Pan ddechreuwch gynnal eich hun yn ariannol, mae llawer o bethau i feddwl amdanynt. Er gall ymddangos yn gymhleth, yn y canllaw hwn rydym wedi rhestru’r pethau mwyaf pwysig i’w ystyried, a’ch cyfeirio i’r canllawiau gorau i’ch helpu i fynd ar y trywydd cywir gyda’ch arian.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Dechrau ar y trywydd cywir gyda’ch arian
Pe bai eich bod newydd raddio, symud allan neu ddechrau eich swydd gyntaf, os gallwch drefnu’r pethau sylfaenol gyda’ch arian nawr, mi fydd yn haws cyrraedd targedau arian yn y dyfodol.
Rydym wedi cyhoeddi cyngor ar wahân i fyfyrwyr yn ein hadran Arian myfyrwyr a graddedigion.
Deall cyflog a phensiynau fel gweithiwr ifanc neu brentis
Pan ddechreuwch swydd neu brentisiaeth, dylech wirio eich bod yn derbyn o leiaf isafswm cyflog am eich oedran a’ch bod yn cael eich trethu’n gywir. Dylech hefyd feddwl am gynilo ar gyfer ymddeol cyn gynted ag ydych yn dechrau ennill cyflog.
Darganfyddwch yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer eich grŵp oedran. I sicrhau eich bod yn cael eich talu’n gywir, mae’n bwysig eich bod yn deall y taliadau a’r didyniadau a fydd ar eich slip cyflog. Rydym yn esbonio’r rhain yn ein canllaw Deall eich slip cyflog.
Fel prentis, mae rheolau gwahanol ynghylch eich tâl, rydym yn esbonio'r rhain yn ein canllaw Esbonio Prentisiaethau.
Mae rheolau penodol yn berthnasol hefyd os ydych yn weithiwr dros dro neu asiantaeth. Darllenwch ein canllaw Tâl a buddion i weithwyr dros dro a gweithwyr asiantaeth.
Os ydych 22 oed a throsodd, ac yn ennill dros £10,000 y flwyddyn, bydd eich cyflogwr yn eich ymrestru’n awtomatig i bensiwn gweithle. Darllenwch ein canllaw Sut mae ymrestru awtomatig pensiwn yn gweithio.
Hyd yn oed os ydych o dan 22 oed neu’n ennill llai na £10,000 y flwyddyn, efallai byddwch yn penderfynu ddechrau talu i bensiwn gweithle.
Talu rhent a biliau
Mae'n debyg mai eich treuliau byw fel rhent a biliau cyfleustodau yw eich costau misol mwyaf. Er efallai na fydd yn bosibl chwilio am fargeinion ynni ar hyn o bryd, gallwch barhau i ddilyn ein hawgrymiadau i gadw ar ben eich biliau.
Cyn rhentu, dylech deall faint o rent y gallwch ei fforddio a chyn i chi lofnodi unrhyw waith papur gwnewch yn siŵr eich bod yn deall unrhyw delerau cytundebol a'r hyn rydych yn gyfrifol amdano.
Mae'n bwysig peidio â niweidio'ch statws credyd, felly dylech bob amser geisio help ar yr arwydd cyntaf o anhawster talu rhent. Gall ein canllaw Help gydag ôl-ddyledion rhent a phroblemau wrth dalu’ch rhent eich helpu.
Mae talu am filiau cartref yn bryder i lawer o bobl, a gall fod yn anodd gwybod pryd i newid neu aros gyda'ch darparwr. Mae ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau cartref yn rhoi rhai awgrymiadau i chi.
Rheoli arian a hybu’ch incwm
I gadw ar ben eich arian, dylai eich incwm allu talu eich costau byw misol. Gall creu cyllideb wythnosol eich helpu i gael llun cliriach o’r arian sydd gennych yn dod i mewn, a’r costau mae’n rhaid talu.
Mae ein Canllaw syml i reoli eich arian ac awgrymiadau am fyw ar gyllideb yn llefydd da i ddechrau os ydych yn dysgu i reoli eich arian.
