Cynlluniwyd ein cyfres Siarad Am Arian i'ch helpu i gael y sgyrsiau anodd hynny am arian gyda'ch teulu a'ch ffrindiau.
Felly os ydych chi erioed wedi cael trafferth eistedd i lawr a siarad am eich nodau arian gyda phartner, ddim yn gwybod sut i ddweud wrth eich ffrindiau na allwch fforddio mynd allan y penwythnos hwn, rydych angen siarad â pherthnasau am ryw drafferth ariannol rydych ar fin mynd iddo, neu ddim ond eisiau siarad am arian gyda’ch plant, bydd y canllawiau hyn yn eich helpu.
Wythnos Siarad Arian: 2-6 Tachwedd 2026
Mae Wythnos Siarad Arian yn dod ym mis Tachwedd – ac rydym yn annog pawb i’w ddefnyddio fel cyfle i gymryd un cam tuag at deimlo’n fwy gwybodus, hyderus, a mewn rheolaeth o’ch arian.