Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal i’ch cefnogi os ydych yn gweithio ac ar incwm isel neu os ydych yn ddi-waith. Rydym yn esbonio sut mae Credyd Cynhwysol yn wahanol i’r budd-daliadau presennol, faint y byddwch yn cael eich talu a sut i wneud cais amdano.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw Credyd Cynhwysol?
- Faint o amser mae’n ei gymryd i gael Credyd Cynhwysol?
- Pa mor aml y telir Credyd Cynhwysol?
- Faint yw Credyd Cynhwysol?
- Credyd Cynhwysol a gweithio
- Beth sy’n cyfrif fel incwm ar gyfer Credyd Cynhwysol?
- Sut mae cynilion yn effeithio ar Gredyd Cynhwysol?
- Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
- Taliad ymlaen llaw ar Gredyd Cynhwysol
- Sgamiau Credyd Cynhwysol
- Cysylltwch â llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Beth yw Credyd Cynhwysol?
Mae Credyd Cynhwysol yn daliad budd-dal i bobl sydd mewn gwaith neu’n ddi-waith.
Mae'n disodli rhai o'r budd-daliadau a’r credydau treth y gallech fod yn eu cael nawr:
- Budd-dal Tai
- Credyd Treth Plant
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Treth Gwaith
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn galw’r rhain yn fudd-daliadau etifeddol ac, yn gyffredinol, ni allwch wneud cais newydd amdanynt bellach. Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch bydd rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Os ydych yn hawlio budd-daliadau etifeddol ar hyn o bryd, ac nid oes unrhyw beth yn eich bywyd yn newid, byddwch yn parhau i’w cael hyd nes bod DWP yn gofyn i chi symud i Gredyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut fydd symud i Gredyd Cynhwysol yn effeithio arnaf?
I ddarganfod mwy am wneud cais, eich ymrwymiadau, sancsiynau a gweithio wrth hawlio, lawrlwythwch y canllaw ‘Credyd Cynhwysol a Chi’ o ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw gyda rhywun fel cwpl ac mae gennych chi’ch dau hawl i wneud cais am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn cael cyd-daliad i mewn i gyfrif banc sengl.
Cymru a Lloegr
Os ydych yn cael help â’ch rhent, bydd hyn yn cael ei gynnwys yn eich taliad misol – byddwch wedyn yn talu’ch landlord yn uniongyrchol.
Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Gellir talu’ch rhent yn uniongyrchol i’ch landlord neu gallwch ddewis ei dalu eich hun.
Efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os:
- ydych yn ddi-waith neu ar incwm isel
- ydych yn 18 oed neu’n hŷn (mae rhai eithriadau os ydych yn 16 neu’n 17 oed)
- ydych chi neu’ch partner o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- oes gennych chi a’ch partner lai na £16,000 mewn cynilion
- ydych yn byw yn y DU.
Mae rhai sefyllfaoedd lle gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn 16 neu’n 17 oed, neu pan ydych yn astudio.
Faint o amser mae’n ei gymryd i gael Credyd Cynhwysol?
Mae’n bwysig eich bod yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol cyn gynted ag y bydd gennych hawl, hyd yn oed os nad ydych yn credu eich bod yn gymwys.
Mae hyn oherwydd efallai y bydd rhaid i chi aros hyd at bum wythnos ar ôl hawlio cyn eich taliad cyntaf, gan ei fod yn cael ei dalu mewn ôl-ddyledion.
Os dewch o hyd i swydd newydd, neu os bydd eich amgylchiadau’n newid cyn i’ch cais gael ei gwblhau, byddwch yn gallu ei ganslo.
Ond o leiaf nid oes rhaid i chi gychwyn eich cais o’r dechrau, nac aros am eich taliad cyntaf. Gallai hyn eich helpu i osgoi’r angen i gael taliad ymlaen llaw.
Gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw os nad oes gennych ddigon i fyw arno wrth i chi aros am eich taliad cyntaf.
Os ydych yn cael budd-daliadau etifeddol yn barod, mae’n werth gwirio ag ymgynghorydd budd-daliadau arbenigol cyn i chi wneud cais i wirio bod gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yw’r cam cywir i chi.
Mae hyn oherwydd na allwch symud yn ôl i’ch hen fudd-daliadau fel arfer unwaith eich bod ar Gredyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy am daliadau ymlaen llaw ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Dyddiad asesu a chyfnod asesu
Y dyddiad y cyflwynwch eich cais yw dyddiad y mis y telir eich taliad Credyd Cynhwysol. Gelwir hyn yn ddyddiad eich asesiad.