Mae gan gyfrifon banc sawl mantais a thelerau ac amodau gwahanol - gall ein canllaw Sut mae dewis y cyfrif banc cywir eich helpu i ddewis yr un cywir ar gyfer eich anghenion.
Os yw’r swm o arian sydd gennych yn dod i mewn yn newid, gall ein canllaw Sut i gyllidebu ar gyfer incwm afreolaidd fod yn help.
Dylech feddwl yn ofalus cyn buddsoddi eich arian i hybu’ch incwm, yn enwedig cryptoarian neu ddewis stociau unigol. Darllenwch ein canllaw yn gyntaf i sicrhau eich bod yn deall risgiau buddsoddi.
Pobl ifanc a budd-daliadau
Os ydych yn chwilio am waith neu ar incwm isel, gallwch Wneud yn siŵr eich bod yn derbyn yr hawliau cywir, gan gynnwys Credyd Cynhwysol. Cadwch mewn cof gall cymhwyster am fudd-daliadau a grantiau fod yn wahanol i bobl 16-24 oed yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gan gynnwys lle rydych yn byw yn y DU.
Os oes gennych blentyn i ofalu amdanynt, gwiriwch os ydych yn hawlio’r holl cymorth y gallwch gael yn ein canllawiau Help gyda chostau gofal plant a Pa fudd-daliadau gallaf eu hawlio pan fyddaf yn feichiog neu wedi cael babi. Gallwch hefyd ddarganfod mwy am help y llywodraeth i rieni gyda chostau gofal plantYn agor mewn ffenestr newydd ar childcarechoices.gov.uk.
Mae Job Start PaymentYn agor mewn ffenestr newydd ar gael i bobl ifanc 16 i 24 oed yn yr Alban i’w helpu gyda chostau symud i waith ar ôl bod allan o waith ac ar fudd-daliadau incwm isel am 6 mis cyn dod o hyd i swydd. Mae taliadau’n uwch bobl ifanc sydd â phlant.
Os ydych o dan 18 oed ac yn ofalwr ifanc, efallai eich bod yn gymwys am gefnogaeth ariannol.
Os ydych 16 neu 17 oed ac yn gadael gofal efallai gallwch hefyd hawlio budd-daliadau er mwyn eich cefnogi os ydych yn byw’n annibynnol.
Cynilo am argyfwng ac eich dyfodol
Mae rhoi arian i un ochr ar gyfer eich dyfodol yn arfer dda. Hyd yn oed os allwch ond cynilo swm bach pob ddiwrnod cyflog, byddwch yn dysgu pa mor wobrwyol gall fod i weld eich cyfrif yn tyfu. Os oes gennych gynilion i gwympo nôl arnynt, byddwch wedi’ch paratoi’n well ar gyfer argyfwng, gan leihau’r angen i fenthyca arian.
Adolygwch ein canllaw i ddechreuwyr sut i ddechrau cynilo. Mae ein canllaw Cynilion ar gyfer argyfwng - faint sy’n ddigon hefyd yn rhoi awgrymiadau da.
Mae cyfrifon cynilo fel arfer yn cynnig swm isel o log, ond mae rhai cynlluniau cynilo sydd wedi’u cefnogi gan y llywodraeth sydd yn cynnig bonws llawer fwy. Os ydych o dan 40 oed ac yn edrych i gynilo am eich cartref cyntaf, gall ISA Gydol Oes (LISA) rhoi bonws 25% o hyd at £1,000 y flwyddyn yn ychwanegol tua’ch blaendal. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw am ISAs Gydol Oes.
Os ydych ar fudd-daliadau cymwys, mae cyfrif Cymorth i Gynilo yn cynnig bonws o hyd at 50% ar beth rydych yn ei gynilo am 4 blynedd. Gwiriwch os ydych yn gymwys am gyfrif a dysgwch sut mae’n gweithio yn ein canllaw Esbonio Cymorth i Gynilo.
