Os ydych yn prynu cartref yng Nghymru sy’n costio mwy na £225,000, neu £40,000 fel ail gartref, byddwch yn talu Treth Trafodiadau Tir (LTT). Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Beth yw Treth Trafodiadau Tir?
Mae Treth Trafodiadau Tir (LTT) yn dâl y byddwch yn ei dalu os byddwch yn prynu eiddo neu ddarn o dir yng Nghymru sy’n costio dros £225,000, neu dros £40,000 os yw’n ail gartref.
Os ydych yn prynu mewn rhannau eraill o’r DU, gweler ein canllawiau eraill:
Treth Stamp yn Lloegr a Gogledd Iwerddon
Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau yn yr Alban
Faint yw Treth Trafodiadau Tir yng Nghymru
Mae Treth Trafodiadau Tir (LTT) yn seiliedig ar:
- bris yr eiddo rydych yn ei brynu, ac
- os ydych yn berchen ar fwy nag un eiddo.
Bydd ein Cyfrifiannell Treth Trafodiadau Tir yn ei gyfrifo i chi, neu gweler y cyfraddau isod. Byddwch yn talu cyfraddau gwahanol os yw pris eich eiddo yn ymestyn dros fwy nag un band.
Er enghraifft, os yw eich eiddo yn costio £500,000, ni fyddwch yn talu dim ar y £225,000 cyntaf, 6% ar y £175,000 nesaf a 7.5% ar y £100,000 olaf.
Bandiau pris prynu eiddo | Y gyfradd dreth byddwch yn ei dalu |
---|---|
Llai na £225,000 |
0% |
£225,001 i £400,000 |
6% |
£400,001 i £750,000 |
7.5% |
£750,001 i £1,500,000 |
10% |
Mwy na £1,500,000 |
12% |
Bandiau pris prynu eiddo | Y gyfradd dreth byddwch yn ei dalu |
---|---|
Hyd at £180,000 |
4% |
£180,001 i £250,000 |
7.5% |
£250,001 i £400,000 |
9% |
£400,001 i £750,000 |
11.5% |
£750,001 i £1,500,000 |
14% |
Mwy na £1,500,000 |
16% |
Sut i dalu Treth Trafodiadau Tir
Bydd angen i chi neu’ch cyfreithiwr gyflwyno Ffurflen Dreth Trafodiadau Tir, hyd yn oed os nad oes angen i chi dalu unrhyw beth.
Y naill ffordd neu'r llall, chi sy'n gyfrifol am sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno mewn pryd.
Pa mor hir sydd gennych i dalu Treth Trafodiadau Tir?
Mae gennych 30 diwrnod ar ôl prynu’ch eiddo i gyflwyno Ffurflen Dreth Trafodiadau Tir a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus.
Os na fyddwch yn cyflwyno ffurflen dreth ac yn talu’r dreth, efallai y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn codi cosbau a llog arnoch..
Pryd na fyddai angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth Trafodiadau Tir?
Nid oes angen i chi gyflwyno ffurflen dreth os yw’r eiddo:
- yn cael ei adael i chi mewn ewyllys, ac nid ydych yn talu amdano
- yn cael ei drosglwyddo i chi yn dilyn ysgariad neu wahaniad
- yn costio llai na £40,000.
Mae rhai sefyllfaoedd hefyd lle nad oes angen ffurflen dreth ar gyfer trosglwyddiad lesddaliad sy’n costio llai na £40,000.
Dysgwch fwy ynghylch a pryd nad oes angen i chi ffeilio datganiad ar llyw.cymruYn agor mewn ffenestr newydd