Ffyrdd o ad-dalu morgais llog yn unig

Gyda morgais llog yn unig bydd eich ad-daliadau ond yn talu’r llog ar y swm a fenthycwyd gennych. Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysig bod gennych gynllun ar gyfer sut i dalu gweddill y morgais a deall eich opsiynau.

Sut mae morgais llog yn unig yn gweithio?

Gyda morgeisi ad-dalu rydych yn talu’r llog ac ychydig o’r cyfalaf bob mis i sicrhau y bydd y morgais yn cael ei glirio ar ddiwedd y cyfnod.

Gyda morgeisi llog yn unig dim ond y llog sy’n ddyledus ar y swm yr ydych chi wedi’i fenthyca yr ydych chi’n ei dalu.

Rydych yn defnyddio cynilion, buddsoddiadau, neu asedau eraill sydd gennych (a elwir yn ‘ddulliau ad-dalu’) i dalu’r swm a fenthycwyd ar ddiwedd cyfnod eich morgais.

Enghraifft

Os oes gennych chi forgais llog yn unig o £100,000 am 25 mlynedd, rydych yn talu’r llog ar y swm a fenthycwyd bob mis.

Pan ddaw’r 25 mlynedd i ben, bydd raid i chi dalu’r £100,000 yn llawn.

Eich cynllun ad-dalu

Mae’n rhaid eich bod yn gallu dangos i’r benthyciwr sut y byddwch yn ad-dalu’r morgais ar ddiwedd y cyfnod.

Chi, nid y benthyciwr, sy’n gyfrifol am drefnu a chynnal cynllun ad-dalu credadwy i ad-dalu’r benthyciad gwreiddiol.

Ni allwch ddibynnu ar addewid o arian yn y dyfodol fel etifeddiaeth neu fonws.

Ni allwch ychwaith ddyfalu y bydd prisiau eiddo’n codi’n ddigonol i ganiatáu ichi brynu cartref llai a thalu’ch morgais yn llawn hefyd.

Bydd y benthyciwr yn gwirio o leiaf unwaith yn ystod cyfnod eich morgais, bod eich cynllun ad-dalu ar y trywydd iawn i dalu am eich morgais.

Dulliau ad-dalu

Ymhlith yr enghreifftiau o ddulliau ad-dalu y mae:

Bydd eich benthyciwr yn cymryd safbwynt ynghylch y tebygolrwydd a fydd eich dull ad-dalu’n talu’r cyfalaf yn llawn ar ddiwedd y morgais.

Cyfrifwch faint sydd angen i chi ei gynilo

Mae angen i chi nodi swm y morgais a hyd yr amser sydd gennych tan ei fod yn dod i ben.

Yna ychwanegwch gyfraddau gwahanol o log neu dwf y gallwch eu disgwyl ar gyfartaledd dros y cyfnod.

Dewiswch ffigwr isel ac uchel (2%–5%) er mwyn gweld y canlyniad gwaethaf a gorau.

Pwysig

Gall gwerth buddsoddiadau gynyddu a gostwng ac mae’n bosibl y gallwch golli’ch holl arian cyn i chi fedru clirio’ch morgais.

Mae’n bwysig adolygu’ch buddsoddiadau yn rheolaidd.

Yn ddelfrydol, byddech yn dymuno gallu newid i gynhyrchion llawer mwy diogel sy’n seiliedig ar arian wrth i ddiwedd cyfnod eich morgais agosáu.

Drwy wneud hynny byddwch yn dawel eich meddwl bod gennych ddigon i dalu am eich morgais. Siaradwch â chynghorydd ariannol am y cynllun buddsoddi gorau i chi.

Oes morgais llog yn unig gennych chi eisoes?

Os oes gennych fwy na 50% ecwiti yn eich eiddo a chynllun ad-dalu sydd ar y trywydd iawn ac yn cael ei dderbyn gan ystod o fenthycwyr, yna dylech fod yn iawn.

Os nad oes gennych, mae’n bosibl y bydd yn anodd ichi gael ail forgais pan fydd eich bargen bresennol yn dod i ben.

Adolygwch eich cynlluniau ad-dalu

Mae’n hanfodol eich bod yn adolygu’ch cynllun buddsoddi’n rheolaidd a chymryd camau os ydych yn meddwl na fydd yn darparu digon o arian i glirio’ch morgais.

Siaradwch â’ch benthyciwr neu ceisiwch gyngor ariannol proffesiynol.

  1. Cysylltwch â darparwr eich cynnyrch, rheolwr cronfa neu gynghorydd ariannol a gofyn a yw’ch buddsoddiadau ar y trywydd iawn i ad-dalu’ch morgais.
  2. Cyfrifwch unrhyw gynilion ar wahân sydd gennych y tu hwnt i’ch buddsoddiadau cynllun ad-dalu a phenderfynu a allech ryddhau rhywfaint o’r arian hwn i leihau’r benthyciad os bydd eich benthyciwr yn caniatáu hyn.
  3. Ffoniwch eich benthyciwr a holi am ordaliadau neu newid i ad-dalu yn rhannol a llog yn unig yn rhannol. Gwiriwch a fydd rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd.
  4. Os ydych yn pryderu na fyddwch yn medru ad-dalu’r morgais, cysylltwch â’ch benthyciwr ac egluro’r sefyllfa. Os na allwch ganfod datrysiad gyda’ch benthyciwr, ceisiwch gyngor am ddim.

Ail-forgeisio

Os ydych am ail-forgeisio i fenthyciwr arall, mae eich benthyciwr newydd yn debygol o eisiau sicrhau eich bod yn gallu fforddio'r benthyciad a chraffu'ch cynllun ad-dalu yn ofalus.

Mae hyn yn golygu y gallai pobl â morgeisi log yn unig ei chael yn anodd cael morgais arall.

Caniateir i’ch benthyciwr presennol gynnig bargen newydd i chi (a elwir yn drosglwyddiad cynnyrch h.y. newid i fargen gyfradd llog arall) heb asesiad fforddiadwy cyhyd â nad yw’n golygu cynyddu’r swm rydych yn ei fenthyca (heblaw am unrhyw ffioedd am newid).

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.