P'un a ydych chi'n prynu am y tro cyntaf neu'n symud i eiddo newydd, mae'r canllaw cam wrth gam hwn yn mynd â chi drwy'r broses o brynu cartref o gostau i gwblhau.
Os ydych yn yr Alban, darllenwch ein canllaw ar brynu eiddo yn eich gwlad.
P'un a ydych chi'n prynu am y tro cyntaf neu'n symud i eiddo newydd, mae'r canllaw cam wrth gam hwn yn mynd â chi drwy'r broses o brynu cartref o gostau i gwblhau.
Os ydych yn yr Alban, darllenwch ein canllaw ar brynu eiddo yn eich gwlad.
Mae prynu eiddo yn cymryd amser, a gallai fod yn amser cyn i chi ddechrau chwilio. Gwnewch y mwyaf o'r cyfnod hwn; cynilwch, ymchwiliwch a pharatowch ar gyfer y cam cyffrous hwn.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen blaendal morgais isafswm o 5% o werth yr eiddo rydych am ei brynu.
Ond cofiwch y gall opsiynau blaendal isel olygu y cynigir cyfradd llog morgais uwch i chi a byddwch yn ad-dalu mwy yn y tymor hir.
Fel arfer mae blaendal morgais yn cynnwys:
cynilion arian parod
ecwiti o'ch cartref presennol, neu
cymysgedd o'r ddau.
Os ydych chi'n gwerthu'ch cartref, mynnwch brisiad gan asiant eiddo (neu ddau). Bydd y gwerth cyfartalog yn dangos pa ecwiti posibl (arian parod) sydd gennych ar gyfer eich blaendal unwaith y bydd eich morgais yn cael ei ad-dalu.
Ceisiwch wneud y mwyaf o'ch blaendal. Gall hyd yn oed gwneud cynilion bach gronni dros amser.
Mae yna lawer o gynlluniau prynu cartref ledled y DU.
Yn dibynnu ar ble rydych yn byw a'ch amgylchiadau, gallech gael cymorth i brynu cartref newydd, er enghraifft, ar ffurf benthyciad ecwiti, gwarant morgais, neu ranberchenogaeth.
Nid oes angen i chi fod yn brynwr tro cyntaf i elwa. Mae rhai cynlluniau ar agor i berchnogion tai presennol.
Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer cynlluniau sydd ar gael yn eich ardal:
Own your homeOpens in a new window (Lloegr)
GOV.WALESOpens in a new window (Cymru)
NI DirectOpens in a new window (Gogledd Iwerddon)
Darganfyddwch fwy am Baratoi i brynu eiddo
Mae prynu tŷ neu fflat yn gyffrous, ond gall y broses ymddangos yn gymhleth. Cwblhewch y camau hyn cyn i chi ddechrau edrych ar eiddo i arbed amser a straen yn hwyrach ymlaen.
Mae llawer i'w ystyried wrth brynu, felly mae'n werth cael syniad o faint y gallai ei gostio i chi nawr, ac yn y dyfodol.
Edrychwch ar brisiau eiddo cyfredol yn yr ardal o'ch dewis i gyfrifo beth sydd ei angen arnoch ar gyfer morgais.
Defnyddiwch Gyfrifiannell fforddiadwyedd morgais i weld faint y gallech ei fenthyg a'r ad-daliadau morgais misol tebygol.
Os na allwch fenthyg digon, edrychwch i weld a allwch wneud newidiadau i wella'ch cynnig morgais.
Crëwch gyllideb a byddwch yn realistig ynghylch faint rydych chi'n ei wario ar gostau byw hanfodol, ac ystyriwch bris cynnal a chadw eich cartref newydd.
Darganfyddwch pa gostau i'w cyllidebu ar eu cyfer os ydych hefyd yn gwerthu tŷ neu fflat.
Mae sgôr credyd da yn gwella'ch siawns o gael morgais.
Mae benthycwyr yn edrych ar eich adroddiad credyd wrth ystyried eich cais morgais. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ei wirio cyn i chi wneud cais oherwydd os gwrthodir morgais i chi, bydd yn cymryd amser i adeiladu eich sgôr credyd.
