Morgais gydol oes 

Gyda morgais gydol oes, byddwch yn derbyn benthyciad sydd wedi’i ddiogelu ar eich cartref nad oes angen ei ad-dalu tan i chi farw neu fynd i ofal hirdymor. Mae’n rhyddhau rhywfaint o’r cyfoeth sydd ynghlwm i’ch cartref a gallwch barhau i fyw yno.

Sut mae morgais gydol oes yn gweithio ?

Morgais gydol oes yw pan fyddwch chi’n benthyca arian sydd wedi’i ddiogelu yn erbyn eich cartref, ar yr amod mai dyma’ch prif gartref, tra’ch bod yn parhau â’ch perchnogaeth.

Gallwch ddewis neilltuo peth o werth eich eiddo fel etifeddiaeth i’ch teulu.

Yn ogystal, efallai y bydd rhaid darparwyr yn gallu cynnig symiau mwy o arian i’r rhai gyda chyflyrau iechyd penodol, neu hyd yn oed ‘ffactorau ffordd o fyw’ megis ysmygu.

Bydd y cartref yn dal i fod yn berchen i chi a chi fydd yn gyfrifol am ei gynnal.

Codir llog ar yr hyn yr ydych chi wedi’i fenthyca, y gellir ei ad-dalu neu ei ychwanegu at gyfanswm swm y benthyciad.

Pan fyddwch farw neu’n symud i ofal hirdymor, bydd y cartref yn cael ei werthu a bydd yr arian o’r gwerthiant yn cael ei ddefnyddio i dalu’r benthyciad.

Bydd unrhyw beth sydd ar ôl yn mynd i’ch buddiolwyr. Os all eich ystâd dalu’r morgais heb orfod gwerthu’r eiddo, gallant wneud hynny.

Os nad oes digon o arian ar ôl o’r gwerthiant, byddai’n rhaid i’ch buddiolwyr ad-dalu unrhyw beth ychwanegol dros werth eich cartref o’ch ystâd.

Er mwyn diogelu yn erbyn hyn, mae’r rhan fwyaf o forgeisi gydol oes yn cynnig gwarant dim ecwiti negyddol (safon y Cyngor Rhyddhau Ecwiti).

Gyda’r warant hon, mae’r darparwr benthyciadau yn rhoi addewid na fydd yn rhaid i chi (neu eich buddiolwyr) fyth dalu yn ôl mwy na gwerth eich cartref.

Mae hyn yn wir hyd yn oed os yw’r ddyled yn fwy na gwerth yr eiddo.

Mathau o forgeisi gydol oes

Mae dau wahanol fath gyda chostau gwahanol y gellwch ddewis ohonynt .

  • Morgais cronni llog: cewch gyfandaliad neu yn derbyn swm rheolaidd, a chodir llog a fydd yn cael ei ychwanegu at y benthyciad. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi wneud unrhyw daliadau rheolaidd. Mae’r swm yr ydych chi wedi’i fenthyca, gan gynnwys y llog wedi’i gronni, yn cael ei ad-dalu ar ddiwedd cyfnod eich morgais pan fydd eich cartref yn cael ei werthu. Gyda llog wedi’i gronni mae’n bwysig deall effaith adlog. Pob blwyddyn bydd swm y morgais yn cynyddu gan gyfradd llog blynyddol y cytunwyd arni. Yn y flwyddyn gyntaf mae’r llog yn seiliedig ar swm y benthyciad gwreiddiol yn unig ond yn y blynyddoedd dilynol bydd hefyd llog ar log y flwyddyn ganlynol. Mae hwn yn ‘cronni’ llog sy’n golygu bydd llog pob flwyddyn yn uwch na’r flwyddyn flaenorol.

Darganfyddwch fwy am adlog yn ein canllaw Egluro cyfraddau llog

  • Morgais gyda thâl llog: cewch gyfandaliad a naill ai’n gwneud taliadau misol neu ad-hoc. Mae hyn yn lleihau, neu’n stopio, effaith cronni llog. Mae rhai cynlluniau hefyd yn caniatáu i chi dalu cyfalaf, os ydych chi’n dymuno gwneud hynny. Bydd y swm yr ydych chi wedi’i fenthyca yn cael ei ad-dalu pan fydd eich cartref yn cael ei werthu ar ddiwedd eich cyfnod morgais.

Cyfandaliad ynteu incwm ?

