Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol

      Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    • Budd-daliadau os oes gennych blant

      Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

      Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

      Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    • Budd-daliadau a gwaith

      Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

      Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    • Problemau gyda budd-daliadau

      Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    • Budd-daliadau

      Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau

      Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    • Cyllidebu

      Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    • Prynu a rhedeg car

      Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    • Credyd

      Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    • Yswiriant

      Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    • Arian bob dydd

      Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant

      Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    • Marwolaeth a phrofedigaeth

      Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    • Ysgariad a gwahanu

      Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    • Salwch ac anabledd

      Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    • Gofal tymor hir

      Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    • Arian myfyrwyr a graddedigion

      Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    • Siarad am arian

      Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    • Teulu a gofal

      Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref

      Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    • Rhentu

      Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    • Cartrefi

      Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw

      Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    • Delio â dyled

      Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    • Problemau a chwynion am arian

      Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    • Sgamiau

      Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    • Problemau ariannol

      Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn

      Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    • Esbonio pensiynau

      Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    • Problemau a newidiadau pensiwn

      Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

      Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    • Pensiwn y Wladwriaeth

      Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    • Cymryd eich pensiwn

      Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    • Treth a phensiynau

      Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn

      Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo

      Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    • Buddsoddi

      Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    • Math o gynilion

      Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    • Cynilion

      Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth

      Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    • Colli eich swydd

      Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    • Hunangyflogaeth

      Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    • Gwaith

      Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    • Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    • Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    • Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    • Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    • Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    • Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    • Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    • Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    • Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    • Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    • Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    • Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    • Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    • Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    • Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    • Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    • Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    • Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    • Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    • Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    • Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    • Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    • Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    • Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    • Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    • Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    • Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    • Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    • Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    • Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    • Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    • Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    • Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Budd-daliadau
  3. Problemau gyda budd-daliadau
Budd-daliadau Problemau gyda budd-daliadau

Sgamiau Credyd Cynhwysol

Mae pobl yn cael eu targedu gan sgamwyr sy’n cynnig benthyciadau a grantiau’r llywodraeth neu’r cyngor lleol sy’n gysylltiedig â cheisiadau Credyd Cynhwysol. Os byddwch yn dioddef sgam, mae’n debygol y bydd angen i chi ad-dalu’r arian hwn o hyd. Darganfyddwch sut y gallech gael eich targedu, sut i osgoi sgam a beth gallwch ei wneud os oes angen help arnoch i wneud cais am grant neu fenthyciad gan y llywodraeth.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Beth yw sgam Credyd Cynhwysol?
  • Sut gallai twyllwr Credyd Cynhwysol gysylltu â chi?
  • Mae rhywun wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn fy enwi: beth ydw i’n ei wneud?
  • Sgamiau Rheoli Dyled y DWP: sylwi ar rybuddion ad-dalu ffug
  • Pam na ddylech adael i rywun gwneud cais ar eich rhan?
  • Sut i osgoi sgam Credyd Cynhwysol
  • Cael y cymorth cywir i wneud cais am Gredyd Cynhwysol neu Daliad Ymlaen Llaw
  • Beth i’w wneud os ydych wedi cael eich targedu gan sgam Credyd Cynhwysol

Beth yw sgam Credyd Cynhwysol?

Y brif ffordd y gall sgam Credyd Cynhwysol ddigwydd yw os bydd rhywun yn cynnig gwneud cais am Daliad Ymlaen Llaw o Gredyd Cynhwysol ar eich rhan ac yn cymryd peth o’r arian hwnnw fel ffi, neu hyd yn oed dargyfeirio’r taliad cyfan i’w cyfrif eu hunain

Yn aml byddant yn eich temtio drwy awgrymu mai arian am ddim ydyw gan y llywodraeth.

Gall Taliad Ymlaen Llaw o Gredyd Cynhwysol fod hyd at fis llawn o daliad Credyd Cynhwysol. Gall sgamwyr gymryd cyfran fawr fel ffi – 40% neu fwy.

Nol i’r brig

Sut gallai twyllwr Credyd Cynhwysol gysylltu â chi?

Cadwch rif cywir DWP yn eich llyfr ffôn

Roedd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn arfer ffonio o rif a ddaliwyd yn ôl, ond nawr bydd yn dangos ar eich galwadau sy'n dod i mewn fel 0800 023 2635. Mae'n werth cadw’r rhif hwn yn llyfr cyfeiriadau eich ffôn fel eich bod yn cofio ateb yr alwad.

Mae nifer o ffyrdd y gallai twyllwr Credyd Cynhwysol gysylltu â chi.

