawer gwell cael y mater allan yn agored cyn i chi fethu â thalu.
Pan fyddwch yn siarad â’ch landlord, esboniwch pam y byddwch yn hwyr gyda’r rhent a cheisiwch gytuno ar gynllun i dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych mewn rhandaliadau.
Os ydych yn disgwyl i’r sefyllfa barhau ac y byddwch yn cael trafferth i dalu, siaradwch ag ymgynghorydd dyledion am ddim. Nid oes rhaid i chi ddelio â hyn ar eich pen eich hun. Mae yna lawer o ffyrdd o ddelio â dyled, hyd yn oed os ydych yn meddwl nad oes gennych arian sbâr i dalu’r hyn sydd arnoch yn ôl. Gall ymgynghorydd dyledion am ddim eich helpu i ddod o hyd i'r ateb gorau i chi.
Os oes angen help arnoch ar beth i’w ddweud, defnyddiwch y llythyr templed gan Shelter i’ch helpu negodi gostyngiad rentYn agor mewn ffenestr newydd
Gwiriwch a allwch hawlio cymorth ychwanegol gan y llywodraeth
Os yw’ch amgylchiadau wedi newid a’ch incwm wedi gostwng, efallai y gallwch hawlio budd-daliadau i’ch helpu i dalu’ch rhent, fel elfen tai Credyd Cynhwysol. Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i ddarganfod yn gyflym pa gefnogaeth gallech fod â hawl iddo.
Efallai na fydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cwmpasu eich holl gostau tai. Mae hyn yn fwy tebygol os ydych yn byw mewn tŷ rhent preifat.
Os felly, efallai y gallwch hawlio Taliad Tai Dewisol (DHP) gan eich cyngor lleol i dalu am y diffyg yn y rhent. Dim ond ar ôl i chi dderbyn eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf y gallwch hawlio DHP. Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio DHP os ydych yn hawlio Budd-dal Tai neu os ydych wedi bod ar Gredyd Cynhwysol ers tro.
Darganfyddwch a allwch wneud cais am daliad tai dewisol ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
3. Beth i’w wneud os ydych mewn perygl o gael eich troi allan
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael cyngor tai cyn gynted ag y gallwch. Os ydych yn cael eich bygwth â chael eich troi allan o ganlyniad i ôl-ddyledion rhent, dilynwch y dolenni isod i wirio’ch opsiynau a’ch hawliau.
Darllenwch am gael eich troi allan a’ch hawliau:
Os ydych yn byw yn Lloegr, ewch i ShelterYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yn Yr Alban, ewch i Shelter ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i Shelter CymruYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Morgais
Cysylltwch â'ch benthyciwr
Rhaid i fenthycwyr eich trin yn deg ac ystyried unrhyw gais a wnewch i newid y ffordd yr ydych yn talu eich morgais.
Cynigiwch ad-dalu’r hyn y gallwch ei fforddio pan fyddwch yn trafod eich opsiynau gyda’ch benthyciwr – mae parhau i dalu rhywfaint o arian yn ôl yn well na thalu dim a bydd yn helpu i leihau eich ôl-ddyledion.
Ystyriwch sut a phryd y gallwch ddychwelyd i wneud eich taliadau misol llawn. Meddyliwch pryd y gallwch fforddio talu mwy i wneud taliadau sy’n uwch na’ch taliad misol arferol i dalu unrhyw ôl-ddyledion.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd eich benthyciwr hefyd yn gwneud awgrymiadau i chi, er enghraifft, ymestyn cyfnod eich morgais.
Peidiwch ag oedi – mae’n bwysig cysylltu â’ch benthyciwr cyn gynted â phosibl.
Os ydych yn cael trafferth gyda’ch ad-daliadau morgais, mae mwy o help yn ein canllaw Ôl-ddyledion morgais neu broblemau gyda thalu’ch morgais
Torri’n ôl ar gostau
Mae’n syniad da edrych ar eich cyllideb eto i weld a oes unrhyw ffyrdd i ryddhau arian i dalu’ch taliadau morgais.
Gall ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig eich helpu i gyllidebu a gwneud y mwyaf o'ch incwm.
Gwiriwch a oes gennych yswiriant
Gall yswiriant ddiogelu taliadau morgais, a elwir hefyd yn yswiriant damweiniau, salwch a diweithdra, helpu gyda’ch ad-daliadau morgais os yw’ch incwm wedi gostwng oherwydd dileu swydd, damwain neu salwch.
Efallai eich bod wedi ei dynnu allan pan gawsoch eich morgais. Edrychwch drwy waith papur eich morgais ac ailwiriwch gyda’ch benthyciwr neu’r brocer a ddefnyddiwyd gennych pan wnaethoch gymryd y morgais.
Biliau ynni
Cytuno ar gynllun talu
Cysylltwch â’ch cyflenwr cyn gynted ag y gallwch os ydych yn poeni am dalu eich biliau ynni. Rhaid i’ch cyflenwr weithio gyda chi i gytuno ar gynllun talu y gallwch ei fforddio. Mae hyn yn cynnwys adolygu cynllun yr ydych wedi cytuno arno o’r blaen.
Gallwch ofyn am:
- adolygiad o’ch taliadau ac ad-daliadau dyled
- seibiannau talu neu ostyngiadau
- mwy o amser i dalu
- mynediad at gronfeydd caledi
- grantiau a chynlluniau y maent yn eu rhedeg a’u cynnig.
Mae’r gwasanaeth cofrestriad Gwasanaeth Blaenoriaeth yn gynllun sy’n cael ei rhedeg gan ddarparwyr ynni. Mae’n cynnig gwasanaeth cymorth am ddim os ydych mewn sefyllfa fregus neu os oes pobl fregus yn y cartref. Cysylltwch â'ch darparwr ynni i gofrestru.
Os ydych yn defnyddio mesurydd rhagdaledig ac yn methu ag ychwanegu ato, gallwch ofyn am ‘credyd brys’. Mae manylion cyswllt eich cyflenwr ar gefn eich bil neu ar eu gwefan.
Os nad ydych chi’n teimlo fel ffonio, defnyddiwch e-bost neu we-sgwrs i ymateb yn eich amser eich hun.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help os ydych yn cael trafferth i dalu’ch biliau
Cymorth i helpu i leihau biliau ynni
Mae cap ar brisiau Ofgem nawr yn £1,568 y flwyddyn. Bydd hyn yn newid eto ar 1 Hydref 2024 i £1717 y flwyddyn.
Mae hwn yn seiliedig ar gartref gyda defnydd cyffredinol. Gallech dalu mwy neu lai na hyn, yn dibynnu ar faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio.
I ddarganfod mwy, gan gynnwys sut i fynd ar y gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth, gweler ein canllaw Help os ydych yn cael trafferth i dalu’ch biliau
Mae’r gost fesul uned ar gyfer nwy a thrydan llawer yn uwch nag oeddent yn y gorffennol. Os ydych yn meddwl eich bod yn mynd i gael trafferth i gadw i fyny â thaliadau misol uwch, cysylltwch â’ch cyflenwr am help.
Mae cyflenwyr ynni yn dechrau cynnig cytundebau cyfradd sefydlog i gwsmeriaid newydd a phresennol. I’ch helpu i benderfynu a yw newid i dariff sefydlog yn syniad da, darllenwch ein blog A ddylwn i sefydlogi fy miliau ynni?
Darganfyddwch fwy am y pethau y gallwch eu gwneud i gadw’ch costau mor isel â phosib yn ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau nwy a thrydan
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael cymorth ychwanegol gan y llywodraeth
Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer y:
Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Gallech gael £150 oddi ar eich bil trydan o dan y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes. I fod yn gymwys am y gostyngiad, rhaid i chi naill ai gael Credyd Pensiwn neu fod ar incwm isel ac yn cael budd-daliadau prawf modd. Gallwch barhau i fod yn gymwys am y gostyngiad os ydych yn defnyddio mesurydd trydan rhagdaledig neu dalu wrth fynd. Nid yw’r gostyngiad ar gael yng Ngogledd Iwerddon. I’r mwyafrif, mae’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn cael ei gymhwyso’n awtomatig i’ch biliau bob blwyddyn.
Os ydych yn gymwys ac yn byw mewn cartref parc neu’n byw yn Yr Alban ac yn gymwys oherwydd incwm isel, bydd rhaid i chi wneud cais am y gostyngiad, mae mwy o fanylion am y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes ar gyfer yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd ar gael ar GOV.UK.
I gael gwybod a ydych yn gymwys, gallwch ffonio llinell ffôn Gostyngiad Cartrefi Cynnes y llywodraeth ar 0800 030 9322 erbyn 29 Chwefror 2025. Mae mwy o wybodaeth am y Cynllun Gostyngiad Cartrefi CynnesYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Taliad Tanwydd Gaeaf
Os cawsoch eich geni ar neu cyn 26 Medi 1955 gallech gael rhwng £100 a £300 i’ch helpu i dalu eich biliau gwresogi. Gallwch hefyd gael £300 ychwanegol ar ben eich taliad blynyddol. Dylai hwn gael ei dalu i chi’n awtomatig. Nid oes angen i chi wneud cais amdano.
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, byddwch ond yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf (gwerth hyd at £300) yn ddiweddarach eleni (2024) os:
- rydych dros oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd, ac
- yn hawlio budd-dal prawf modd fel Credyd Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol.
Defnyddiwch ein Cyfrifiannell budd-daliadau i wirio'n gyflym a ydych yn gymwys i gael unrhyw fudd-daliadau neu grantiau.