Mae'n am ddim ac yn hawdd cyrchu'ch adroddiad credyd, cael syniad o'ch sgôr, a chywiro unrhyw wallau.
Os yw'ch sgôr yn edrych yn isel, bydd y rhan fwyaf o apiau sgorio credyd yn gwneud awgrymiadau, fel:
Archwiliwch ffyrdd eraill o gynyddu eich sgôr credyd
Os oes gennych ôl-ddyledion neu daliadau a fethwyd
Gall dyledion problemus a thaliadau a fethwyd heb eu talu ostwng eich sgôr credyd. Mae'n annhebygol y cewch gynnig morgais felly mae'n well datrys hyn cyn gwneud cais.
Efallai y bydd angen i chi dalu treth pan fyddwch yn prynu tŷ neu fflat yn y DU.
Gall hyn fod yn gost sylweddol, felly cynlluniwch ar ei gyfer yn eich cyllideb. Gallai effeithio ar faint y gallwch fforddio ei wario ar eich eiddo.
Mae faint o dreth a dalwch yn dibynnu ar os ydych yn brynwr tro cyntaf, ble rydych yn byw a gwerth y cartref rydych yn ei brynu.
Lloegr a Gogledd Iwerddon
Mae Treth Stamp yn daladwy ar eiddo dros £250,000 (neu o £425,000 os ydych yn brynwr tro cyntaf ac mae'r eiddo yn werth llai na £625,000).
Cymru
Mae Treth Trafodiadau Tir yn ddyledus ar bob eiddo dros £225,000.
Gallwch gael morgais gan Gynghorydd Ariannol Annibynnol (IFA), brocer morgais neu fenthyciwr.
Ar ôl i chi ddod o hyd i'r cynnyrch morgais cywir, byddwch yn derbyn 'morgais mewn egwyddor' (MIP). Weithiau gelwir hyn yn gytundeb neu'n benderfyniad mewn egwyddor.
Mae MIP yn dweud wrthych faint o arian, mewn theori, y bydd y benthyciwr yn ei gynnig a'r gyfradd llog y byddwch yn ei thalu. Mae'n dangos eich bod o ddifrif ynglŷn â phrynu ac yn helpu i gyflymu'r broses os ydych chi'n dod o hyd i eiddo rydych chi am ei brynu.
Eich swm MIP ynghyd â'ch blaendal (neu ecwiti yn eich cartref) yw eich cyllideb prynu cartref.
Fel arfer mae'n ddilys am 30-90 diwrnod, ond gallwch ailymgeisio os bydd yn dod i ben.
Efallai y codir ffi archebu morgais arnoch (rhwng £100-£200) i gadw eich cynnyrch dewisol.
Cadw cyfradd eich morgais presennol
Os ydych yn annhebygol o gael cyfradd well gyda chynnig morgais newydd, gofynnwch i'ch benthyciwr am "borthi" eich cytundeb a'ch cyfradd. Mae porthi yn gadael i chi brynu cartref newydd a dod â'ch cytundeb morgais gyda chi.
Cofiwch fod y gyfradd borthi ond yn berthnasol i'ch morgais presennol, a bydd gan unrhyw swm ychwanegol a fenthycwch gyfradd llog ar wahân.
Darganfyddwch fwy am Ddod o hyd i eiddo a gwneud cynnig
Pan fyddwch chi'n gwybod faint y gallwch chi ei wario, mae'n amser i ddechrau chwilio am eiddo. Mae'n syniad da cadw llygad ar yr hyn sydd ar gael lle rydych chi am fyw.
Defnyddio asiant eiddo yw'r ffordd fwyaf cyffredin o brynu eiddo, ond gall y ffordd y maent yn gweithredu amrywio ledled y DU.
Gallant helpu gyda'ch chwiliad eiddo drwy:
Gallwch gofrestru gyda llawer o asiantau ac fel prynwr ni fyddwch yn talu unrhyw ffioedd.
Esboniwch iddyn nhw beth rydych chi'n chwilio amdano a'ch sefyllfa, fel bod yn brynwr tro cyntaf.
Wrth ddangos eiddo, rhaid i asiantau fod yn onest.
