Os ydych yn prynu cartref yn yr Alban sy’n werth mwy na £145,000, neu £40,000 os yw’n ail gartref, byddwch yn talu Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (LBTT).
Cyfrifiannell treth trafodiadau tir ac adeiladau
Beth yw Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau?
Mae Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau’n tal y byddwch yn ei dalu os ydych yn prynu eiddo neu ddarn o dir yn yr Alban sy’n werth mwy na £145,000, neu £40,000 os yw’n ail gartref. Mae’n debyg i Dreth Stamp yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Os ydych yn prynu yng Nghymru, darganfyddwch fwy am Dreth Trafodiadau Tir
Os ydych yn prynu yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am y Dreth Stamp
Faint yw Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau?
Mae Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau yn seiliedig ar:
- pris yr eiddo rydych yn ei brynu
- os ydych yn berchen ar mwy nag un eiddo, ac
- os ydych chi (ac unrhyw un rydych yn prynu gyda nhw) yn brynwr tro cyntaf:
- erioed wedi berchen ar eiddo o’r blaen
- yn defnyddio’r eiddo fel eich prif breswylfa.
Gall ein Cyfrifiannell Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau eich helpu i gyfrifo’r hyn y bydd angen i chi ei dalu.
Bandiau pris prynu eiddo | Y gyfradd dreth y byddwch yn ei dalu |
---|---|
£0 - £175,000 |
0% |
£175,001 - £250,000 |
2% |
£250,001 - £325,000 |
5% |
£325,001 - £750,000 |
10% |
Dros £750,000 |
12% |
Bandiau pris prynu eiddo | Y gyfradd dreth y byddwch yn ei dalu |
---|---|
£0 - £145,000 |
0% |
£145,001 - £250,000 |
2% |
£250,001 - £325,000 |
5% |
£325,001 - £750,000 |
10% |
Dros £750,000 |
12% |
Bandiau pris prynu eiddo | Y gyfradd dreth y byddwch yn ei dalu |
---|---|
£0 - £145,000 |
6% |
£145,001 - £250,000 |
8% |
£250,001 - £325,000 |
11% |
£325,001 - £750,000 |
16% |
Dros £750,000 |
18% |
Byddwch yn talu cyfraddau gwahanol os yw pris eich eiddo yn cwmpasu mwy nag un band.
Er engrhaifft, os yw’ch eiddo’n costio £300,000, byddwch yn talu dim ar y £145,000 cyntaf, 2% ar y £105,000 nesaf, a 5% ar y £50,000 olaf. Byddwch yn talu 6% ar ben hyn os ydych yn prynu ail gartref neu eiddo prynu i rentu.
Os ydych yn prynwr tro cyntaf byddwch yn talu dim ar y £175,000 cyntaf, 2% ar y £75,000 nesaf, a 5% ar y £50,000 olaf.
Sut i dalu Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau
Bydd angen i chi neu eich cyfreithiwr gyflwyno ffurflen dreth Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau, hyd yn oed os nad oes angen i chi dalu unrhyw beth.
Y naill ffordd neu’r llall, chi sy’n gyfrifol am sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno ar amser.
Faint o amser sydd gennych i dalu Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau?
Mae gennych 30 diwrnod ar ôl prynu eich eiddo i gyflwyno ffurflen dreth Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus.
Am ragor o wybodaeth am sut a pha bryd i dalu LBTTYn agor mewn ffenestr newydd, ewch i Revenue Scotland
Os na fyddwch yn cyflwyno ffurflen LBTT fe allai Revenue Scotland godi cosbau a llog arnoch.