Ydw i'n cael fy sgamio? Sut i ddweud a ydych wedi cael eich targedu

Mae sgamiau yn dod yn fwy a fwy soffistigedig, yn enwedig pan ddaw hi at eich targedu chi ar-lein a thrwy ddyfeisiau symudol.

Beth yw sgam?

Gall sgamiau ddod ar sawl ffurf, ond mae pob un wedi'i gynllunio i gael gafael ar eich arian.

Mae nhw'n gwneud hyn trwy eich cael chi i ddatgelu'ch manylion personol, dwyn eich gwybodaeth, neu hyd yn oed eich twyllo i drosglwyddo'r arian parod yn barod.

Mae'n bwysig gwybod sut i adnabod sgam fel y gallwch ddiogelu eich hun rhag twyllwyr.

Byddwn hefyd yn dangos i chi beth i'w wneud os credwch eich bod wedi cael eich targedu neu wedi dioddef.

Mathau o sgamiau

Gall y tactegau y mae sgamwyr a thwyllwyr yn eu defnyddio amrywio o rywun yn dod at eich drws i alwad ffôn annisgwyl.

Mae’r rhyngrwyd a datblygiadau mewn cyfathrebu digidol wedi agor ffyrdd eraill i sgamwyr eich targedu chi a dwyn gwybodaeth.

Mae’n ddigon posibl eich bod wedi dod ar draws y math mwyaf cyffredin o sgamiau.

  • E-byst spam yn dweud wrthych eich bod ar fin derbyn rhywfaint o arian neu’n esgus mai’r CThEF neu’ch banc ydyn nhw
  • Y neges testun yn honni bod angen taliad er mwyn anfon pecyn
  • Y twyll ‘mam a dad’ ar WhatsApp, pan fo sgamwyr yn defnyddio WhatsApp i esgus fod yn aelod o’r teulu er mwyn dylanwadu ar ddioddefwyr i drosglwyddo arian. 

Er y gall rai sgamiau e-bost fod yn weddol hawdd eu hadnabod a’u hosgoi, mae eraill yn llawer yn fwy soffistigedig. Mae twyllwyr yn cadw’n gyfredol gyda phethau sydd yn y newyddion, a’n defnyddio cynlluniau’r llywodraeth gall bobl fod wedi clywed amdanynt ond ddim yn gyfarwydd â er mwyn creu sgamiau newydd. 

Sut i adnabod sgam

Mae gwybod am beth i gadw golwg amdano pan ddaw hi at sgamiau yn un o’r ffyrdd gorau i ddiogelu’ch hun.

