Os ydych yn ystyried prynu cartref, gall gwneud cais am y morgais ymddangos yn dasg frawychus. Bydd angen i chi ddarparu llawer o wybodaeth a llenwi llwyth o ffurflenni, ond bydd bod yn barod yn helpu'r broses i symud mor llyfn â phosibl.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Sut mae benthycwyr yn gwirio y gallaf fforddio morgais?
Bydd benthycwyr yn cyfrifo’ch holl incwm cartref – gan gynnwys eich cyflog sylfaenol ac unrhyw incwm ychwanegol a gewch o ail swydd, gweithio’n llawrydd, budd-daliadau, comisiwn neu fonws.
Mae gwirio fforddiadwyedd yn broses llawer iawn mwy manwl. Bydd benthycwyr yn ystyried eich holl filiau cartref rheolaidd a’ch gwariant, ynghyd ag unrhyw ddyledion megis benthyciadau a chardiau credyd, i wneud yn siŵr fod gennych ddigon ar ôl i ad-dalu’ch morgais bob mis.
Mae ganddynt ‘brawf straen’ hefyd i ganfod a allech barhau i fforddio’r ad-daliadau morgais petai cyfraddau llog yn codi neu petaech yn ymddeol, yn mynd ar absenoldeb mamolaeth neu’n cael plentyn.
Yn ogystal, byddant yn cyflawni gwiriad credyd ag asiantaeth cymeradwyo credyd unwaith y byddwch yn gwneud cais ffurfiol i gymryd golwg ar eich hanes ariannol ac asesu faint o risg fyddai benthyca arian i chi.
Darllenwch ein canllaw ar Sut i wella’ch sgôr credyd
Sut i baratoi ar gyfer eich cais
Cyn gwneud cais am forgais, cysylltwch â’r tair prif asiantaeth cymeradwyo credyd ac edrychwch ar eich adroddiadau credyd. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw wybodaeth anghywir amdanoch. Gallwch wneud hyn ar-lein naill ai trwy wasanaeth tanysgrifiad am dâl neu un o’r gwasanaethau ar-lein am ddim sydd ar gael bellach. Darganfyddwch fwy am sut i wella eich sgôr credyd.
Gallwch wirio eich sgor credyd ag un o’r tri prif asiantaethau statws credyd:
Beth rydych ei angen i wneud cais am forgais
Dechreuwch gasglu’r holl ddogfennau y byddwch eu hangen ar gyfer y broses gwneud cais am forgais. Gallai hyn gynnwys:
- biliau cyfleustodau
- prawf o’r budd-daliadau a dderbyniwyd
- ffurflen P60 gan eich cyflogwr
- eich slipiau cyflog am y tri mis diwethaf
- pasbort neu drwydded yrru (i brofi pwy ydych)
- cyfriflenni banc ar gyfer eich cyfrif cyfredol am y tri i’r chwe mis diwethaf
- cyfriflen o gyfrifon dwy i dair blynedd gan gyfrifydd os ydych yn hunangyflogedig
- ffurflen dreth SA302 os oes gennych enillion o fwy nag un ffynhonnell neu os ydych yn hunangyflogedig
- dylai pobl hunangyflogedig geisio cyflwyno gwybodaeth yn ategol i’w ffurflen dreth, sy’n cefnogi’r hyn y mae’r SA302 yn ei ddweud am eu hincwm, megis cyfriflenni banc
- Prawf o flaendal, fel datganiad cynilion neu ffurflen wedi’i chwblhau gan rywun sydd wedi rhoi’r arian.
Byddwch yn gywir. Gwnewch yn siŵr fod y wybodaeth ar y ffurflen gais yn cyfateb â’r dogfennau a gyflwynwch iddynt.
Er enghraifft, peidiwch â thalgrynnu eich cyflog os yw’r swm ar y slipiau cyflog yn wahanol i’r ffigur hwn.
Rhowch gyfeiriad yr eiddo rydych am ei brynu, y gwerthwr eiddo a’ch cyfreithiwr.
Dyma’r pethau sylfaenol - gall rhai benthycwyr ofyn am ragor o waith papur.
Cofiwch y gall benthycwyr fod â meini prawf gwahanol ynghylch incwm a threuliau.
Gofynnwch i’ch darparwr neu gynghorydd morgais annibynnol beth arall y byddwch efallai ei angen.