Yn yr Alban, mae pawb sy'n gymwys ar gyfer Taliadau Tanwydd Gaeaf i fod i gael yr un cymorth o dan y Pension Age Winter Heating Payment newydd. Nid yw’n glir eto a fydd y taliad tanwydd yn newid yng Ngogledd Iwerddon.
Byddwn yn diweddaru’r canllaw hwn pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael.
Os nad ydych yn barod yn hawlio Credyd Pensiwn, gallwch ddarganfod os ydych yn gymwys ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch sut i wneud cais am Daliad Tanwydd Gaeaf ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ac eisiau hawlio Taliad Tanwydd Gaeaf ewch i wefan nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Taliad Tywydd Oer
Efallai y cewch Daliad Tywydd Oer os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu Gymorth ar gyfer Llog Morgais. Byddwch yn cael taliad os yw’r tymheredd cyfartalog yn eich ardal yn cael ei gofnodi fel, neu ei ragweld i fod, yn sero gradd Celsius neu’n is dros saith niwrnod yn olynol. Byddwch yn cael £25 am bob cyfnod o saith niwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth.
Gwiriwch os fedrwch gael taliad tywydd oer yn eich ardal ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael Taliad Tywydd OerYn agor mewn ffenestr newydd a sut i wneud cais ar wefan nidirect.
Cefnogaeth os ydych ar fesurydd rhagdaledig
Mae rhai banciau bwyd yn rhoi talebau ychwanegol i'ch helpu i ychwanegu at eich mesurydd rhagdaledig. Bydd angen i chi gael eich cyfeirio at fanc bwyd yn gyntaf. Gallwch hefyd gael atgyfeiriadau i fanciau bwyd drwy eich cyngor lleol a sefydliadau eraill gan gynnwys canolfannau cynghori lleol, eich meddyg teulu neu weithwyr cymorth.
Cymorth Gwresogi Plant yn y Gaeaf yn yr Alban
Ar gyfer 2024/25, mae Cymorth Gwresogi Plant yn y Gaeaf yn daliad blynyddol o £251.50 i helpu plant a phobl ifanc anablYn agor mewn ffenestr newyddo dan 19 oed a’u teuluoedd sy’n byw yn yr Alban.Yn agor mewn ffenestr newydd o dan 19 oed a’u teuluoedd sy’n byw yn yr Alban. Os oes mwy nag un plentyn neu berson ifanc yn gymwys yn y cartref, mae pob un yn cael taliad.
Gogledd Iwerddon
O ganol mis Ionawr 2023, derbyniodd pob cartref yng Ngogledd Iwerddon daliad un-tro o £600 i helpu gyda'u biliau ynni. Roedd y gefnogaeth yn cyfuno gwerth £400 o gymorth gan Gynllun Cymorth Biliau Ynni Gogledd Iwerddon (EBSS NI) a £200 o dan y cynllun Taliad Tanwydd Amgen (AFP) am ddefnyddio tanwydd oddi ar y grid fel LPG neu olew gwresogi.
Darganfyddwch fwy ar ein tudalen Help os ydych chi'n cynhesu'ch cartref gan ddefnyddio olew gwresogi neu nwy petroliwm hylifedig (LPG) am danwydd oddi ar y grid.
Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl
Darganfyddwch sut i hawlio Grant Cyfleusterau i'r AnablYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am Grantiau Cyfleusterau i’r AnablYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect website.
Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn agored i niwed
Efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol os ydych yn agored i niwed. Er enghraifft, os ydych chi:
- ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor
- ag anghenion iechyd meddwl
- â nam ar y clyw neu’r golwg
- yn feichiog neu â phlant o dan bump oed
- yn gwella o anaf neu newydd gael eu rhyddhau o’r ysbyty
- ddim yn siarad nac yn darllen Saesneg yn dda neu ag anghenion cyfathrebu eraill
- wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Gofynnwch i’ch cyflenwr eich cofrestru ar gyfer eu Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth i gael cymorth ychwanegol gyda chyflenwad a biliau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestr Gwasanaethau BlaenoriaethYn agor mewn ffenestr newydd a pha gymorth y gallech ei gael ar wefan Ofgem.
Defnyddiwch Uned Cymorth Ychwanegol Cyngor ar Bopeth. Gallant helpu gydag anghydfodau ynghylch biliau neu broblemau eraill wrth dalu eich bil.
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr
Ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth am ddim ar 0808 223 1133, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.
I gysylltu â chynghorydd sy’n siarad Cymraeg ffoniwch: 0808 223 1144
Os oes gennych nam ar eich clyw, gallwch ddefnyddio Relay UK i ffonio’r llinell gymorth defnyddwyr gan ddefnyddio ap neu ffôn testun. Darganfyddwch sut i ddefnyddio Relay UK ar y wefanYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Nghymru
Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yn grant i helpu i dalu am gostau hanfodol fel nwy a thrydan os ydych:
- yn profi caledi ariannol eithafol
- wedi colli eich swydd
- wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf
Gallwch wneud cais am y Gronfa Cymorth Dewisol ar wefan Llywodraeth CymruYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yn yr Alban
Gallwch ddefnyddio gwasanaeth Advice Direct Scotland ar energyadvice.scotYn agor mewn ffenestr newydd neu roi galwad am ddim ar 0808 196 8660
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Os ydych chi’n agored i niwed, gall Rhwydweithiau Gogledd Iwerddon gefnogi a sicrhau eich bod yn cael yr help sydd ei angen arnochYn agor mewn ffenestr newydd
Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth am ynniYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Gweithrediaeth Tai Gogledd Iwerddon (NIHE).
Os na allwch fforddio talu cynhaliaeth plant
Siarad â’r rhiant sy’n derbyn
Os ydych yn defnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ac yn rhoi’r gorau i wneud taliadau heb ddweud wrthynt pam, byddant yn ychwanegu ffioedd a thaliadau at y swm sy’n ddyledus gennych. Os ydych yn talu’n uniongyrchol i’ch cyn bartner ac yn rhoi’r gorau i dalu, gallant gysylltu â’r CMS a gofyn i’r arian gael ei gasglu felly mae’n rhaid i chi gymryd camau.
Yn gyntaf, siaradwch â’r rhiant arall a cheisiwch ddod i gyfaddawd. Dyma’r ffordd gyflymaf a symlaf o ddod i gytundeb. Mae cyfathrebu da ac empathi yn bwysig, yn ogystal â bod yn onest am eich sefyllfa ariannol.
Gofynnwch a allwch leihau taliadau cynhaliaeth plant am y tro. Yna cynlluniwch ddychwelyd i’r swm arferol, uwch pan fydd eich incwm yn dychwelyd i normal.
Os na allwch ddod i drefniant, a bod eich incwm wedi gostwng o leiaf 25%, cysylltwch â’r CMS, i’w hysbysu.
Beth i’w wneud os yw’ch incwm wedi gostwng yn sylweddol
Os yw’ch incwm wedi gostwng 25% neu fwy, neu os ydych wedi colli’ch swydd, gofynnwch i’r CMS gyfrifo faint y dylech fod yn ei dalu. Mae’r CMS yn codi ffi am y gwasanaeth hwn.
Os nad yw’ch incwm wedi gostwng cymaint â hynny – bydd yn rhaid i chi barhau i dalu’r swm llawn.
Bydd y CMS yn gwneud eu hasesiad yn seiliedig ar incwm blynyddol gros y rhiant sy’n talu cynhaliaeth.
Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau i gyfrifo faint y dylech fod yn ei dalu, mae cyfrifiannell CMS ddefnyddiol a all eich helpu chiYn agor mewn ffenestr newydd
Trwydded Deledu
Cysylltwch â TV Licensing
Os ydych yn poeni am gadw i fyny â’ch taliadau Trwydded Deledu, cysylltwch â TV Licensing cyn gynted â phosibl i siarad am beth i’w wneud nesaf.
Mae yna lawer o ffyrdd i dalu am eich trwydded felly mae’n werth siarad â nhw i weld pa gynllun sy’n iawn i chi. Er enghraifft, gall eu cynlluniau Debyd Uniongyrchol misol a chwarterol helpu i ledaenu cost eich trwydded.
Gofalwch, mae’n anghyfreithlon i wylio teledu heb Drwydded Deledu, felly cysylltwch os ydych yn cael trafferth.
Mae'n werth edrych i weld os ydych yn gymwys i gael cyfradd ostyngol ar eich Trwydded Deledu, er enghraifft, os ydych dros 75 oed neu wedi cofrestru'n ddall.
Gallwch ffonio Trwyddedu Teledu ar 0300 555 0300 neu edrychwch ar Sut wyf yn cysylltu â Thrwyddedu Teledu?Yn agor mewn ffenestr newydd
Canslo eich Trwydded Deledu a chael ad-daliad
Os nad ydych yn meddwl y byddwch yn gallu fforddio Trwydded Deledu yn fuan, mae’n well ei chanslo ac o bosibl cael rhywfaint o arian yn ôl.
I ganslo’ch Trwydded Deledu, gwnewch yn siŵr bod eich rhif cwsmer wrth law a dewiswch yr opsiwn i ganslo’ch trwydded.
Ffoniwch TV Licensing ar:
- 0300 790 6068 – os ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol neu'r cyfan ar yr un pryd.
- 0300 555 0300 – os ydych yn talu gyda cherdyn talu TV Licensing.
Neu gallwch ganslo ar-lein drwy ddefnyddio’r ffurflen gysylltu ar wefan TV Licensing.
Gallwch wneud cais ar-lein am ad-daliad hyd at ddwy flynedd ar ôl dyddiad dod i ben eich trwydded. Efallai y bydd yn rhaid i chi argraffu’r ffurflen a darparu tystiolaeth. Cyfrifir symiau ad-daliadau gan ddefnyddio gwybodaeth megis pryd y rhoddwyd y drwydded, ei dyddiad dod i ben a phryd y gallwch ddangos nad oes ei hangen arnoch.
