Cyfrifiannell morgais – cyfrifwch ad-daliadau
Morgeisi yw rhai o’r ymrwymiadau mwyaf y byddwch chi’n eu gwneud yn eich bywyd ariannol. A gyda’r holl opsiynau, gall fod yn anodd gweithio allan beth fyddant yn ei gostio i chi. Gall ein cyfrifiannell morgais helpu.
Morgeisi newydd, morgeisi llog yn unig a chodiadau cyfradd llog
Bydd yn rhoi ffigwr amcangyfrifol syml i chi i ddangos y taliadau misol y byddwch yn eu talu ar:
Gallwch hefyd addasu term y morgais, y gyfradd llog a’r blaendal i gael syniad o sut mae’r rheini’n effeithio ar eich taliadau misol.
I ddechrau, y cyfan rydych ei angen yw pris eich eiddo, neu’r swm sydd ar ôl ar eich morgais.
Sut mae’r teclyn hwn yn cyfrifo taliadau morgais?
Mae’r gyfrifiannell morgais hon yn defnyddio swm eich benthyciad, cyfradd llog a blaendal dewisol, i roi syniad o’ch ad-daliadau morgais misol.
Dylai’r canlyniadau gael eu defnyddio fel canllaw yn unig.
Beth yw morgais?
Mae morgais yn fenthyciad mawr, fel arfer gan fanc neu gymdeithas adeiladu, sy’n eich galluogi i fenthyca arian i brynu eiddo, fel tŷ, fflat neu ddarn o dir.
Mae eich eiddo yn gweithredu fel ‘diogelwch’ ar gyfer eich benthyciad morgais, sy’n golygu, os na fyddwch yn cadw i fyny ag ad-daliadau, gall y benthyciwr ei werthu i glirio’r ddyled.
Rydych yn ad-dalu’r swm a fenthycwyd, ynghyd â llog, dros amser y cytunwyd arno. Gallai hyn fod cyhyd â 40 mlynedd gyda rhai benthycwyr, yn dibynnu ar eich oedran a’r hyn y gallwch ei fforddio.
Beth yw ad-daliad morgais?
Ad-daliad morgais yw’r taliad rheolaidd a wneir gennych chi (y benthyciwr) i’r rhoddwr benthyciadau (fel banc) i ad-dalu’r arian a fenthycwyd. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gostau llog.
Byddwch chi a’r rhoddwr benthyciadau yn cyfrifo pryd a faint y byddwch yn ei dalu bob mis pan fyddwch yn cymryd eich morgais.
Sut mae cyfraddau llog morgeisi yn gweithio?
Pan fyddwch yn cymryd benthyciad morgais, mae’r rhoddwr benthyciadau yn codi llog arnoch ar y swm a fenthycwch. Mae’r llog hwn yn ganran o swm eich benthyciad ac yn ychwanegu at eich taliadau morgais misol.
Os bydd eich llog morgais yn newid, bydd eich ad-daliadau yn newid hefyd. Defnyddiwch ein cyfrifiannell i wirio sut y gall unrhyw newid effeithio ar eich costau misol.