Darganfyddwch beth sydd wedi newid, beth sydd ddim wedi newid, a beth fydd yn newid yn y dyfodol ynglŷn â chartrefi, eiddo a morgeisi ar ôl Brexit.
Bydd cyfraddau llog morgeisi yn codi a beth allaf i wneud am hynny?
Bydd cyfraddau llog y dyfodol yn codi a gostwng gan ddibynnu ar sawl factor a allai gael effaith ar economi’r DU. Er enghraifft, os yw’r economi’n arafu, gallai’r llywodraeth gamu i mewn a gostwng cyfraddau llog i helpu annog twf. Ar y llaw arall, gallai’r llywodraeth benderfynu codi cyfraddau llog os yw chwyddiant yn dod yn broblem.
Os bydd cyfraddau llog yn codi
Os bydd cyfraddau llog yn codi, mae’n debygol y byddai cyfraddau morgais yn codi i’r rheini sydd ddim ar gytundebau cyfradd sefydlog ar hyn o bryd.
Os ydych chi ar gyfradd forgais amrywiadwy a’ch bod yn pryderu ynghylch cyfraddau’n codi, efallai yr hoffech ystyried cytundeb cyfradd sefydlog yn awr a chael tawelwch meddwl na fydd eich ad-daliadau morgais yn codi yn ystod amser y cyfnod sefydlog.
Os ydych chi ar forgais graddfa sefydlog eisoes, byddai’ch cyfradd log yn aros yr un peth hyd y daw eich morgais bresennol i ben. Mae’n debygol y dylech chi aros gyda’r cytundeb sydd gennych chi.
Ond bydd angen i chi feddwl am beth i’w wneud pan ddaw eich cytundeb i ben.
Beth bynnag y penderfynwch chi wneud, mae’n bwysig pwyso a mesur y manteision a’r anfanteision. Ystyriwch unrhyw ffïoedd ymadael a allai gael eu codi arnoch chi os ydych chi’n symud eich morgais cyn diwedd cytundeb eich morgais.
Os ydych chi’n bryderus am eich ad-daliadau morgais yn cynyddu, gweler ein canllaw Sut i baratoi ar gyfer cynnydd mewn cyfraddau llog
Os bydd cyfraddau llog yn gostwng
Os bydd cyfraddau llog yn gostwng, gallai fod yn newyddion da i chi os ydych chi’n bwriadu cymryd ail forgais neu os ydych chi ar forgais cyfradd amrywiadwy.
Pe byddech chi’n newid i gytundeb cyfradd sefydlog cyn i gyfraddau llog ostwng, yna ni fyddech chi’n cael budd o unrhyw ostyngiad mewn cyfraddau llog.
Mae gennyf i dŷ gwyliau dramor. Sut fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar hynny?
Mae hyn yn dibynnu ble mae eich cartref.
Mae gan rai o wledydd yr UE ddeddfau tai gwyliau sy’n wahanol gan ddibynnu ar a ydych chi’n ddinesydd o’r wlad honno, yn ddinesydd yr UE neu ddim yn ddinesydd o’r UE.
Dylech chi wirio gyda’r awdurdodau lleol yn y wlad lle rydych chi’n berchen ar eich cartref ynglŷn â sut y gallai’r rhain fod yn gymwys i chi.
Mae gennyf i eiddo ac asedau eraill yn yr UE. A yw fy ewyllys yn dal yn ddilys ar ôl Brexit?
Ydy. Bydd unrhyw ewyllys ddilys wedi’i gwneud o dan gyfraith y DU cyn i’r DU adael yr UE, gan gynnwys ewyllysiau sy’n gymwys i eiddo wedi’i leoli yn yr UE, yn aros yn ddilys o dan gyfraith y DU.
Fodd bynnag, mae effaith yr ewyllys ynglŷn ag eiddo dramor yn parhau i fod yn ddarostyngedig i gyfraith y wlad mae’r eiddo ynddi.