Rydych wedi cymryd y cam cyntaf, pwysig i ddarllen am ddelio â dyled, felly byddwch yn falch o wybod eich bod yn y lle iawn gan fod ein canllaw yn hawdd ei ddeall ac ymarferol.
Yn yr adran hon, byddwn yn dweud wrthych ble i fynd am gyngor am ddim ar ddyledion, a sut i siarad â'r bobl mae arnoch arian iddynt. Byddwn hefyd yn rhoi awgrymiadau i'ch helpu i dalu'ch dyledion yn ôl yn y drefn gywir.
Mae gennym hefyd ganllawiau a fydd yn esbonio'r gwahanol ffyrdd y gallwch dalu'ch dyledion, fel y gallwch ddeall mwy am y daith tuag at dod yn rhydd o ddyled.