Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd
2 funud i’w gwblhau
Os ydych chi wedi cael eich gwrthod am gredyd, fel benthyciad, gorddrafft neu gerdyn credyd, bydd ein teclyn yn rhoi cynllun gweithredu i chi i wella eich cyfle o gael eich derbyn yn y dyfodol.
Pam y dylech ddefnyddio’r teclyn hwn
- Adnabod resymau posibl pam y cawsoch eich gwrthod am gredyd, os nad ydych yn gwybod yn barod.
- Deall beth allwch chi ei wneud i wella pethau.
- Darganfod beth i’w wneud pan fyddwch chi’n barod i wneud cais eto.
Sut mae’r teclyn hwn yn gweithio
Bydd eich atebion yn gyfrinachol. Nid ydym yn eu cadw na’u rhannu ag unrhyw un arall.
- Atebwch ychydig o gwestiynau syml i’n helpu i ddeall pam y gallai credyd fod wedi’i wrthod i chi. Ni fydd angen unrhyw ddogfennau na gwybodaeth ychwanegol arnoch i lenwi’r teclyn.
- Cael eich cynllun gweithredu gyda phethau i’w gwneud i wella eich sgôr credyd.
Os gwrthodwyd morgais i chi
Ni fydd y teclyn hwn yn helpu os gwrthodwyd morgais i chi. Gweler Pam fod ceisiadau am forgais yn cael eu gwrthod a beth i’w wneud nesaf yn lle.
Gwybodaeth ychwanegol
Dim ond y benthyciwr fydd yn gwybod pam y gwrthodwyd credyd i chi – gallwch ofyn iddynt am reswm ond efallai na fyddant yn dweud wrthych. Peidiwch â phoeni os na chewch ateb, gallwch barhau i ddefnyddio’r teclyn.
Os ydych yn delio â dyled broblemus, gallai gwneud cais am fwy o gredyd wneud pethau’n waeth. Mae’n well cael cymorth cyn gynted â phosibl. Gallwch ddod o hyd i gyngor ar ddyledion am ddim gan ddefnyddio ein Teclyn lleolwr cyngor ar ddyledion.