Mae prentisiaeth yn swydd go iawn â hyfforddiant, fel y gallwch ennill cyflog wrth i chi ddysgu a chael eich hyfforddi’n llawn yn eich dewis o alwedigaeth erbyn diwedd y brentisiaeth. Mae’n eich galluogi i chi wella eich sgiliau a symud ymlaen yn eich gyrfa.
Beth yw prentisiaeth?
Peidiwch â thybio eich bod yn rhy hen. Mae prentisiaethau ar gyfer pobl sydd dros 25 oed yn gynyddol gyffredin, ac efallai mai dyna'r ffordd berffaith i chi newid eich gyrfa.
- ar gael i unrhyw un dros 16 oed, sydd heb gofrestru mewn addysg llawn amser
- ar gael mewn dros 170 o ddiwydiannau, yn cynnwys awyrofod, cyllid a ffasiwn
- yn cymryd rhwng un i bum mlynedd i gwblhau yn ddibynnol ar: oed, sgiliau a sector
- yn cyfuno hyfforddiant ymarferol ‘yn y gwaith’ â gwaith astudio academaidd a gallech weithio tuag at gymhwyster.
Enw | Lefel | Lefel addysgol gyfwerth |
---|---|---|
Intermediate |
2 |
TGAU |
Advanced |
3 |
Lefel A |
Higher |
4, 5, 6 a 7 |
Gradd sylfaen ac uwch |
Degree |
6 a 7 |
Gradd Baglor neu Feistr |
I gael eich derbyn ar brentisiaeth, mae rhaid i chi fodloni unrhyw ofynion mynediad
Darganfyddwch fwy ar GOV.UK am fanteision prentisiaethYn agor mewn ffenestr newydd
Beth fyddwn yn ei ddysgu?
Mae pob prentis yn dilyn rhaglen o astudio gymeradwy, a gynllunwyd ar gyfer y swydd y maent yn hyfforddi ar ei chyfer.
Bydd eich cyflogwr yn penderfynu strwythur eich hyfforddiant, ond yn gyffredinol mae prentisiaethau'n cyfuno:
- cynllun hyfforddiant manwl
- adolygiadau cynnydd rheolaidd
- hyfforddiant ymarferol yn y swydd
- astudio damcaniaethol mewn coleg
- profion asesu mewn cyfleuster hyfforddiant
- mentora a chefnogaeth trwy gydol eich prentisiaeth.
Erbyn diwedd y cwrs, dylech fod wedi sicrhau’r cymwysterau, sgiliau a phrofiad sy’n ofynnol gan gyflogwyr posibl yn y maes.
Faint o oriau fyddwn yn eu gweithio yr wythnos?
Dylai prentisiaid weithio am isafswm o 30 awr yr wythnos, ac uchafswm o 48, (40 os ydych o dan 18 oed).
Mae amser a dreulir oddi wrth y swydd yn y coleg neu’n hyfforddi wedi ei gynnwys yn yr oriau hyn.
Gellir dod i gytundeb ar brentisiaethau rhan amser â’ch cyflogwr, ar isafswm o 16 awr yr wythnos. Er enghraifft ble mae gan brentisiaid ddyletswyddau gofal.
Darganfyddwch fwy am brentisiaethauYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Cyflogau i Brentisiaid
Un o brif fanteision prentisiaeth yw y gallwch ennill cyflog tra rydych yn gweithio ac astudio.
Mae cyflog prentis yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys:
- y math o brentisiaeth y byddwch yn gwneud cais amdani
- eich oed, profiad a chymwysterau cyfredol
- y sector rydych yn gweithio ynddi, er enghraifft peirianneg, manwerthu neu gyllid.
Isafswm cyflog
Mae isafswm cyflog ar gyfer yr holl bobl ifanc sydd wedi cofrestru ar brentisiaethau.
Mae faint fyddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich oed a pha mor hir rydych wedi bod yn gwneud y brentisiaeth:
- Os ydych yn 16-18 oed, neu yn eich blwyddyn gyntaf a dros 19 oed, byddwch yn ennill o leiaf £6.40 yr awr (ar gyfer 2024/25).
- Os ydych wedi cwblhau eich blwyddyn gyntaf a dros 19 oed, byddwch yn ennill o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, sy’n amrywio yn ddibynnol ar eich oed.
Gall rhai cyflogwyr ddewis talu mwy na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Fel prentis, efallai bydd rhaid i chi dalu treth ac Yswiriant Gwladol ar eich enillion.
Mae gennych hawl i slip cyflog a fydd yn dangos faint y byddwch yn ei ennill a pa ddidyniadau sydd wedi cael eu gwneud.
Buddion prentis
Mae gan brentisiaid yr hawl i’r un buddion â phawb arall yn y gweithle.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- hawl i dâl salwch
- o leiaf 20 niwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn
- Tâl Mamolaeth/Tadolaeth Statudol ac absenoldeb mamolaeth/tadolaeth.
Efallai y bydd gennych hefyd hawl i wneud cais am Gredyd Cynhwysol ac elfennau i gwmpasu costau eraill fel tai neu fagu plant.
Darganfyddwch fwy am wneud cais yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol
Prentisiaethau a phensiynau gweithle
Fel prentis, byddwch yn cael eich ymrestru’n awtomatig mewn pensiwn gweithle cyn belled â’ch bod yn cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd - gan gynnwys bod o leiaf 22 oed.
Os ydych o dan 22 oed, ni fyddwch yn cael eich ymrestru’n awtomatig, ond gallwch ddewis optio i mewn i’r cynllun.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Ymrestru awtomatig - cyflwyniad
Ymrestru awtomatig os ydych yn 21 oed neu is
Ble i gael gwybod mwy
Mae prentisiaethau’n gweithio’n wahanol yn dibynnu ar ble rydych yn byw. I ddarganfod mwy ewch i:
- Cymru: Gyrfa Cymru
- Lloegr: GOV.UK
- Yr Alban: apprenticeships.scot
- Gogledd Iwerddon: nidirect