Telir Credyd Cynhwysol yn fisol mewn ôl-ddyledion. Felly bydd rhaid i chi aros un mis calendr o’r dyddiad y gwnaethoch gyflwyno’ch cais cyn i chi gael eich taliad cyntaf. Gelwir hyn yn eich cyfnod asesu.
Yna mae rhaid i chi aros hyd at saith diwrnod i’r taliad gyrraedd eich cyfrif banc.
Mae hyn yn golygu y gall gymryd hyd at bum wythnos cyn i chi gael eich taliad cyntaf.
Enghraifft
- Mae Ben wedi colli ei swydd ac yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol ar 22 Gorffennaf.
- Mae hyn yn gwneud ei ddyddiad asesu 22 Gorffennaf. Mae’n golygu y bydd yn cael ei dalu ar yr 22 o bob mis.
- Mae angen iddo aros un cyfnod asesu (un mis calendr) hyd at 21 Awst – gan fod Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu bob mis mewn ôl-ddyledion.
- Yna mae angen iddo ganiatáu hyd at saith diwrnod i’r arian gyrraedd ei gyfrif.
- Gall ddisgwyl ei daliad cyntaf erbyn 29 Awst fan bellaf.
- Os yw 29 Awst yn ddydd Llun gŵyl banc, dylai gael taliad ar y diwrnod gwaith olaf (dydd Gwener) cyn y gwyliau.
A ydych yn poeni am sut y byddwch yn ymdopi’n ariannol nes i chi gael eich taliad cyntaf?
Yna darganfyddwch am daliadau ymlaen llaw yn ein canllaw Taliadau ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol a help arall
Pa mor aml y telir Credyd Cynhwysol?
Telir Credyd Cynhwysol yn fisol mewn ôl-ddyledion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Fodd bynnag, yn yr Alban, gallwch ofyn am daliadau bob pythefnos yn lle.
Yng Ngogledd Iwerddon, y cyfnod talu diofyn yw bob pythefnos. Ond gallwch ddewis cael taliadau misol.
Faint yw Credyd Cynhwysol?
Mae Credyd Cynhwysol yn cynnwys lwfans sylfaenol ynghyd â gwahanol elfennau ar gyfer pethau fel costau tai, magu plant, gofalu neu salwch ac anabledd.
Gall y swm a gewch mewn Credyd Cynhwysol ostwng neu gynyddu, yn dibynnu ar ba incwm a gewch:
- gweithio
- pensiwn
- buddion eraill
- cynilion a chyfalaf uwch na £6,000.
Darganfyddwch fwy am faint o Gredyd Cynhwysol y gallwch ei gael, a’r gwahanol elfennau, yn ein canllaw Faint yw Credyd Cynhwysol?
Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar faint o oriau’r wythnos y gallwch weithio os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol.
Yn lle, bydd y swm a gewch yn lleihau’n raddol wrth i chi ennill mwy – felly ni fyddwch yn colli'ch holl fudd-daliadau ar unwaith.
Gall ein Cyfrifiannell Budd-daliadau eich helpu i gael ffigur mwy cywir am faint y gallech ei hawlio. Mae ond yn cymryd ychydig o funudau i'w llenwi.
Credyd Cynhwysol a gweithio
Cymorth i gynilo
Os ydych yn gweithio ac ar Gredyd Cynhwysol, efallai y byddwch yn gymwys i gael cyfrif Cymorth i Gynilo. Mae hyn yn rhoi hyd at fonws 50% i chi gan y llywodraeth ar eich cynilion.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Esbonio Cymorth i Gynilo
Gallwch weithio cymaint o oriau ag y dymunwch pan fyddwch ar Gredyd Cynhwysol.
Nid oes unrhyw derfynau fel sydd â budd-daliadau presennol fel Cymhorthdal Incwm neu Gredydau Treth Gwaith.
Os ydych mewn gwaith â thâl, efallai y bydd gennych hawl i gael lwfans gwaith.
Lwfans gwaith Credyd Cynhwysol
Y lwfans gwaith yw’r swm o arian y caniateir i chi ei ennill cyn iddo effeithio ar eich taliad Credyd Cynhwysol.
Bydd gennych hawl i gael lwfans gwaith os ydych:
- yn gyfrifol am blant dibynnol, a/neu
- na allwch weithio cymaint oherwydd salwch neu anabledd.
Os oes gennych hawl i’r lwfans gwaith, gallwch ennill hyd at y trothwy ar gyfer eich amgylchiadau.
Yna bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn gostwng 55c am bob £1 rydych yn ei ennill sy'n uwch na’r swm hwn. Gelwir hyn yn dapr enillion.
Os nad ydych yn gymwys i gael y lwfans gwaith, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn gostwng 55c am bob £1 ar eich holl enillion.