Sylwch efallai na fydd copïau wedi eu hargraffu o gyfriflenni ar-lein o’ch cyfrif cyfredol a biliau cyfleustodau yn dderbyniol.
Byddwch angen un ai copïau papur neu gopïau a ardystiwyd gan eich cyfreithiwr, eich banc neu’ch darparwr cyfleustodau.
Sut rydych yn gwario eich arian
Efallai y bydd angen i chi ddangos eich treuliau hefyd, yn cynnwys faint rydych yn ei fenthyca ar gardiau credyd a benthyciadau eraill.
Yn ogystal â'ch biliau cartref, efallai y bydd angen i chi gynnwys:
- Treth Gyngor
- polisïau yswiriant, a
- chostau byw cyffredinol megis teithio i’r gwaith neu i’r ysgol, dillad, gofal plant a hamddena.
A ydych yn ail-forgeisio?
Os ydych yn dymuno cynyddu swm eich morgais efallai y bydd angen i chi gwblhau’r gwiriadau fforddiadwyedd uchod, a chewch gyngor ynghylch pa gynnyrch morgeisi sy’n addas.
Os oes gennych forgais ac nid ydych yn dymuno benthyca rhagor o arian, mae trefniadau mwy hyblyg ar gael.
Darllenwch fwy am hyn yn ein canllaw Ailforgeisio i gael y cytundeb gorau
A ydych eisiau morgais llog yn unig?
Nid yw pob darparwr yn cynnig morgeisi llog yn unig.
Os gwnewch gais am un, byddwch angen dangos fod gennych ddull credadwy o ad-dalu mewn lle, yn ogystal â bodloni’r meini prawf incwm angenrheidiol.
Darllenwch ein canllawiau isod am fwy o wybodaeth:
Canllaw prynwr cartref am y tro cyntaf
Ffyrdd o ad-dalu morgais llog yn unig
Siaradwch â chynghorydd morgeisi
Gyda chymaint o opsiynau ar gael, gall fod yn anodd iawn dewis y morgais cywir. Gall cynghorydd morgais eich helpu i ddod o hyd i'r morgais cywir i chi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyngor morgais - a ddylech ddefnyddio cynghorydd morgais?
Cyfrifwch gost llawn eich morgais
Bydd y darparwr neu’r brocer yn gwneud hyn i chi, ond gwnewch yn siŵr eu bod yn esbonio’r holl daliadau a ffioedd, yn cynnwys unrhyw daliadau a ffioedd amodol, megis cosbau ad-dalu cynnar.
Bydd rhai broceriaid yn codi ffi arnoch am gyngor, yn derbyn comisiwn gan y darparwr neu gyfuniad o’r ddau. Byddant yn rhoi gwybod i chi am eu ffioedd a chwmpas y gwasanaeth y gallant ei ddarparu yn eich cyfarfod cychwynnol. Nid yw cynghorwyr o fewn banciau a chymdeithasau adeiladu fel arfer yn codi ffi am eu cyngor.
Dngosir cost flynyddol morgais i chi wedi ei fynegi fel canran o’r benthyciad. Dangosir hyn fel cyfrifiad Cyfradd Tâl Canrannol Blynyddol (APRC) ac mae’n cynnwys unrhyw ffioedd fel gwerthusiad neu ffioedd adbrynu sy’n gysylltiedig â’ch morgais. Bydd yr APRC hwn yn helpu darparu cymhariaeth fwy trylwyr rhwng y gwahanol gynigion morgeisi sydd ar gael.
Mae cael morgais yn ymwneud â mwy na'r taliadau misol yn unig. Mae angen i chi hefyd gyllidebu ar gyfer y costau eraill fel ffioedd cyfreithiwr a Treth Stamp.
Darganfyddwch fwy mewn Ffioedd a chostau morgais wrth brynu neu werthu cartref
Defnyddio gwefannau cymharu prisiau
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i morgais addas.
Mae gwefannau poblogaidd i gymharu morgeisi yn cynnyws:
- Money Saving ExpertYn agor mewn ffenestr newydd
- Money SupermarketYn agor mewn ffenestr newydd
- MoneyfactsYn agor mewn ffenestr newydd
- Which?Yn agor mewn ffenestr newydd
Cofiwch:
- ni fydd pob un wefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un wefan cyn gwneud penderfyniad.
- mae hefyd yn bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
- darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar wefannau cymharu.