Wrth brynu eiddo, sylwch fel arfer eu bod yn cael eu gwerthu fel ‘lesddaliad’ neu ‘rydd-ddaliad’. Gall gwybod y gwahaniaeth eich helpu i ddeall sut y bydd yn effeithio ar brynu, cyllidebu a gwerthu’r eiddo.
Beth mae ‘lesddaliad’ a ‘rhydd-ddaliad’ yn ei olygu
Mae rhydd-ddaliad yn golygu i berchen ar eiddo, gan gynnwys y tir y mae wedi’i adeiladu arno, heb derfyn amser penodol.
Mae lesddaliad yn golygu i berchen ar eiddo am gyfnod penodol o amser, gan ei brydlesu gan landlord sy’n berchen ar yr adeilad cyfan neu’r tir y mae wedi’i adeiladu arno.
Beth yw eiddo rhydd-ddaliad?
Mae eiddo rhydd-ddaliadol yn eiddo rydych yn ei berchen heb unrhyw derfyn amser penodol. Fyddwch chi’n berchen ar yr adeilad a’r tir y mae wedi’i adeiladu arno.
Os ydych yn prynu rhydd-ddaliad, rydych yn gyfrifol am gynnal a chadw eich eiddo a’ch tir. Dylech gyllidebu ar gyfer y costau hyn.
Mae’r rhan fwyaf o’r tai yn rhydd-ddaliad. Mae yna rai sy’n lesddaliad- fel arfer drwy gynlluniau rhanberchenogaeth.
Mae hefyd yn bosibl rhannu rhydd-ddaliad gydag eraill
Manteision eiddo rhydd-ddaliad
Mae bod yn berchen ar eiddo rhydd-ddaliadol yn golygu:
- nid oes terfyn amser ar eich perchnogaeth
- nid oes unrhyw rydd-ddeiliad (landlord) i ddelio ag ef
- ni fyddwch yn talu rhent tir na thaliadau gwasanaeth eraill.
Beth yw eiddo lesddaliad?
Mae eiddo lesddaliad yn eiddo rydych chi’n berchen arno am gyfnod penodol o amser. Maent ar draws y rhan fwyaf o’r wlad, ond nid ydynt yn gyffredin iawn yn yr Alban.
Fel arfer, bydd eich les rhwng 90 a 999 o flynyddoedd. Bydd hyd eich les yn eich cytundeb les gyda’r rhydd-ddeiliad.
Pan ddaw’r brydles i ben, mae’r eiddo yn mynd yn ôl i’r rhydd-ddeiliad. Fodd bynnag, fel arfer gallwch ymestyn y les
Mae’r rhan fwyaf o fflatiau a maisonettes yn lesau. Mae hyn yn golygu, er eich bod yn berchen ar eich eiddo yn yr adeilad, nid ydych yn berchen ar unrhyw ran o’r adeilad y mae ynddo. Ond efallai y bydd angen i chi dalu costau cynnal a chadw misol neu flynyddol.
Mae rhai tai yn cael eu gwerthu fel lesddaliadau. Yn yr achos hwn, rydych chi’n berchen ar yr eiddo ond nid y tir y mae arno, felly efallai y bydd angen i chi dalu rhent tir i’r rhydd-ddeiliad.
Prynu eiddo lesddaliad
Pan fyddwch yn prynu eiddo lesddaliadol, byddwch yn cymryd y brydles oddi wrth y perchennog blaenorol.
Cyn gwneud cynnig, meddyliwch am:
- faint o flynyddoedd sydd ar ôl ar y les
- cyllidebu ar gyfer taliadau gwasanaeth, rhent tir ac unrhyw gostau eraill
- unrhyw gynnydd mewn costau yn y dyfodol yn y contract.
Os ydych yn berchen ar eiddo les-ddaliadol, eich cyfrifoldeb chi yw atgyweirio a chynnal a chadw eich eiddo.
Ond fel arfer bydd angen i chi gael caniatâd y landlord i wneud unrhyw newidiadau sylweddol. Gwiriwch y contract i weld pa rannau o’r eiddo y byddwch yn gyfrifol amdanynt.
Pa mor bwysig yw hyd y les?
Gall hyd y les effeithio ar:
- gwerth ailwerthu eiddo
- pa mor hawdd yw cael morgais.
Fel arfer, rydych eisiau i les gael o leiaf 80 mlynedd yn weddill. Gall unrhyw beth llai ei gwneud hi’n anoddach cael morgais.
Mae’n debygol y bydd gwerth yr eiddo yn gostwng wrth i chi agosáu at ddiwedd les (o fewn 80 mlynedd). Gall hyn olygu y bydd yn anoddach i’w werthu.
Ymestyn y les
Gallwch ofyn i’r rhydd-ddeiliad ymestyn y les ar unrhyw adeg.
Unwaith y byddwch wedi bod yn berchen ar eich cartref am ddwy flynedd, mae gennych yr hawl i ymestyn eich les o 90 mlynedd (neu hyd at 125 mlynedd yng Ngogledd Iwerddon). Bydd angen i chi fod yn denant cymwys - os oedd eich les wreiddiol dros 21 mlynedd, byddwch fel arfer yn gymwys.
Bydd y rhydd-ddeiliad yn codi tâl am ymestyn y les. Bydd y gost yn dibynnu ar yr eiddo, ac efallai y bydd angen i chi logi cyfreithiwr a syrfëwr hefyd. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd cyfreithiol a gweinyddol y rhydd-ddeiliad hefyd.
Os na allwch chi a’r rhydd-ddeiliad gytuno ar y gost o ymestyn y prydles:
- Yn Lloegr, gallwch apelio i dribiwnlys haen gyntaf. Cysylltwch â’r Leasehold Advisory ServiceYn agor mewn ffenestr newydd i gael cyngor.