Mae buddion a delir gan gyflogwyr yn cael eu trin fel enillion. Er enghraifft, Mamolaeth Statudol, Tadolaeth, Mabwysiadu a Thâl Salwch. Mae’r tapr yn effeithio ar y rhain.
Beth sy’n digwydd i’ch Credyd Cynhwysol pan fyddwch yn dechrau gweithio neu’n gweithio mwy o oriau?
Edrychwch ar fideo’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i ddarganfod mwy.
Beth sy’n cyfrif fel incwm ar gyfer Credyd Cynhwysol?
Grant cymorth incwm hunangyflogedig
Os cawsoch grant cymorth incwm hunangyflogedig (SEISS), bydd angen datgan hyn ar eich ffurflen dreth Hunanasesiad.
Gellir tynnu rhywfaint o incwm na chawsoch o weithio o’ch dyfarniad uchaf. Gelwir hyn yn incwm nas enillwyd.
Mae incwm heb ei ennill a fydd yn cael ei dynnu oddi ar eich taliad Credyd Cynhwysol yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:
- Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dull newydd
- Incwm Pensiwn
- Lwfans Gofalwr
- rhai budd-daliadau nad ydynt yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol.
Fel arfer, bydd £1 yn cael ei ddidynnu o'ch taliad Credyd Cynhwysol am bob £1 o incwm nas enillwyd.
Mae incwm heb ei ennill na fydd yn cael ei dynnu oddi ar eich taliad Credyd Cynhwysol yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:
- Budd-dal Plant
- taliadau cynhaliaeth plant
- Lwfans Byw i’r Anabl
- Taliad Annibyniaeth Personol
- incwm gan ddisgyblion byrddwyr a lletywyr.
Sut mae cynilion yn effeithio ar Gredyd Cynhwysol?
Os oes gennych gynilion neu gyfalaf – fel buddsoddiadau neu gyfranddaliadau – gallai hyn effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael. Ni fydd eich cronfa bensiwn yn effeithio ar swm y Credyd Cynhwysol mae gennych hawl iddo tra eich bod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut mae cynilion a thaliadau cyfandaliadau yn effeithio ar fudd-daliadau?
Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
Pwysig
Os ydych yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol, nid oes rhaid i chi ddweud wrth y DWP. Os bydd rhaid iddynt wirio unrhyw beth â chi, byddant yn eich ffonio neu’n anfon neges atoch drwy’ch dyddlyfr ar-lein.
Os oes gennych hawl i wneud cais am Gredyd Cynhwysol, mae angen i chi wneud cais ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Darganfyddwch pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn i chi gychwyn eich caisYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
A ydych chi a’ch partner yn gwneud cais ar y cyd? Yna dim ond un ohonoch fydd angen llenwi’r ffurflen gais ar-lein. Ond bydd angen i’r person hwnnw nodi manylion ar eich cyfer chi’ch dau.
Mynediad i gyfrifiadur
Os ydych yn poeni am ddefnyddio cyfrifiadur i wneud eich cais, mae’n bwysig eich bod yn cael help. Mae hyn oherwydd na fydd eich cais yn cychwyn nes eich bod wedi anfon eich ffurflen ar-lein. Yna arhosir am bum wythnos am eich taliad cyntaf. Gall unrhyw oedi olygu bod rhaid i chi aros yn hwy.
Os nad oes gennych fynediad at gyfrifiadur gartref, efallai y gallwch ddefnyddio un am ddim yn:
- eich canolfan gwaith leol
- llyfrgell
- Cyngor ar Bopeth
- cyngor.
Mae llawer o ganolfannau gwaith bellach yn cynnig cefnogaeth ychwanegol i bobl sy'n ei chael yn anodd gwneud cais ar-lein. Gallant hefyd eich helpu i ddod â'r holl waith papur sydd ei angen arnoch at ei gilydd.
Gallwch hefyd ofyn i wasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth i’ch helpu i lenwi’r ffurflen ar-lein.
Os ydych yn newydd i gyfrifiaduron neu os nad ydych wedi teimlo’n hyderus am eu defnyddio yn y gorffennol, nawr mae’n amser da i ddechrau magu’ch hyder a’ch gwybodaeth.
Gallwch ddod o hyd i gefnogaeth sgiliau digidol am ddim yn eich ardal ar y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol. Neu, ffoniwch 0800 100 900.
Darganfyddwch fwy am gyrsiau ar-lein am ddim i helpu dechreuwyr i ddatblygu sgiliau digidol ar Learn My Way.comYn agor mewn ffenestr newydd
Taliad ymlaen llaw ar Gredyd Cynhwysol
Awgrym da
Gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw Credyd Cynhwysol dim ond os ydych wedi gwneud cais yn ystod y pum wythnos ddiwethaf, rydych yn aros am eich taliad cyntaf ac rydych eisoes wedi cael cyfweliad yn eich Canolfan Gwaith.
