Wrth ddewis morgais, peidiwch ag edrych ar yr ad-daliadau misol yn unig. Mae'n bwysig eich bod yn deall faint o log maent yn codi arnoch, beth sy'n digwydd os bydd eich cyfradd llog yn newid, a beth fydd eich ad-daliadau ar ôl i hyn ddigwydd.
Beth yw’r gwahanol fathau o gyfraddau llog morgais?
Mae dau brif fath o gyfradd llog morgais:
- Cyfradd sefydlog: mae'r llog a godir arnoch yn aros yr un fath am nifer o flynyddoedd, rhwng 2 a 10 mlynedd yn nodweddiadol.
- Cyfradd amrywiol: gall y llog rydych chi'n ei dalu newid.
Cyfraddau sefydlog
Bydd y gyfradd llog rydych yn ei thalu yn aros yr un fath trwy gydol y fargen, ni waeth beth sy'n digwydd i gyfraddau llog yn y farchnad.
Fe’u gwelwch yn cael eu hysbysebu fel ‘sefydlog am ddwy flynedd’ neu ‘sefydlog am bum mlynedd’, er enghraifft, ynghyd â’r gyfradd llog a godir am y cyfnod hwnnw.
Pan ddaw'r cyfnod hwn i ben, byddwch yn symud ymlaen i gyfradd amrywiol safonol (SVR), oni bai eich bod yn adolygu eich cytundeb neu'n ailforgeisio. Mae'r SVR yn debygol o fod yn sylweddol uwch na'ch cyfradd sefydlog, a all arwain at gynnydd mawr yn eich ad-daliadau misol.
Manteision
-
- Tawelwch meddwl y bydd eich taliadau misol yn aros yr un fath, gan eich helpu i gyllidebu.
Anfanteision
-
- Mae bargeinion cyfradd sefydlog fel arfer ychydig yn uwch na morgeisi cyfradd amrywiol.
-
- Os bydd cyfraddau llog yn gostwng, ni fyddwch yn elwa.
Rhywbeth y gellid ei ystyried yn fantais ac yn anfantais yw bod morgeisi cyfradd sefydlog fel arfer yn caniatáu i chi ordalu'ch morgais, hyd at 10% y flwyddyn heb gosb fel arfer. Fodd bynnag, gall morgeisi cyfradd amrywiol ganiatáu i chi ordalu heb unrhyw derfynau canrannol.
Gwyliwch rhag
- Taliadau os ydych am adael y fargen yn gynnar - rydych fel arfer wedi'ch clymu i mewn am hyd y gyfradd sefydlog.
- Diwedd y cyfnod penodol – gallwch ddechrau adolygu eich morgais newydd hyd at chwe mis cyn i'ch cytundeb presennol dod i ben. Os na wnewch hynny, cewch eich symud yn awtomatig i gyfradd newidiol safonol eich benthyciwr – sydd fel arfer yn uwch.
Meddyliwch yn ofalus am ail-forgeisio neu gloi mewn i gytundeb newydd gyda thaliadau ad-daliad cynnar mawr os ydych yn meddwl am symud cartref yn y dyfodol agos.
Mae’r rhan fwyaf o forgeisi nawr yn ‘gludadwy’, sy’n meddwl gallent gael eu symud i eiddo newydd. Ond, mae symud yn cael ei drin fel cais morgais newydd, felly bydd rhaid cwrdd â gwiriadau fforddiadwyedd y benthyciwr a meini prawf arall er mwyn cael eich derbyn am y morgais.
Os nad ydych yn pasio’r gwiriadau, efallai yr unig opsiwn fydd i fynd at fenthycwyr eraill, a fydd yn arwain atoch yn talu’r tâl ad-daliad cynnar i’ch benthycwr presennol.
Gall trosglwyddo morgais i eiddo arall (‘porting’) yn aml olygu mai dim ond y balans presennol sy’n weddill ar y cytundeb sefydlog neu ddisgownt presennol. Mae hyn yn golygu bod angen i chi ddewis cytundeb arall ar gyfer unrhyw fenthyca ychwanegol am y symud eiddo ac mae'r cytundeb newydd hwn yn annhebygol o gyd-fynd ag amserlen y cytundeb presennol.
Os ydych yn gwybod eich bod yn debygol o symud cartref o fewn y cyfnod ad-daliad cynnar efallai y byddwch am ystyried cytundebau gydag ad-daliadau cynnar isel neu heb ad-daliadau cynnar. Mae hyn yn rhoi mwy o ryddid i chi i siopa o gwmpas ymhlith benthycwyr pan ddaw’r amser i symud.
Cyfraddau amrywiol
 chyfraddau llog amrywiol, gall y gyfradd newid ar unrhyw adeg.
Sicrhewch fod gennych rai cynilion o'r neilltu fel y gallwch fforddio cynnydd yn eich taliadau os bydd cyfraddau'n codi.