Gofynnwch gwestiynau i asiantwyr, fel:
Mae gan werthwyr tai ar y stryd fawr eu gwefannau eu hunain yn hysbysebu'r eiddo sydd ganddyn nhw ar werth. Yma gallwch hidlo yn ôl lleoliad, cost a nifer yr ystafelloedd gwely i ddod o hyd i rywbeth sy'n iawn i chi.
Bydd y rhan fwyaf hefyd yn ychwanegu eu rhestru at wefannau neu byrth eiddo ar-lein. Defnyddiwch nhw i weld eiddo gan asiantau lluosog mewn un lle.
Mae safleoedd eiddo ar-lein yn unig yn gadael i werthwyr hysbysebu heb werthwr tai.
Mae'r safleoedd hyn yn cynnig gwasanaeth sylfaenol i'r gwerthwr i'w helpu i leihau costau gwerthu.
Fel prynwr, efallai y byddwch yn delio â chanolfan gyswllt neu gynrychiolwyr lleol, yn hytrach na'r un asiant bob tro.
Mae prynu tŷ mewn arwerthiant yn opsiwn poblogaidd a chyflym, yn enwedig ar gyfer eiddo sydd angen gwerthiant cyflymach, fel unrhyw adeiladau sydd angen ei adnewyddu neu sydd wedi'i adfeddiannu.
Gall arwerthiannau ddigwydd ar-lein dros wythnosau neu wyneb yn wyneb ar yr un diwrnod, gyda'r cynnig yn bosibl mewn sawl ffordd.
Cyn gwneud cais mewn arwerthiant, dylech bob amser:
Byddwch yn ymwybodol bod unrhyw dreuliau'n cael eu colli os penderfynwch beidio â gwneud cais neu golli'r arwerthiant.
Os byddwch yn ennill yr arwerthiant, byddwch yn talu blaendal o 10% ar ddiwrnod yr arwerthiant, gyda'r gweddill yn ddyledus o fewn 28 diwrnod.
Mae costau ychwanegol yn berthnasol, gan gynnwys ffioedd gweinyddol a phrynwyr, ffioedd comisiynu a chyfreithiwr.
Fel arfer, rydych yn gwneud eich cynnig ar yr eiddo drwy'r gwerthwr tai.
Fel arfer, bydd eich cynnig:
Mae negodi yn is na'r pris a ofynnir yn bosibl, ond gall y gwerthwr wrthod.
Os derbynnir eich cynnig, gofynnwch i'r asiant eiddo dynnu'r eiddo oddi ar y farchnad. Fel arall, gallai prynwr gyflwyno cais uwch (gazumping) a chymryd yr eiddo.
Yna mae'r asiant eiddo yn anfon llythyr atoch yn cadarnhau eich cynnig a'ch derbyniad - gofynnwch am un os na fyddwch yn ei dderbyn.
Nid yw gwneud cynnig lle mae'r pris rydych chi'n ei gynnig yn gyfrinachol (cais wedi'i selio) yn gyffredin iawn yn y DU, heb law am yn yr Alban.
Defnyddir ceisiadau wedi'u selio yn bennaf pan fydd cystadleuaeth am eiddo.
Mae'r asiant yn rhoi pris arweiniol, a dylai eich cais selio fod yn uwch na hyn. Gosodir dyddiad, ac mae pob cais fel arfer yn cael ei agor gyda'i gilydd.
Nid yw'r cynnig uchaf bob amser yn ennill. Defnyddiwch y cyfle i gynnwys llythyr yn eich cynnig i ddweud wrthyn nhw pa mor gyflym y gallwch chi symud neu os ydych chi'n brynwr tro cyntaf.
Nid yw'r canlyniadau'n eich ymrwymo’n gyfreithiol - gallwch dynnu'n ôl heb gosb os byddwch yn newid eich meddwl.
Ond os gwnewch y cynnig buddugol, gallwch barhau â'r gwerthiant.
Darganfyddwch beth i'w wneud pan fydd eich cynnig yn cael ei dderbyn
Pan fydd eich cynnig ar eiddo yn cael ei dderbyn, mae angen i chi gyflogi arbenigwyr i helpu gyda rhannau cyfreithiol y gwerthiant. Efallai y bydd eich asiant eiddo yn gallu argymell gwasanaethau i chi, ond mae bob amser yn werth siopa o gwmpas
Nid oes amserlen arferol wrth brynu eiddo.
