Faint allwch fforddio ei fenthyca am forgais?

Cyn ymgeisio am forgais, mae’n bwysig eich bod yn meddwl am fwy nag ystyried a allwch fforddio’r ad-daliadau misol. Bydd darparwyr morgeisi yn edrych ar eich incwm a’ch treuliau i weld a allwch lwyddo i gynnal y taliadau os bydd cyfraddau llog yn codi neu eich amgylchiadau’n newid. 

Sut mae darparwyr benthyciadau’n asesu beth gallwch ei fforddio

Mae benthycwyr morgeisi yn seilio eu penderfyniadau ar yr hyn a elwir yn gymhareb benthyciad-i-incwm – y swm rydych am ei fenthyg wedi'i rannu â faint rydych yn ei ennill.

Mae'r mwyaf y gallwch ei fenthyg fel arfer yn cael ei gapio bedair gwaith a hanner eich incwm blynyddol.

Mae rhaid iddynt hefyd asesu'r taliad misol y gallwch ei fforddio, ar ôl edrych ar eich treuliau yn ogystal â'ch incwm.

Gelwir hyn yn asesiad fforddiadwyedd.

Mae rhaid i’r darparwr benthyciadau hefyd edrych ymlaen a ‘phrofi straen’ eich gallu i ad-dalu’r morgais.

Mae hyn er mwyn sicrhau y byddwch yn dal i fforddio ad-daliadau os bydd y gyfradd llog yn codi neu os bydd newid i'ch ffordd o fyw, fel:

  • colli swydd
  • cael babi, neu
  • cymryd seibiant gyrfa.

Os yw'r darparwr benthyciadau o'r farn na fyddwch yn gallu fforddio'ch taliadau morgais o dan yr amgylchiadau hyn, gallent gyfyngu ar faint y gallwch ei fenthyg.

Mae gwefannau cymhariaeth yn fan cychwyn da i unrhyw un sy'n ceisio dod o hyd i forgais wedi'i deilwra i'w hanghenion.

Rhai o'r gwefannau cymharu morgeisi mwyaf yw:

Cofiwch:
  • Ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
  • Mae hefyd yn bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.

Beth fydd y darparwr benthyciadau’n ystyried

Wrth gyfrifo faint allwch fforddio ei fenthyca, bydd y darparwr yn edrych ar :

1. Eich incwmn

Bydd hyn yn cynnwys:

  • eich incwm sylfaenol
  • incwm o’ch pensiwn neu fuddsoddiadau
  • incwm ar ffurf cynhaliaeth plant a chymorth ariannol gan gyn-briod
  • unrhyw enillion eraill sydd gennych– er enghraifft, o oramser, comisiwn neu daliadau bonws, neu ail swydd neu waith llawrydd.

Bydd angen i chi gyflwyno slipiau cyflog a chyfriflenni banc fel tystiolaeth o’ch incwm.

Os ydych yn hunangyflogedig bydd angen i chi ddarparu:

  • cyfriflenni banc
  • cyfrifon busnes
  • manylion y dreth incwm rydych wedi'i thalu.

Fel arfer bydd yn rhaid i chi ddarparu dwy i dair blynedd o ffurflenni treth a chyfrifon busnes. 

2. Eich treuliau

Gallai hyn gynnwys:

  • ad-daliadau cerdyn credyd
  • taliadau cynhaliaeth
  • yswiriant – adeiladau, cynnwys, teithio, anifeiliaid anwes, bywyd ac ati
  • unrhyw fenthyciadau eraill neu gytundebau credyd a allai fod gennych
  • biliau fel dŵr, nwy, trydan, ffôn, band-eang.

Gall y darparwr ofyn am amcangyfrifon o’ch costau byw eraill fel gwario ar ddillad, hamdden a gofal plant.

Gall ofyn hefyd am gael gweld rhai cyfriflenni banc diweddar i ategu’r ffigurau a gyflwynir gennych.

3. Newidiadau yn y dyfodol a all gael effaith

Bydd y darparwr yn asesu a fyddech chi’n medru ad-dalu’ch morgais os:

  • bydd cyfraddau llog yn cynyddu
  • ydych chi neu’ch partner yn colli’ch swyddi
  • na allech gael gwaith oherwydd salwch
  • bydd eich bywyd yn newid, fel cael babi neu seibiant yn eich gyrfa.

Mae’n bwysig hefyd i chi feddwl ymlaen a chynllunio sut y byddech yn llwyddo i dalu’n brydlon.

Er enghraifft, gallwch helpu i ddiogelu’ch hun yn erbyn gostyngiadau annisgwyl mewn incwm drwy ychwanegu at eich cynilion ar bob cyfle.

Ceisiwch sicrhau bod eich cynilion yn cynnwys digon i dalu treuliau am dri mis, yn cynnwys eich taliadau morgais.

Cynlluniau’r llywodraeth

Os ydych yn cael trafferth cael eich cymeradwyo ar gyfer morgais neu os oes gennych flaendal bach yn unig, mae nifer o gynlluniau'r llywodraeth ar gael i helpu .

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.