Amddiffyn eich eiddo
Dylech ystyried yswirio unrhyw beth rydych yn berchen arno sydd yn bwysig i chi a gall fod yn anodd ei newid os caiff ei golli, dirywio neu ddwyn. Siopwch o gwmpas am y bargenion gorau, yn enwedig pan ddaw’r amser i adnewyddu eich polisïau yswiriant.
Efallai nad ydych wedi ystyried cael yswiriant cynnwys os ydych yn rhentu. Gall ein blog Rydw i’n rhentu – ydw i angen yswiriant? eich helpu i benderfynu os mai hwn yw’r dewis orau i chi.
Ar gyfer rhai eiddo personol a theclynnau, megis ffonau, efallai y byddwch am gymryd yswiriant wedi'i eitemeiddio. Gall ein canllaw Oes angen yswiriant ffôn symudol arnoch? eich helpu i benderfynu
Os ydych am yrru, mae’n rhaid i chi gymryd yswiriant allan, a all fod yn ddrud. Gwelwch y ffeithiau allweddol ar sut i gadw costau i lawr yn ein canllaw Yswiriant car i yrwyr ifanc – y ffeithiau allweddol.
Gall Rhedeg car fel gyrrwr ifanc fod yn ddrud, felly edrychwch ar ein canllaw i’ch helpu i ddeall y costau.
Benthyg a defnyddio credyd yn gyfrifol
Gall benthyg arian eich helpu i ledaenu cost prynu rhywbeth rydych ei angen dros gyfnod hirach. Gan eich bod fel arfer yn talu llog, gall benthyg fod yn ddrud. Sicrhewch eich bod yn deall cost gyflawn cymryd credyd ac eich bod yn gallu fforddio ad-daliadau.
Yn gyntaf dylech sicrhau gallwch fforddio benthyg ac yna gyfrifo faint y bydd yn eich costio dros y cyfnod llawn y bydd yn cymryd i chi ad-dalu’r benthyciad, cytundeb prynu nawr talu wedyn neu gerdyn credyd.
Cyn i chi drefnu gorddrafft gyda’ch banc neu gymdeithas adeiladu, darllenwch ein canllaw Egluro gorddrafftiau.
Os oes modd i chi ymuno ag undeb credyd, efallai gallwch gael mynediad at raddfa fwy fforddiadwy o fenthyg. Gwiriwch ein canllaw ar fenthyca gan undeb credyd.
Mae’n dod yn fwy cyffredin i siopau a gwefannau cynnig Prynu Nawr Talu Wedyn ar eich pryniad. Darllenwch ein canllaw Beth yw Prynu Nawr Talu Wedyn? i ddeall sut mae hwn yn gweithio a sut i’w ddefnyddio mewn modd cyfrifol.
Pryd bynnag y byddwch yn gwneud cais am gredyd ac yn gwneud ad-daliadau, dylech bob amser fod yn ymwybodol o'r effaith y gall hyn ei chael ar eich statws credyd. Mae ein canllaw yn dweud wrthych sut i wirio eich bod yn gwella eich sgôr credyd.
Datrys problemau ariannol
Mae problemau ariannol yn gyffredin, yn enwedig wrth ddelio gyda chostau byw cynyddol, pan mae’ch incwm yn ansicr, neu nad ydych wedi arfer cyllidebu ar gyfer costau annisgwyl. Mae cymorth a chyngor ar gael am ddim, felly peidiwch bod ag ofn ceisio am gymorth pan rydych yn adnabod problem.
Os ydych mewn peryg o fethu taliad credyd neu bil, edrychwch ar ein canllaw ar Sut i flaenoriaethu’ch dyledion a defnyddiwch ein teclyn blaenoriaethwr biliau.
Mae ein canllaw ar le i ddod o hyd i help os ydych yn cael trafferth gyda dyledion hefyd yn ddechrau defnyddiol.
Ceisiwch am help proffesiynol dienw ac am ddim yn syth os ydy’ch dyledion yn pentyrru. Mae ein teclyn canfyddwr cyngor ar ddyledion yn eich galluogi i ddod o hyd i help yn gyflym.
Gall problemau arian effeithio ar eich iechyd meddwl. Gall ein canllaw Problemau ariannol a lles meddyliol eich helpu.