Os ydych wedi derbyn llythyr gan eich darparwr yn dweud eich bod yn garcharor morgais, efallai y bydd help ar gael. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Beth yw carcharor morgais?
Ydych chi'n berchennog cartref sydd wedi cael gwybod na allwch newid i gytundeb morgais rhatach, er eich bod wedi talu eich ad-daliadau morgais?
Yna gallech fod yn 'garcharor morgais'.
Pan fyddwch yn cymryd morgais newydd, mae benthycwyr yn gwirio'ch incwm a'ch treuliau i weld a allwch fforddio'r morgais. Gwnaed yr asesiadau fforddiadwyedd hyn yn llawer llymach yn 2014.
Mae hyn yn golygu, er eich bod wedi pasio'r prawf fforddiadwyedd pan gawsoch forgais am y tro cyntaf, efallai na fyddwch yn pasio'r prawf nawr.
Mae hyn wedi gadael rhai perchnogion tai yn gaeth ar forgeisi drud heb yr opsiwn o newid i gytundeb gwell.
Ond mae cefnogaeth ar gael. Mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)Yn agor mewn ffenestr newydd wedi addasu'r rheolau a allai helpu rhai pobl sy’n gaeth i’w morgais
Ydw i'n garcharor morgais?
Rydych yn garcharor morgais os ydych:
- wedi prynu neu ailforgeisio'ch cartref cyn 2014, ac
- wedi derbyn llythyr 'carcharor morgais' gan eich darparwr cyn mis Ionawr 2020.
Efallai y gallwch nawr newid morgais
Os anfonwyd llythyr 'carcharor morgais' atoch gan eich darparwr, efallai y gallwch newid i forgais rhatach ar gyfer eich cartref presennol.
Cyflwynodd yr FCA reolau newydd ym mis Hydref 2019 i adael i fenthycwyr edrych ar eich hanes talu morgais yn hytrach na'ch incwm a'ch gwariant misol i weld a ydych yn gallu fforddio'r ad-daliadau.
Mae hyn yn golygu y gallant ddefnyddio 'asesiad fforddiadwyedd wedi'i addasu' lle maent yn osgoi rhai o'r gwiriadau llymach.
Ond dim ond os yw'r benthyciwr yn dewis gwneud hynny.
Does dim sicrwydd y byddwch yn cael cytundeb morgais newydd neu rhatach - gan y bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol.
Nid yw hefyd yn berthnasol os ydych:
- eisiau symud a chymryd morgais newydd ar eiddo newydd
- â morgais prynu i osod, neu
- yn rhentu eich eiddo gan ddefnyddio morgais preswyl gyda 'chydsyniad-i-osod'.
Pwy all wneud cais i newid
Oni bai eich bod wedi methu taliad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fel arfer gallwch wneud cais i newid os ydych wedi derbyn llythyr carcharor morgais.
Mae'r meini prawf ar gyfer newid yn amrywio rhwng benthycwyr, felly gofynnwch bob amser a yw eich sefyllfa yn gymwys.
Gall hyn gynnwys:
- Mae eich cartref yn werth o leiaf £60,000.
- Mae gennych forgais preswyl dros £50,000.
- Mae gennych o leiaf 5 mlynedd yn weddill ar eich morgais.
- Nid yw'r benthyciad i werth (LTV) yn fwy na 85% (dyma'r swm sy'n weddill ar eich morgais o'i gymharu â gwerth eich cartref).
- Nid ydych am wneud unrhyw newidiadau, fel ychwanegu neu ddileu benthyciwr
Os oes gennych forgais llog yn unig
Os ydych chi'n garcharor morgais gyda morgais llog yn unig, gallwch wneud cais i newid o hyd.
Gallwch hefyd ofyn i newid rhan neu'r cyfan o'ch morgais i'w ad-dalu. Byddwch yn talu mwy bob mis, ond byddech yn dechrau clirio mwy na'r llog yn unig.
Os ydych dal eisiau llog yn unig, bydd y rhan fwyaf o fenthycwyr yn disgwyl i chi gael cynllun i glirio'r morgais sy'n weddill ar ddiwedd y tymor - ac efallai y gofynnir i chi brofi hyn cyn i chi gael eich derbyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw, Ffyrdd o ad-dalu eich morgais llog yn unig.
Opsiynau i bobl sy’n gaeth i’w morgais
Os ydych yn gymwys i wneud cais, gallwch naill ai:
- Gofyn am newid i gytundeb gwell gyda'ch benthyciwr presennol.
- Newid i fenthyciwr newydd a all gynnig asesiad fforddiadwyedd wedi'i addasu i chi.
- Trosi'r cyfan neu ran o'ch morgais o log yn unig i ad-dalu.
- Ystyried cynllun pensiwn llog yn unig neu ryddhad ecwiti os ydych dros 55 oed. Darllenwch ein canllaw ar ryddhau ecwiti.
Os nad yw'ch darparwr presennol bellach yn cynnig cynhyrchion morgais i gwsmeriaid newydd, mae gennych forgais 'llyfr caeedig'.
Os ydych yn y sefyllfa hon, gallech geisio newid i fenthyciwr yn yr un grŵp ariannol â'ch darparwr presennol.
Gallwch gael cyngor gan frocer neu linell gymorth ddyled i ddarganfod pa fenthycwyr sy'n cynnig gwahanol opsiynau newid.
Cael cymorth a chyngor proffesiynol
Beth bynnag fo'ch amgylchiadau, mae help ar gael i chi.
Cyngor am ddim a diduedd
I siarad ag ymgynghorydd morgais am ddim, ewch i StepChangeYn agor mewn ffenestr newydd ar-lein neu ffoniwch 0808 1686 719
Gallant:
- ddeall eich sefyllfa
- ymchwilio i'r farchnad forgeisi drosoch
- rhoi cyngor ar ddyledion, ac
- eich arwain drwy'r broses gyfan.
Maent hefyd yn cael eu rheoleiddio i roi cyngor ar ddyledion fel y gallant helpu i ddatrys unrhyw broblemau ariannol sydd gennych hefyd.
Siaradwch â brocer morgais rheoledig
Gall siarad â brocer morgais rheoledig ei gwneud hi'n haws dod o hyd i fenthyciwr newydd a gwneud cais iddo.
Dylech gael gwybod am unrhyw ffioedd cyn cofrestru, fel cyfradd unffurf, tâl fesul awr neu ganran o'r swm a fenthycwch.
Lawrlwythwch restr o ymgynghorwyr morgais rheoledigYn agor mewn ffenestr newydd yn eich ardal i drafod eich opsiynau.