Ar gyfartaledd, gall gymryd dau i dri mis gydag asiant tai, ond mae gan brynwyr a gwerthwyr wahanol anghenion a gall materion godi ac achosi oedi.
Os byddwch yn prynu eiddo drwy arwerthiant, gellir cwblhau'r broses gyfan mewn llai na 60 diwrnod.
Pa bynnag lwybr a gymerwch, mae angen i chi fod yn barod i symud yn gyflym os derbynnir eich cynnig.
Cost arferol: tua £2000
Mae angen i chi gyfarwyddo cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig i ofalu am holl ochr gyfreithiol gwerthu'r eiddo. Mae trawsgludwyr yn arbenigwyr mewn cyfraith eiddo. Mae gan gyfreithiwr brofiad cyfreithiol ehangach ac fel arfer mae'n ddrutach.
Bydd y ddau yn:
Cost arferol: £400-£1,500 (mae'r gost yn amrywio rhwng arolwg ac eiddo)
Bydd angen i chi drefnu i syrfëwr gynnal arolwg eiddo. Mae'r adroddiad hwn yn gwirio gwerth yr eiddo ac ar gyfer nodi unrhyw broblemau sydd gan yr adeilad.
Siaradwch â'ch benthyciwr morgais i holi a yw uwchraddio eich arolwg prisio yn opsiwn. Weithiau gallant drefnu arolwg eiddo i chi.
Dylai eich dewis arolwg fod yn seiliedig ar oedran a chyflwr yr eiddo, nid y gost.
Sut i ddod o hyd i syrfëwr:
Er mwyn eich tawelwch meddwl, dewiswch syrfëwr sydd wedi'i gofrestru gyda naill ai:
Cost arferol: £150-£800 (fel arfer yn cael ei dalu gan eich benthyciwr morgais)
Efallai y bydd eich benthyciwr morgais yn trefnu arolwg prisio (neu brisiad morgais) fel rhan o'r broses ymgeisio.
Mae'r arolwg yn cadarnhau i'ch benthyciwr bod yr eiddo yn werth y pris rydych chi'n ei gynnig.
Gofynnwch i'ch benthyciwr a ydynt yn gwneud hyn a phwy sy'n talu'r gost hon. Fel arfer, bydd benthycwyr yn talu ond mae angen i chi wybod rhag ofn y bydd angen i chi gyllidebu am y gost.
Byddwch yn barod y gallai canlyniadau'r arolwg hwn oedi'r gwerthiant, yn enwedig os yw'n dangos gwerth is neu broblemau gyda'r adeilad.
Darganfyddwch sut i gwblhau eich cynnig a'ch morgais
Pan fydd gennych ganlyniadau'r arolwg, mae'n bryd adolygu'r canfyddiadau a chadarnhau neu dynnu'ch cynnig yn ôl.
Unwaith y bydd arolygon wedi'u cwblhau a'ch bod wedi adolygu'r canlyniadau, gallwch ddewis:
Gallwch aildrafod eich cynnig os bydd problemau'n ddrud i'w trwsio neu os yw'r prisiad morgais yn prisio gwerth yr eiddo yn is.
Os ydych chi'n hapus i fwrw ymlaen, cadarnhewch gyda'r asiant eiddo.
Gall y cam nesaf hwn yn y broses fod yn straen.
Mae oedi a phroblemau yn gyffredin, gan gynnwys:
Byddwch yn barod, gallai'r gwerthiant ddisgyn hyd nes y cyfnewid contractau.
Cost arferol: £1,000-£2,000
Os aiff popeth yn unol â'r cynllun, cysylltwch â'ch benthyciwr neu gynghorydd morgais i symud ymlaen.
Yn aml mae ffi (ffi trefniant) i sefydlu morgais.
Gellir ychwanegu'r ffi hon at eich morgais, ond os dewiswch yr opsiwn hwn, byddwch yn talu llog arno am oes y benthyciad.