  • Cyswllt digymell neu annisgwyl - Os ydych chi wedi derbyn unrhyw fath o gyswllt, ond yn enwedig galwad ffôn, heb rybudd, y peth gorau yw ei osgoi. Ers Ionawr 2019, mae yna waharddiad wedi bod ar alwadau digymell ynghylch pensiynau. Mae hyn yn golygu na ddylai unrhyw gwmni gysylltu â chi am eich pensiwn oni bai’ch bod wedi gofyn iddynt wneud. Ym mis Mai 2023, cyhoeddodd y llywodraeth ei fod yn cynllunio i wahardd galwadau digymell ariannol i gyd.
  • Cyfeiriad e-bost - Os cewch e-bost, ehangwch y cwarel ar frig y neges a gweld yn union o bwy y daeth, gallai ddweud ei fod o Drwyddedu Teledu ond os ydych yn clicio neu'n hofran dros yr enw fe allai ddatgelu rhywbeth gwahanol. Os yw'n sgam, efallai na fydd y cyfeiriad e-bost y mae'r neges wedi dod ohono yn cyfateb ag enw'r anfonwr, wedi camsillafu, neu fod o un o'ch cysylltiadau sydd wedi'i hacio.
  • Negeseuon testun - Gall sgamwyr modern wneud i'w rhifau ffôn edrych fel rhai rydych yn ymddiried ynddyn nhw, megis eich banc. Efallai y bydd y neges destun sgam hyd yn oed yn ymddangos yn yr un sgwrs â negeseuon dilys rydych chi wedi'u cael o'r blaen. Gelwir hyn yn sgamiau sy’n dangos rhif ffôn (sbŵffio). Peidiwch â chlicio ar ddolenni mewn negeseuon testun rhag ofn, ac os ydych yn amau, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â'r cwmni'n uniongyrchol gan ddefnyddio manylion cyswllt o’u gwefan neu gyfatebiaeth oddi wrthynt i wirio ei fod yn neges go iawn.
  • Os yw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, dyna sy’n wir fel arfer. Mae hyn yn rhywbeth y byddwch chi fel arfer yn ei ffeindio gyda sgamiau pensiwn neu fuddsoddi, ble y mae’r twyllwr yn sicrhau enillion anferth i chi, ond yn dweud wrthych ei fod yn risg isel.
  • Manylion personol, codau PIN a chyfrineiriau. Mae’r rhain yn bethau na fyddai unrhyw gwmni dilys yn gofyn amdanynt.
  • Penderfyniadau cyflym. Os rhoddir pwysau arnoch chi i wneud penderfyniad yn y fan a’r lle, byddwch amheus. Nid yw sgamwyr eisiau i chi gael amser i feddwl am y peth. Nid oes ots gan unrhyw gwmni cyfreithlon sy'n eich galw os byddwch chi'n rhoi’r ffôn i lawr ac yn eu galw nôl yn nes ymlaen. Defnyddiwch y rhif ffôn sydd ar lythyrau gan y cwmni neu ar gefn eich cerdyn.
  • Dylai cystadlaethau ar hap, yn enwedig os nad ydych chi’n cofio cystadlu, seinio clychau rhybudd.
  • Mae gwallau sillafu neu ramadeg gwael ar e-byst ac mewn negeseuon testun yn arwyddion eraill o sgam. 

Sut i ddiogelu eich hun yn erbyn sgamiau

Y cam nesaf i osgoi sgamiau yw gwybod sut i ddiogelu’ch hun, ar-lein ac all-lein:

  • Dylech osgoi unrhyw gyswllt annisgwyl. Peidiwch ag ateb galwadau ffôn, llythyrau neu e-byst os ydyn nhw'n edrych yn anghyfarwydd. Os ydych chi'n gwsmer i'r cwmni, defnyddiwch y manylion cyswllt a roddwyd i chi mewn gwaith papur swyddogol neu ar eu gwefan i wirio a yw'r person sy'n dod atoch chi yn gyfreithlon.
  • Peidiwch byth â rhoi gwybodaeth bersonol. Gellir ei defnyddio i ddwyn eich hunaniaeth a chael mynediad at eich cyfrifon. Yn benodol, ni ddylech fyth rannu'ch PIN neu gyfrinair llawn ag unrhyw un. Bydd eich banc yn gofyn i chi ddefnyddio darllenydd cerdyn neu'n gofyn am ychydig o ddigidau o'ch cyfrinair os bydd ei angen arno.
  • Cadwch eich systemau gweithredu a meddalwedd gwarchod rhag firws yn gyfredol. Peidiwch ag anwybyddu diweddariadau gan y gall y rhain yn aml gynnwys cynnwys i’ch diogelu yn erbyn mathau newydd o sgamiau, firysau a meddalwedd ‘ransomware’. Mae’r un peth yn wir am ddyfeisiau symudol hefyd.
  • Sicrhewch fod gan bob cyfrif gyfrinair cryf. Peidiwch â defnyddio’r un cyfrinair ar gyfer nifer o gyfrifon a newidiwch hwy’n rheolaidd.
  • Peidiwch â gwneud unrhyw daliadau hyd nes y byddwch chi’n siŵr bod y cwmni yr ydych chi’n delio ag ef yn ddilys. Gwiriwch gyda'r cwmni yn uniongyrchol cyn gwneud unrhyw daliadau.
  • Peidiwch byth â throsglwyddo arian i ‘gyfrifif daliad’. Mae hwn yn sgam cyffredin. Bydd rhywun yn eich galw yn esgus bod o dîm twyll eich banc ac yn gofyn i chi drosglwyddo'ch arian i gyfrif diogel i'w ddiogelu. Ond, os gwnewch hynny, dim ond anfon cynilion i’r sgamiwr a wnewch.
  • Os ydych chi’n ansicr am gwmni gwasanaethau ariannol, gwiriwch cofrestr FCA o gwmnïau wedi’u rheoleiddio. Os nad ydynt ar y rhestr, peidiwch â gwneud unrhyw beth gyda hwy. Gwiriwch rybuddion y FCA am gwmnïau sydd wedi'i glonio hefydYn agor mewn ffenestr newydd 
  • Os ydych chi’n ansicr am unrhyw fath arall o gwmni, gallwch edrych amdanynt ar Tŷ’r Cwmnïau i weld eu cefndir, neu i chwilio am adolygiadau ar-lein.
  • Defnyddiwch gysylltiadau Wi-Fi diogel a saff ac osgoi Wi-Fi cyhoeddus. Mae’ch cyswllt 3G neu 4G safonol fel arfer yn fwy diogel nac un mewn siop goffi neu fwyty.
  • Sicrhewch fod unrhyw wefannau yr ydych chi’n eu defnyddio yn ddiogel. Gwiriwch i weld a yw cyfeiriad y we yn dechrau gyda HTTPS, nid dim ond HTTP..
  • Cofrestrwch ar gyfer gwasanaeth blocio galwadau fel y Telephone Preference Service Efallai na fydd hyn yn atal pob galwad sgâm gan eu bod yn gweithredu y tu hwnt i ganllawiau cyfreithiol, ond bydd yn atal galwyr digroeso. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw alwadau amheus neu annisgwyl yr ydych chi’n eu derbyn mwy na thebyg yn sicr gan bobl nad ydych chi eisiau delio â hwy.

