Oes angen yswiriant ffôn symudol arnoch?

Mae yswiriant ffôn symudol yn talu cost ailosod neu atgyweirio eich ffôn symudol os yw wedi'i ddwyn, ei golli neu ei ddifrodi. Ond sut ydych chi'n gwybod a oes ei angen arnoch chi, ac a yw'r polisïau hyn yn werth da? Yma edrychwn ar y pethau sylfaenol fel y gallwch wneud dewis gwybodus am yswiriant ffôn symudol.

Oes angen yswiriant ffôn symudol arnoch?

Mae yna resymau pam y gallai yswiriant ffôn symudol swnio fel syniad da. Er enghraifft, os:

  • mae gennych hanes o ffonau coll, wedi'u dwyn neu wedi'u torri
  •  mae gennych ffôn clyfar drud a/ neu rydych chi wedi'ch cloi mewn contract hirdymor
  •  ni allech fforddio newid y set law ac ni fyddech am israddio i fodel rhatach
  •  rydych yn dibynnu ar eich ffôn symudol a byddai angen un arall yn syth os cafodd ei golli, ei ddwyn neu ei ddifrodi (cofiwch fod angen i chi ddewis polisi sy'n cynnig gwasanaeth amnewid cyflym - nid yw pob un ohonynt yn gwneud hynny).

Ond er y gallai'r rhain i gyd fod yn wir, nid yswiriant ffôn symudol yw'r ateb o reidrwydd. Er enghraifft:

  • mae'n aml yn eithaf drud
  • mae opsiynau amgen gwerth gwell ar gael
  • mae llawer o bolisïau yn cynnwys gwaharddiadau sy'n eu gwneud yn anodd I wneud cais arnynt. Er enghraifft, er eu bod fel arfer yn talu cost ailosod apiau a cherddoriaeth, nid yw'r yswiriant yn cynnig unrhyw amddiffyniad rhag colli data.

Beth mae eich yswiriant ffôn symudol yn ei ddiogelu?

Ar lefel sylfaenol, mae yswiriant ffôn symudol yn eich diogelu rhag ofn i chi golli eich ffôn, cael ei ddwyn neu dorri. Mae rhai polisïau yn cynnig diogelwch hefyd rhag:

  • galwadau anawdurdodedig
  • difrod damweiniol
  • ategolion ffôn
  • amddiffyniad tra dramor, yn ogystal ag yn y DU
  • apiau, gemau, cerddoriaeth a chynnwys gwerthfawr arall.

Ond mae polisïau yn amrywio’n sylweddol, yn y math o ddiogelwch maent yn ei gynnig a’r ‘eithriadau’ (y pethau nad ydych wedi eich diogelu amdanynt).

Beth sydd ddim yn cael ei ddiogelu gan eich yswiriant ffôn symudol?

Dyma rai o’r prif eithriadau a all ymddangos mewn polisi:

Esgeulustod

Os gyrrwch ymaith gyda’r ffôn ar do eich car er enghraifft, mae’n bosibl na fyddwch wedi eich diogelu. Gallai’r cwmni yswiriant wrthod talu’r cais ar y sail na fuoch chi’n ddigon gofalus.

Lladrad tra gadawyd heb oruchwyliaeth

Os gadewch eich ffôn ar sedd eich car neu ar fwrdd mewn caffi ac mae wedi diflannu erbyn i chi ddychwelyd i’w nôl, mae’n debyg na chewch eich diogelu.

Gwiriwch eiriad eich polisi neu gofynnwch i’ch cwmni yswiriant am eglurhad.

Oedi cyn rhoi gwybod bod eich ffôn wedi ei golli neu ei ddwyn

Sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod bod eich ffôn wedi ei golli cyn gynted â phosib.

Os na fyddwch chi’n gadael i’ch yswiriwr a/neu’r heddlu wybod o fewn 24 awr (12 awr ar gyfer rhai yswirwyr), ni fydd rhai yswirwyr yn eich diogelu – am y ffôn ei hun nac am alwadau anawdurdodedig a phethau a lawrlwythwyd.