Llenwch y ffurflen fer i wneud cais am ad-daliad Trwydded Teledu ar wefan TV licensingYn agor mewn ffenestr newydd
Dirwyon llys
Peidiwch ag anwybyddu’r ddirwy
Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac na allwch fforddio’ch dirwy mwyach, mae bob amser yn well ceisio newid y gorchymyn llys yn hytrach na mynd ar ei hôl hi gyda’r taliadau.
Rhaid i chi beidio ag anwybyddu dirwy llys. Os felly, gall y bobl y mae arnoch arian iddynt wneud cais i’r llys i:
- cael y taliadau wedi’u tynnu o'ch cyflog neu fudd-daliadau
- cyfarwyddo beilïaid i ddod i gasglu’r hyn sy’n ddyledus gennych (os nad ydych yn ymateb o gwbl), neu
- cofrestru’r ddirwy fel y bydd yn ymddangos ar eich cofnod credyd am 5 mlynedd.
Cysylltwch â’r swyddog dirwyon
Os na allwch fforddio parhau â’r taliadau a orchmynnwyd gan y llys, gallwch ofyn am newid telerau’r gorchymyn i gyd-fynd â’r hyn y gallwch fforddio ei dalu. Gelwir hyn yn gais i amrywio’r gorchymyn.
Yn dibynnu ar eich sefyllfa ariannol, gallwch:
- talu’r ddyled mewn rhandaliadau llai, neu
- dweud na allwch dalu dim byd o gwbl mwyach, os gallwch ddangos eich bod wedi colli eich swydd.
Bydd yn rhaid i chi roi manylion eich sefyllfa ariannol pan fyddwch yn gwneud y cais. Cysylltwch â'r swyddog dirwyon yn y llys a gofynnwch iddynt a oes unrhyw help ar gael. Bydd eu manylion ar unrhyw lythyrau sydd gennych.
Os ydych yn byw yng Nghymru neu'n Lloegr, gallwch hefyd ffonio'r Gwasanaeth Cenedlaethol Cydymffurfiaeth a Gorfodi ar 0300 123 9252 8am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener neu e-bostiwch [email protected].
Os ydych yn byw yn yr Alban, ewch i wefan Scottish Courts & Tribunals
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd – Gwasanaethau Casglu a Gorfodi Dirwyon ar 028 9072 8802 neu e-bostiwch [email protected]
Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynychu’r llys os gofynnir i chi fynychu gwrandawiad arall
Weithiau efallai y gofynnir i chi fynychu gwrandawiad llys i benderfynu beth i’w wneud.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynychu oherwydd os na wnewch chi, efallai y bydd y llys yn penderfynu cynyddu’r ddirwy yn eich absenoldeb neu gyfarwyddo beilïaid i ddod i gasglu’r arian sy’n ddyledus gennych.
Am fwy o gymorth ar beth i'w wneud, mae'n well cael cymorth arbenigol os na allwch dalu'r ddirwy yn llawn cyn y gwrandawiad, cysylltwch â Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gael mwy o wybodaeth am ddirwyon llys ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Treth Incwm a biliau TAW
Os na allwch fforddio talu ar amser
Cysylltwch â CThEM cyn gynted â phosibl i ofyn am help os ydych:
- wedi methu terfyn amser treth
- yn gwybod na fyddwch yn gallu talu bil treth mewn pryd.
Gwasanaeth Cymorth Talu
Ffôn: 0300 200 3835
Dydd Llun - Dydd Gwener, 8am-4pm
Os ydych yn hunangyflogedig neu'n fusnes ac mae angen help a chefnogaeth gyda thaliadau treth sydd heb eu talu, ffoniwch Wasanaeth Cymorth Taliadau Busnes CThEF ar 0300 200 3825. Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pawb, nid busnesau yn unig
Cyn i chi ffonio, efallai y byddant yn gofyn rhai cwestiynau diogelwch i chi. Sicrhewch fod eich manylion personol a'ch cyfeiriad yn gyfredol yn eich cyfrif treth personol. Os nad oes gennych gyfrif treth personol eisoes, gallwch sefydlu un.
Sut i baratoi wrth ofyn i CThEM am help
Bydd angen i chi awgrymu faint y gallwch ei fforddio a thros faint o amser y gallwch wneud yr ad-daliadau.
I ddod o hyd i hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn:
- cyfrifo faint sydd gennych yn dod i mewn a nodi unrhyw risgiau i’ch incwm yn y dyfodol
- gwneud gyllideb – gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu talu unrhyw gostau byw a dyledion blaenoriaeth eraill
- meddwl am swm y byddech yn gyfforddus i'w dalu'n ôl bob mis
- gan ddefnyddio’r ffigur misol hwnnw, cyfrifwch faint o amser y byddai’n ei gymryd i dalu
- cael manylion ad-daliadau neu ddyledion eraill sy’n ddyledus gennych ar hyn o bryd ac a oes gennych gynilion.
Os na fydd CThEM yn cytuno â’ch syniadau cynllun ad-dalu, byddant yn defnyddio’r wybodaeth i ddod o hyd i drefniant ad-dalu arall.
Os ydych ar incwm isel, ewch i wefan TaxAid am gymorth. Os ydych chi dros 60 oed ac ar incwm isel, mae Tax Help for Older People yn cynnig cymorth a chyngor.
Os na allwch fforddio eich bil hunanasesu
Gallwch wneud eich trefniant Amser i Dalu eich hun gan ddefnyddio eich cyfrif Porth y Llywodraeth, os ydych:
- wedi ffeilio eich ffurflen dreth ddiweddaraf
- llai na £30,000 mewn dyled
- o fewn 60 diwrnod i’r dyddiad cau ar gyfer talu
- yn bwriadu ad-dalu’ch dyled o fewn y 12 mis nesaf neu lai
- os na allwch wneud eich trefniant Amser i Dalu eich hun ar-lein.
Ffoniwch y llinell gymorth Hunanasesiad os na allwch wneud eich Trefniant Amser i Dalu eich hun ar-lein, er enghraifft mae arnoch fwy na £30,000 neu os oes angen mwy o amser arnoch i dalu.
Llinell Gymorth Talu Hunanasesiad
Ffôn: 0300 200 3822
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 4pm
Gallwch fewngofnodi gan ddefnyddio Porth y Llywodraeth ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Taliadau treth i CThEF
Gofynnwch i CThEF leihau eich ad-daliadau
Os ydych yn ad-dalu gordaliadau credydau treth ac nid oes gennych yr arian ar ôl i gwrdd â chostau byw hanfodol neu ddyledion ac ad-daliadau eraill sydd gyda chi i’w wneud, gallwch ofyn i leihau’r swm rydych yn talu’n ôl a’i ledaenu dros gyfnod ad-daliad hirach
Os ydych yn dal ar gredydau treth neu os yw’ch hawliad credyd treth wedi dod i ben ac nad ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi gysylltu â CThEF.
Os ydych nawr yn cael Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi gysylltu â DWP.
Herio penderfyniad gordaliad
Gallwch roi gwybod i CThEF os credwch fod penderfyniad am eich credydau treth yn anghywir ac y dylid ei newid. Gelwir gofyn iddynt ailystyried eich cais yn ‘ailystyriaeth orfodol’.
Gallwch ofyn am ailystyriaeth orfodol os:
- gwrthodwyd credydau treth i chi
- rydych yn meddwl eich bod wedi cael y swm anghywir
- mae eich credydau treth wedi dod i ben
- mae CThEF yn meddwl eich bod wedi cael gordaliad pan nad ydych wedi gwneud hynny
- mae eich cais wedi'i ôl-ddyddio i’r dyddiad anghywir.
Ar gyfer credydau treth, dylech ofyn am ailystyriaeth o fewn 30 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad.
Gallwch ofyn am ailystyriaeth orfodol drwy lenwi ffurflen ailystyriaeth ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Cyn llenwi’r ffurflen, darganfyddwch beth sydd angen arnoch a sut i ofyn am ailystyriaeth orfodol ar Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
Talu arian yn ôl i DWP
Gofynnwch i DWP leihau eich ad-daliadau
Os ydych yn gorfod ad-dalu’r DWP am fenthyciadau a thaliadau ymlaen llaw gan gynnwys taliadau ymlaen llaw, taliadau cyllidebu ymlaen llaw, neu daliadau caledi ac nad oes gennych ddigon o arian ar ôl i dalu costau byw hanfodol gallwch ofyn am leihau taliadau.
Gweithredwch yn gyflym oherwydd gall DWP wneud cais i dynnu’r arian allan o’ch cyflog os ydych yn gweithio a gallent drosglwyddo’r ddyled i asiantaeth casglu dyledion.
Os byddwch yn cysylltu, efallai y byddwch yn cael ad-daliadau wedi’u gohirio am dri mis os yw'n cais newydd neu fis os yw’n newid mewn amgylchiadau. Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein ac ychwanegwch nodyn at eich dyddlyfr yn gofyn i'ch ad-daliadau gael eu lleihau neu ffoniwch y ganolfan gyswllt Rheoli Dyled.
Canolfan gyswllt Rheoli Dyled DWP
Ffoniwch nhw am ddim ar:
Ffôn: 0800 916 0647
Ffôn testun: 0800 916 0651
(Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 4pm)
Herio penderfyniad gordaliad
Os ydych wedi cael gwybod am ordaliad newydd nad ydych yn cytuno ag ef, efallai y gallwch ofyn i’r penderfyniad gael ei ailystyried.
