Gall sgôr credyd da olygu eich bod yn gymwys i gael cyfraddau rhatach ar bethau fel benthyciadau, cardiau credyd, ffonau symudol a morgeisi. Darganfyddwch sut i wella’ch un chi.
Sut i wella eich sgôr credyd
Pam mae eich sgôr credyd mor bwysig wrth fenthyca
Mae sgôr credyd da yn dangos eich bod wedi rheoli credyd yn dda yn y gorffennol, fel ad-dalu benthyciad neu gerdyn credyd ar amser. Mae hyn yn golygu eich bod yn llawer mwy tebygol o fod yn gymwys ar gyfer y cyfraddau llog rhataf a chael mynediad at fwy o gynigion.
Sut mae benthycwyr yn penderfynu a ddylid rhoi benthyg i chi
Yn y DU, mae tair asiantaeth cyfeirio credyd yn casglu gwybodaeth ar ba mor dda rydych yn rheoli credyd a gwneud taliadau - sef eich adroddiad credyd neu ffeil gredyd.
Maent yn cynnwys rhestr o'ch holl gyfrifon credyd, fel unrhyw orddrafftiau, a faint sy'n ddyledus gennych ar hyn o bryd. Yna cyfrifir eich sgôr credyd yn seiliedig ar y data hwn.
Os ydych yn gwneud cais i fanc neu ddarparwr benthyciadau eraill, byddant fel arfer yn cynnal gwiriad credyd fel y gallant weld yr hanes hwn i gyfrifo pa mor beryglus ydych chi i roi benthyciad i chi. Bydd y gwiriad hwn yn aml yn effeithio ar y gyfradd llog a gewch, faint y byddant yn gadael i chi fenthyca neu a fyddwch hyd yn oed yn cael eich derbyn.
Bydd y wybodaeth ddiweddaraf am eich adroddiad yn cael yr effaith fwyaf oherwydd bydd gan fenthycwyr y diddordeb mwyaf yn eich sefyllfa bresennol.
Sut mae gwiriadau credyd yn gweithio
Mae dau fath o wiriadau y gall benthycwyr eu gwneud pan fyddwch yn gwneud cais am gredyd – caled a meddal.
- Nid yw gwiriadau credyd meddal yn effeithio ar eich sgôr credyd. Defnyddir y rhain fel arfer gan fenthycwyr neu safleoedd cymharu i wirio eich cymhwysedd cyn gwneud cais, i nodi a fydd eich cais yn llwyddiannus.
- Gallai gwiriadau credyd caled effeithio ar eich sgôr credyd. Defnyddir y rhain pan fyddwch yn gwneud cais am gredyd a byddant yn ymddangos ar eich adroddiad credyd. Gallai gormod mewn cyfnod byr o amser effeithio'n negyddol ar eich sgôr credyd.
Dylech osgoi gwneud gormod o geisiadau am gynhyrchion fel cardiau credyd neu fenthyciadau. Darganfyddwch a yw'n debygol y cewch eich derbyn yn gyntaf trwy wneud 'chwiliadau meddal' gyda chwmnïau fel:
Manteision cael sgôr credyd da
Yn gyffredinol, gallai hanes credyd da eich helpu i:
- Fenthyg y swm rydych ei angen – rydych yn debygol o gael terfynau credyd uwch gan fod benthycwyr yn eich gweld fel risg isel.
- Bod yn gymwys ar gyfer mwy o gynnyrch – fel benthyciadau, cardiau credyd neu forgeisi.
- Cael cyfraddau llog is – felly mae benthyg yn rhatach.
- Cael premiwm yswiriant is – gan y gallai cwmnïau yswiriant ystyried eich sgôr credyd wrth benderfynu ar fathau penodol o yswiriant, fel car neu gartref.
- Cael eich cymeradwyo ar gyfer eiddo rhent neu forgais – gan fod landlordiaid a benthycwyr morgeisi yn aml yn adolygu eich hanes credyd.
