Angen gwerthu eich tŷ yn gyflym? Efallai y cewch eich temtio i ddefnyddio cwmni 'gwerthiant cyflym'. Maent yn cynnig prynu eich tŷ yn gyflym iawn am bris gostyngedig. Ond gall bargeinion fel y rhain fod yn gamarweiniol ac mae'n debyg y byddwch yn cael llai na beth yw gwerth eich cartref.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw cwmnïau sy’n gwerthu tai’n gyflym?
- Rhesymau y gallech ystyried defnyddio cwmni sy’n gwerthu tai’n gyflym
- Pa ddiogelwch y mae perchnogion tai yn ei gael wrth werthu i gwmni sy’n gwerthu tai’n gyflym?
- Beth yw fy opsiynau eraill?
- Dewisiadau eraill yn lle gwerthu tŷ’n gyflym
- Edrychwch ar ffyrdd eraill o ariannu eich gofal hirdymor
- Rhestr wirio ar gyfer defnyddio cwmni sy’n gwerthu tai’n gyflym
- Cwestiynau i’w gofyn i gwmni prynu cyflym
- A oes gennych broblem gyda’ch cwmni sy’n gwerthu tai’n gyflym?
Beth yw cwmnïau sy’n gwerthu tai’n gyflym?
Mae gwerthu eich cartref fel arfer yn cymryd ychydig fisoedd, ond gall cwmnïau sy’n gwerthu tai’n gyflym gynnig gwerthu'ch cartref mewn wythnos. Maen nhw yn gwneud hyn trwy brynu eich tŷ gennych chi neu ddod o hyd i brynwr trydydd parti yn gyflym iawn. Maen nhw’n talu arian parod ar gyfer eich eiddo ac fel arfer yn ei brynu am lai na'r hyn y byddech yn ei gael o werthiant rheolaidd.
Rhesymau y gallech ystyried defnyddio cwmni sy’n gwerthu tai’n gyflym
Gall cwmnïau gwerthu tai cyflym eich galluogi chi i ddatgloi arian ar frys. Gall rhai cwmnïau brynu'ch tŷ o fewn dyddiau a thalu'r holl ffioedd i chi.
Efallai y byddwch am werthu eiddo yn gyflym i:
- osgoi adfeddiannu, clirio dyledion neu ddatrys materion ariannol
- cael gwared ar eiddo etifeddol
- symud am resymau sy'n gysylltiedig ag oedran neu iechyd
- gwerthu oherwydd ysgariad neu wahaniad
- adleoli oherwydd newid swydd neu i ymfudo
- osgoi problemau sy'n gwneud yr eiddo'n anodd ei werthu, megis os oes ganddo les fer neu risg uchel o lifogydd.
Anfanteision o ddefnyddio cwmni gwerthu cyflym
Meddyliwch yn ofalus a yw gwerthiant cyflym yn iawn i chi, gan y byddwch yn aml yn gwerthu'r eiddo am lawer llai na'i werth ar y farchnad.
Mae llawer o gwmnïau sy’n gwerthu tai’n gyflym yn anrheoledig, felly efallai y gwelwch fod rhai cwmnïau:
- yn cynnig llawer llai na gwerth marchnad yr eiddo
- ddim yn hysbysu eu ffioedd yn glir
- honni bod eich eiddo yn werth llawer llai na mewn gwirionedd
- yn eich clymu chi i gontractau a'ch atal rhag gwerthu i unrhyw un sy'n gwneud cynnig gwell
- ostwng eu cynnig cyn i chi lofnodi y cytundeb.
Pa ddiogelwch y mae perchnogion tai yn ei gael wrth werthu i gwmni sy’n gwerthu tai’n gyflym?
Nid yw'r farchnad gwerthu tai’n gyflym o dan reolaeth felly nid ydych yn cael eich diogelu wrth werthu eiddo i un o'r cwmnïau hyn.
