Cynlluniwr cyllideb
Mae ein teclyn ar-lein rhad ac am ddim yn eich helpu i gadw golwg ar eich arian ac yn awgrymu ffyrdd o wella eich cyllid.
Beth sydd ei angen arnaf i lenwi’r Cynlluniwr cyllideb?
Bydd angen i chi gyfrifo’ch incwm a'ch gwariant ar draws rhai categorïau gwahanol. I'ch helpu, mae'n syniad da cael y rhain wrth law:
- slipiau cyflog
- datganiadau banc
- biliau
- eich ap bancio.
Sut mae’r Cynlluniwr cyllideb yn gweithio?
Mae'r Cynlluniwr cyllideb yn cyfrifo’ch holl incwm a'ch treuliau, ac yna mae’n dangos i chi beth sydd ar ôl. Mae'n dadansoddi lle rydych chi'n gwario’ch arian, gan roi syniad i chi o ble efallai y byddwch chi'n gallu arbed arian a lleihau costau.
Awgrymiadau ar gyfer llenwi’r Cynlluniwr cyllideb
Mae ein teclyn yn fwy defnyddiol pan fydd y rhifau rydych chi'n eu rhoi ynddo’n gywir. Dyma rai awgrymiadau i wneud yn siŵr eich bod chi'n cael canlyniadau defnyddiol.
Darganfyddwch i ar gyfer pwy rydych chi’n cyllidebu
Mae'n well bod yn gyson wrth gyfrifo’ch cyllideb, felly meddyliwch am a ydych chi'n cynnwys eich partner, aelodau o'ch teulu neu’n creu eich cyllideb unigol eich hun.
Gwnewch yn siŵr bod eich ffigurau’n gywir
Gall defnyddio datganiadau banc neu eich ap bancio helpu i wneud yn siŵr bod y rhifau rydych chi'n eu rhoi yn realistig. Mae'n bwysig gwneud hyn, gan y bydd yn rhoi darlun clir i chi o ble rydych chi'n gwario eich arian.
Defnyddiwch ‘fesul blwyddyn’ os yw cost yn newid yn rheolaidd
Mae ein Cynlluniwr cyllideb yn caniatáu i chi newid y cyfnod amser ar gyfer pob cofnod. Felly, os yw un o'ch costau yn amrywio o fis i fis, gallwch nodi swm blynyddol yn lle hynny a bydd y teclyn yn torri hynny i lawr i gyfartaledd misol.
Rydw i wedi llenwi fy Nghynlluniwr cyllideb. Beth ddylwn i ei wneud nawr?
Mae'n dibynnu ar beth yw eich sefyllfa:
Os oes gennych arian dros ben
Efallai yr hoffech chi feddwl am eich opsiynau ar gyfer cynilo. Mae gennym nifer o ganllawiau ar gynilion a all eich helpu i ddeall eich opsiynau a'r hyn a allai weithio orau i chi.
Efallai yr hoffech hefyd ddefnyddio ein Cyfrifiannell cynilo i osod nod a chyfrifo pa mor hir y bydd yn ei gymryd i gyrraedd yno.
Os ydych chi’n dod i ben â hi, ond ei bod hi’n dynn
Gall ein canllawiau ar Gyllidebu eich helpu i ddarganfod ffyrdd o wneud i'ch arian fynd ymhellach, gan gynnwys Sut i dorri biliau cartref a chael y gorau o wefannau cymharu.
Os ydych chi’n gorwario
Mae gennym ni ganllawiau ar drafferthion ariannol a all helpu, gan gynnwys beth i'w wneud os ydych chi'n gorwario oherwydd ad-daliadau dyled.
Cyrchu eich cyllideb sydd wedi’i arbed o fersiwn blaenorol o’r teclyn
Os gwnaethoch chi ddefnyddio ein teclyn o'r blaen a’ch bod wedi arbed eich cyllideb, gallwch gael mynediad i'r ffigurau o hyd. Bydd dolen wedi'i e-bostio atoch, a gallwch ei defnyddio i ddychwelyd i'ch cyllideb unrhyw bryd.
Cwestiynau Cyffredin ar y Cynlluniwr cyllideb
Mae sefydlu cyllideb yn eich helpu i gadw golwg ar eich arian, er mwyn i chi wybod pryd y gallwch wario a sut i osgoi mynd i'r coch.
Gall cymryd yr amser i reoli'ch arian yn well dalu ar ei ganfed. Bydd deall beth i ganolbwyntio arno nawr ac yna rhoi cynllun tymor hir ar waith yn eich helpu i ymdopi yn well â'ch anghenion presennol ac yn y dyfodol.
Dysgwch fwy yn ein canllaw Rheoli eich arian.
Dylai ein Cynlluniwr cyllideb fod yn fan cychwyn da, ond os oes angen help pellach arnoch gallwch bob amser:
siarad â ni drwy wesgwrs am arweiniad ariannol
gweld ein Canllawiau ar gyllidebu
lawrlwytho ein canllaw print i ddarganfod sut i wneud i'ch arian fynd ymhellach (PDF, 165KB)
Os yw'ch incwm yn amrywio, gall fod yn demtasiwn i gyllidebu fel pe bai pob mis yn un da. Ond gall hyn eich gadael heb ddigon os ydych chi'n cael mis gwael.
Awgrym da yw cyllidebu ar gyfer eich incwm misol isaf – o leiaf byddwch bob amser yn talu’r prif gostau. Yna, os oes gennych fis da, gallwch adolygu eich cyllideb fisol i’w wneud yn fwy neu roi'r arian ychwanegol mewn cynilion.
Mae mwy o help yn ein canllaw Sut i gyllidebu ar gyfer incwm afreolaidd.
Mae'n syniad da edrych ar ein canllawiau ar Ddelio â dyled i ddeall pa opsiynau sydd ar gael i chi.
Os ydych wedi methu taliad oherwydd dyled, gallwch ddod o hyd i gyngor ar ddyledion am ddim gan ddefnyddio ein Teclyn lleolwr cyngor ar ddyledion.