Difrod gan ddŵr

Os ydych yn dueddol o ollwng eich ffôn i lawr y toiled yn ddamweiniol neu ei adael yn eich jîns yn y golch, dylech wirio a yw’ch polisi yn eich diogelu rhag difrod gan ddŵr – nid yw pob un.

Unwaith eto, gallech ddarganfod nad ydych wedi’ch diogelu yma gan nad ydych wedi cymryd ‘gofal rhesymol’.

Dim cerdyn SIM neu nid y cerdyn SIM gwreiddiol

Os nad yw’r cerdyn SIM gwreiddiol gyda chi yn eich ffôn, er enghraifft os ydych wedi newid darparwyr ac wedi gosod cerdyn SIM newydd, neu os ydych yn defnyddio ffôn gwahanol dros dro, efallai na fydd sicrwydd gyda chi.

Efallai na fyddwch yn cael ffôn arall yn ei le

Os yw’ch ffôn yn cael ei ddifrodi neu yn torri, bydd rhai yswirwyr yn ceisio’i drwsio neu roi ffôn ail-law yn hytrach na rhoi ffôn arall i chi.

Os bydd hyn yn digwydd yna bydd angen i chi fod yn barod i fod heb ffôn tra bod eich un chi yn cael ei drwsio.

Fel rheol bydd hyn yn cymryd rhwng pedwar a saith diwrnod.

Pobl ifanc

Gallech gael trafferth dod o hyd i yswiriant os ydych chi - neu'r plentyn rydych yn ei gael ar eu cyfer - dan 16 oed (neu 18 oed mewn rhai achosion). 

Beth yw cost yswiriant ffôn symudol?

Nid yw yswiriant ffôn symudol bob amser yn rhad ac mae'r gost yn dibynnu ar bethau fel brand y ffôn, y model a lefel yr yswiriant. Gall y ffordd rydych chi'n talu (premiymau blynyddol neu fisol) ac unrhyw nodweddion ychwanegol rydych chi'n eu cynnwys yn eich polisi hefyd effeithio ar y gost.

A yw’n cynnig gwerth am arian?

Nid yw gwerth am arian yn ymwneud â phris yn unig. Gwiriwch yn union beth rydych chi'n ei gael am eich arian ac a yw'n addas ar gyfer eich anghenion.

Os oes angen set law gyflym arnoch chi, er enghraifft, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael polisi sy'n ei gynnwys.

Efallai y cynigir yswiriant ffôn symudol i chi wrth brynu ffôn neu gontract newydd. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n edrych o gwmpas am fargen well cyn derbyn.

Dewisiadau eraill yn hytrach nag yswiriant ffôn symudol

Hunanyswirio

I hunanyswirio, gallwch gynilo’r arian y buasech wedi ei wario ar yswiriant ffôn symudol, i mewn i gronfa diwrnod glawog neu argyfwng.

Unwaith y byddwch wedi casglu cronfa, bydd yr arian gennych i gael ffôn arall yn lle’r un presennol os bydd angen neu i dalu am unrhyw gostau eraill annisgwyl. Mae rhai pwyntiau pwysig i'w hystyried yma:

  • Os nad ydych chi’n colli neu dorri eich ffôn, mae’r arian yn eich cyfrif banc chi yn hytrach nag yng nghyfrif y cwmni yswiriant.
  • Gallech golli neu dorri eich ffôn cyn i chi gynilo digon o arian i dalu am un newydd.
  • Un o’r costau drutaf posibl pan fydd ffôn yn cael ei ddwyn yw galwadau anawdurdodedig i rifau cyfradd premiwm a wneir yn y cyfnod cyn i chi roi gwybod i’ch darparwr rhwydwaith bod eich ffôn wedi ei ddwyn – rhaid i chi dalu am y rhain hefyd. Os ydych yn penderfynu hunanyswirio, gwnewch yn siwr eich bod yn rhoi'r arian mewn cyfrif cynilo lle gallwch cael gafael ar eich arian yn gyflym.