Ar ôl i chi dderbyn cynnig morgais rhwymol yn ysgrifenedig, mae gennych o leiaf saith diwrnod i feddwl amdano a chanslo os oes angen. Gallwch hefyd ddefnyddio'r amser hwn i gymharu'r cynnig gyda morgeisi eraill.
Ond os ydych chi eisiau symyd ymlaen, rhowch wybod i'r benthyciwr cyn i saith diwrnod ddod i ben.
Os caiff eich cais morgais ei wrthod - peidiwch â phoeni - mae yna opsiynau.
Os penderfynwch beidio â phrynu'r eiddo, gallwch dynnu’n ôl a chanslo eich cais morgais.
Gallwch dynnu'n ôl unrhyw amser hyd nes y byddwch yn cyfnewid contractau.
Ond yn dibynnu ar ba mor bell rydych chi wedi mynd yn y broses, efallai y byddwch chi'n colli rhywfaint o'r arian rydych chi wedi'i dalu, fel eich ffioedd cyfreithiol.
Efallai y bydd y gwerthwr yn gofyn i chi gyfrannu at eu costau. Mae hyn yn anghyffredin ond gall ddigwydd os ydych wedi dod i gytundeb bod yr eiddo yn cael ei dynnu oddi ar y farchnad, felly nid yw wedi cael ei ddangos i brynwyr eraill sydd â diddordeb.
Nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol arnoch i dalu oni bai eich bod eisoes wedi cyfnewid contractau.
Darganfyddwch fwy am gyfnewid contractau
Mae'r rhan hon o'r broses prynu cartref yn bwysig. Unwaith y byddwch wedi cyfnewid, mae'r gwerthiant yn eich ymrwymo’n gyfreithiol, felly dyma'ch cyfle olaf i dynnu'n ôl os nad ydych yn siŵr.
Eich rhestr wirio cyn cyfnewid:
Chwiliadau wedi'u cwblhau a'u dychwelyd.
Arolygon wedi'u cwblhau.
Cynnig morgais yn ysgrifennedig.
Cronfeydd yn barod ar gyfer eich blaendal (a blaendal cadw os oes angen).
.Dyddiad cwblhau wedi cytuno
Manylion gosodiadau a ffitiadau wedi'u cynnwys yn y gwerthiant (yn ysgrifenedig).
Cadarnhad bod gan yr eiddo Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) sy'n ddilys.
Os nad oes unrhyw broblemau neu oedi, dylech dderbyn contract i'w adolygu gyda'ch cyfreithiwr.
Gofynnwch gwestiynau am unrhyw beth aneglur a llofnodwch y contract i gwblhau'r gwerthiant.
Gall materion cyfreithiol annisgwyl sy'n gysylltiedig â'ch cartref newydd ddatgelu eu hunain wrth drawsgludo.
Gallai'r rhain gynnwys:
Yn hytrach na datrys y broblem nawr, gallai eich cyfreithiwr awgrymu eich bod chi neu'r gwerthwr yn prynu polisi yswiriant indemniad i amddiffyn rhag colli unrhyw werth neu hawliad cyfreithiol yn y dyfodol.
Mae'r rhain fel arfer yn faterion risg isel, ond gallant fod yn gostus a chymryd llawer o amser i'w datrys.
Gall polisïau gostio rhwng £20 a £300.
Siaradwch â'ch cyfreithiwr neu drawsgludwr am eich opsiynau cyn cyfnewid contractau.
Cost arferol: £120-£140
Unwaith y byddwch wedi cyfnewid contractau, bydd angen i chi brynu yswiriant adeiladau.
Mae hyn yn cynnwys adeiledd eich cartref newydd, fel y waliau, y to a'r lloriau, a gosodiadau parhaol, fel cypyrddau cegin wedi'u gosod a'ch ystafell ymolchi. Trefnwch i’ch diogelwch ddechrau o'r dyddiad cwblhau.
Os ydych chi'n prynu eiddo lesddaliad, gallai hyn gael ei gynnwys yn eich les. Gofynnwch i'ch trawsgludwr wirio a yw'n rhan o'r rheolaeth rhydd-ddaliwr.
Darganfyddwch fwy am yswiriant adeiladau .
Er mwyn diogelu eich eiddo yn eich cartref, ystyriwch gymryd polisi yswiriant cynnwys neu bolisi yswiriant cyfunol.
