Problemau â’r eiddo wrth brynu tŷ

Efallai bydd problemau â’r eiddo rydych am ei brynu. Gallai rhai o’r rhain effeithio ar ba mor debygol rydych o gael morgais, ac efallai bydd eraill yn costio arian i chi yn nes ymlaen. Mae’n werth gwybod beth y dylech gadw golwg amdano – a pha gamgymeriadau i’w hosgoi – wrth brynu cartref. 

Rhestr o eiddo nad yw darparwyr benthyciadau bob amser yn eu hoffi

  • Cartrefi o adeiladwaith anarferol – Unrhyw adeilad nad yw o adeiladwaith bric a morter safonol. Mae cartrefi yn dal i fodoli sydd wedi’u hadeiladu o blethwaith a dwb, cob, concrid neu fframweithiau coed sydd weithiau wedi’u gorchuddio gyda sment asbestos.
  • Fflatiau uchel – Er enghraifft, cyn fflatiau cyngor mewn blociau twr, yn enwedig os oes ganddynt broblemau gyda chynnal a chadw lifft neu ble mae rhan fwyaf y fflatiau eraill yn dal yn nwylo’r awdurdod lleol.
  • Adeiladau â chladin – mae angen tystysgrif diogelwch tân ar adeiladau sydd dros 18 metr o uchder â deunydd cyfansawdd alwminiwm (ACM), a elwir hefyd yn gladin. Mae anghytuno wedi bod ynghylch pwy sy’n gyfrifol am gael hon, ac mae darparwyr benthyciadau wedi bod yn prisio cartref ar sero a gwrthod ceisiadau dros y mater.
  • Fflatiau dros siopau, bwytai a swyddfeydd – Unrhyw eiddo ble gallai pobl eraill gael yr hawl i gael mynediad i’ch eiddo. Mae eiddo fel hyn hefyd yn anodd eu prisio .
  • Lesddaliadau byr – Mae fflatiau yn aml yn cael eu gwerthu ar lesddaliad sy’n golygu mai dim ond am nifer benodol o flynyddoedd y byddwch chi’n berchen arni. Gall lesddaliadau o 80 mlynedd neu lai fod yn broblem felly edrychwch ar ehangu ar y lesddaliad cyn i chi brynu. Canfod mwy yn Lesddaliad neu rydd-ddaliad – y goblygiadau ariannol.
  • Cartrefi a adeiledir o’r newydd – Mae darparwyr benthyciadau yn aml yn prisio eiddo a adeiledir o’r newydd yn is na’r pris gofyn sy’n golygu y bydd angen blaendal mwy arnoch chi. Gallai’r datblygwr gynnig bargeinion arbennig i helpu. Gweler ein hadran Cynlluniau’r llywodraeth ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf a pherchnogion tai cyfredol.
  • Safleoedd tir llwyd – Gall eiddo a adeiladwyd ar hen dir diwydiannol fod yn anodd gan y gallent fod wedi’u halogi. Bydd angen i’ch cyfreithiwr wirio’r tystysgrifau i brofi bod yr eiddo wedi’i ddadhalogi.
  • Rhy agos at y môr – Gall erydiad arfordirol arwain at eich cartref newydd yn dod yn beryglus o agos at ymyl y clogwyn.
  • Cyfyngiadau Amaethyddol – Cyfyngiad Amaethyddol yw amod a osodir gan Awdurdod Cynllunio. Y bwriad yw cyfyngu meddiannaeth yr eiddo i’r rhain sy’n ymgysylltiedig ag amaethyddiaeth, sy’n cyfyngu’r farchnad gall yr eiddo cael eu gwerthu ynddo.
  • Cartrefi â chymeriad – Gallai goleudai, melinau gwynt, ysgolion a thafarndai wedi’u trosi fod angen morgais gan fenthyciwr arbenigol.
  • Eiddo rhestredig Gradd 1 a thai to gwellt  – the cost of repairs and rebuilding make them less attractive to mainstream lenders who also worry about the risk of fire.

Pethau i edrych amdanynt wrth brynu tŷ

Pan fyddwch chi’n chwilio am dŷ, cofiwch efallai nad yw’r eiddo cystal ag yr ymddengys ar yr olwg gyntaf .

Mae yna nifer o gamgymeriadau cyffredin y gallwch eu hosgoi wrth brynu eich cartref trwy edrych tu hwnt i’r addurn .

Efallai y bydd biliau atgyweirio, problemau cudd gan gynnwys:

  • lleithder,
  • problemau trydanol, neu
  • gymdogion swnllyd.

Gallai pob un o’r rhain gyfrannu at gostau uwch ac ymdrech ychwanegol ar ôl i chi symud i mewn.

Y tu fewn i’r eiddo

Gwiriwch am broblemau a allai fod yn ddrud i’w trwsio fel:

  • lleithder
  • plygiau a switsys hen ffasiwn a allai olygu bod rhaid ailwifro’r eiddo old-fashioned plugs and switches that could mean the property needs rewiring
  • hen foeler
  • toiled sy’n flysio’n wan
  • fframiau ffenestr pwdr.

Os oes gennych ffrind, aelod o’r teulu neu adeiladwr y gallwch ymddiried ynddo sy’n gyfarwydd â thrwsio eiddo, ewch â hwy gyda chi i ymweld â’r eiddo .

Bydd adeiladwr yn rhoi syniad i chi o faint y bydd yn costio i drwsio unrhyw broblemau amlwg .

Wedyn gallwch ddefnyddio hyn fel offeryn bargeinio i ofyn i’r gwerthwr ostwng y pris .

Peidiwch â bod ofn gofyn beth yw oedran y gwifrau a’r to neu pa bryd y cafodd y boeler ei osod a pha bryd y cafodd unrhyw adnewyddiadau eu gwneud .

Y tu allan i’r eiddo

  • Gwiriwch yr ardal gyfagos – edrychwch ar gyflwr y strydoedd gerllaw, y tafarndai a’r siopau er mwyn cael teimlad o’r ardal.
  • Landeri a theils to – edrychwch i weld a oes unrhyw fylchau a allai achosi gollwng dŵr.
  • Ymwelwch ar wahanol adegau’r dydd – gallai eich stryd fod yn dawel iawn yng nghanol y dydd ond yn swnllyd ac yn brysur yn ystod oriau brig.
  • Ymsuddiant – edrychwch y tu allan i’r eiddo. A oes coed mawr yn tyfu gerllaw, a allai o bosibl achosi problemau ymsuddiant?
  • Trwyddedau parcio – a fyddwch chi angen trwydded i barcio yno? A yw’n anodd dod o hyd i le barcio os nad oes gennych le parcio oddi ar y stryd neu garej?
  • Yswiriant Adeiladau - A yw’r eiddo mewn ardal sy’n dioddef o lifogydd? Mae yswiriant adeilad ar gyfer cartrefi sydd wedi dioddef llifogydd yn ddrud ac fe allai fod yn anodd ei gael. Os na allwch gael yswiriant, yna ni chewch forgais.
  • Cymdogion swnllyd – Gofynnwch i’r gwerthwyr a oes unrhyw broblemau wedi bod gyda’r cymdogion. Os ydych chi’n edrych ar fflat, gofynnwch a oes gan y cymdogion uwchlaw loriau pren, neu ba sŵn posibl a allai fodoli.

Eich cam nesaf

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.