Gall nifer o gynlluniau’r llywodraeth eich helpu i brynu cartref. Mae’r rhain yn cynnwys ISA Gydol Oes, Cymorth i Brynu, Hawl i Brynu a Chyd-berchnogaeth.
ISA Gydol Oes (LISA)
Gallwch ddefnyddio LISA i brynu'ch cartref cyntaf (ar gyfer eiddo sy'n costio £450,000 neu'n llai) neu gynilo ar gyfer diwedd oes. Mae rhaid i chi fod rhwng 18 a 39 oed i agor LISA.
Gallwch roi hyd at £4,000 i mewn bob blwyddyn, nes eich bod yn 50 oed. Mae rhaid i chi wneud eich taliad cyntaf yn eich ISA cyn eich bod yn 40. Bydd y llywodraeth yn ychwanegu bonws o 25% at eich cynilion, hyd at uchafswm o £ 1,000 y flwyddyn.
Os ydych yn prynu â phrynwr tro cyntaf arall sydd hefyd â LISA, gallwch chi'ch dau ddefnyddio'ch LISA tuag at yr un eiddo.
Byddwch yn ymwybodol bod cosb am dynnu arian allan o LISA os nad ydych yn ei roi tuag at flaendal neu'n tynnu'n ôl ar ôl 60 oed.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ISAs Gydol Oes
ISA Cymorth i Brynu
Os gwnaethoch agor ISA Cymorth i Brynu cyn diwedd mis Tachwedd 2019, gallwch barhau i'w ddefnyddio ar gyfer blaendal os ydych yn prynu cyn mis Rhagfyr 2030. Fel yr ISA Gydol Oes, mae'r cyfrif hwn yn caniatáu i chi gael bonws o 25% ar eich cynilion.
Ond rydych wedi’ch cyfyngu i arbed £200 y mis, yn lle’r £4,000 y flwyddyn y gallwch arbed gyda ISA gydol-oes.
Darllenwch fwy yn ein canllaw ISAs Cymorth i Brynu
Cymorth i Brynu: Cynllun gwarant morgais
Mae’r cynllun gwarant morgais yn cynnig yr opsiwn i fenthycwyr brynu gwarant ar forgeisi lle mae gan brynwr tro cyntaf flaendal o 5% yn unig.
Mae'r cynllun yn rhedeg tan 30 Mehefin 2025 ac yn digolledu benthycwyr morgais os na all y prynwr wneud taliadau a bod y tŷ yn cael ei adfeddiannu. Mae’r warant yn berthnasol i 80% o bris prynu’r eiddo, gan ddiogelu benthycwyr rhag hyd at 95% o unrhyw golledion net posibl. Mae’r 5% sy’n weddill o’r colledion yn parhau i fod yn gyfrifoldeb y benthyciwr, ac mae hyn yn sicrhau eu bod yn cadw rhywfaint o risg ym mhob benthyciad y maent yn ei drefnu.
Cymorth i Brynu – Cymru
Cymorth i Brynu - Mae Cymru yn darparu benthyciad ecwiti a rennir i brynwyr cartrefi newydd. Mae'r cynllun yn cefnogi prynu cartrefi hyd at £300,000 (tan mis Mawrth 2025) a brynwyd drwy adeiladwr cofrestredig Cymorth i Brynu – Cymru.
Gyda Chymorth i Brynu – Cymru:
- mae rhaid i chi ddarparu blaendal o 5%
- mae'r cynllun yn darparu benthyciad ecwiti a rennir o hyd at 20% o'r pris prynu
- mae rhaid i chi gymryd morgais ad-dalu i dalu'r swm sy'n weddill.
Darganfyddwch fwy am Gymorth i Brynu ar gov.walesYn agor mewn ffenestr newydd
Prynu Cartref – Cymru
Mae Prynu Cartref – Cymru yn cefnogi cartrefi trwy ddarparu benthyciad ecwiti i helpu i brynu eiddo sy'n bodoli eisoes.
Mae'r cynllun yn helpu pobl na allent fforddio prynu eiddo fel arall.
Nid yw Prynu Cartref ar gael ym mhob ardal. A lle mae ar gael, bydd y cynllun yn destun i feini prawf cymhwysedd preswyl a chyflogaeth lleol.
Darganfyddwch fwy am gynllun Prynu Cartref ar gov.walesYn agor mewn ffenestr newydd
Yr Alban
Mae'r cynllun Cymorth i Brynu (Yr Alban) bellach ar gau.
Gogledd Iwerddon
Yng Ngogledd Iwerddon, caeodd y cynllun Cymorth i Brynu i geisiadau newydd yn 2016.
Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael
Mae Hawl i Brynu ar gael dim ond os ydych yn byw yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Os ydych yn denant tŷ cyngor neu gymdeithas dai, mae’n caniatáu i chi brynu’r eiddo ar ddisgownt.
Os ydych yn byw yn Lloegr ac nad ydych yn gymwys am Hawl i Brynu, efallai y gallech gael disgownt llai o dan y cynllun Hawl i Gaffael.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw’e cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael?