Defnyddiwch ein canllaw i gael y cynnigion yswiriant gorau.
Oes gennych chi yswiriant eisoes?
Gwiriwch a ydych wedi'ch diogelu yn ystod symudiadau tŷ, a gofynnwch a all eich polisi yswiriant gael ei drosglwyddo i'ch eiddo newydd. Gall ffioedd fod yn berthnasol ar gyfer unrhyw newidiadau polisi.
Cost arferol: £400-£1,000+
Mae pacio bocsys a symyd dodrefn yn waith trwm, felly mae cyflogi tîm symudol proffesiynol yn opsiwn os oes angen un arnoch chi.
Mae prisiau'n amrywio, felly mae'n syniad da meddwl am hyn yn gynnar a chynnwys hyn wrth i chi ddylunio eich cyllideb.
Er enghraifft, gallai symud yn lleol gyda chriw dau berson gyda fan gostio £400-£500.
Ond gall eiddo mwy sydd angen timau mwy neu symud yn bell redeg i dros £1,000.
Gallwch dalu mwy os ydych chi eisiau help i bacio'ch pethau. Cyllidebwch ar gyfer tua £50 yr awr.
Chwiliwch o gwmpas bob amser a chael dyfynbrisiau ar gyfer yr union beth sydd ei angen arnoch.
Darganfyddwch sut i gwblhau'r pryniant
Dyma pryd y cewch yr allweddi o'r diwedd a gallwch symud i mewn i'ch cartref newydd. Mae'n ddiwrnod cyffrous, ond gall fod yn straen os oes oedi wrth drosglwyddo arian.
Bydd eich cyfreithiwr neu drawsgludwr yn gyfrifol am gwblhau y rhan fwyaf o’r gwaith ar y diwrnod cwblhau.
Gan gynnwys:
Bydd pryd fyddwch yn cwblhau yn dibynnu ar y gadwyn brynu a'ch sefyllfa ynddo.
Os ydych mewn sefyllfa di-gadwyn, gall cwblhau ddigwydd tua 11am oni bai bod oedi cyn trosglwyddo arian i gyfreithiwr y gwerthwr.
Ymhellach i fyny'r gadwyn efallai y bydd yn rhaid i chi aros tan yn hwyrach ond byddwch yn cael amser bras.
Mae'r eiddo yn berchen i chi unwaith y byddwch yn derbyn cadarnhad eich bod wedi cwblhau, ac yna gallwch ddechrau symud i mewn.
Ar y diwrnod cwblhau, byddwch yn talu gweddill cost yr eiddo, yn tynnu unrhyw flaendal, i gwblhau'r gwerthiant.
Efallai y bydd ffioedd eraill hefyd yn daladwy ar y diwrnod.
Ffioedd cyfreithiwr neu drawsgludwr
Cost arferol: £2,000
Mae'n bryd talu'ch bil cyfreithiol, tynnwch swm y blaendal a chost chwiliadau lleol os ydych eisoes wedi eu talu.
Ffi trosglwyddo electronig
Cost arferol: £25-£50
Efallai y bydd cyfreithwyr neu drawsgludwyr yn codi tâl am drosglwyddo arian o'ch cyfrif morgais.
Ffi cyfrif morgais
Cost arferol: £100-£300
Codir tâl undro gan eich benthyciwr morgais am agor, rheoli a chau eich cyfrif morgais. Gellir ei ychwanegu at eich morgais, ond rydych yn talu llog, felly ystyriwch ei dalu ymlaen llaw.
Os oes rhaid i chi dalu treth ar eich cartref newydd, bydd eich cyfreithiwr fel arfer yn trefnu i dalu hyn ar eich rhan.
Mae faint rydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich eiddo, ond gall fod hyd at 12% o werth eich cartref newydd.
Dim ond cyfnod penodol o amser sydd gennych ar ôl y dyddiad cwblhau i dalu:
Codir ffi cosb hwyr arnoch os byddwch yn methu'r dyddiad cau.
Cysylltwch â'ch cyfreithiwr neu drawsgludwr ar ôl y dyddiad cwblhau i wirio ei fod wedi'i dalu.