- Cael swydd – gan fod rhai cyflogwyr yn gwirio adroddiadau credyd fel rhan o'u proses recriwtio, yn enwedig ar gyfer rolau sy'n cynnwys cyfrifoldeb ariannol.
Sut y gall sgôr credyd gwael effeithio arnoch chi
Gallai sgôr credyd gwael olygu eich bod yn talu cyfraddau llog uwch, cael terfynau credyd is neu gael eich gwrthod am gredyd yn gyfan gwbl.
Er enghraifft, efallai y byddwch yn gweld benthyciad yn cael ei hysbysebu fel 6% APR ond gallai sgôr credyd gwael olygu y byddech yn cael cynnig cyfradd llog o 30%. Yn yr un modd, gallai cerdyn credyd gynnig cyfnod llog o ddwy flynedd 0% i'r rhai sydd â sgôr credyd da a dim ond chwe mis i rai sydd â sgôr credyd gwael.
Efallai y bydd benthycwyr eraill yn cynnig cynnyrch gwahanol i chi i'r un y gwnaethoch gais amdano, fel gwneud cais am gyfrif cyfredol ond cael cynnig cyfrif banc sylfaenol heb orddrafft.
Gallai newid yn eich sgôr credyd effeithio ar eich cyfradd llog bresennol
Er ei fod yn brin, gallai rhai benthycwyr newid eich cyfradd llog bresennol os ydynt o'r farn eich bod wedi dod yn fwy o risg ers i chi wneud cais y tro cyntaf.
Mae gan Debt Camel fwy o wybodaeth ar gynnydd mewn llog ar gardiau credydYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich trin yn annheg, dylech gwyno wrth y benthyciwr yn gyntaf. Os nad ydych yn fodlon â'u hymateb, gallwch gwyno wrth Wasanaeth yr Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch Sut i wirio a gwella eich adroddiad credyd
Sut i wirio a gwella eich adroddiad credyd
Mae tair asiantaeth sy’n cadw eich adroddiad credyd - Experian, Equifax a TransUnion - felly mae'n well gwirio'r tri ymhell cyn unrhyw gais. Nid oes unrhyw gost i wneud hyn ac efallai y byddwch yn gallu gweld ffyrdd o'i wella'n hawdd.
Gwiriwch eich adroddiad credyd am ddim
Mae tri chwmni (asiantaethau gwirio credyd) sy'n cadw eich ffeil credyd, felly mae’n well eu gwirio i gyd.
Dyma sut i wirio'ch adroddiadau credyd am ddim:
TransUnion – cofrestrwch ar gyfer Clwb Credyd MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
Equifax – cofrestrwch ar gyfer cyfrif ClearScoreYn agor mewn ffenestr newydd
Experian – gofyn am Adroddiad Credyd Statudol ExperianYn agor mewn ffenestr newydd
Beth sydd angen gwirio:
- Gwnewch yn siŵr bod eich holl fanylion yn gywir a rhowch wybod am unrhyw gamgymeriadau i’r asiantaeth gwirio credyd ar unwaith – gall hyd yn oed teipo yn eich cyfeiriad effeithio ar gais.
- Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisioYn agor mewn ffenestr newydd yn eich cyfeiriad presennol – mae cynghorau yn anfon data pleidleiswyr bob mis, felly gallai hyn wella eich sgôr o fewn wyth wythnos.
- Rhowch wybod am unrhyw beth sy’n edrych fel twyll, fel credyd nad ydych wedi gwneud cais amdano. Darganfyddwch fwy yn ein blog Sut i roi gwybod am sgam neu dwyll.
Rhoi gwybod a chywiro unrhyw gamgymeriadau yn eich adroddiad credyd
Os byddwch yn sylwi ar gamgymeriadau, rhowch wybod i'r asiantaeth gwirio credyd. Mae ganddynt 28 diwrnod i gael gwared ar y wybodaeth neu ddweud wrthych pam nad ydynt yn cytuno â chi. Bydd y 'camgymeriad' yn cael ei farcio fel 'anghydfod' ac ni all benthycwyr ddibynnu arno wrth asesu eich statws credyd.