Gelwir hyn yn gofyn am ‘ailystyriaeth orfodol’. Fel arfer mae’n rhaid i chi ofyn am ailystyriaeth orfodol a chael penderfyniad cyn y gallwch apelio.
Ar gyfer y rhan fwyaf o fudd-daliadau, mae’n bwysig gofyn am ailystyriaeth fis o’r dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad gwreiddiol atoch.
Benthyciadau myfyrwyr
Beth i’w wneud os na allwch fforddio ad-dalu eich benthyciad myfyriwr
Caiff eich benthyciadau myfyrwyr eu had-dalu’n awtomatig drwy’r system dreth. Dylai didyniadau ddod i ben unwaith y byddwch wedi eu talu. Os na fyddant yn dod i ben, mae'n bwysig eich bod yn gofyn am ad-daliad.
Yn wahanol i ddyledion eraill, nid oes yn rhaid i chi wneud ad-daliadau os bydd eich incwm yn gostwng, felly ni ddylech roi blaenoriaeth i dalu eich benthyciad myfyriwr dros eich gorddrafft neu gardiau credyd.
Os ydych yn ennill llai na’r trothwy enillion isaf neu os bydd rhywbeth annisgwyl yn digwydd fel colli’ch swydd, bydd eich ad-daliadau benthyciad myfyriwr yn dod i ben yn awtomatig nes bod eich incwm yn cyrraedd y trothwy eto.
Os ydych yn hunangyflogedig, bydd angen i chi ddatgan eich benthyciad myfyriwr unwaith y flwyddyn ar eich Ffurflen Dreth, felly bydd eich ad-daliadau yn seiliedig ar gyfanswm eich incwm.
Cofiwch, nid yw benthyciadau myfyrwyr yn mynd ar ffeiliau credyd. Er enghraifft, os ydych yn cael benthyciad mawr fel morgais, bydd benthycwyr yn gofyn a oes gennych un fel y gallant gymryd y ddyled i ystyriaeth ond ni ddylai eich atal rhag gallu cael morgais.
Bydd llog yn cael ei godi ar y ddyled sy’n weddill, ond dim ond ar ôl i chi ddechrau ennill digon y mae'n rhaid i chi wneud ad-daliadau.
Blaenoriaethu gorddrafftiau, cardiau credyd a benthyciadau
Dyrannwch rywfaint o’ch incwm i ddechrau lleihau dyledion llog uchel o gardiau credyd myfyrwyr, benthyciadau banc a'ch gorddrafft.
Ar unrhyw ddyledion eraill fel cardiau credyd neu Brynu Nawr Talu yn Nes Ymlaen, gwnewch yr ad-daliadau lleiaf o leiaf a gwnewch yn siŵr nad ydych yn methu unrhyw randaliadau. Os gwnewch hynny, gallai niweidio eich statws credyd a’ch gallu i fenthyca ar gyfer cartref neu gar yn y dyfodol.
Er bod eich gorddrafft yn debygol o fod yn ddi-dâl tra oeddech yn astudio, bydd y cyfnod di-log hwn yn dod i ben. Mae’n syniad da ei dalu cyn gynted ag y gallwch er mwyn osgoi taliadau llog mawr yn ddiweddarach.
Mae hyn oherwydd bod llog gorddrafft cyfrif cyfredol safonol yn aml mor uchel â 40%, sy’n sylweddol uwch na’r gyfradd arferol ar gyfer benthyciad personol.
Cytundebau hurbwrcas
Siaradwch â’r cwmni HP
Efallai y byddant yn gadael i chi ymestyn y cytundeb neu ad-dalu'r ôl-ddyledion dros gyfnod penodol o amser.
Rhaid i gwmnïau helpu cwsmeriaid sy’n cael trafferthion ariannol, gan gynnwys y rhai sydd wedi cael ergyd incwm mawr.
Daw cytundebau HP o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr, sy’n rhoi hawliau penodol i chi wrth ddelio â chredydwyr. Er enghraifft, os bydd gennych ôl-ddyledion rhaid iddynt:
- rhoi amser i chi ddiweddaru’ch cyfrif cyn iddynt gymryd unrhyw gamau pellach
- anfon datganiadau rheolaidd a llythyrau ôl-ddyledion atoch os byddwch ar ei hôl hi.
Beth sy’n digwydd os na fyddwch chi’n cysylltu â’ch cwmni HP
Os ydych wedi talu am lai na thraean o’r swm sy’n ddyledus, gall y cwmni gymryd yr eitem yn ôl. Os ydych wedi talu mwy na thraean, fel arfer bydd angen iddynt ddwyn achos llys i gael y nwyddau yn ôl, neu i wneud i chi dalu.
Os byddwch yn methu taliadau, gall eich credydwr anfon hysbysiad diffygdalu atoch. Mae hyn yn debygol o effeithio ar eich statws credyd. Maent fel arfer yn gwneud hyn pan fyddant yn meddwl bod y cytundeb wedi’i dorri ac nid ydynt yn disgwyl i chi ailgychwyn eich taliadau.
Bydd cysylltu â chredydwyr cyn gynted ag y gallwch yn lleihau’r tebygolrwydd y byddant yn cymryd y camau hyn.
Terfynwch y cytundeb os ydych am anfon y nwyddau yn ôl
Os byddwch yn penderfynu i beidio â chadw’r cytundeb gallwch ysgrifennu at eich darparwr i ddod â’r cytundeb i ben ar unrhyw adeg.
Os ar y dyddiad y byddwch yn terfynu’r cytundeb rydych wedi talu:
- hanner y swm sy'n daladwy – ni ddylech gael mwy o rhandaliadau pellach i’w talu
- mwy na hanner y swm – ni allwch gael ad-daliad ond ni ddylech dalu rhandaliadau pellach
- llai na hanner y swm – y gallai fod gennych rywfaint o arian i'w dalu o hyd.
Ni allwch werthu’r nwyddau, gan nad ydynt yn eiddo i chi i’w gwerthu hyd nes y byddwch wedi gwneud y taliad terfynol.
Os bydd y mater yn cyrraedd y llys, gallwch ofyn am Orchymyn Amser. Dyma lle mae'r llys yn lleihau'r taliadau i lefel y gallwch ei fforddio.
Os ydych eisiau cadw’r nwyddau ond yn cael trafferth i dalu, cysylltwch â’r cwmni. Dylent weithio gyda chi i greu cynllun talu.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich benthyciwr os ydych mewn sefyllfa anodd. Er enghraifft, os ydych wedi colli eich swydd. Mae’n bosibl y byddant yn cytuno i beidio ag adfeddiannu rhywbeth pe bai’n gwaethygu’ch sefyllfa.
Dim ond os na all gael yr arian yn ôl mewn ffordd arall y dylai eich benthyciwr adfeddiannu rhywbeth
Am gymorth, mae gan Cyngor ar Bopeth dempled llythyr diwedd llogiYn agor mewn ffenestr newydd
Cyllid car
Siaradwch â’ch darparwr cyllid car
Os ydych yn cael trafferth gyda thaliadau, rhaid i’ch darparwr cyllid car weithio gyda chi i:
- ddarparu cymorth cyn i chi fethu unrhyw daliadau
- rhoi trefniadau ad-dalu fforddiadwy ar waith y gallwch eu talu dros gyfnod rhesymol o amser
- ystyried eich sefyllfa ariannol ehangach gan gynnwys dyledion gyda benthycwyr eraill a chostau byw hanfodol
- gwneud yn siŵr nad yw eich balans yn mynd allan o reolaeth unwaith y bydd trefniant ad-dalu yn ei le
- adnabod ac ymateb i’ch anghenion os ydych yn agored i niwed. Os byddai’n well gennych ddychwelyd y car yn gynnar, bydd yn ymddangos ar eich ffeil credyd. Mae hyn yn well na methu taliadau, a allai ei gwneud hi'n anodd benthyg arian yn y dyfodol.
Mae’r prif fathau o gyllid ceir yn cynnwys: Prynu Contract Personol (PCP), Hurbwrcas (HP) a Llogi Contract Personol (PCH). Gwiriwch eich contract os nad ydych yn siŵr am beth rydych wedi ymrwymo.
Yn cael trafferth i dalu'ch cyllid ond eisiau cadw'ch car? Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dod â chytundeb cyllid car i ben yn gynnar
Os oes gennych gytundeb Prynu Contract Personol (PCP)
Os na all eich darparwr cyllid gytuno ar unrhyw drefniadau ad-dalu gyda chi i’ch galluogi i gadw’r car, efallai y gallwch ei ddychwelyd a chanslo’ch contract.
Os penderfynwch ddychwelyd y car, rhowch wybod i’r cwmni cyllid trwy lythyr neu e-bost – a chadwch gopi. Gwnewch yn glir eich bod yn dychwelyd y car ac yn dod â’r cytundeb i ben.
Os na wnewch hyn gallech gael eich gweld yn ddiffygdalu ar eich taliadau, a allai effeithio ar eich ffeil credyd.
Wrth ddychwelyd eich car a dod â’ch cytundeb credyd i ben yn gynnar, mae cyflwr y cerbyd yn bwysig. Mae traul cyffredinol yn dderbyniol. Ond codir tâl arnoch am gostau atgyweirio pethau fel drychau adain wedi torri neu grafiadau sy'n fwy.
Gwiriwch gyda’ch deliwr neu ddarparwr cyllid i weld beth sy’n cael ei ystyried yn draul gweddol. Gallwch ddarganfod mwy am beth sy’n cyfri fel traul gweddol yng nghanllaw y BVRLAYn agor mewn ffenestr newydd neu archebu copi caledYn agor mewn ffenestr newydd
Os oes difrod nad yw’n cyfrif fel traul, edrychwch a allwch gael garej i atgyweirio’r car cyn ei ddychwelyd os yw hynny’n opsiwn rhatach.
