Os ydych yn hunangyflogedig neu ar incwm isel, mae’n bwysig gwybod bod Credyd Cynhwysol yn disodli nifer o fudd-daliadau y byddech chi wedi’u hawlio fel arfer, gan gynnwys Credydau Treth, Budd-dal Tai a Chredyd Treth Gweithio.
Os ydych newydd golli’ch swydd, y prif fudd-dal y gallwch wneud cais amdano yw Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) dull newydd. Mae’r budd-daliadau sydd ar gael yn dibynnu ar ba mor hir yr oeddech yn gweithio, eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol, sut y gwnaethoch adael eich swydd, ac amgylchiadau eich cartref.
Bydd yr adran hon yn eich helpu i ddarganfod mwy am yr hyn i’w ddisgwyl a sut i baratoi.