Mae gwybodaeth negyddol fel arfer yn aros ar eich adroddiad credyd am chwe blynedd ac ni ellir ei dileu yn gynt os yw'n gywir. Fodd bynnag, os oedd rhesymau pam y gwnaethoch fethu taliadau nad ydynt yn berthnasol mwyach, gallwch ychwanegu nodyn at eich adroddiad credyd i egluro hyn. Enw'r nodyn hwn yw Hysbysiad CywiroYn agor mewn ffenestr newydd
Ni fydd Hysbysiad Cywiro yn effeithio ar eich sgôr credyd ond gallai arafu unrhyw geisiadau a wnewch i fenthyca.
Mae gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fwy o wybodaeth am gywiro gwybodaeth bersonolYn agor mewn ffenestr newydd ar eich adroddiad credyd
Creu hanes credyd i wella eich sgôr credyd
Pan fyddwch chi'n gwneud cais am gredyd, mewn gwirionedd mae'r benthyciwr eisiau gwybod a fyddwch chi'n eu talu'n ôl. Mae hanes o dalu ar amser ac fel y cytunwyd felly yn helpu i ddangos iddynt eich bod wedi bod yn ddibynadwy yn y gorffennol.
Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu:
- Agor a rheoli cyfrif cyfredol ac aros o fewn unrhyw orddrafft y cytunwyd arno.
- Talwch eich biliau ar amser – gall sefydlu Debydau Uniongyrchol helpu gyda hyn.
- Byddwch yn wyliadwrus o gyfrifon ar y cyd os oes gan y person arall hanes credyd gwael. Os byddwch yn cau cyfrif ar y cyd, gofynnwch am 'hysbysiad o ddatgysylltiad' i atal eich ffeiliau credyd rhag cael eu cysylltu. Dysgwch fwy am Siarad â'ch partner am arian.
- Defnyddiwch wirwyr cymhwysedd cyn gwneud cais am gredyd. Mae safleoedd fel MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd, Credit KarmaYn agor mewn ffenestr newydd a ClearScoreYn agor mewn ffenestr newydd yn dangos pa mor debygol ydych chi o gael eich derbyn.
Gwella'ch sgôr credyd gyda gwybodaeth ychwanegol
Dyma rai awgrymiadau i wella eich sgôr credyd:
- Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisioYn agor mewn ffenestr newydd yn eich cyfeiriad presennol. Cofiwch wneud hyn cyn gynted â phosibl os byddwch yn symud cartref.
- Os ydych yn rhentu, gallwch ychwanegu eich taliadau rhent at eich adroddiad credyd. Darganfyddwch fwy am Experian's Rental ExchangeYn agor mewn ffenestr newydd
- Ystyriwch gael cerdyn credyd adeiladwr credydYn agor mewn ffenestr newydd maen nhw ar gyfer pobl sydd â hanes credyd gwael neu sydd heb fenthyg o'r blaen.
- Mae'r cynllun dewisol Experian Boost Yn agor mewn ffenestr newydd yn defnyddio data 'Open Banking' i gynnwys taliadau treth gyngor, tanysgrifiadau ac i gyfrifon cynilo wrth gyfrifo eich sgôr credyd.
Osgoi asiantaethau atgyweirio credyd drud
Efallai y gwelwch hysbysebion gan gwmnïau sy'n honni eu bod yn trwsio eich statws credyd. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn eich cynghori ar sut i weld eich adroddiad credyd a gwella'ch sgôr credyd – ond gallwch wneud hynny eich hun am ddim.
