Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais
O ran morgeisi, rydych eisiau darganfod y weithred gydbwyso honno o fenthyca digon i'ch cartref, ond dim gormod fel bod yr ad-daliadau yn dod yn broblem. A dyna lle mae ein cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais yn dod i mewn.
Faint allwch chi fforddio ei fenthyg am forgais?
Dywedwch wrthym faint rydych yn ei ennill a beth yw eich treuliau misol, a byddwn yn eich helpu i amcangyfrif faint y gallwch chi fforddio ei fenthyg am forgais.
Pan gewch eich canlyniadau gallwch newid y cyfnod ad-dalu neu'r gyfradd llog i gyfateb yn agosach at unrhyw forgeisiau rydych yn ystyried gwneud cais amdanynt. A byddwn yn dweud wrthych faint o arian y bydd gennych ar ôl bob mis.
Sut mae morgais yn gweithio?
Os ydych eisiau prynu eiddo, ond nad oes gennych ddigon o arian i dalu amdano ymlaen llaw, gallwch wneud cais i gael morgais.
Mae morgais yn fenthyciad a gymerir i brynu eiddo neu dir. Gall bara rhwng 2-40 mlynedd, yn dibynnu ar eich rhoddwr benthyciadau a'ch amgylchiadau.
Bydd angen o leiaf 5% o'r pris prynu eiddo arnoch fel blaendal. Yna, byddwch yn benthyg gweddill yr arian (y morgais) gan fenthyciwr fel banc neu gymdeithas adeiladu.
Mae'r rhoddwr benthyciadau yn codi llog ar yr arian rydych chi'n ei fenthyg. Yna byddwch yn gwneud taliadau misol i glirio'r cyfanswm.
Mae'r benthyciad wedi'i 'ddiogelu' yn erbyn gwerth eich cartref hyd nes y bydd wedi'i ad-dalu.
Os na allwch barhau â'ch ad-daliadau, gall y rhoddwr benthyciadau adfeddiannu (cymryd yn ôl) eich cartref a'i werthu fel ei fod yn cael ei arian yn ôl.
Pa forgais y gallaf ei fforddio?
Mae'r uchafswm y gallwch ei fenthyca fel arfer yn cael ei gapio bedair gwaith a hanner eich incwm blynyddol.
Mae'n demtasiwn cael morgais am gymaint â phosibl ond edrychwch yn realistig ar eich cyllideb.
Bydd rhoddwr benthyciadau yn edrych ar eich incwm a'ch alldaliadau i wirio a allech chi gadw i fyny ag ad-daliadau os bydd pethau'n newid, fel cynnydd llog neu os yw'ch incwm yn newid.
Ystyriwch faint y gallwch fforddio ei dalu bob mis, gan gofio y bydd yn rhaid i chi dalu costau bob dydd o hyd fel biliau ynni, Treth y Cyngor, yswiriant a bwyd.
Os gallwch chi, rhowch rywfaint o gynilion i ffwrdd ar gyfer pan fydd yr annisgwyl yn digwydd.
Pa fanylion sydd eu hangen arnaf wrth wneud cais?
I wneud cais am forgais, mae angen i chi ddangos prawf adnabod, tystiolaeth o faint rydych chi'n ei ennill, a manylion eich alldaliadau misol, fel datganiadau banc.
Bydd rhoddwyr benthyciadau gwahanol yn gofyn am ddogfennaeth wahanol, felly gwiriwch bob amser cyn i chi ddechrau eich cais.