Mae rhai pobl wedi rhoi gwybod eu bod wedi cael eu targedu yn y cartref, neu wyneb yn wyneb, gan bobl mewn dillad trwsiadus sy’n honni eu bod o Ganolfan Byd Gwaith

Mae eraill wedi cael cyswllt ar-lein drwy grwpiau ar y cyfryngau cymdeithasol, negeseuon uniongyrchol a hysbysebion.

Mae pobl wedi cael cyswllt ar-lein hefyd gan bobl sy’n honni bod ganddynt ffrind sy’n gweithio mewn Canolfan Gwaith a fydd yn medru prosesu neu gymeradwyo’r cais ar eich rhan.

Mae gan rai o’r sgamwyr hyn broffiliau cyfryngau cymdeithasol a gwefannau sy’n edrych yn broffesiynol, gyda thystebau a logos y llywodraeth.

Mae gan y DWP hefyd ganolfannau Gwasanaeth Atal Twyll a GwallauYn agor mewn ffenestr newydd a allai gysylltu â chi i wirio'ch hawliad.  

Os nad ydych yn siŵr bod y person sy’n honni ei fod yn swyddog DWP yn wirioneddol o’r DWP, gofynnwch iddynt roi neges fer yn eich dyddlyfr ar-lein

Darganfyddwch fwy am sylwi ac osgoi sgamiau yn ein canllaw Canllaw dechreuwr i dwyll
Nol i’r brig

Mae rhywun wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn fy enwi: beth ydw i’n ei wneud?

Os ydych chi'n meddwl bod rhywun wedi defnyddio eich manylion personol i wneud cais am Gredyd Cynhwysol heb eich caniatâd, mae'n bwysig gweithredu'n gyflym. Efallai y byddwch yn sylwi ar lythyrau, negeseuon e-bost neu negeseuon testun annisgwyl gan y DWP, newidiadau i gyfrif Credyd Cynhwysol nad oeddech chi'n ei wneud, neu ddarganfod cais nad ydych chi'n ei adnabod.

Beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl bod eich hunaniaeth wedi'i ddefnyddio:

  • Cysylltwch â'r DWP ar unwaith gan ddefnyddio'r manylion cyswllt swyddogol ar GOV.UK neu drwy eich dyddlyfr Credyd Cynhwysol os oes gennych gyfrif eisoes.
  • Sicrhewch eich cyfrif Credyd Cynhwysol drwy newid eich cyfrinair ar unwaith os ydych chi'n meddwl y gallai rhywun arall fod wedi cael mynediad ato.
  • Cysylltwch â'ch banc os yw arian wedi gadael eich cyfrif
  • Gwiriwch eich adroddiad credyd am unrhyw weithgaredd annisgwyl a allai nodi twyll hunaniaeth.
  • Rhowch wybod am y twyll i Report FraudYn agor mewn ffenestr newydd (a elwid gynt yn Action Fraud) i gael cymorth ychwanegol.

Cadw cofnod o’r hyn sy’n digwydd

Os ydych chi'n rhoi gwybod am dwyll, gall helpu i gadw cofnod:

  • o’r dyddiad a'r amser y gwnaethoch sylwi ar y broblem
  • o gopïau neu sgrinluniau o negeseuon e-bost, negeseuon testun neu negeseuon ar-lein
  • o unrhyw lythyrau rydych chi wedi'u derbyn
  • o rifau cyfeirnod o'r DWP, eich banc neu Report Fraud
  • o nodiadau o unrhyw alwadau ffôn, gan gynnwys pwy wnaethoch chi siarad â nhw.

Gall cadw'r wybodaeth hon gyda'i gilydd ei gwneud hi'n haws os oes angen i chi roi gwybod am y twyll i fwy nag un sefydliad neu os gofynnir i chi gael rhagor o wybodaeth yn nes ymlaen.

Os ydych chi wedi colli arian neu wedi rhannu gwybodaeth bersonol gyda sgamwr, rhowch wybod am hynny cyn gynted â phosibl.

Nol i’r brig

Sgamiau Rheoli Dyled y DWP: sylwi ar rybuddion ad-dalu ffug

Weithiau mae sgamwyr yn esgus eu bod o Rheoli Dyled y DWP i geisio eich argyhoeddi bod gennych arian sy'n ddyledus ac mae angen iddo ei ad-dalu ar unwaith. Efallai y byddant yn cysylltu â chi dros y ffôn, neges destun, e-bost neu lythyr a honni y byddant yn cymryd camau pellach os na fyddwch chi'n talu ar unwaith.

