Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn rhan bwysig iawn o ymddeoliad pobl. Dyma pam ei bod mor bwysig deall sut mae'n gweithio.
Mae'r adran hon yn dweud popeth rydych angen ei wybod am Bensiwn y Wladwriaeth. Rydym yn cwmpasu'r hyn y gallech ei gael a sut mae'ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn pennu'ch taliadau. Mae gennym hefyd ganllawiau ar beth i'w wneud os ydych yn symud dramor, beth sy'n digwydd pan fyddwch yn gohirio'ch Pensiwn y Wladwriaeth a llawer mwy.