Os bydd eich tymor PCP yn dod i ben yn fuan, ond na allwch fforddio’r taliad mawr, gofynnwch i’ch darparwr cyllid sut y gallant helpu.
Efallai y byddwch yn penderfynu ailgyllido’r taliad mawr gyda’ch darparwr cyllid presennol neu ddewis darparwr arall. Os yw gwerth eich car wedi gostwng yn is na'ch taliad terfynol, efallai nad dyma’r ateb gorau.
Os oes gennych gytundeb Hurbwrcas (HP)
Gyda HP, gallwch ddewis dychwelyd y car yn gynnar os ydych eisoes wedi talu am o leiaf hanner ei gost gan gynnwys unrhyw gyllid. Os ydych eisoes wedi talu mwy na hanner cost y car, ni fyddwch yn cael ad-daliad o’r gwahaniaeth. Os ydych wedi talu llai na hanner efallai y bydd gennych fwy i'w dalu.
Os penderfynwch ddychwelyd y car, dywedwch wrth y cwmni cyllid trwy lythyr neu e-bost a chadwch gopi. Gwnewch yn glir eich bod yn dychwelyd y car ac yn dod â’r cytundeb i ben. Pan fyddwch yn dod â chytundebau i ben yn gynnar, mae cyflwr y cerbyd yn bwysig.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn e-bostio neu’n ysgrifennu at eich darparwr cyllid yn egluro eich bod yn gwneud cais am derfyniad gwirfoddol. Nid oes angen i chi lofnodi dogfennau na llenwi pecynnau terfynu.
Os oes gennych gytundeb Llogi Contract Personol (PCH)
Bydd dychwelyd y car yn gynnar fel arfer yn ôl disgresiwn y cwmni cyllid llogi contract personol (PCH). Efallai y byddant yn gofyn i chi ad-dalu’r cyfan neu ran o’r taliadau sy’n weddill. Byddant yn ystyried pethau fel gweddill tymor eich contract a’ch lwfans milltiredd.
Dylai’r polisi canslo fod yn y contract a lofnodwyd gennych wrth gytuno i’r trefniant PCH.
Os ydych am gau cytundeb, gallwch ddefnyddio’r llythyr templed ar Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
Bil dŵr
Cysylltwch â’ch cwmni dŵr
Nid yw byth yn rhy hwyr i gysylltu â’ch cyflenwr a gofyn am gymorth. Bydd eu manylion cyswllt ar eich bil ac ar eu gwefan. Mae pecynnau cymorth y gall eich cwmni dŵr eu cynnig i chi.
Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau a gallai gynnwys:
- seibiannau talu neu wyliau talu
- cynlluniau arbennig, fel tariffau cymdeithasol
- addasu eich cynllun talu i ymdopi â gostyngiad yng nghyllid y cartref
- cynnig cyngor ar fudd-daliadau a rheoli dyledion
- darganfod a ydych yn gymwys ar gyfer grantiau elusennol.
Mae cofrestru Gwasanaeth Blaenoriaeth yn gynllun am ddim sy’n cael ei gynnal gan eich darparwr dŵr i gefnogi cartrefi sydd angen cymorth ychwanegol, er enghraifft, os oes gennych anghenion iechyd, mynediad neu anghenion cyfathrebu ychwanegol. I gael gwybod a ydych yn gymwys, cysylltwch â'ch cwmni dŵr.
Cofiwch, ni all eich dŵr a charthion gael ei droi i ffwrdd yn yr un modd â biliau eraill fel ynni. Ond fel bil angenrheidiol y cartref, mae’n werth ei ystyried ochr yn ochr gyda’ch biliau eraill sydd â blaenoriaeth cyn eich taliadau heb flaenoriaeth
Trwy gofnodi eich cod post, darganfyddwch pwy yw eich cyflenwr dŵr drwy ymweld â Water UKYn agor mewn ffenestr newydd
Cael mesurydd dŵr
Ystyriwch gael mesurydd dŵr fel mai dim ond am y dŵr rydych yn ei ddefnyddio y byddwch chi'n talu.
Yn gyffredinol, po fwyaf yw eich cartref a’r lleiaf o bobl sy’n byw ynddo, y mwyaf tebygol ydych chi o arbed arian gyda mesurydd dŵr.
Os ydych yn ystyried newid i fesurydd dŵr, defnyddiwch gyfrifiannell y Cyngor Defnyddwyr Dŵr i weld a allech arbed arian.
Os byddwch yn penderfynu newid, cysylltwch â’ch cwmni dŵr.
A yw’n werth newid i fesurydd dŵr? Darllenwch ein canllaw Sut i leihau eich bil dŵr
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael cymorth gyda biliau dŵr
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, mae gennych fesurydd dŵr a'ch bod ar fudd-daliadau penodol, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth. Dewch o hyd i fwy o help gyda biliauYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan CCW.
I bobl sy'n byw yn yr Alban, mae'r rhan fwyaf o bobl yn talu am eu dŵr drwy eu Treth Gyngor, ewch i mygov.scot i gael gwybod mwy am ddisgowntiau, eithriadau a gostyngiadauYn agor mewn ffenestr newydd
Dirwyon parcio
Gwiriwch pa ddirwy parcio sydd gennych
Mae’r rheolau ar gyfer delio â thaliadau a fethwyd yn wahanol.
Mae’r cyngor yn cyhoeddi Hysbysiad Tâl Cosb ar dir cyhoeddus – fel maes parcio'r cyngor neu’r stryd fawr. Mae dirwyon yn amrywio o £50 i £160. Maent yn dibynnu ar ble rydych yn y DU a pha mor ddifrifol oedd eich trosedd parcio.
Efallai y byddwch yn derbyn cosb parcio gan yr heddlu – a elwir weithiau yn Hysbysiad Cosb Benodedig (FPN).
Rhoddir hysbysiad tâl parcio gan weithredwr parcio sy’n gwmni preifat. Bydd meysydd parcio canolfannau siopa ac archfarchnadoedd yn aml yn cael eu rhedeg gan weithredwyr parcio.
Siaradwch â’ch cyngor neu’r gweithredwr parcio am eich dirwy parcio
Os ydych mewn perygl o fethu taliadau am hysbysiad tâl cosb a’ch bod o fewn y terfyn 28 diwrnod ar gyfer talu’r ddirwy, holwch a all y cyngor ymestyn y dyddiad y mae angen i chi ei dalu.
Os ydych wedi cael dirwyon parcio lluosog, efallai y bydd eich cyngor yn sefydlu cynllun talu neu’n amrywio pan fyddwch yn gwneud taliadau unigol. Bydd yn helpu eich achos os gallwch egluro faint y gallwch fforddio ei dalu drwy osod eich cyllideb bersonol.
Os byddwch yn methu talu eich dirwy parcio preifat, bydd angen i chi gysylltu â’r gweithredwr parcio i weld a allwch drefnu cynllun talu.
Mae hysbysiadau cosb benodedig fel arfer yn cael eu rhoi gan yr heddlu neu eich cyngor lleol. Bydd angen i chi wirio pwy a’i rhoddodd ac yna cysylltu â naill ai’r heddlu a’i rhoddodd neu’ch cyngor lleol.
Apelio yn erbyn y penderfyniad
Os credwch fod eich hysbysiad tâl cosb yn annheg a’ch bod o fewn y terfyn 28 diwrnod, gallwch apelio. Os gwnewch hynny o fewn 14 diwrnod a bod eich her yn cael ei gwrthod, efallai mai dim ond 50% o'r ddirwy y bydd yn rhaid i chi ei thalu.
Dilynwch y camau ar eich tocyn oherwydd gall rheolau apelio amrywio.
Nid yw tocynnau parcio preifat yn ddirwyon swyddogol. Os byddwch yn derbyn un a’ch bod yn meddwl ei fod yn annheg, gallwch apelio yn erbyn y dyfarnwr annibynnol Parcio ar Apeliadau Tir Preifat (POPLA).Yn agor mewn ffenestr newydd
Os oes angen help arnoch i wneud eich apêl, darganfyddwch ganllaw am ddim a llythyron templed ar MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
Cardiau credyd
Gwnewch gynllun ar gyfer talu eich cerdyn credyd
- Rhoi’r gorau i ddefnyddio’ch cerdyn credyd a chanolbwyntio ar dalu’r hyn a allwch.
- Gwnewch gyllideb i weld a allwch chi ryddhau unrhyw arian parod i dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych. Rhowch yr arian hwnnw o’r neilltu fel ei fod yn mynd tuag at dalu’ch bil.
- Os ydych yn defnyddio'ch cerdyn i dalu biliau hanfodol, defnyddiwch ein Blaenoriaethwr Biliau a Thaliadau i ddarganfod sut i reoli’r taliadau hyn fel nad ydych yn rhoi’r pwysau ar eich cerdyn.
- Gwnewch yr ad-daliad lleiaf bob mis o leiaf, hyd yn oed os oes gennych gytundeb o 0%. Fel arall, byddwch yn talu cosbau a gallech golli eich cytundeb 0%.
- Trefnwch Ddebyd Uniongyrchol i wneud yn siŵr na fyddwch byth yn methu taliad. Gallwch ei osod ar gyfer unrhyw swm rydych ei eisiau, ond gwnewch yn siŵr ei fod am fwy na’r isafswm ad-daliad fel bod eich balans yn mynd i lawr.