Pan fyddwch yn cymryd morgais gydol oes, gallwch ddewis benthyca cyfandaliad ar y dechrau, neu fenthyca swm llai i ddechrau gyda’r dewis o gyfleuster tynnu incwm.

Mae’r cyfleuster hyblyg neu dynnu incwm yn addas os ydych eisiau cymryd symiau rheolaidd neu symiau bychan o arian o dro i dro, i roi hwb i’ch incwm efallai.

Yn hytrach nac un benthyciad mawr, gan y bydd hyn yn golygu mai dim ond ar yr arian yr ydych ei angen y byddwch yn talu llog.

A yw hyn yn addas ar eich cyfer?

Mae hyn yn dibynnu ar eich oed a’ch amgylchiadau.

Mae rhai ffactorau i’w hystyried cyn i chi gymryd morgais gydol oes .

  • Gallai effeithio ar yr hyn yr ydych yn ei adael fel etifeddiaeth .
  • Gyda morgais cronni llog gall y cyfanswm sy’n ddyledus gennych chi dyfu’n gyflym. Yn y pendraw gallai hyn olygu bod eich dyled chi’n fwy na gwerth eich cartref, oni bai bod gan eich morgais warant dim ecwiti negyddol (safon y Cyngor Rhyddhau Ecwiti). Sicrhewch fod eich morgais yn cynnwys gwarant o’r fath.
  • Efallai na fydd morgais gyda chyfraddau llog amrywiol yn addas oherwydd gallai’r gyfradd llog godi’n sylweddol. Serch hynny, mae un o safonau’r Cyngor Rhyddhau Ecwiti yn datgan os yw cyfradd llog yn amrywiol dylid cael ‘cap’ terfyn uchaf.

Gall effeithio ar eich sefyllfa treth a’ch hawl i fudd-daliadau seiliedig ar incwm. Bydd darparwyr benthyciadau yn disgwyl i chi gadw’ch cartref mewn cyflwr da o fewn fframwaith cynnal a chadw rhesymol. Efallai bydd rhaid i chi neilltuo rhywfaint o arian i wneud hyn.

Os gallai unrhyw rai o’r rhain fod yn broblem, efallai na fydd cynllun rhyddhau ecwiti yn addas ar eich cyfer.

Faint mae’n ei gostio ?

Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’r holl gostau cyn symud ymlaen.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu :

  • yswiriant adeiladau
  • ffioedd cyfreithiol a ffioedd prisio
  • ffi trefnu i’r benthyciwr am y cynnyrch
  • ffi i ymgynghorydd am eu gyngor ac am eich helpu  i sefydlu’r cynllun
  • ffi gwblhau, y gellir ei dalu ar y pwynt cwblhau neu’i ychwanegu at eich morgais.

Gallai’r costau hyn wneud cyfanswm o hyd at £1,500-£3,000.

Gallai costau ychwanegol fod ynghlwm â thalu’ch benthyciad yn llwyr yn gynnar, a elwir yn ‘gostau ad-dalu cynnar’.

Felly bydd yn rhaid i chi fod mor sicr â phosibl bod cynllun rhyddhau ecwiti yn addas i chi.

Cwestiynau i’w gofyn i’ch ymgynghorydd pan fyddwch yn ystyried morgais gydol oes

Cofiwch ofyn cwestiynau bob amser os oes unrhyw yn aneglur .

Dyma rai cwestiynau pwysig .

  • A allwch drosglwyddo’r cynllun os ydych yn symud tŷ ?
  • Beth fydd yn digwydd os ydych yn marw’n fuan ar ôl ymuno â’r cynllun ?
  • Sut fyddai’r cynllun yn effeithio ar eich budd-daliadau gan y wlad neu’r awdurdod lleol ?
  • Pa ffioedd fydd yn daladwy os ydych yn penderfynu ad-dalu’r benthyciad, ar ôl tair blynedd er enghraifft?
  • Fyddech chi’n gymwys i gael grant i’ch helpu chi i dalu am atgyweirio neu altro eich cartref?
  • Pa amodau mae’r cynllun yn eu gosod arnoch os ydych yn parhau i fyw yn eich cartref?
  • Beth fydd yn digwydd os bydd arnoch fwy o arian yn y diwedd na gwerth y tŷ? (mae llawer o ddarparwyr erbyn hyn yn cynnig gwarant dim ecwiti negyddol .)
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.