Os ydych wedi bod yn aros am fwy na phum wythnos am eich taliad cyntaf, bydd angen i chi wneud cais gan ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol ar 0800 328 5644.
Oes gennych ychydig neu ddim arian tan eich taliad cyntaf? Yna gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw o’ch anogwr gwaith, neu drwy ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol am ddim.
Bydd angen i chi dalu’r arian hwn yn ôl o fewn 24 mis ac mae’r ad-daliad cyntaf fel arfer yn cael ei gymryd o’ch taliad Credyd Cynhwysol cyntaf. Felly, mae’n bwysig gofyn dim ond am yr hyn sydd ei angen arnoch.
Os ydych wedi bod yn hawlio Credyd Cynhwysol am chwe mis, efallai y gallwch wneud cais am daliad cyllidebu am gostau hanfodol.
Os gwnewch gais am daliad ymlaen llaw, bydd angen i chi (a’ch partner os ydych yn gwneud cais ar y cyd):
- esbonio pam mae angen taliad ymlaen llaw arnoch
- darparu manylion cyfrif banc lle dylid talu’r taliad ymlaen llaw
- bod wedi gwirio’ch hunaniaeth mewn Canolfan Gwaith.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol a help arall
Sgamiau Credyd Cynhwysol
Mae hawlwyr budd-daliadau’n cael eu targedu gan sgamwyr sy'n cynnig benthyciadau neu grantiau cost isel gan y llywodraeth.
Efallai y bydd rhywun sy’n honni eu bod yn gweithio i Ganolfan Byd Gwaith yn eich ffonio, neu’n cysylltu â chi trwy hysbysebion cyfryngau cymdeithasol. Mae gan lawer o'r sgamwyr wefannau argyhoeddiadol, â logos a thystebau’r llywodraeth.
Efallai y byddant yn gofyn am eich ID a’ch manylion banc. Yna byddant yn cynnig gwneud cais am Gredyd Cynhwysol a gwneud cais am daliad ymlaen llaw ar eich rhan – gan gymryd rhywfaint o’r arian hwn fel eu ffi.
Fodd bynnag, mae angen ad-dalu swm llawn y taliadau ymlaen llaw o daliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol. Felly byddwch yn talu’r swm cyfan a fenthycwyd yn ôl.
Mae hefyd yn bwysig peidio â chael eich temtio gan y cynigion hyn os ydych eisoes yn hawlio unrhyw un o’r budd-daliadau sy’n cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol. Er enghraifft, credydau treth neu Fudd-dal Tai.
Mae hyn oherwydd y bydd eich hen fudd-daliadau yn dod i ben, ac efallai y bydd yr arian a gewch ar Gredyd Cynhwysol yn llai na beth rydych yn ei gael nawr.
Os cewch gynnig o fenthyciad gan y llywodraeth a gofynnant i chi roi eich ID a’ch manylion banc, efallai y bydd y sgamiwr yn ceisio gwneud cais Credyd Cynhwysol heb yn wybod i chi. Mae’n bwysig peidio â dosbarthu’r manylion hyn – oherwydd efallai na fydd gennych hawl i Gredyd Cynhwysol a gallai hyn gael ei ystyried yn dwyll budd-daliadau.
A ydych yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf ac angen help i wneud cais am daliad ymlaen llaw? Yna bydd Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth yn eich helpu i gael y taliad sydd ei angen arnoch am ddim.
Am fanylion, gwelwch yr adran ‘Help â chais ar-lein am Gredyd Cynhwysol’ yn y canllaw hwn.
Os ydych wedi cael eich targedu, hyd yn oed os nad ydych wedi dioddef ohono, gallwch adrodd hynny i Action Fraud. Ffoniwch 0300 123 2040 neu defnyddiwch yr offeryn adrodd ar-lein ar Action Fraud
Neu, ewch i ScamSmart y FCA
Darllenwch ein post blog ar sgamiau Credyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy am sylwi, osgoi ac adrodd sgamiau yn ein canllaw Canllaw dechreuwr i dwyll
Cysylltwch â llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Os oes angen help arnoch â'ch cais, ffoniwch llinell gymorth Credyd Cynhwysol am ddim ar:
- Ffôn: 0800 328 1744
- Ffôn testun: 0800 328 1344
8am i 6pm, ddydd Llun i ddydd Gwener (ar gau ar wyliau banc a gwyliau cyhoeddus). Mae galwadau am ddim.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaethau Credyd Cynhwysol yn lle:
- Ffôn: 0800 012 1331
- Ffôn testun: 0800 012 1441