- Peidiwch â defnyddio’ch cerdyn i godi arian parod neu sieciau cerdyn credyd. Codir ffioedd a llog uwch arnoch am y cyfnod cyfan nes i chi ei dalu.
- Edrychwch a allwch drosglwyddo’ch balans i gerdyn gyda chyfraddau llog rhatach – ond dim ond os oes gennych statws credyd da.
Blaenoriaethwch ad-daliadau os oes gennych sawl cerdyn
Os oes arnoch chi arian ar fwy nag un cerdyn credyd, bydd angen i chi weithio allan pa un i’w dalu yn gyntaf. Mae’n debygol mai hwn fydd yr un â’r gyfradd llog uchaf.
Er enghraifft, os oes arnoch chi £1,000 ar gerdyn sy’n codi llog o 19% a £1,000 arall ar un sy’n codi llog o 34%, canolbwyntiwch ar y cerdyn sy'n codi 34% yn gyntaf a thalu cymaint ag y gallwch.
Pan fydd y ddyled yn cael ei chlirio o’r cerdyn hwnnw, gallwch wedyn geisio talu’r cerdyn credyd sy’n codi 19%.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn parhau i dalu’r isafswm taliad ar bob cerdyn. Fel arall, bydd taliadau a fethwyd yn arwain at ffioedd ychwanegol a gallai niweidio eich statws credyd. Byddai hyn yn ei gwneud yn anoddach cael credyd yn y dyfodol.
Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i leihau eich dyled cerdyn credyd. Edrychwch ar ein canllaw Rheoli credyd yn dda
Trosglwyddwch eich balans i gerdyn rhatach
Mae trosglwyddo’ch balans yn eich galluogi i symud credyd sy’n ddyledus o un cerdyn i’r llall er mwyn i chi:
- talu llai o log ar yr hyn sy’n ddyledus gennych ar hyn o bryd, a
- symleiddio’ch cyllid trwy gyfuno taliadau misol lluosog yn un.
Efallai na fydd hwn yn opsiwn da os oes gennych statws credyd gwael oherwydd efallai na chewch gynnig cytundeb o 0% neu os oes gennych ddyledion eraill.
Os credwch ei fod yn opsiwn, cyn i chi wneud cais gwiriwch:
- pan ddaw’r cyfnod cyfradd llog is i ben
- a oes unrhyw gyfyngiadau ar y swm y gallwch ei drosglwyddo, ac
- os bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd.
Sut i newid
Gwnewch gais am gerdyn credyd llog isel neu 0% newydd. Gofynnir i chi a ydych am drosglwyddo balansau o gardiau eraill pan gewch eich derbyn neu ofyn i’ch darparwr cerdyn credyd presennol drefnu trosglwyddiad.
Bydd angen:
- manylion y cerdyn rydych am ei drosglwyddo
- rhif y cerdyn a’r darparwr a
- y balans rydych am ei drosglwyddo.
Ystyriwch drosglwyddo balans eich cerdyn credyd drwy ddarllen a yw’n iawn i chi yn ein canllaw Trosglwyddo balans eich cerdyn credyd
Gweithredwch yn gyflym os ydych yn mynd i fethu taliad
Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu o leiaf yr isafswm taliad ar eich holl gardiau, fel arall byddwch yn wynebu taliadau cosb ac yn niweidio eich statws credyd.
Ond os ydych yn meddwl eich bod yn dal yn debygol o fethu taliad, siaradwch â darparwr eich cerdyn credyd. Gallant drafod opsiynau a allai eich helpu i reoli taliadau yn well. Maen nhw’n debygol o ofyn i chi am eich incwm, eich gwariant ac unrhyw ddyledion eraill i’w helpu i benderfynu beth sydd orau.
Bydd yr atebion y maent yn eu hargymell yn dibynnu ar eich amgylchiadau a faint sy’n ddyledus gennych.
Gallai cymorth gynnwys:
- llunio cynllun talu realistig
- newid eich dyddiadau talu
- lleihau’r gyfradd llog ar eich cardiau, neu
- ymestyn y cyfnod ad-dalu.
Ond cofiwch, gallai’r cymorth hwn effeithio ar eich cofnod credyd a’ch gallu i gael credyd yn y dyfodol.
Gorddrafftiau
Cadwch lygad ar falans eich cyfrif
Gall taliadau am fynd i orddrafft fod cymaint â 40% o log ar eich dyled. Felly cadw golwg ar falans eich cyfrif yw un o’r ffyrdd gorau o osgoi costau gorddrafft.
Gwnewch hi mor hawdd â phosibl trwy:
- lawrlwytho ap eich banc os oes gennych ‘smartphone’
- sefydlu rhybuddion testun ar gyfer pan fydd eich balans yn isel
- defnyddio bancio ffôn
- gofyn am gyfriflen gan ATM neu eich cangen leol
- parhau i ddarllen llythyrau eich banc.
Mae’n hawdd dod i’r arfer o beidio ag agor llythyrau o’r banc a chymryd yn ganiataol mai gohebiaeth arferol yn unig ydynt.
Mae’n bwysig gwirio pob llythyr, gan y gallai’r banc fod yn ysgrifennu i ddweud wrthych am newid i derfyn eich gorddrafft neu gynnydd i’ch cyfradd llog gorddrafft.
Gallwch osgoi mynd i orddrafft bob mis os byddwch yn pennu dyddiadau debyd uniongyrchol i’ch cyflog.
I gael mwy o wybodaeth am ddeall gorddrafftiau, gweler ein canllaw Egluro gorddrafftiau. Hefyd, gyda chymaint o gyfrifon banc gwahanol ar gael, bydd ein canllaw Sut i agor, newid a chau cyfrifon banc yn helpu i benderfynu pa un sydd orau i chi.
Cymharwch gyfraddau llog gorddrafft a newid banc
Hyd yn oed os oes gennych orddrafft, gallwch newid gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Newid Cyfrif Cyfredol. Bydd y gwasanaeth yn:
- newid eich cyfrif cyfredol
- symud arian o’ch hen gyfrif cyfredol i’ch un newydd. Neu, os ydych yn eich gorddrafft, fe all
- ei symud i’r cyfrif cyfredol newydd
- symud eich holl daliadau sy’n mynd allan (fel Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog) a’r rhai sy'n dod i mewn (fel budd-daliadau neu gyflogau) i’ch cyfrif newydd
- cau eich hen gyfrif, a
- gwneud yn siŵr y bydd unrhyw daliadau a wneir yn ddamweiniol i’ch hen gyfrif yn cael eu hailgyfeirio’n awtomatig i’ch cyfrif newydd.
Bydd angen cytuno ar eich gorddrafft gyda’ch banc neu gymdeithas adeiladu newydd. Neu efallai y gallant gynnig ffordd i chi o'ch helpu i dalu eich gorddrafft yn lle hynny.
Os nad yw hyn yn bosibl, bydd angen i chi wneud trefniadau eraill er mwyn talu’ch gorddrafft. Er enghraifft, gallwch newid o hyd ond bydd eich cyfrif presennol yn aros ar agor nes bod y balans wedi'i dalu.
Mae’r gwasanaeth newid yn cymryd saith diwrnod gwaith. Ac os bydd rhywbeth yn mynd o’i le, mae’r Warant Newid Cyfrif Cyfredol yn berthnasol i chi. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael ad-daliad o unrhyw log neu daliadau a gewch o ganlyniad i unrhyw broblem gyda’r newid.
Siaradwch â’ch banc
Os ydych yn poeni eich bod yn dibynnu ar eich gorddrafft, dilynwch y camau isod.
- Siaradwch â’ch banc neu gymdeithas adeiladu cyn gynted â phosibl.
- Os ydych yn teimlo’n agored i niwed am unrhyw reswm, eglurwch eich amgylchiadau ac mae’n rhaid i’ch darparwr gymryd hyn i ystyriaeth.
- Os ydych yn cael trafferth i dalu biliau ac eisoes mewn dyled, dylech ddod o hyd i help cyn gynted â phosibl.
Eisiau dod o hyd i ffyrdd o ryddhau arian parod a thorri'n ôl ar gostau? Gweler ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Benthyciadau personol
Cysylltwch â’ch benthyciwr
Peidiwch â methu taliad neu efallai y codir cosb neu ffioedd ychwanegol arnoch. Bydd hefyd yn effeithio ar eich statws credyd.
Mae’n ofynnol i fenthycwyr weithio gyda chi i weithio allan cynllun ad-dalu yn seiliedig ar eich amgylchiadau i’ch atal rhag mynd i ddyled cyn i chi fethu taliad.
Efallai y bydd eich benthyciwr yn cytuno i:
- leihau neu roi’r gorau i godi llog ar eich ôl-ddyledion
- bod yn hyblyg gyda’r swm y mae’n rhaid i chi ei dalu’n ôl a pha mor hir y mae’n rhaid i chi ei dalu
- caniatáu i chi dalu swm bach neu ddim byd am gyfnod penodol o amser, neu
- helpu chi i wneud cynllun talu.
Cofiwch, bydd yr ateb rydych chi’n cytuno arno yn dangos ar eich adroddiad credyd.
Ystyriwch dalu benthyciadau gyda chardiau credyd
A ydych yn ddisgybledig ynghylch ad-dalu’r hyn rydych yn ei fenthyg a bod gennych chi sgôr credyd da? Yna, o bryd i’w gilydd, ceir cytundebau cerdyn credyd trosglwyddo balans di-log neu log isel sy’n trosglwyddo arian yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc.
Gellir defnyddio’r rhain wedyn i ad-dalu gorddrafftiau a benthyciadau.
Ond mae’r cytundebau hyn fel arfer yn dod gyda ffi. Felly bydd angen i chi gyfrifo a fyddai gwneud hyn yn gost-effeithiol i chi.
