Sut i ddewis cyfrif banc

Mae llawer o wahanol gyfrifon cyfredol i ddewis ohonynt, gan gynnwys rhai sydd â manteision fel arian yn ôl ar filiau, gwariant tramor heb ffi a llog cynilo. Dyma sut i ddod o hyd i'r cyfrif gorau i chi.

Rhestrwch y nodweddion cyfrif sydd eu hangen arnoch

Mae bron pob cyfrif cyfredol yn caniatáu i chi:

  • ddefnyddio cerdyn debyd i wario ar-lein neu mewn siopau a thynnu arian allan o beiriannau arian parod
  • derbyn arian gan eraill, fel cyflogau neu fudd-daliadau
  • symud arian rhwng eich cyfrifon neu dalu rhywun arall 
  • sefydlu taliadau rheolaidd i dalu biliau, fel ynni, rhent neu ofal plant
  • agor cyfrif ar y cyd

Dyma'r pethau sylfaenol y gallwch eu disgwyl. Fodd bynnag, i'w gwneud eu hunain yn amlwg, mae rhai cyfrifon yn cynnig manteision ychwanegol fel:

  • llog ar gynilion
  • arian yn ôl ar filiau neu wariant 
  • gorddrafftiau di-log, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr
  • gwariant tramor am ddim
  • gwobrau neu arian parod am ddim, yn aml ar gyfer newid 
  • mynediad at gynhyrchion arbennig gyda chyfraddau neu ostyngiadau gwell  
  • pecynnau o bolisïau yswiriant, fel yswiriant teithio a ffôn symudol.   

Gwiriwch bob cytundeb yn ofalus gan fod amodau i'w bodloni fel arfer, fel gorfod talu swm penodol bob mis neu wneud taliadau drwy Ddebyd Uniongyrchol. Cadwch lygad allan am unrhyw ffioedd misol i gadw'r cyfrif.  

Yna gallwch leihau'r cynigion i'r rhai rydych chi eu heisiau, y rhai rydych yn gymwys ar eu cyfer ac y gallwch eu fforddio.  

Penderfynwch sut yr hoffech gysylltu â'r banc

Byddwch yn gallu rheoli'r rhan fwyaf o gyfrifon gan ddefnyddio bancio symudol ac ar-lein, yn aml gyda mynediad at dîm gwasanaeth cwsmeriaid dros y ffôn neu alwad fideo. Ond efallai na fyddwch yn gallu siarad â rhywun yn bersonol.

Os hoffech chi'r opsiwn hwn, gwiriwch:

  • a oes canghennau gan y banc y gallwch eu cyrraedd
  • a oes staff ar gael mewn canolfan fancio leol, lle mae gwahanol fanciau yn rhannu un lle – yn aml ar ddiwrnodau gwahanol 
  • a yw’r banc yn gadael i chi ddefnyddio Swyddfa'r Post i wneud rhai pethau, fel talu arian parod i mewn.    

Os ydych yn ystyried gorddrafft

Mae gorddrafft yn caniatáu i chi wario mwy nag sydd gennych yn eich cyfrif. Fel arfer, byddwch yn talu llog dyddiol drud i'w ddefnyddio.

Mae'n fath o ddyled, felly dim ond ar gyfer argyfyngau neu opsiwn tymor byr y dylid ei ddefnyddio.

Dyma ganllaw cyflawn i orddrafftiau, ond gwiriwch bob amser:

  • os oes terfyn di-log neu glustog ar gyfer gwario mwy nag sydd gennych 
  • cyfradd llog y gorddrafft
  • ffioedd os nad oes gennych ddigon o arian i dalu am daliadau.

Os ydych eisiau newid cyfrif sy’n bodoli eisoes

Mae’r Current Account Switch Service (CASS) yn golygu y gall arian a thaliadau gael eu symud yn awtomatig o’ch hen gyfrif i’ch cyfrif newydd. Mae hyn yn cynnwys ailgyfeirio unrhyw daliadau sydd i ddod.

Mae’n cymryd saith diwrnod gwaith a byddwch yn cael eich ad-dalu am unrhyw log neu ffioedd os aiff pethau o’i le. Mae bron pob banc yn defnyddio hwn, ond gallwch wirio rhestr lawn y banciau sydd wedi cofrestru i CASSYn agor mewn ffenestr newydd

Am help llawn, gweler Sut i agor, newid neu gau eich cyfrif

Mae hyd at £85,000 y person, fesul grŵp bancio fel arfer yn cael ei ddiogelu

Mae’r rhan fwyaf o gyfrifon banc yn cael eu diogelu gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS). Pe bai’ch banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd yn methu, sy’n annhebygol o ddigwydd, byddech yn cael eich arian yn ôl yn awtomatig – hyd at £85,000 y person.

Gallwch ddefnyddio gwiriwr diogelwch FSCSYn agor mewn ffenestr newydd i wirio a yw eich banc wedi'i ddiogelu.

Os nad ydyw, mae’n debygol o fod yn gyfrif cyfredol rhithwir a gwmpesir gan reolau e-arian. Mae hyn yn golygu bod eich arian yn cael ei gadw’n ddiogel mewn banc gwahanol, ond byddai angen i chi wneud hawliad i’r gweinyddwr os bydd eich darparwr yn methu.

Cymharu bargeinion a darllen adolygiadau

Mae ein teclyn HelpwrArian cymharu cyfrifon banc yn eich helpu i weld nodweddion, ffioedd a thaliadau cyfrifon.

Ar gyfer adolygiadau cyfrif cyfredol, gweler: 

I ddod o hyd i fanciau gyda'r cofnod gwasanaeth cwsmeriaid gorau, gallwch ddefnyddio sgôr cwsmeriaid o raddfa ansawdd Which?Yn agor mewn ffenestr newydd

Gwirio meini prawf cymhwysedd

Unwaith y bydd gennych restr fer o gyfrifon, gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu gwneud cais.  

Er enghraifft, er mwyn bod yn gymwys i gael cyfrif, efallai y bydd angen i chi: 

  • dalu isafswm i fewn bob mis 
  • cael hanes credyd da 
  • berchen ar ffôn clyfar
  • newid cyfrif presennol i fod yn gymwys. 

Bydd angen i fanciau hefyd wirio pwy ydych chi a ble rydych chi'n byw, felly bydd angen prawf adnabod arnoch chi. Yn aml, pasbort neu drwydded yrru yw hyn, ond yn aml derbynnir dogfennau eraill hefyd.  

Am fwy o wybodaeth, gweler Sut i agor cyfrif banc.

Os ydych yn cael trafferth cael cyfrif

Os ydych chi'n cael trafferth agor cyfrif, mae opsiynau eraill i'w hystyried:  

  • Cyfrif banc sylfaenol – yn cynnig y rhan fwyaf o nodweddion cyfrif cyfredol (ac eithrio gorddrafft) ac fel arfer yn derbyn y rhai sydd â hanes credyd gwael, rhai sydd ag euogfarnau neu rai sydd yn y carchar
  • Cyfrif cyfredol undeb credyd – sy'n cael ei redeg gan sefydliadau nid-er-elw, ond efallai y byddwch yn talu ffi fisol i gael un
  • Cyfrif cerdyn rhagdaledig - yn gadael i chi wario a thynnu arian parod ond fel arfer ni allwch sefydlu taliadau.
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.