Cynllun Hawl i Brynu: Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Os ydych yn denant tŷ cyngor neu gymdeithas dai, efallai y gallech brynu’ch cartref am bris is na phetai ar y farchnad.

Hawl i Brynu

Uchafswm y disgownt hawl i brynu yw:

  • £116,200 yn Llundain
  • £87,200 ar gyfer gweddill Lloegr
  • £24,000 yng Ngogledd Iwerddon.

Os gwerthwch cyn pen pum mlynedd byddwch yn gorfod talu swm llawn eich gostyngiad yn ôl hefyd, neu ran ohono, ynghyd â chyfran o unrhyw elw.

Yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i chi wneud cais i brynu eich cartref erbyn 28 Awst 2022.

A gaf ymgeisio?

Cewch, os:

  • buoch yn denant y cyngor neu’r sector cyhoeddus ers tair blynedd
  • bydd y cartref y dymunwch ei brynu yn cael ei ddefnyddio fel eich prif gartref
  • nad ydych yn rhannu ystafelloedd gyda phobl eraill – h.y. mae’r eiddo’n hunangynhwysol
  • mai’r cyngor, cymdeithas dai, ymddiriedolaeth GIG yw eich landlord, neu unrhyw landlord sector cyhoeddus arall.

Hefyd:

  • Gallwch wneud cais am Hawl i Brynu gyda rhywun arall sy’n rhannu’r denantiaeth gyda chi; neu gyda hyd at dri aelod o’ch teulu os buoch yn byw gyda’ch gilydd ers o leiaf y 12 mis diwethaf.
  • Os gwerthodd y cyngor eich cartref i landlord sector cyhoeddus arall tra yr oeddech yn byw yno, gall yr hawl fod gennych o hyd i’w brynu dan ‘Hawl i Brynu a Gadwyd’.

Pryd nad oes gennych Hawl i Brynu?

  • os ydych dan fygythiad o gael eich troi allan, yn fethdalwr neu fod gennych dyledion mawr
  • os yw eich cartref wedi ei gadw er defnydd yr henoed a’r anabl
  • pan fydd prinder tai.

Sut wyf yn cychwyn ar y broses?

Gofynnwch i’ch landlord am ffurflen Hawl i Brynu. Unwaith y byddwch wedi ei phostio, mae rhaid i’ch landlord ateb cyn pen pedair wythnos.

Os mai na fydd yr ateb mae rhaid iddo roi rheswm, ac os mai ie fydd yr ateb bydd yn anfon cynnig atoch.

Gallwch siarad â’r gwasanaeth Asiantwyr Hawl i Brynu hefyd a fydd yn cyfeirio tenantiaid at gyngor annibynnol heb rwymedigaeth ac yn eu helpu gyda’r broses ymgeisio.

Cysylltiadau defnyddiol Hawl i Brynu

Faint fydd yn costio i brynu’r eiddo?

Bydd eich landlord yn cyhoeddi ei bris ac yn egluro’r gostyngiad.

Os credwch nad yw’r pris yn un teg gallwch ofyn am bris gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio annibynnol gan Gyllid a Thollau EM

  • Bydd cynnig y landlord yn cynnwys disgrifiad o’r eiddo ac unrhyw dir, manylion unrhyw broblemau strwythurol ac amcangyfrif o’r ffi wasanaethu (os o gwbl) am y pum mlynedd gyntaf.
  • Mae rhaid i’r landlord ddweud wrthych os oes cyfyngiad ynglŷn â phwy y gallwch werthu’ch cartref iddynt ymhen amser. Gallai hyn ei gwneud yn fwy anodd cael morgais.
  • Mae gennych 12 wythnos i benderfynu i symud ymlaen neu beidio.

A gaf newid fy meddwl?

Cewch, gallwch dynnu’n ôl o’r gwerthiant ar unrhyw adeg a pharhau i rentu.

Codi’r arian

Mae’r rhan fwyaf o brynwyr angen morgais i dalu am eu cartref.

Gallwch ymgeisio am forgais yn uniongyrchol o’ch banc neu gymdeithas adeiladu, a bydd y darparwr yn gwirio a allwch fforddio’r ad-daliadau.

Faint allwch fforddio ei fenthyca?

Cyn symud ymlaen, gwnewch yn siŵr fod gennych ddigon o arian i dalu am unrhyw ffioedd a chostau eraill y bydd angen i chi eu talu yn ystod y broses o brynu eich cartref.

Canllaw i ffioedd a chostau morgeisi

Cyfrifiannell llog morgais ac ad-dalu

Hawl i Brynu yn Lloegr

Hawl i Brynu yng Nghymru

Hawl i Brynu yng Ngogledd Iwerddon

Hawl i Gaffael

Cynigir y cynllun Hawl i Gaffael yn Lloegr ar gyfer tenantiaid cymdeithasau tai nad ydynt yn gymwys ar gyfer Hawl i Brynu.

  • Mae rhaid eich bod wedi bod yn denant ers tair blynedd o leiaf ac yn bwriadu prynu’ch eiddo i’w ddefnyddio fel eich prif gartref.
  • Ni chewch ymuno â’r cynllun os ydych dan fygythiad o gael eich troi allan, yn fethdalwr neu fod gennych ddyledion mawr.
  • Os yw’r eiddo ar fin cael ei ddymchwel, neu yn cael ei ddarparu ar gyfer yr henoed, pobl anabl neu bobl sydd mewn swyddi neilltuol, ni fydd y tenant yn gymwys.
  • Mae’r gostyngiadau yn is na’r hyn a gynigir dan Hawl i Brynu ac yn amrywio o £9,000 i £16,000 fel arfer.

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, mae’n rhaid bod eich landlord yn gymdeithas dai neu ar y gofrestr o ddarparwyr tai cymdeithasol

Mae rhaid bod arian cyhoeddus wedi ei ddefnyddio i ariannu adeiladu’ch cartref neu wedi ei drosglwyddo o gyngor lleol ers 1 Ebrill 1997.

Rhagor o wybodaeth

Gogledd Iwerddon

Unwaith y byddwch wedi bod yn denant am bum mlynedd efallai y byddwch yn gallu prynu eich cartref. Mae swm y disgownt y byddwch yn ei gael yn cynyddu yn dibynnu ar ba mor hir rydych wedi byw yn yr eiddo. Ni ellir prynu rhai mathau o eiddo oherwydd prinder eiddo ac mae ei angen am stoc tai cymdeithasol.

Uchafswm y disgownt sydd ar gael i denantiaid Yr Awdurdod Gweithredol Tai neu gymdeithasau tai sy'n gwneud cais i brynu eu cartref yw £24,000. Bydd eich gostyngiad yn 20% os ydych wedi byw yn y tŷ am 5 mlynedd. Byddwch yn cael gostyngiad ychwanegol o 2% am bob blwyddyn ychwanegol, hyd at uchafswm disgownt o 60% o'r prisiad neu £24,000.

Mae'n rhaid eich bod wedi gwneud cais i brynu eich cartref erbyn 28 Awst 2022.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.