Weithiau gall graddedigion adael y brifysgol gyda symiau sylweddol o ddyled, o'ch benthyciad myfyriwr, eich gorddrafft ac unrhyw gynhyrchion credyd eraill. Nod y canllaw hwn yw eich helpu i benderfynu ar y taliadau i fynd i’r afael â nhw yn gyntaf, a materion arian eraill a allai fod gennych ynglŷn â gorffen prifysgol.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Gadael y brifysgol
- Gwneud dewisiadau da wrth i chi gael eich swydd raddedig gyntaf
- Ad-dalu eich benthyciad myfyriwr
- Newidiwch i gyfrif ar gyfer graddedigion
- Rhowch flaenoriaeth i ddyledion ar gardiau credyd a benthyciadau
- Ceisiwch gyngor dyledion rhad ac am ddim
- Dyledion benthyciad a phensiynau gweithle
Gadael y brifysgol
Os ydych chi'n symud i ffwrdd o'r lle roeddech chi'n byw yn y brifysgol, mae yna ychydig o bethau i feddwl amdanynt. Bydd llawer o fyfyrwyr yn dod â'u tenantiaeth i ben ar eu heiddo rhent ar ôl iddynt orffen eu hastudiaethau. Sicrhewch eich bod yn gwneud popeth o fewn eich gallu i gael eich blaendal yn ôl, oherwydd gallai'r arian eich helpu i symud i'ch cartref nesaf neu eich cefnogi wrth i chi chwilio am waith.
Darganfyddwch sut i adennill eich blaendal a beth i'w wneud os na allwch gytuno â'ch landlord yn ein canllaw Eich cyfrifoldebau cyfreithiol ac ariannol wrth rentu
Setlo'ch biliau
Nid yw llawer o brifysgolion yn caniatáu i chi raddio os oes gennych ddirwyon llyfrgell heb eu talu, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn eu talu. Mae'n bwysig sicrhau nad oes gennych unrhyw beth ar ôl i'w dalu tuag at gostau llety, gan gynnwys eich biliau cyfleustodau. Gall biliau di-dâl effeithio'ch statws credyd.
Os ydych chi am fod yn gymwys ar gyfer y cyfraddau benthyciad a cherdyn credyd mwyaf cystadleuol, mae angen sgôr credyd da arnoch chi.
Siaradwch â'ch landlord am gael eich blaendal yn ôl ar ddiwedd eich tenantiaeth.
Dysgwch fwy yn ein canllaw Sut i wella'ch sgôr credyd
Gwneud dewisiadau da wrth i chi gael eich swydd raddedig gyntaf
Pan fyddwch chi'n mynd trwy newidiadau bywyd fel dechrau swydd newydd, mae'n syniad da mynd i arferion arian a all eich helpu am weddill eich oes:
- neilltuo arian i gyrraedd nodau cynilo, fel car newydd neu wyliau
- aros ar ben arferion gwariant dyddiol, fel prynu coffi neu cael tecawê yn rheolaidd, a gallech gyrraedd eich nodau ariannol yn gyflymach
- dechrau talu i mewn i gynllun pensiwn cyn gynted â phosibl. Gall hyn wneud gwahaniaeth mawr i'r swm o arian sydd gennych pan fyddwch chi'n ymddeol.
Darllenwch fwy ar bensiynau yn ein canllaw Pam cynilo i mewn i bensiwn?
Ad-dalu eich benthyciad myfyriwr
Ar ôl i chi ddechrau ennill swm penodol o arian, ad-delir eich benthyciadau myfyrwyr yn awtomatig trwy'r system dreth.
Dylai didyniadau ddod i ben unwaith y byddwch wedi talu eich benthyciad myfyriwr. Os nad ydynt wedi stopio a’ch bod yn meddwl eich bod wedi gordalu, cysylltwch â’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i gael ad-daliad.
Codir llog ar y ddyled sy'n ddyledus, ond dim ond ar ôl i chi ddechrau ennill digon y bydd yn rhaid i chi wneud ad-daliadau.
Fel myfyriwr graddedig, does dim rhaid i chi ddechrau ad-dalu'ch benthyciad myfyriwr nes:
- y mis Ebrill ar ôl i chi adael eich cwrs, neu
- y mis Ebrill 4 blynedd ar ôl i'r cwrs gychwyn, os ydych chi'n astudio'n rhan-amser.
Efallai y bydd hyd yn oed yn hirach os ydych chi allan o waith neu os nad ydych chi'n ennill uwchlaw'r trothwy isafswm enillion sy'n newid bob blwyddyn. Os bydd rhywbeth annisgwyl yn digwydd, fel colli'ch swydd, bydd eich ad-daliadau yn dod i ben nes bydd eich incwm yn cyrraedd y trothwy eto.
Yn wahanol i ddyledion eraill, mae eich ad-daliadau yn unol â’ch incwm, ac os bydd eich cyflog yn disgyn o dan y trothwy bydd eich ad-daliadau’n dod i ben. Dyma pam na ddylech flaenoriaethu talu eich benthyciad myfyriwr dros eich gorddrafft neu gardiau credyd.