Efallai y bydd tîm Rheoli Dyled y DWP go iawn yn cysylltu â chi os oes gennych arian yn ddyledus i'r DWP, ond ni fyddant yn rhoi pwysau arnoch i wneud taliad ar unwaith nac yn gofyn i chi drosglwyddo arian i gyfrif banc personol.

Os nad ydych yn siŵr a yw cais ad-dalu yn ddilys:

  • peidiwch â gwneud taliad nes eich bod wedi gwirio ei fod yn ddilys
  • defnyddiwch fanylion cyswllt swyddogol y DWP ar GOV.UK i wirio a oes gennych unrhyw arian yn ddyledus
  • peidiwch â defnyddio'r rhif ffôn neu'r dolenni sydd wedi'u cynnwys mewn neges amheus
  • peidiwch byth â rhannu cyfrineiriau, PINs na chodau diogelwch gydag unrhyw un sy'n cysylltu â chi yn annisgwyl.
Nol i’r brig

Pam na ddylech adael i rywun gwneud cais ar eich rhan?

Nid oes angen talu rhywun i wneud cais am Daliad Ymlaen Llaw na Chredyd Cynhwysol ar eich rhan. A bydd dwy broblem ddifrifol eraill yn codi os gadewch i rywun wneud hynny.

Yn gyntaf, mae’n debygol y bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r taliad ymlaen llaw cyfan i’r Adran Gwaith a Phensiynau, gan gynnwys yr arian y cododd y sgamwr arnoch fel ffi.

Daw hwn allan o’ch taliadau Credyd Cynhwysol i’r dyfodol, a allai olygu y byddwch yn brin o arian.

Yn ogystal, os bydd angen taliad ymlaen llaw arnoch, wrth dalu rhywun i wneud cais ar eich rhan, byddwch yn colli rhan o’r arian y gallech ei gael.

Gall hefyd greu problemau difrifol os nad ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol eto a gallech fod mewn sefyllfa hyd yn oed yn waeth na’r disgwyl.

Nol i’r brig

Sut i osgoi sgam Credyd Cynhwysol

Gallwch ond cael taliad ymlaen llaw os ydych yn disgwyl eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, felly gallai’r modd y cewch eich targedu fod ychydig yn wahanol.

Os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

Os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn barod ond yn dal i ddisgwyl am eich taliad cyntaf, Bydd sgamwyr yn cynnig gwneud cais am Daliad Ymlaen Llaw ar eich rhan. Byddant yn cymryd rhywfaint o’r arian fel ffi neu’n dargyfeirio’ch taliad i’w cyfrif eu hunain.

Byddant yn gofyn i chi am eich manylion mewngofnodi Credyd Cynhwysol ac yn honni bod ganddynt allu i gael rhyw fath o fynediad at wybodaeth fewnol, fel ffrind yn gweithio yn y Ganolfan Byd Gwaith a all gymeradwyo’r taliadau hyn yn gyflym.

Os ydych eisoes yn hawlio budd-daliadau

Os ydych eisoes yn hawlio budd-daliadau, ond nid Credyd Cynhwysol, bydd twyllwyr yn gyntaf yn cynnig gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar eich rhan. Neu efallai byddent yn honni y gallant wneud cais am fenthyciad neu grant, ond mewn gwirionedd yn cyflwyno cais Credyd Cynhwysol ar eich rhan.

I wneud hyn, bydd twyllwyr yn gofyn am wybodaeth bersonol er mwyn iddynt fedru gwneud cais ar-lein. Er enghraifft, gallent ofyn am dystiolaeth o bwy ydych, manylion cyfrif banc a rhif Yswiriant Gwladol.

Os nad ydych yn hawlio unrhyw fudd-daliadau ar hyn o bryd

Ni all rhai pobl wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Er enghraifft, y rhan fwyaf o fyfyrwyr amser llawn, pobl â rhai mathau o statws mewnfudo a phobl sydd â mwy na £16,000 mewn cynilion.

Fodd bynnag, mae’r bobl hyn hefyd yn cael eu targedu gan dwyllwyr Credyd Cynhwysol.