Gwnewch yn siŵr y byddwch yn gallu talu’r hyn sy’n ddyledus gennych ar y cerdyn cyn i’r gyfradd llog sero neu isel ddod i ben. Ceisiwch beidio â gwario ar y cerdyn ac osgoi tynnu arian parod gyda’r cerdyn gan ei fod yn costio llawer. Ni fydd hwn yn opsiwn da os oes gennych statws credyd amhariad gan ei bod yn annhebygol y cynigir y cytundebau gorau i chi.
Benthyciad diwrnod cyflog
Meddyliwch cyn i chi ganslo taliad
Mae risg gyda chanslo taliad cylchol y bydd y cwmni’n codi ffi Debyd Uniongyrchol wedi’i ganslo arnoch.
Mae’n syniad da siarad â’ch banc neu fenthyciwr am opsiynau ar gyfer cadw i fyny â thaliadau cyn i chi wneud unrhyw beth. Gallwch hefyd ofyn iddynt beth fydd yn digwydd os byddwch yn canslo ac a fydd unrhyw ffioedd neu daliadau.
Os byddwch yn dal i benderfynu canslo, gwnewch hynny o leiaf ddiwrnod cyn y bydd ad-daliad yn ddyledus. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich benthyciwr eich bod wedi gwneud hynny.
Ysgrifennwch y dyddiad a’r amser y gwnaethoch gyfarwyddo’ch banc i ganslo’r taliad cylchol.
Os bydd arian yn mynd o’ch cyfrif i’r benthyciwr ar ôl y dyddiad hwn, gwnewch gwyn i’ch banc. Mae'n rhaid i'r banc roi ad-daliad i chi yn ôl y gyfraith.
Mae’n syniad da i ddilyn eich galwad ffôn gyda llythyr i’ch banc.
Peidiwch â rholio benthyciad drosodd
Efallai y bydd eich benthyciwr diwrnod cyflog yn awgrymu eich bod yn ‘rholio drosodd’ eich benthyciad am ryw fis arall. Mae hwn yn syniad drwg.
Mae’n golygu bod yn rhaid i chi dalu hyd yn oed mwy o daliadau a llog – felly yn y pen draw bydd arnoch chi lawer mwy o arian.
Yn lle hynny, cewch gyngor ar ddyledion ac ystyriwch yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer delio â’ch dyled.
Cyn rholio’ch benthyciad drosodd, rhaid i’r benthyciwr diwrnod cyflog eich cyfeirio at gyngor am ddim ar ddyledion.
Cysylltwch â’ch benthyciwr cyn gynted â phosibl
Yn ôl y gyfraith, rhaid iddynt:
- eich cyfeirio at ffynonellau cyngor ar ddyledion annibynnol ac am ddim
- atal adennill y ddyled am gyfnod rhesymol os ydych yn datblygu cynllun ad-dalu gydag ymgynghorydd dyledion neu ar eich pen eich hun
- eich trin yn deg a chydag ystyriaeth, gan ganiatáu amser rhesymol i chi ad-dalu'r benthyciad a allai gynnwys rhewi llog ac atal taliadau.
- peidio â’ch peledu â galwadau ffôn, e-byst a negeseuon testun
- ystyried derbyn taliadau bach dros dro os yw eich ad-daliadau yn golygu nad oes gennych ddigon o arian ar ôl ar gyfer hanfodion fel bwyd, rhent neu forgais, a biliau cyfleustodau.
Cofiwch, cadwch gopïau o’r holl negeseuon e-bost a llythyrau yr ydych wedi’u hanfon at y benthyciwr ac ysgrifennwch fanylion eich galwadau ffôn iddynt. Mae hyn yn dystiolaeth o sut rydych wedi ceisio cysylltu â nhw os nad ydynt yn ymateb a bod angen i chi wneud cwyn.
Mae yna gamau i’ch helpu chi drwy’ch sefyllfa, yn ein canllaw Help os ydych yn cael trafferth gyda dyledion
Taliadau Prynu Nawr, Talu yn Nes Ymlaen
Siaradwch â’ch credydwyr
Nid yw rhai pobl yn ymwybodol bod cynlluniau prynu nawr, talu yn nes ymlaen yn fath o gredyd. Felly, os na fyddwch yn gwneud taliadau pan ddisgwylir i chi wneud hynny, bydd llawer o gynlluniau’n codi ffi talu’n hwyr a bydd rhai yn codi llog yn dibynnu ar eich contract.
Bydd colli taliad yn effeithio’n negyddol ar eich sgôr credyd a gallai effeithio ar eich gallu i gael credyd yn y dyfodol. Felly mae’n bwysig eich bod yn siarad â’ch credydwr cyn i chi golli taliad. Gallent:
- weithio gyda chi i ddarparu cymorth cyn i chi fethu unrhyw daliadau
- bod yn hyblyg a defnyddio ystod lawn o opsiynau i helpu i leddfu unrhyw straen a phryder y gallech fod yn ei ddioddef oherwydd problemau ariannol
- rhoi trefniadau ad-dalu fforddiadwy a chynaliadwy ar waith
- cymryd i ystyriaeth eich sefyllfa ariannol ehangach gan gynnwys dyledion gyda benthycwyr eraill a chostau byw hanfodol a allai fod gennych
- rhoi digon o amser i chi ad-dalu a pheidio â rhoi pwysau arnoch i ad-dalu'ch dyled o fewn cyfnod afresymol o fyr
- gwneud yn siŵr nad yw eich balans yn mynd allan o reolaeth unwaith y bydd cynllun ad-dalu yn ei le
- adnabod ac ymateb i'ch anghenion os ydych yn agored i niwed.
Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am y gwahanol fathau o gynlluniau yn ein canllaw Beth yw pryniadau Prynu Nawr, Talu yn Nes Ymlaen?
Peidiwch â chymryd mwy o gredyd
Mae rhai cynlluniau Prynu Nawr, Talu yn nes ymlaen ond yn gwneud gwiriadau credyd meddal, yn enwedig y rhai rydych chi'n cael eu cynnig mewn siopau.
Gall fod yn hawdd parhau i’w defnyddio gan na fyddwch o reidrwydd yn cael eich gwrthod am gredyd oherwydd ni fydd eich darparwr yn gwybod pa fenthyciadau eraill sydd gennych. Ond gall cael trafferthion i dalu llawer o daliadau eich rhoi mewn perygl o fynd i ddyled, felly mae’n bwysig peidio â gadael i bethau fynd allan o reolaeth.
Os ydych chi wedi bod yn defnyddio cynlluniau Prynu Nawr Talu yn Ddiweddarach oherwydd eich bod wedi cyrraedd y lefel uchaf ar fathau eraill o gredyd fel cardiau credyd, benthyciadau neu orddrafftiau, am ffyrdd i gwtogi ar gostau gweler ein hadran Byw ar incwm gwasgedig
Cardiau siop
Ceisiwch dalu mwy na’r isafswm balans
Bydd eich cyfriflen yn dangos yr isafswm sy’n rhaid i chi ei dalu, ond mae’n bwysig anelu at ad-dalu cymaint ag y gallwch bob amser, neu fe allai gymryd amser hir i chi a chostio llawer i chi dalu unrhyw falans sy’n ddyledus. Hefyd, gall talu’r isafswm gael effaith negyddol ar eich statws credyd.
Os gallwch, trefnwch Ddebyd Uniongyrchol i wneud yn siŵr na fyddwch byth yn anghofio taliad neu codir ffioedd hwyr a llog arnoch. Os ydych yn byw ar incwm amrywiol, neu os ydych yn poeni efallai na fydd digon o arian yn y cyfrif bob amser i’w dalu, bydd gwneud taliadau â llaw yn eich helpu i osgoi ffioedd ar Debydau Uniongyrchol a fethwyd.
Gwiriwch a allwch symud eich dyled i gerdyn credyd 0%
Mae cardiau siop yn aml yn codi cyfraddau llog uchel felly gallai trosglwyddo balans i gyfradd llog 0% neu is ostwng eich taliadau trwy symud yr hyn sy’n ddyledus i gerdyn newydd, ond dim ond os oes gennych statws credyd da. Os oes amhariad ar eich statws credyd mae'n annhebygol y cewch gynnig y cytundebau gorau.
Ond cyn cymryd un allan, chwiliwch am y cytundebau gorau, oherwydd mae’r telerau hirach yn aml yn dod gyda ffi trosglwyddo.
Wrth chwilio am y cerdyn cywir, cyfrifwch faint o amser sydd angen i chi dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych a cheisiwch ddod o hyd i un gyda chyfnod o 0% sy’n rhoi digon o amser i chi ad-dalu gyda'r ffi isaf y gallwch ei chael.
Os oes gennych falans heb ei dalu o hyd ar ddiwedd y cyfnod 0%, bydd APR yn berthnasol a byddwch yn dechrau codi llog ar yr hyn sy’n ddyledus eto.
Bil ffôn symudol
Cysylltwch â’ch darparwr
Er nad yw biliau ffôn symudol yn cael eu hystyried yn ddyledion â blaenoriaeth, mae cadw’ch ffôn symudol yn achubiaeth hanfodol ac yn fil y dylech ei flaenoriaethu os nad oes gennych linell dir.
Mae gan lawer o ddarparwyr gefnogaeth ar waith i’ch helpu os ydych yn cael trafferth gyda thaliadau, gan gynnwys:
- newid dyddiad eich bil
- sefydlu cynllun ad-dalu fforddiadwy
- symud i dariff gwahanol, neu
- gostwng eich cap gwario.
