Mae undebau credyd yn darparu benthyciadau ar gyfer symiau llai na banciau neu gymdeithasau adeiladu, ac fel arfer maent yn derbyn pobl sydd wedi cael eu gwrthod yn rhywle arall. Mae angen i chi fod yn aelod i gael benthyciad, ac efallai y bydd angen rhywfaint o gynilion arnoch gyda'r undeb credyd. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Beth yw undeb credyd?
Mae undeb credyd yn cael ei redeg gan aelodau er budd cymunedau, yn hytrach na gwneud elw.
Mae hyn yn golygu ei fod yn helpu pobl i gael mynediad at gynhyrchion bancio fel cyfrifon banc, cynilion a benthyciadau - hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael eu gwrthod gan fanc neu gymdeithas adeiladu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Sut i ddod yn aelod
I ymuno ag undeb credyd, rhaid i chi rannu 'cwlwm cyffredin' ag aelodau eraill. Er enghraifft:
- byw, gweithio, astudio neu wirfoddoli mewn ardal benodol
- gweithio yn yr un diwydiant neu weithio i gyflogwyr penodol
- yn perthyn i'r un eglwys neu undeb llafur.
Efallai y bydd angen i chi hefyd dalu ffi fach neu adneuo arian i gyfrif cynilo.
Sut mae benthyciadau undeb credyd yn gweithio
Mae undebau credyd yn defnyddio arian aelodau mewn cyfrifon cynilo i roi benthyciadau i aelodau eraill.
Maent yn aml yn cynnig amrywiaeth o gynhyrchion benthyciad, o fenthyciadau bach (tua £500) i rai mwy (hyd at £5,000 neu fwy).
Fel arfer, gallwch ddewis ad-dalu o fewn chwe mis neu hyd at bum mlynedd. Efallai y bydd rhan o'ch ad-daliad benthyciad hyd yn oed yn mynd i gyfrif cynilo, felly bydd gennych gronfa o arian i'w ddefnyddio ar y diwedd.
Pwy all gael benthyciad undeb credyd?
I fod yn gymwys i gael benthyciad, efallai y bydd angen i chi:
- fod yn aelod undeb credyd am gyfnod penodol
- cael rhywfaint o arian yn ei gyfrifon cynilo.
Fel arfer, ni fydd angen i chi basio gwiriad credyd.
Faint mae benthyciad undeb credyd yn ei gostio?
Fel arfer, mae gan undebau credyd gyfraddau llog benthyciad uwch na banciau neu gymdeithasau adeiladu. Ond maen nhw fel arfer yn llawer rhatach na dewisiadau cost uchel fel benthyciadau diwrnod cyflog neu dymor byr.
Mae gan undebau credyd hefyd uchafswm cyfradd llog y gallant ei chodi:
- 42.6% APR (3% y mis) yng Nghymru, Lloegr a'r Alban
- 12.68% APR (1% y mis) yng Ngogledd Iwerddon.
Fel arfer nid oes unrhyw ffioedd na chosbau eraill a gallwch ad-dalu'r benthyciad yn gynnar.
Sut i ad-dalu benthyciad undeb credyd
Fel unrhyw fath o fenthyca, bydd angen i chi sicrhau y gallwch fforddio'r ad-daliadau – a gallu ad-dalu ar amser bob mis.
Sefydlu Debyd Uniongyrchol gyda'ch undeb credyd yw'r ffordd hawsaf o wneud taliadau'n awtomatig.
Gallwch hefyd wneud taliadau fel arfer:
· yn bersonol mewn cangen undeb credyd neu siop gyda Paypoint
· yn uniongyrchol o'ch cyflog cyn i chi gael eich talu.
Os ydych chi'n poeni y byddwch chi'n methu taliad, siaradwch â'r undeb credyd bob amser a gofynnwch am help.
Edrychwch ar Siarad â'ch credydwr am fwy o wybodaeth.
Sut i gael benthyciad undeb credyd
Cyn gwneud cais am fenthyciad undeb credyd, cymharwch eich holl opsiynau benthyca yn gyntaf.
Defnyddiwch ein teclyn eich opsiynau am fenthyca arian i weld y cynhyrchion sydd ar gael a'u manteision a'u hanfanteision.
Os yw benthyciad undeb credyd yn iawn i chi, dilynwch y camau hyn:
1. Dod o hyd i undeb credyd
Edrychwch am undebau credyd yn agos atoch chi ar y gwefannau hyn. Cofiwch wirio a ydych yn bodloni'r meini prawf i ymuno â nhw a beth fydd angen i chi ei wneud i gael benthyciad.
Os ydych yn byw yn: | Chwilio am undeb credyd ar: |
---|---|
Cymru, Lloegr neu'r Alban |
|
Gogledd Iwerddon |
2. Dod yn aelod a gwneud cais
Gwnewch gais i fod yn aelod ar-lein, dros y ffôn, neu'n bersonol. Efallai y bydd yn rhaid i chi aros ychydig ddyddiau i'ch cais gael ei brosesu.
Unwaith y byddwch yn aelod, efallai y bydd angen i chi ddechrau cynilo neu aros cyn y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad. Mae rhai undebau credyd yn gadael i chi wneud cais ar unwaith, felly gwiriwch gyda nhw'n uniongyrchol.
Os na allwch gael benthyciad undeb credyd, rhowch gynnig ar fenthyciwr cymunedol
Mae Sefydliadau Cyllid Datblygu Cymunedol (CDFIs) yn cynnig help ac arweiniad ar fenthyca arian, gan gynnwys cyllidebu, cynilo a hawlio budd-daliadau.
Efallai y byddant hefyd yn cynnig benthyciadau personol ac yn sicrhau y gallwch fforddio ad-daliadau cyn benthyca.
Sut mae benthyciad gan ddarparwr benthyciadau cymunedol yn gweithio
Mae benthyciadau fel arfer yn amrywio o £100 i £1,500 ac fel arfer gellir eu had-dalu'n gynnar heb gosb.
Efallai y byddant hefyd yn eich helpu i brynu eitem benodol, fel offer cartref.
Faint mae benthyciad gan fenthyciwr cymunedol yn ei gostio?
IMae cyfraddau llog fel arfer yn 40% i 350% ac efallai y bydd ffi weinyddol i gael benthyciad.
Mae hyn yn golygu y gall benthyciadau benthycwyr cymunedol fod yn ddrytach na'r rhai gan:
- undebau credyd
- banciau, neu
- gymdeithasau adeiladu.
Ond yn rhatach na:
- benthyciadau diwrnod cyflog
- benthycwyr stepen drws, a
- rhentu eitemau cartref.
Sut i ddod o hyd i ddarparwr benthyciad cymunedol
I gymharu opsiynau, gweler Finding FinanceYn agor mewn ffenestr newydd
Os na all y benthyciwr cymunedol gynnig benthyciad i chi, bydd fel arfer yn egluro y rheswm ac yn eich helpu i wella'ch cyllid.
Os ydych yn cymryd benthyciad ac yn meddwl yn ddiweddarach y byddwch yn methu taliad, gofynnwch i'r benthyciwr cymunedol am gymorth bob amser, fel cynllun ad-dalu newydd.
Am fwy o wybodaeth, gweler Siarad â'ch Credydwr.