Canllaw i forgeisi gyda nodweddion arbennig

Mae gan rai morgeisi nodweddion arbennig a allai helpu’ch llif arian neu dalu’ch morgais yn llwyr ynghynt. 

Morgeisi arian yn ôl

Gyda morgais arian yn ôl, rydych yn cael rhywfaint o arian wrth gymryd eich morgais.

Gallai’r swm arian yn ôl fod yn gyfran o’r swm yr ydych chi’n ei fenthyg (er enghraifft 1%) neu fe allai fod yn swm penodol (er enghraifft £500).

Byddwch yn derbyn yr arian yn ôl ar ôl cwblhau, ac nid cyn hynny.

Mantais

  • Derbyn cyfandaliad i helpu gyda, er enghraifft, cost dodrefn ac atgyweiriadau i gartref newydd.

Anfantais

  • Mae morgeisi arian yn ôl yn aml yn codi cyfradd llog uwch na morgeisi eraill. Er mwyn gwirio gwir gost arian yn ôl, cymharwch eich costau morgais gyda chynnyrch eraill ar y farchnad.

Morgeisi gwrthbwyso

Gyda morgais gwrthbwyso, mae’ch cynilion wedi’u cysylltu â’ch morgais.

Mae hyn yn golygu bod eich cynilion yn mynd tuag at ostwng eich morgais, felly fyddwch chi ond yn talu llog ar y swm morgais, llai’r swm yr ydych chi wedi’i gynilo.

Mae’n ddewis da ar gyfer pobl gyda chynilion a balans banc rhesymol bob mis.

Gall morgeisi gwrthbwyso fod ar gyfraddau sefydlog neu amrywiol.

Enghraifft o forgais gwrthbwyso

Mae gennych forgais gwrthbwyso o £200,000 ar 3% o log. Mae gennych £10,000 o gynilion hefyd mewn cyfrif gwrthbwyso.

Mae’r £10,000 yn cael ei dynnu o’r £200,000, felly dim ond ar y balans o £190,000 y byddwch chi’n talu llog.

Felly yn hytrach nag ennill llog ar wahân ar y £10,000 fel cynilion, byddwch chi yn lle hynny yn osgoi talu 3% o log ar y £10,000 o’ch dyled.

Edrychwch faint o arian y gallech chi ei arbed trwy wrthosod gan ddefnyddio’r cyfrifiannell ar y wefan This Is MoneyYn agor mewn ffenestr newydd

Manteision

  • Fyddwch chi’n dal i ad-dalu’r morgais bob mis fel arfer, ac yn ei dalu yn llwyr ynghynt oherwydd eich bod chi’n gostwng y swm sy’n ddyledus.
  • Gallwch barhau i dynnu arian o’ch cynilion yn ôl eich dymuniad.

Anfanteision

  • Nid yw’n ddelfrydol ar gyfer y rheini sy’n dibynnu ar log eu cynilion i roi hwb i’w hincwm.
  • Nid yw morgeisi gwrthbwyso fel arfer yn cynnig mynediad i chi i fargeinion cyfraddau is.

Morgeisi cyfrif cyfredol

Mae morgeisi cyfrif cyfredol yn fath o forgais gwrthbwyso.

Yr unig wahaniaeth yw bod eich cyfrif cyfredol a morgais yn cael eu cyfuno yn un.

Felly os oes gennych chi forgais o £150,000 a £1,500 yn eich cyfrif cyfredol, bydd eich datganiad banc yn dangos bod arnoch chi £148,500 i’ch benthyciwr.

Enghraifft o forgais cyfrif cyfredol

Mae morgeisi cyfrif cyfredol yn debyg i forgeisi gwrthbwyso.

Y gwahaniaeth yw bod eich cyfrif cyfredol, yn hytrach na’ch cynilion, a’r morgais yn cael eu cyfuno yn un.

Er enghraifft, os oes gennych forgais cyfrif cyfredol o £150,000 a £1,500 yn eich cyfrif cyfredol, bydd eich datganiad yn dangos eich bod mewn dyled o £148,500 i’ch darparwr benthyciadau.

Er enghraifft, dychmygwch fod eich cyflog mynd adref yn £3,000 y mis a bod gennych forgais o £148,000.

Tra bod eich £3,000 yn y cyfrif, dim ond ar £145,000 y byddwch chi’n gorfod talu llog.

Wrth i chi fynd trwy’r mis yn gwario peth o’ch cyflog, bydd eich balans morgais yn codi’n raddol a bydd y taliadau llog dyddiol yn cynyddu.

Pan fyddwch chi’n derbyn eich pecyn cyflog nesaf i’ch cyfrif banc, bydd eich balans morgais unwaith eto yn gostwng ychydig a bydd y llog sy’n cael ei godi yn gostwng.

Felly gyda morgais cyfrif cyfredol, bydd y llog a godir yn cynyddu a lleihau wrth i’r swm yn eich cyfrif cyfredol gynyddu a lleihau.

Os oes gennych forgais ad-dalu byddwch chi’n talu mwy o gyfalaf pa bryd bynnag y bydd eich cyfrif cyfredol mewn credyd.

Mantais

  • Mae gennych yr hyblygrwydd i ddefnyddio’r arian yn eich cyfrif cyfredol i ostwng eich taliadau misol.
  • Rydych chi’n fwy tebygol o fod yn talu’r morgais yn llwyr na gyda math safonol o forgais.

Anfantais

  • Nid yw’r mathau hyn o forgeisi fel arfer yn cynnig mynediad i chi at fargeinion cyfradd gostyngol.

Morgeisi eraill sydd â nodweddion hyblyg

Mae rhai morgeisi confensiynol yn cynnig nodweddion hyblyg, a restrir isod

Yr opsiwn i ordalu

Mae llawer o forgeisi yn caniatáu i chi dalu mwy na’ch taliad misol arferol fel y gallwch leihau eich dyled yn gyflymach.

Gwiriwch a oes cyfyngiad ar faint y gallwch ordalu bob blwyddyn – fel arfer mae’n 10% o’r morgais.

Gall ad-dalu’ch morgais cyn diwedd ei gyfnod ymddangos yn syniad gwych, ond dylech fod yn ymwybodol y gallech wynebu ffi am ad-dalu’n gynnar, felly cofiwch wirio amodau’ch cytundeb morgais.

Yr opsiwn i gymryd seibiant talu

Gyda rhai morgeisi – ac yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol – efallai y bydd modd ichi gael seibiant rhag talu eich morgais.

Mae hyn yn golygu nad oes yn rhaid i chi wneud unrhyw daliadau am gyfnod cyfyngedig. Nid oes gan bob morgais yr opsiwn hwn.

Tandalu

Gallai benthycwr ystyried caniatáu ichi dalu llai na'ch ad-daliad misol arferol. Er enghraifft, os byddwch yn profi newid yn eich amgylchiadau ariannol ac yn cael trafferth cwrdd â'ch ymrwymiadau morgais. 

Gall hyn fod yn ddefnyddiol pan fydd arian yn dynn, ond mae'n cynyddu eich dyled wrth i'r gwahaniaeth gael ei ychwanegu at eich morgais.

Bydd yn cymryd mwy o amser i chi dalu eich morgais i ffwrdd a byddwch yn talu mwy o log dros gyfnod y benthyciad.

Defnyddio gwefannau cymharu prisiau

Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i forgais addas.

Mae gwefannau poblogaidd er mwyn cymharu morgeisi yn cynnwys:

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.