Ond mae rhai cwmnïau'n dewis ymuno â Chymdeithas Genedlaethol y Prynwyr Eiddo (NAPB). Mae nhw yn sicrhau bod pob aelod yn cofrestru gyda'r Ombwdsmon Eiddo (TPOS)Yn agor mewn ffenestr newydd ac yn dilyn eu Cod Ymddygiad i drin gwerthwyr yn deg.
Os ydych yn defnyddio cwmni sy'n rhan o'r NAPB neu'r TPOS, byddwch yn gallu cwyno i'r ombwdsmon os oes problem. Byddwch yn cael iawndal os bydd yn canfod bod y cwmni wedi torri Cod Ymarfer TPOSYn agor mewn ffenestr newydd
Ewch i NAPB i weld aelodau Cymdeithas Genedlaethol y Prynwyr EiddoYn agor mewn ffenestr newydd
Beth yw fy opsiynau eraill?
I ateb y cwestiwn hwn, mae angen i chi feddwl pam rydych chi'n gwerthu a beth sy'n bwysig i chi.
Cyn penderfynu bwrw ymlaen, gwnewch yn siŵr eich bod wedi meddwl am eich opsiynau eraill.
Dewisiadau eraill yn lle gwerthu tŷ’n gyflym
Meddyliwch yn ofalus a yw gwerthiant tŷ cyflym yn y ddewis iawn i chi. Efallai yr hoffech edrych ar opsiynau eraill cyn defnyddio un o'r gwasanaethau hyn.
Defnyddiwch asiant tai traddodiadol
Cyn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â chwmni gwerthu cyflym, gofynnwch i rai gwerthwyr tai lleol am bris is a allai gael gwerthiant cyflym i chi.
Efallai y gwelwch fod y swm sydd ei angen arnoch i ostwng y pris yn llai na'r gostyngiad o 25% y byddai cwmni gwerthu cyflym fel arfer yn gofyn amdano.
Dysgwch fwy am werthu tŷ neu fflat yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Trafodwch gyda’ch cwmni morgais
Os mai'r rheswm rydych yn gwerthu yw oherwydd na allwch gadw i fyny â'ch taliadau morgais, cysylltwch â'ch benthyciwr i drafod eich opsiynau.
Mae'n rhaid i gwmnïau morgeisi ystyried cais i newid y ffordd rydych yn talu eich morgais.
Un o'r pethau y gallent ei awgrymu yw ymestyn cyfnod eich morgais (faint o amser sydd ar ôl i redeg ar y morgais) i leihau eich ad-daliadau misol.
Gweler ein canllaw ar Help gyda thaliadau morgais
Edrychwch ar ffyrdd eraill o ariannu eich gofal hirdymor
Os ydych yn gwerthu'ch cartref i dalu am eich gofal hirdymor, gwnewch yn siŵr eich bod wedi edrych ar eich holl opsiynau. Gallwch ddod o hyd i ymgynghorwyr ariannol annibynnol sy'n arbenigo mewn ariannu gofal hirdymor.
Darganfod fwy yn ein canllawiau:
Canllaw i ddechreuwyr ar dalu am ofal hirdymor
Help ariannu gofal – sut i gael cyngor
Rhestr wirio ar gyfer defnyddio cwmni sy’n gwerthu tai’n gyflym
Os penderfynwch eich bod am werthu'ch eiddo trwy gwmni gwerthu tai’n gyflym, defnyddiwch ein rhestr wirio i sicrhau eich bod yn cael y fargen gywir.
Cyn i chi gysylltu â chwmni sy’n gwerthu tai’n gyflym
- Cael prisiadau gan dri gwerthwr tai gwahanol. Bydd hyn yn eich galluogi i wirio a yw'r cynnig a wneir gan gwmni sy’n gwerthu tai’n gyflym yn deg.
- Mynnwch eich cynghorydd cyfreithiol annibynnol eich hun. Efallai y bydd cwmni gwerthu cyflym eisiau i chi ddefnyddio eu cynghorydd cyfreithiol, ond ni allant wneud i chi.
Dewis cwmni
- Siopa o gwmpas. Nid yw pob cwmni gwerthu cyflym yr un peth, felly edrychwch ar yr hyn y gall pob un ei gynnig.