Os ydych ar gontract ffôn symudol, efallai y byddwch yn gallu symud i dariff talu-wrth-fynd rhatach neu gytundeb SIM yn unig. Ond darganfyddwch yn gyntaf a oes rhaid i chi dalu ffi i ddod â’ch contract i ben yn gynnar.
Mae canllaw defnyddiol ar ganslo cytundeb ffôn, teledu, rhyngrwyd neu ffôn symudol ar MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
Darllenwch ein canllaw Sut i arbed arian ar eich ffôn symudol
Bil band eang
Cael help gan eich darparwr band eang
Os ydych yn cael trafferth i dalu’ch bil, cysylltwch â’ch darparwr cyn gynted â phosibl ac eglurwch eich sefyllfa. Efallai y gallant eich helpu, fel:
- newid dyddiad eich bil
- sefydlu cynllun ad-dalu fforddiadwy
- symud i dariff gwahanol, neu
- cael gwared ar gapiau data ar wasanaethau band eang sefydlog.
I ddod o hyd i'r darparwr rhyngrwyd gorau i chi, gan gynnwys awgrymiadau ar sut i fargeinio am bris is Mae gan MoneySavingExpert restr helaethYn agor mewn ffenestr newydd
Mae canllaw defnyddiol ar ganslo cytundeb ffôn, teledu, rhyngrwyd neu ffôn symudol ar Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael cytundeb ratach
Mae rhai darparwyr band eang yn cynnig cynlluniau cost isel i’ch helpu i wneud galwadau symudol a mynd ar-lein os ydych yn cael budd-daliadau penodol, gan gynnwys:
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Credyd Pensiwn
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Am y wybodaeth ddiweddaraf ar dariffau cost isel sydd ar gael, ewch i OfcomYn agor mewn ffenestr newydd
Cael band eang am ddim os ydych yn chwilio am swydd
Os ydych yn chwilio am waith, gallwch wneud cais trwy eich anogwr gwaith am daleb i gyfnewid am fand eang am ddim gan y darparwr cysylltedd TalkTalk.
Mae’r daleb yn eich caniatáu i gael chwe mis o wasanaeth band eang Ffibr 35 TalkTalk heb unrhyw gontract neu wiriad credyd. Mae terfynau defnydd data heb eu capio (o fewn y terfynau defnydd data teg).
Ar ôl chwe mis, gallwch ddewis fynd ar gontract gyda TalkTalk neu ganslo’r gwasanaeth. Beth bynnag y byddwch yn dewis ei wneud, ni fydd unrhyw gostau canslo na ffioedd cofrestru.
Gwasanaethau ffrydio teledu a cherddoriaeth
Siaradwch â’ch darparwr
Os nad ydych yn meddwl y gallwch fforddio talu, cysylltwch â’ch darparwr cyn gynted â phosibl ac eglurwch eich sefyllfa. Gall llawer o ddarparwyr helpu os yw coronafeirws wedi effeithio ar eich sefyllfa ariannol. Efallai y byddant yn cytuno i’ch helpu drwy:
- rhoi cynllun talu i chi
- lleihau eich bil
- rhoi mwy o amser i chi dalu
- cynyddu eich terfyn data neu lawrlwytho, neu
- eich symud i gontract sy’n gweddu’n well i’ch anghenion.
Canslo eich tanysgrifiad
Os na allwch fforddio gwasanaethau fel Netflix neu Spotify, efallai y gallwch eu canslo heb orfod talu cosb. Ond yn gyntaf, gwiriwch delerau eich contract.
Os oes gennych ddyledion gallwch ysgrifennu at eich credydwyr gan ddefnyddio llythyrau enghreifftiol ar Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
Talu arian yn ôl i deulu a ffrindiau
Siaradwch â’r person y mae arnoch arian iddo
Y peth pwysicaf y gallwch ei wneud yw bod yn onest gyda’r person y mae arnoch arian iddo, a pheidio ag anwybyddu'r broblem. Efallai y byddant yn gallu cynnig help neu roi amser i chi roi trefn ar bethau.
Mae’n syniad da i lunio cyllideb i’ch helpu i weld beth sy’n dod i mewn, mynd allan a pha filiau a dyledion eraill sydd gennych. Y ffordd honno, gallwch ei ddefnyddio i ddangos i'ch teulu neu ffrind fel y gallant weld eich sefyllfa ariannol.
Yna eisteddwch i lawr gyda nhw a chynlluniwch pa mor aml y byddwch yn talu a faint, gan wneud yn siŵr ei fod yn fforddiadwy fel y gallwch gadw at y cynllun.
Eisiau gwybod ychydig mwy am sut i siarad â’r person y mae arnoch arian iddo? Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i gael sgwrs am arian
Beth i’w wneud os oes rhywun yn eich bygwth
Os yw rhywun rydych yn ei adnabod sydd wedi rhoi benthyg arian i chi yn eich bygwth, yn codi symiau gormodol o log ar eich benthyciad neu wedi cymryd rhywbeth fel eich pasbort neu gerdyn banc oddi wrthych, mae’r ymddygiad hwn yn golygu eu bod yn fenthyciwr arian didrwydded.
Efallai ei bod hi’n rhyfedd meddwl am rywun rydych yn ei adnabod ac sy'n bwysig i chi fel benthyciwr arian didrwydded, ond mae’n bwysig iawn eich bod chi’n cael cyngor. Ffoniwch Stop Loan Sharks ar 0300 555 2222 i wneud adroddiad yn ddiogel.
Byddant yn rhoi cyngor i chi ar sut i ddelio â’r sefyllfa. Byddant hefyd yn esbonio beth fydd yn digwydd nesaf, ac yn eich helpu i gael y cymorth ariannol, tai neu ddyled y gallai fod ei angen arnoch.
Am fwy o wybodaeth am daliadau llog afresymol neu ymddygiad bygythiol, ewch i Stop Loan SharksYn agor mewn ffenestr newydd
Os yw'ch partner, aelod o'r teulu, gofalwr neu unrhyw un arall yn rheoli eich materion ariannol, cam-drin ariannol yw hwn, gweler ein canllaw Cam-drin ariannol: adnabod yr arwyddion a gadael yn ddiogel
Benthyciad gwystlwr
Gofynnwch i’r gwystlwr ymestyn y dyddiad cau
Os na allwch ad-dalu’ch benthyciad erbyn y dyddiad cau ac nad ydych am i’ch eitem gael ei werthu, gallwch ofyn i’r gwystlwr a yw’n barod i ymestyn y dyddiad cau, ond nid oes rhaid iddynt gytuno.
Os benthycoch hyd at £75 ac na allwch ad-dalu’r benthyciad, bydd perchnogaeth yr eitem yn trosglwyddo’n awtomatig i’r gwystlwr.
Pe baech wedi benthyca mwy na £75, gallai’r gwystlwr werthu’r eitem a chadw’r elw – ond mae’n rhaid iddynt geisio cael y gwerth gorau am yr eitem, ac os oes unrhyw arian dros ben (ar ôl talu’r ddyled a thynnu costau megis arwerthiant costau) mae’n rhaid iddynt dalu hwn i chi.
Os yw’r benthyciad yn fwy na £100 rhaid i’r gwystlwr ddweud wrthych ymlaen llaw os yw am ei werthu.
Mae hyn yn rhoi cyfle i chi eu talu a chael eich nwyddau yn ôl.
Os ydych wedi colli eich derbynneb, dywedwch wrth eich gwystlwr
Os ydych wedi benthyca hyd at £75, gallwch ofyn i’r gwystlwr am ‘ffurflen safonol’ i’w llenwi i ddweud eich bod wedi colli’r tocyn ond mai eich un chi yw’r nwyddau.
Os ydych wedi benthyca mwy na £75, byddai angen i chi lofnodi datganiad statudol.
Gallai hyn olygu mynd at ynad neu Gomisiynydd Llwon, neu Ynad Heddwch os ydych yn byw yn yr Alban.
Gallwch hefyd fynd at gyfreithiwr, ond maent yn debygol o godi ffi am hyn.
Gwybod gwerth yr eitem cyn i chi ei wystlo, os na fyddwch yn ad-dalu’r ddyled
Os na fyddwch yn ad-dalu’r benthyciad neu’n ymestyn y credyd, gall y gwystlwr werthu’ch nwyddau a defnyddio’r arian i dalu’ch dyled. Os teimlwch fod y gwystlwr wedi ei werthu am lai nag oedd o werth, bydd angen tystiolaeth arnoch o werth yr eitem fel prawf.
Os nad ydych yn hapus gyda’r pris a adenillwyd ar gyfer eich eitem, yn gyntaf, cwynwch yn ysgrifenedig i’r gwystlwr.
Os na fydd y gwystlwr yn ymateb i’ch cwyn neu os na fyddwch yn llwyddo i ddatrys y broblem o fewn wyth wythnos, gallwch fynd â’ch cwyn at y ‘Financial Ombudsman Service’ (FOS)Yn agor mewn ffenestr newydd
Gallwch fynd â gwystlwr i’r Llys Hawliadau Bychain ond mae ffioedd i’w talu ac mae risg bob amser efallai nad yw’r setliad yr ydych ei eisiau.
Mae benthyca arian trwy wystlwr yn ddrud a gallai olygu colli eitem werthfawr. Darganfyddwch fwy am y math hwn o fenthyca yn ein canllaw Gwystlwyr
Ydych chi wedi methu taliad?
Os felly, nawr yw’r amser i gael cyngor ar ddyledion
-
Mae am ddim ac yn gyfrinachol
-
Yn rhoi gwell ffyrdd i chi reoli eich dyledion a’ch arian
-
Yn sicrhau eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau a hawliadau cywir