Nid yw benthyciadau myfyrwyr yn mynd ar ffeiliau credyd, ond os ydych chi'n cael benthyciad mawr fel morgais efallai y bydd y cwmni'n gofyn a oes gennych chi un er mwyn iddyn nhw allu cymryd hynny i ystyriaeth.
Sut mae'r hunangyflogedig yn ad-dalu benthyciadau myfyrwyr
Yn wahanol i fenthyciadau eraill, byddwch fel arfer yn ad-dalu’ch benthyciad myfyriwr yn uniongyrchol o’ch slip cyflog, mewn ffordd debyg i sut rydych yn talu treth incwm.
Darllenwch fwy yn ein canllaw Deall eich slip cyflog
Ar gyfer yr hunan-gyflogedig, gwneir hyn pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar ddiwedd pob blwyddyn dreth, pan fyddwch yn cyfrifo’ch enillion a’r hyn sy’n ddyledus gennych mewn ad-daliadau treth ac ad-daliadau benthyciad myfyriwr, ac yna’n ei hanfon i CThEM. Byddwch hefyd yn llenwi un os oes gennych incwm hunangyflogedig ar ben eich enillion TWE arferol.
Os ydych yn hunangyflogedig ac nad ydych yn gwneud yr ad-daliadau benthyciad myfyriwr sydd wedi’u cyfrifo ar eich cyfer, efallai y bydd casglwyr dyledion yn ymweld â chi a hyd yn oed yn gofyn i chi fynd i’r llys. Darganfyddwch fwy ar wefan y Cwmni Benthyciadau i FyfyrwyrYn agor mewn ffenestr newydd
Newidiwch i gyfrif ar gyfer graddedigion
Unwaith i chi adael y brifysgol neu'r coleg, mae gennych chi'r dewis i gadw'ch cyfrif myfyriwr neu newid i gyfrif graddedig.
Does dim rhaid i chi aros gyda'r un banc, felly mae'n werth siopa o gwmpas am fargen well.
Eich cam nesaf yw trosglwyddo i gyfrif graddedigion er mwyn rhoi amser i chi ad-dalu’ch gorddrafft myfyriwr.
Darganfyddwch faint o amser y bydd eich banc yn ei roi i chi ad-dalu’ch gorddrafft a pha bryd y bydd y trothwy awdurdodedig yn cael ei leihau.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae eich lwfans gorddrafft yn lleihau ychydig bob blwyddyn.
Defnyddiwch hwn fel cyfle i ail-gydbwyso'ch cyllideb ar ôl i chi raddio. Ar ôl i chi dalu eich gorddrafft myfyriwr, gallwch newid i gyfrif sy'n cynnig bonws newid neu log gwell am gynilion.
Darllenwch fwy yn ein canllaw Sut mae dewis y cyfrif banc cywir
Rhowch flaenoriaeth i ddyledion ar gardiau credyd a benthyciadau
Neilltuwch ychydig o’ch incwm i gychwyn lleihau dyledion sydd â chyfraddau llog uchel o gardiau credyd, benthyciadau o’r banc a'ch gorddrafft.
Er bod eich gorddrafft yn debygol o fod heb ffi tra roeddech chi'n astudio, bydd y cyfnod di-log hwn yn dod i ben. Mae'n syniad da ei ad-dalu cyn gynted ag y gallwch er mwyn osgoi taliadau llog mawr yn nes ymlaen. Mae llog gorddrafft cyfrif cyfredol safonol yn aml mor uchel â 40%, sy'n sylweddol uwch na chyfradd nodweddiadol ar gyfer benthyciad personol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro gorddrafftiau
Ar unrhyw ddyledion eraill fel cardiau credyd neu brynu nawr talwch yn hwyrach, gwnewch o leiaf yr ad-daliadau lleiaf a sicrhewch na fyddwch yn colli unrhyw randaliadau.
Os gwnewch hynny, gallai effeithio'ch statws credyd a'ch gallu i fenthyca ar gyfer cartref neu gar yn y dyfodol.
Ceisiwch gyngor dyledion rhad ac am ddim
Os nad yw gwneud toriadau synhwyrol i gwrdd â'ch ad-daliadau yn helpu a'ch bod yn gweld bod eich sefyllfa ariannol yn eich poeni, dylai cael cyngor ar ddyledion am ddim fod y cam nesaf i chi.
Mae llawer o wasanaethau rhad ac am ddim a chyfrinachol a all eich helpu.
Edrychwch ar ein canllaw Ble i gael cyngor am ddim ar ddyledion
Dyledion benthyciad a phensiynau gweithle
Gallai dyled myfyrwyr eich temtio i roi'r gorau i wneud taliadau i bensiwn gweithle.
Ond cofiwch, mae cynilo ar gyfer ymddeoliad yn hanfodol ar gyfer eich lles i’r dyfodol, felly ni ddylech ystyried rhoi’r gorau i bensiwn gweithle oni bai bod sefyllfa eich dyled wedi mynd allan o reolaeth.