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ac wedi bod yn denant ‘Housing Executive’ neu gymdeithas dai am bum mlynedd neu fwy, efallai y gallech brynu’r eiddo ar ddisgownt. Mae swm y disgownt a gewch yn cynyddu yn dibynnu ar ba mor hir rydych wedi byw yn yr eiddo.
Y gostyngiad uchaf sydd ar gael i denantiaid y Weithrediaeth Dai neu gymdeithas dai sy'n gwneud cais i brynu eu cartref yw £24,000. Eich gostyngiad fydd 20% os ydych wedi byw yn yr eiddo am bum mlynedd. Cewch ddisgownt ychwanegol o 2% am bob blwyddyn ychwanegol, hyd at ostyngiad uchaf o 60% o'r prisiad neu £24,000.
Cyd-berchnogaeth
Cyd-berchnogaeth yw ble y byddwch yn prynu cyfran o gartref gan y landlord, sydd fel arfer yn gyngor neu’n gymdeithas dai, a thalu rhent ar y gyfran sy’n weddill.
Mae angen morgais arnoch i dalu am eich rhan, a all fod rhwng chwarter a thri chwarter o werth llawn y cartref.
Yna rydych yn talu rhent llai ar y rhan nad ydych yn berchen arni.
Yn ddiweddarach gallwch ddewis i brynu rhan fwy o’r eiddo hyd at 100% o’i werth.
I ddarganfod mwy am sut mae Cyd-berchnogaeth yn gweithio yn Lloegr, ewch i:
Cyd-berchnogaeth yng Ngogledd Iwerddon
Mae’r cynllun hwn ar gael ar gyfer cartrefi newydd eu hadeiladu a rhai hŷn.
Rydych yn prynu rhwng 50% a 90% o’r eiddo (a elwir yn ‘cyfran dechrau’). Gallwch gynyddu eich cyfran mewn camau 5% unrhyw bryd (a elwir yn ‘staircasing’).
Rydych yn talu rhent ar y gyfran nad ydych yn berchen arni.
Darganfyddwch fwy am cydberchnogaeth yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd
Yr Alban
Mae gan yr Alban ddau gynllun rhannu ecwiti - Rhannu Ecwiti Cyflenwad Newydd a Rhannu Ecwiti Marchnad Agored.
Er bod y cynlluniau hyn yn bennaf ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf ar incwm isel, gallant hefyd helpu eraill sydd angen symud. Gall hyn gynnwys pobl anabl neu rai sydd ag anghenion penodol yn dilyn newid sylweddol yn eu sefyllfa gartref..
Cymru
Mae Cymru'n darparu cefnogaeth i'r rheini sydd am brynu cartref ond ni allant fforddio prynu 100% o'r cartref am werth llawn y farchnad.
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun Cyd-berchnogaeth - Cymru, mae rhaid i chi fod yn brynwr tro cyntaf yn prynu cyfran mewn cartref sy'n gymwys ar gyfer y cynllun gan landlord sy'n cymryd rhan ac sydd ag incwm cartref cyfun o £60,000 neu lai bob blwyddyn.
Darganfyddwch fwy ar gymhwysedd i rannu perchnogaeth ar gov.wales
Pobl sydd ag Anableddau
Gall Perchnogaeth Cartref i Bobl sydd ag Anableddau hirdymor (HOLD) eich helpu i brynu unrhyw gartref sydd ar werth ar sail Cyd-berchnogaeth os oes gennych anabledd hirdymor.
Gallwch ond ymgeisio am HOLD os nad yw’r eiddo sydd ar gael drwy gynlluniau perchnogaeth cartref eraill yn bodloni’ch anghenion, er enghraifft, mae angen eiddo llawr gwaelod arnoch.
Dim ond personél milwrol sy'n cael blaenoriaeth dros grwpiau eraill. Bydd y cynllun yn berthnasol ledled Lloegr yn unig. Fodd bynnag, gall fod gan gynghorau sydd â'u rhaglenni adeiladu cartref perchnogaeth ar y cyd eu hunain rai grwpiau â blaenoriaeth, yn seiliedig ar anghenion tai lleol.
Pobl hŷn
Os ydych yn 55 oed neu drosodd, gallwch gael cymorth gan gynllun perchnogaeth cartref arall o’r enw Cyd-berchnogaeth Pobl Hŷn.
Mae’r cynllun yn debyg iawn i gynllun Cyd-berchnogaeth arferol ond cewch brynu hyd at 75% o’ch cartref yn unig. Unwaith byddwch yn berchen ar 75%, ni fydd raid i chi dalu rhent ar y gweddill.
Darganfyddwch fwy am y cynllun perchnogaeth cartref ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Camau nesaf
- Deall Faint gallwch fforddio ei fenthyca a beth y mae darparwyr benthyciadau’n ei asesu.
- Defnyddiwch ein Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais i amcangyfrif faint y gallwch ei fenthyg.
- Defnyddiwch ein Cyfrifiannell ad-dalu morgais i amcangyfrif y swm llog ac ad-daliadau misol.