Efallai y bydd rhai cwmnïau'n honni y gallant wneud pethau na allant yn gyfreithiol, neu hyd yn oed eich annog i ddweud celwydd wrth yr asiantaethau gwirio credyd. Mae'n bwysig peidio byth â defnyddio'r cwmnïau hyn.
Darganfyddwch Gwneud cais am gredyd
Gwneud cais am gredyd
Os ydych chi'n hapus bod eich adroddiad credyd yn dda a bod angen i chi fenthyca, y cam nesaf yw gweithio allan beth i wneud cais amdano.
Cymharwch eich opsiynau credyd
Dyma beth i'w ystyried cyn gwneud cais am gredyd:
- Oes angen i chi fenthyca? Mae'r rhan fwyaf o fenthyca yn dod ar gost, felly gall fod yn ffordd ddrud o brynu rhywbeth, ac mae'n aml yn ymrwymiad ariannol mawr. Gall aros a chynilo fod yn opsiwn rhatach. Dewch o hyd i fwy o help i benderfynu a ddylech fod yn benthyca arian.
- Faint allwch chi fforddio ei ad-dalu bob mis? Bydd hyn yn penderfynu faint y gallwch ei fenthyca a pha mor hir y byddwch yn ei gymryd i glirio'r ddyled. I helpu i weithio hyn allan, rhowch gynnig ar ein Cynlluniwr Cyllideb am ddim a hawdd ei ddefnyddio.
- Beth yw'r ffordd orau i fenthyca? Mae yna lawer o fathau o gredyd fel benthyciadau, cardiau credyd a gorddrafftiau, sydd wedi'u cynllunio at ddibenion gwahanol. Mae ein teclyn Eich opsiynau am fenthyca arian yn dangos yr ystod o opsiynau credyd sydd ar gael i chi.
Defnyddio gwirwyr cymhwysedd cyn gwneud cais
Gall gwneud cais am ormod o gynhyrchion o fewn cyfnod byr o amser niweidio'ch sgôr credyd gan y gallech ymddangos yn ysu am gredyd. Gall hyn olygu bod sefydliadau'n llai tebygol o fenthyca i chi.
Yn hytrach na gwneud cais, sy'n defnyddio chwiliad credyd caled, edrychwch am wirwyr cymhwysedd sy'n defnyddio chwiliad meddal i roi syniad i chi a fydd eich cais yn llwyddiannus.
Mae llawer o fenthycwyr a safleoedd cymharu yn defnyddio'r rhain, gan gynnwys;
- MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
- Credit KarmaYn agor mewn ffenestr newydd
- ClearScoreYn agor mewn ffenestr newydd
Os na allwch ddod o hyd i un ar gyfer y cynnyrch yr ydych eisiau, gwiriwch ddwywaith bob amser eich bod o leiaf yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd lleiaf (fel isafswm incwm).
Gwiriwch eich ceisiadau ddwywaith am wallau
Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i'r cynnyrch cywir i chi, bydd angen i chi wneud cais. Yn dibynnu ar yr hyn y mae'r benthyciwr yn gofyn amdano, efallai y bydd angen i chi gasglu rhywfaint o wybodaeth. Gallai hyn gynnwys:
- enw a chyfeiriad eich cyflogwr
- manylion eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
- eich incwm misol neu flynyddol
- ymrwymiadau credyd presennol, gan gynnwys terfynau credyd a'r swm sy'n ddyledus.
Cyn i chi gyflwyno'r cais, gwnewch yn siŵr bod popeth yn gywir ac yn cyd-fynd â'r wybodaeth sy’n cael ei chynnwys yn eich adroddiad credyd.
Dylech gael gwybod a ydych wedi cael eich derbyn ar unwaith, er y gall gymryd ychydig ddyddiau os yw'r benthyciwr eisiau gwneud gwiriadau pellach.
Os ydych yn cael eich gwrthod, peidiwch â gwneud cais eto. Yn hytrach, darganfyddwch beth i'w wneud os ydych wedi cael eich gwrthod am gredyd.