Rhowch eich ffôn symudol ar eich yswiriant cartref

Mae’n debyg y gwelwch y bydd eich yswiriant cynnwys cartref yn diogelu eich ffôn symudol petai’n cael ei ddwyn yn ystod lladrad tŷ.

Efallai y bydd eich cwmni yswiriant hefyd yn cynnig yr opsiwn i chi ychwanegu gorchudd difrod damweiniol ar gyfer eich ffôn yn y cartref, neu yswiriant ar gyfer eich eiddo - gan gynnwys eich ffôn - y tu allan i'r cartref.

Dyma rai pethau i'w hystyried os ydych yn ystyried cynnwys eich ffôn ar eich yswiriant cartref:

  • Mae’n ffordd gymharol rad o yswirio eich ffôn symudol (ond gweler y ddau sylw canlynol).
  • Os bydd angen i chi wneud cais am eich ffôn ar eich yswiriant cartref, gallai eich premiwm godi pan ddaw’r adeg i’w adnewyddu. Am y rheswm hwn, gwell gan rai pobl gadw eu hyswiriant cartref a’u hyswiriant ffôn symudol ar wahân.
  • Unwaith eto, os bydd angen i chi wneud cais, gallai’r tâl dros ben (y cyfanswm y bydd angen i chi ei dalu tuag at y cais) fod yn uwch ar eich yswiriant cartref na’r hyn a fuasai petai gennych yswiriant ffôn symudol ar wahân.
  • Mae ceisiadau yswiriant cartref fel rheol yn cymryd tipyn o amser i’w prosesu, a’ch gadael heb ffôn symudol yn y cyfamser. Serch hynny, os dewiswch yr yswiriwr ffôn symudol cywir, dylech fedru cael ffôn newydd ar eich union.
  • Mae’n annhebygol y diogelir galwadau anawdurdodedig.

Cael yswiriant ffôn symudol neu yswiriant fel rhan o gyfrif banc wedi'i becynnu

Mae pecynnau cyfrifon banc fel arfer yn cynnig yswiriant ffôn symudol fel un o’r buddion am dalu ffi fisol:

  • Gall hyn fod yn ffordd eithaf rhad o yswirio eich ffôn symudol.
  • Os yw’n gyfrif ar y cyd gallech hyd yn oed yswirio eich ffôn chi a'ch partner am yr un ffi.
  • Gwiriwch lefel y diogelwch bob amser – ydy o’n cwrdd â’ch anghenion? Pa mor sydyn y cewch chi ffôn newydd? A fyddwch wedi eich diogelu rhag galwadau diawdurdod?

Os ydych yn ystyried cael cyfrif pecyn banc, sicrhewch fod y buddion i chi yn drech na chost y cyfrif. 

Diogelu eich hun am ddim

Mae yna nifer o bethau y gallwch chi eu gwneud i gadw'ch ffôn symudol yn ddiogel.

Sut i ganslo yswiriant ffôn symudol

Gallwch ofyn i'ch yswiriwr ganslo eich polisi ar unrhyw adeg, ac fel arfer nid oes ffioedd canslo. Os ydych wedi talu ymlaen llaw ac nad ydych wedi gwneud cais, byddwch yn derbyn ad-daliad am y misoedd sy'n weddill.

Gofynnwch i'ch yswiriwr am help os ydych yn cael trafferth talu

Os ydych yn ystyried canslo oherwydd cost neu fforddiadwyedd, mae'n bwysig peidio â chanslo yswiriant rydych ei angen - neu i fethu taliad. Yn hytrach, cysylltwch â'ch yswiriwr a dywedwch wrthynt eich bod chi'n cael trafferth.

Mae'n rhaid i yswirwyr gefnogi cwsmeriaid sydd mewn trafferthion ariannol, felly byddant yn esbonio'ch opsiynau a'r ffyrdd y gallant helpu. Er enghraifft, gallent sefydlu cynllun ad-dalu amgen neu addasu eich yswiriant i gyd-fynd â'ch anghenion a gostwng y gost.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.