Bydd cyfreithiwr neu drawsgludwr yn delio â holl agweddau cyfreithiol prynu neu werthu eiddo i chi. Bydd un da yn eich diweddaru yn rheolaidd, a gall eich cefnogi trwy ateb cwestiynau am y broses gymhleth o brynu eiddo.
Beth mae cyfreithwyr a thrawsgludwyr trwyddedig yn ei wneud?
Y cwestiwn cyntaf a ofynnir i chi wrth i chi wneud cynnig ar eiddo yw enw a manylion cyswllt eich cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig.
Trawsgludo yw’r term cyfreithiol ar gyfer trosglwyddo perchnogaeth eiddo, p’un a ydych yn prynu neu werthu.
Bydd cyfreithiwr neu drawsgludwr yn:
- delio â chontractau
- rhoi cyngor cyfreithiol
- cyflawni chwiliadau cyngor lleol,
- delio â’r Gofrestrfa Dir
- trosglwyddo’r cronfeydd i dalu am eich eiddo.
Mae'n rôl bwysig, felly dewiswch yn ofalus.
Mae cyfreithwyr fel arfer yn ddrytach na thrawsgludwyr ac yn gyfreithwyr cymwys, felly gallant gynnig ystod lawn o wasanaethau cyfreithiol.
Mae trawsgludwyr trwyddedig yn arbenigo mewn eiddo ond ni allant ddelio â materion cyfreithiol cymhleth.
Sut i ddod o hyd i arbenigwr eiddo
- Gofynnwch i ffrindiau a theulu am argymhelliad.
- Gofynnwch i’ch benthyciwr, brocer morgais neu Gynghorydd Ariannol Annibynnol (IFA).
- Chwilio ar-lein. Efallai y bydd hyn yn codi llawer o opsiynau, ond gallwch chwilio am rai yn eich ardal leol, neu'r ardal rydych chi'n prynu ynddi. Gallwch hefyd edrych ar raddfeydd ac adolygiadau ar-lein.
- Gall asiantau tai argymell cyfreithiwr gan eu bod yn aml yn gweithio mewn partneriaeth gydag arbenigwyr eiddo. Fodd bynnag, gallai hyn fod yn ddewis drud i chi yn y pen draw.
- Mae trawsgludo ar-lein yn faes sy’n tyfu. Fyddwch chi ddim ond yn delio â nhw trwy e-bost neu dros y ffôn, ond yn aml bydd yn rhatach. Ond mae'n gyffredin i bobl gwyno am wasanaeth cwsmeriaid gwael gan drawsgludwyr ar-lein, efallai na fyddwch yn siarad â'r un person bob tro y byddwch chi'n ffonio, ac ni allant ddelio â phroblemau cyfreithiol mwy cymhleth.
- Gwnewch yn siŵr fod yr arbenigwr eiddo a ddewiswch yn aelod o Cymdeithas y Gyfraith Cymru a Lloegr/ Cymdeithas y Gyfraith yr Alban ac yn aelod o’r Cynllun Ansawdd Trawsgludo Cymdeithas y Gyfraith
- Rhaid i drawsgludwyr fod yn aelodau o Gyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig
Ffioedd
Mae cyfreithwyr yn codi tâl mewn ffyrdd gwahanol:
- ffi sefydlog
- cyfradd fesul awr
- canran o bris yr eiddo
Ceisiwch gael dyfynbris gan dri gwahanol gwmni ar gost eu gwasanaeth.
Gwnewch yn siŵr fod y dyfynbrisiau yn dadansoddi’r holl gostau, gan ganiatáu ar gyfer TAW, fel eich bod yn cymharu tebyg at ei debyg.
Dylent gynnwys taliadau ar gyfer:
- chwiliadau
- trosglwyddiadau banc
- ffioedd y Gofrestrfa Tir
- Treth Tir Treth Stamp, Treth Trafododiad Tir a Threth Trafododiad Tir ac Adeiladau ble mae'n berthnasol
- costau eraill gan gynnwys gwasanaethau postio a negesydd
- gwaith atodol os yw’r broses yn fwy cymhleth neu’n fwy o frys na’r disgwyl
- mae rhai trawsgludwyr yn codi mwy os ydych cam ddefnyddio ISA Cymorth i Brynu neu Gydol Oes, neu os ydych chi'n prynu neu'n gwerthu eiddo cydberchnogaeth.
Cyfathrebu
- Gall prynu tŷ fod yn straen. Ond gall cael cyfreithiwr neu drawsgludwr sy'n gallu ateb unrhyw gwestiynau ei gwneud hi'n llawer haws. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darganfod yr amseroedd a'r ffyrdd gorau i gysylltu â nhw.
- Gwiriwch a oes ganddynt system sy’n caniatáu i chi olrhain sut mae’r pwrcasiad yn mynd yn ei flaen?
- Gwiriwch a oes ganddynt wyliau wedi ei drefnu pan fyddwch eu hangen.
- Holwch pwy fydd yn camu i’r adwy pan fyddant i ffwrdd neu’n sâl.
- Ble maent wedi eu lleoli? Mae defnyddio cyfreithiwr neu drawsgludwr sy’n agos at eich cartref neu waith yn ei gwneud yn haws i chi adael neu gasglu dogfennau os oes angen; ac efallai y bydd yna drefniadau neu brydlesau lleol, sy’n unigryw i’ch ardal chi.
Os ydych am wneud cwyn
Gall pethau fynd yn anghywir ac mae yna grwpiau a all eich helpu os ydych chi am wneud cwyn.