Sut i adnabod sgam?

Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi dioddef o dwyll, mae pethau y mae angen i chi ei wneud.

  1. Cysylltwch â’ch banc neu’ch darparwr cerdyn yn syth os ydych wedi colli arian, fel y gallant ddechrau ceisio’i adfer.
  2. Stopiwch anfon arian ar unwaith. Os yw’r taliad wedi’i sefydlu fel Debyd Uniongyrchol, cysylltwch â’ch banc i roi stop ar hyn ar unwaith.
  3. Os ydych wedi cael eich targedu, hyd yn oed os nad ydych yn ddioddefwr, gallwch hysbysu Action Fraud. Ffoniwch 0300 123 2040 neu defnyddiwch y teclyn hysbysu ar-lein ar Action Fraud, neu wefan Scam Smart yr FCA
    Yn yr Alban, dylech roi gwybod am y sgam i ‘Police Scotland’ ar 101 neu ‘Advice Direct Scotland’ ar 0808 164 6400.
  4. Byddwch yn ymwybodol o sgamiau dilynol. Weithiau ar ôl adrodd am dwyll fe allech chi gael eich targedu eto gan dwyllwr sy’n dweud y gall gael eich arian yn ôl.
  5. Gwiriwch eich ffeil gredyd am ddim drwy, Credit KarmaMSE Credit Club, a ClearScoreY ffordd orau yw gwirio’n fisol am geisiadau credyd a wneir gan dwyllwr. Edrychwch i weld a oes yna geisiadau anghyfarwydd am gredyd, neu os oes gennych nodyn Cifas ar eich ffeil. Os yw’ch banc o’r farn y buoch yn ddioddefwr twyll, gallech roi nodyn Cifas ‘Dioddefwr efelychiad’ ar eich cyfrif. Mae hyn yn rhybuddio darparwyr benthyciadau y buoch yn ddioddefwr, neu eich bod yn agored i fod yn ddioddefwr twyll. Os oes gennych chi nodyn Cifas ar eich ffeil, gofynnwch am fwy o wybodaeth am hynny gan Cifas

Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi’ch targedu gan dwyll, dylech adrodd amdano hefyd er mwyn ymchwilio iddo. Gallwch wneud hyn trwy Action Fraud (neu 101 yn Yr Alban) a'r wefan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol gan ddefnyddio eu ffurflen adrodd

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.