- Ystyriwch ddefnyddio cwmni gwerthu cyflym sy'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol y Prynwyr Eiddo.
- Gwiriwch fod y darparwr wedi'i gofrestru gyda TPOSYn agor mewn ffenestr newydd Os ydynt yn dweud eu bod wedi cofrestru i god ymarfer, neu os ydynt yn cael eu rheoleiddio gan gorff swyddogol, gwiriwch hyn eich hun.
Delio gyda’r cwmni
- Mae bob amser yn werth trafod y telerau a'r pris.
- Sicrhewch bod bopeth yn ysgrifenedig. Gofynnwch iddynt anfon e-bost atoch ynghylch y manylion, gan y gallai eich helpu os byddant yn newid eu cynnig yn nes ymlaen.
- Cymerwch eich amser cyn gwneud penderfyniad.
- Byddwch yn onest. Gallai rhoi gwybodaeth anghywir neu adael pethau pwysig allan achosi dalfeydd ymhellach i lawr y llinell. Gallai hyd yn oed olygu eich bod yn cael cynnig llai.
Cytuno ar gynnig
- Darllenwch y cytundeb yn ofalus cyn i chi lofnodi a gwnewch yn siŵr eich bod yn deall yn llawn yr hyn rydych chi'n cytuno iddo. Gofynnwch i'ch ymgynghorydd cyfreithiol egluro unrhyw beth nad ydych chi'n glir amdano.
- Osgoi clymau hir. Mae contract gwerthwr tai arferol yn para 8-12 wythnos. Dylai contract gwerthu cyflym fod yn fyrrach ac mae yna gwmnïau sydd ddim yn mynnu unrhyw fath o gontract cyn gwerthu.
- Os yw'r cwmni rydych chi'n ei ddefnyddio yn gostwng eu cynnig, gofynnwch pam. Os yw canfyddiadau'r arolwg ar fai, gofynnwch i weld nhw. Ni fydd busnes teg yn eu cuddio oddi wrthych chi.
- Arhoswch nes bod yr holl arolygon a'r gwiriadau cyfreithiol yn cael eu gwneud ac mae gennych gynnig terfynol yn ysgrifenedig.
Cwestiynau i’w gofyn i gwmni prynu cyflym
Ym mhob cam o'r broses, gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch a'ch bod yn deall popeth.
Efallai yr hoffech ofyn:
- Pwy sy'n prynu'r eiddo? Sut mae'n cael ei dalu amdano, ac a allwch chi weld prawf o arian?
- Pa mor hir fydd y gwerthiant yn ei gymryd? A allant ddarparu gwarant, neu a oes unrhyw beth a allai achosi oedi?
- Beth yw'r ffioedd a'r taliadau, os yw'r gwerthiant wedi'i gwblhau ac os nad yw'n cael ei gwblhau?
- Beth allai achosi i bris y cynnig newid a phryd y byddai hyn yn digwydd?
- A yw'r cynnig yn amodol? A yw'n 'destun arolwg a chontract' neu unrhyw beth arall?
- A ydynt yn aelod o Gymdeithas Genedlaethol y Prynwyr EiddoYn agor mewn ffenestr newydd neu'n cofrestru gyda'r Ombwdsmon EiddoYn agor mewn ffenestr newydd
A oes gennych broblem gyda’ch cwmni sy’n gwerthu tai’n gyflym?
Os nad ydych yn fodlon â'r gwasanaeth a ddarperir gan gwmni gwerthu tai’n gyflym, dywedwch wrthynt. Rhowch gyfle iddynt ymchwilio i'r mater a delio â'ch cwyn.
Os nad ydych yn hapus â'r ffordd yr ymdrinnir â'ch cwyn, gallwch gwyno wrth yr ombwdsmon os ydynt yn:
- aelod o'r NAPB, neu
- wedi wu cofrestru gyda TPOS.
Ond os nad ydynt, yna ni fyddwch yn gallu mynd â'ch cwyn ymhellach. Efallai yr hoffech ystyried achos llys os yw hyn yn wir.