Mae twyllwyr yn debygol o wneud i hyn ymddangos fel arian am ddim ac y bydd angen cyflwyno cais am Gredyd Cynhwysol ar eich rhan ac efallai na fyddwch yn gymwys i’w gael.

Os bydd angen i chi gyflwyno cais am Gredyd Cynhwysol gallwch ofyn i’ch anogwr gwaith os bydd angen i chi wneud cais am daliad ymlaen llaw tra y byddwch yn disgwyl am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf a byddant yn dweud wrthych sut i wneud hynny.

Gofynnir i chi hefyd i ddod mewn i’ch canolfan gwaith leol gyda thystiolaeth o bwy ydych cyn gwneir y taliad i chi.

Nol i’r brig

Cael y cymorth cywir i wneud cais am Gredyd Cynhwysol neu Daliad Ymlaen Llaw

Os bydd angen help arnoch i ymgeisio am Gredyd Cynhwysol, neu Daliad Ymlaen Llaw, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth.

Mae'r gwasanaeth am ddim ac yn gyfrinachol, a gallwch gael help yn eich ardal leol. Mae ar gael i bawb ac mae'n ddefnyddiol os nad ydych yn siŵr a ddylech wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth

Mae gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth yn gyfrinachol ac am ddim. Gallant eich helpu i:

  • wirio a oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol
  • cael eich gwaith papur a’ch dogfennau pwysig at ei gilydd i gyflymu’ch cais
  • llenwi eich cais ar-lein.

Cymru a Lloegr

Am fwy o fanylion, ac i ddod o hyd i'ch cangen agosaf ewch i Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd

 

Neu yng Nghymru, ffoniwch 0800 024 1220Yn agor mewn ffenestr newydd a Lloegr, ffoniwch 0800 144 8444Yn agor mewn ffenestr newydd

 

Yr Alban

Ymwelwch â Citizens Advice ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch 0800 023 2581

 

Gogledd Iwerddon

Mae Credyd Cynhwysol yn gweithio yn wahanol. Darganfyddwch fwy ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol
Nol i’r brig

Beth i’w wneud os ydych wedi cael eich targedu gan sgam Credyd Cynhwysol

Os ydych wedi cael eich targedu, hyd yn oed os na chawsoch eich twyllo, gallwch ffonio Report Fraud ar 0300 123 2040Yn agor mewn ffenestr newydd. Neu roi gwybod amdano ar-lein ar Report FraudYn agor mewn ffenestr newydd

Dylech hefyd roi gwybod i’ch Canolfan Byd Gwaith cyn gynted â phosibl.

Os cawsoch eich targedu neu eich twyllo ar ôl i rywun gysylltu â chi ar-lein, dylech ddefnyddio’r offeryn rhoi gwybod ar Twitter, Facebook, Instagram neu Snapchat. Wrth roi gwybod iddynt, gallech atal rhywun arall rhag cael ei sgamio.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Problemau gyda budd-daliadau

Problemau gyda budd-daliadau

  • Problemau gyda Chredyd Cynhwysol
  • Beth i'w wneud os bydd eich budd-daliadau’n cael eu torri
  • Lle fedra i gael cymorth a chyngor am fudd-daliadau?
  • Beth i'w wneud nawr bod eich cyfrif cerdyn Swyddfa'r Post yn cau
  • Ad-dalu dyledion a gordaliadau budd-dal
  • Sut mae cynilion a thaliadau lwmp swm yn effeithio ar fudd-daliadau?
  • Sgamiau Credyd Cynhwysol
  • Sut i apelio yn erbyn penderfyniad am fudd-daliadau
  • Sancsiynau budd-daliadau a sut i ddelio â nhw
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Problemau gyda budd-daliadau

  • Problemau gyda Chredyd Cynhwysol
  • Beth i'w wneud os bydd eich budd-daliadau’n cael eu torri
  • Lle fedra i gael cymorth a chyngor am fudd-daliadau?
  • Beth i'w wneud nawr bod eich cyfrif cerdyn Swyddfa'r Post yn cau
  • Ad-dalu dyledion a gordaliadau budd-dal
  • Sut mae cynilion a thaliadau lwmp swm yn effeithio ar fudd-daliadau?
  • Sgamiau Credyd Cynhwysol
  • Sut i apelio yn erbyn penderfyniad am fudd-daliadau
  • Sancsiynau budd-daliadau a sut i ddelio â nhw
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Trustpilot
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun – dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc). 

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012