- Yng Nghymru, gallwch wneud cais i Dribiwnlysoedd Prisio LesddaliadauYn agor mewn ffenestr newydd
- Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch wneud cais am Lands TribunalYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy am ymestyn neu newid les yn GOV. UKYn agor mewn ffenestr newydd
Taliadau am eiddo lesddaliad
Pan fyddwch yn berchen ar eiddo prydlesol, eich landlord sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r adeilad fel arfer.
Mae lesddeiliaid yn rhannu cost hyn drwy dalu ffi gwasanaeth i’r landlord.
Efallai y gofynnir i chi dalu i mewn i gronfa ad-dalu hefyd. Mae hyn er mwyn talu am unrhyw waith atgyweirio annisgwyl sydd ei angen yn y dyfodol.
Cynlluniwr cyllideb
Defnyddiwch y Cynlluniwr cyllideb i wirio eich bod yn gallu fforddio taliadau gwasanaeth.
Taliadau gwasanaeth lesddaliad
Mae taliadau gwasanaeth yn wahanol ar gyfer pob eiddo, ond fel arfer maent yn talu am bethau fel:
- cynnal ardaloedd a gerddi cymunedol
- biliau trydan ar gyfer ardaloedd cymunedol
- atgyweirio a chynnal waliau allanol.
Dylech bob amser wirio’r taliadau gwasanaeth cyn rhoi cynnig ar eiddo, gan y gallai effeithio a allwch fforddio byw yno.
Dylech wirio unrhyw delerau ac amodau, gan y byddant yn aml yn dangos faint o daliadau gwasanaeth allai godi yn y contract. Efallai y byddant hefyd yn esbonio’r costau y byddai disgwyl i chi eu talu am unrhyw waith adeiladu mawr. Darllenwch nhw yn ofalus i weld a ydyn nhw’n fforddiadwy.
Gallai taliadau eraill gynnwys:
- rhent tir
- taliadau gweinyddol
- yswiriant adeiladau (a drefnir gan y landlord).
Yn yr Alban, gelwir taliadau gwasanaeth yn ‘ffioedd ffactoreiddio’. Mae’r rhain fel arfer yn bodoli ar gyfer eiddo gydag ardaloedd cymunedolYn agor mewn ffenestr newydd
Anghydfodau rheoli gyda rhydd-ddeiliad
Fel lesddeiliad mae gennych hawliau sy’n atal y landlord rhag manteisio arnoch yn ariannol.
Er enghraifft, gallwch ofyn am weld:
- crynodeb o’r hyn y mae’r ffioedd gwasanaeth yn cael eu gwario arno
- sut y cyfrifwyd hwy
- unrhyw waith papur ategol, a derbynebau.
Mae’n rhaid i’r rhydd-ddeiliad ddweud wrthych:
- unrhyw waith adeiladu sy’n costio mwy na £250
- cyn gwneud unrhyw waith sy’n para mwy na blwyddyn
- cyn gwneud unrhyw waith sy’n costio dros £100 y flwyddyn i chi.
Os ydych chi’n anhapus gyda’r rhydd-deiliad, gallwch chi
- Defnyddio’r Hawl i ReoliYn agor mewn ffenestr newydd Mae hyn yn caniatáu i lesddeiliaid gymryd rhai tasgau rheoli gan y landlord. Ni fydd angen i chi brofi rheolaeth wael, ond bydd angen i chi sefydlu cwmni rheoli gyda’r lesddeiliaid eraill.
- Gwneud cais i benodi rheolwr newydd. Bydd angen i chi brofi rheolaeth wael, fel costau annheg neu gytundebau toredig.
Prynu cyfran o rydd-ddaliad
Os oes gennych eiddo lesddaliad, gallwch brynu'r rhydd-ddaliad gan y rhydd-ddeiliad ynghyd â lesddeiliaid eraill - er enghraifft, pobl eraill sy'n byw mewn bloc o fflatiau. Gelwir hyn yn ‘Rhyddfreinio ar y Cyd’.
Gallwch wneud hyn os bydd o leiaf hanner y lesddeiliaid yn cytuno i brynu cyfran. I brynu'r rhydd-ddaliad, bydd yn rhaid i chi gyflwyno Hysbysiad Adran 13 ar y rhydd-deiliad.
Manteision o ferchen ar gyfran rhydd-ddaliad
Mae berchen ar gyfran o’r rhydd-ddaliad yn rhoi mwy o reolaeth i chi dros eich cartref a'r costau rydych yn eu talu.
Mae hefyd yn golygu ei bod yn haws ymestyn eich les am hyd at 990 o flynyddoedd.
Anfanteision o ferchen ar gyfran rhydd-ddaliad
Efallai y byddai’n ddrud prynu’r rhydd-ddaliad. Bydd angen i chi a’r lesddeiliaid eraill hefyd sefydlu cwmni i reoli’r adeilad neu ddod o hyd i asiant rheoli i wneud hynny ar eich rhan.
Eiddo cyfunddaliadol
Mae cyfanddaliad yn gymdeithas o rydd-ddeiliaid sy’n berchen ar rannau o eiddo neu ddarn o dir.
Maent ar wahân i eiddo rhydd-ddaliadol a lesddaliad, gan y byddwch yn talu tâl gwasanaeth tuag at ardaloedd cyffredin a chynnal a chadw adeiladau. Fodd bynnag, nid oes landlord sydd â rheolaeth gyffredinol dros yr eiddo na’r tir cyfan.
Mae eiddo cyfunddaliad yn ddewis arall i lesddaliad hirdymor. Rydych chi’n gyfrifol am eich fflat neu dŷ unigol, ond nid oes terfyn amser ar ba mor hir y gallwch chi fod yn berchen ar yr eiddo.