Os ydych ar incwm isel, gall Credyd Cynhwysol roi arian ychwanegol i chi i helpu gyda chostau byw, gan gynnwys costau tai a magu plant. Bydd ein canllawiau a theclynau Credyd Cynhwysol yn eich helpu i ddarganfod:
- os ydych yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol
- faint o arian ychwanegol y gallech ei gael
- sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
- sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio
- beth i'w wneud os ydych wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo
- sut i reoli eich arian a chael cymorth ariannol
- ble i gael cyngor a chymorth cyfrinachol am ddim.