Daw cyfraddau amrywiol ar sawl ffurf:
Cyfradd amrywiol safonol (SVR)
Dyma’r gyfradd llog y mae benthyciwr morgais yn ei chymhwyso i’w forgais safonol ac yn aml mae’n dilyn yn fras symudiadau cyfradd sylfaenol Banc Lloegr.
Os ydych ar SVR eich benthyciwr morgais, byddwch yn aros ar y gyfradd hon cyhyd â bod eich morgais yn para neu nes i chi gael cynnig morgais arall.
Oherwydd bod SVR benthyciwr yn aml yn dilyn cyfradd Banc Lloegr, gallai’ch cyfradd godi neu ostwng ar ôl newid yng nghyfradd sylfaenol Banc Lloegr.
Manteision
-
- Rhyddid - gallwch adael ar unrhyw adeg.
-
Fel arfer nid oes terfyn ar faint y gallwch ei ordalu yn ystod y cyfnod hyn, er enghraifft os oeddech eisiau gwneud gordaliad cyfandaliad mawr
Anfanteision
-
- Gellir newid eich cyfradd ar unrhyw adeg yn ystod y benthyciad.
-
Yn gyffredinol, mae’r gyfradd yn uwch na mathau eraill o gytundebau.
Cyfraddau gostyngedig
Mae hwn yn ostyngiad oddi ar gyfradd amrywiol safonol y benthyciwr (SVR) a dim ond am gyfnod penodol o amser y mae'n berthnasol, dwy neu dair blynedd yn nodweddiadol.
Ond mae'n werth edrych o gwmpas. Mae SVRs yn wahanol ar draws benthycwyr, felly peidiwch â chymryd yn ganiataol mai'r mwyaf yw'r gostyngiad, yr isaf yw'r gyfradd llog.
Enghraifft
Mae gan ddau fanc gyfraddau disgownt:
- Mae gan Fanc A ostyngiad o 2% oddi ar SVR o 6% (felly byddwch yn talu 4%)
- Mae gan Fanc B ostyngiad o 1.5% oddi ar SVR o 5% (felly byddwch yn talu 3.5%).
Er bod y gostyngiad yn fwy ar gyfer Banc A, Banc B fydd yr opsiwn rhatach.
Manteision
-
- Cost – mae'r gyfradd yn cychwyn yn rhatach, a fydd yn cadw ad-daliadau misol yn is.
-
- Os yw'r benthyciwr yn torri ei SVR, byddwch yn talu llai bob mis.
Anfanteision
-
- Cyllidebu – mae'r benthyciwr yn rhydd i godi ei SVR ar unrhyw adeg.
-
- Os bydd cyfraddau sylfaenol Banc Lloegr yn codi, mae'n debyg y byddwch yn gweld y gyfradd ddisgownt yn cynyddu hefyd.
Gwyliwch rhag
- taliadau os ydych am adael cyn diwedd y cyfnod disgownt.
Cyfraddau olrhain
Mae cyfraddau olrhain yn symud yn uniongyrchol yn unol â chyfradd llog arall – fel arfer cyfradd sylfaenol Banc Lloegr ynghyd ag ychydig y cant.
Felly os bydd y gyfradd sylfaenol yn codi 0.5%, bydd eich cyfradd yn cynyddu yr un faint.
Fel rheol mae ganddynt fywyd byr, dwy i bum mlynedd yn nodweddiadol. Er bod rhai benthycwyr yn cynnig olrheinwyr sy'n para am oes eich morgais neu nes i chi newid i fargen arall.
Manteision
-
- Os yw'r gyfradd y mae'n olrhain yn gostwng, felly hefyd bydd eich taliadau morgais.
-
Nid ydych chi fel arfer wedi’ch clymu i mewn, felly gallwch newid cytundeb neu ddarparwr cyn i’r gytundeb ddod i ben.
-
Fel arfer mae llai o gyfyngiadau neu ddim cyfyngiadau ar wneud gordaliadau gyda’r cytundebau hyn.
-
Fel arfer gallwch newid cyn i’r gytundeb ddod i ben heb orfod talu tâl ad-dalu’n gynnar – ond gwiriwch gyda’ch benthyciwr a’ch dogfennau.
Anfanteision
-
- Os yw'r gyfradd y mae'n olrhain yn cynyddu, felly hefyd eich taliadau morgais.
Gwyliwch rhag
- Y print mân – gwiriwch na all eich benthyciwr gynyddu cyfraddau hyd yn oed pan nad yw'r gyfradd y mae eich morgais wedi'i chysylltu â hi wedi symud. Mae'n brin, ond mae wedi digwydd yn y gorffennol.
Cymharu cynigion
Wrth gymharu'r cynigion hyn, peidiwch ag anghofio edrych ar y ffioedd am eu tynnu allan, yn ogystal â'r cosbau ymadael.