Os ydych wedi methu mwy nag un bil neu ad-daliad dyled ac rydych yn cael trafferth, peidiwch â phoeni - nid ydych ar eich pen eich hun. Rydym yn helpu cannoedd ar filoedd o bobl sydd â phryderon tebyg bob blwyddyn. Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i ddatrys eich anawsterau, gan gynnwys cael cyngor ar ddyledion am ddim.
Adiwch faint sy’n ddyledus gennych
Y cam cyntaf tuag at gymryd rheolaeth yw llunio rhestr o bawb y mae angen i chi wneud taliadau iddynt, gan gynnwys biliau cartref, taliadau morgais neu rent sy'n ddyledus benthyciad neu daliadau credyd ac ad-daliadau dyled.
Gwiriwch faint o arian sydd ei angen arnoch i dalu taliadau ac a ydych ar ei hôl.
Deall pa daliadau y mae angen i chi fynd i’r afael â hwy'n gyntaf
Mae rhai biliau a thaliadau yn flaenoriaeth uwch oherwydd gall canlyniadau peidio â thalu fod yn fwy difrifol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i flaenoriaethu'ch biliau a'ch taliadau.
Os ydych yn wynebu argyfwng dyled
Mae'n bwysig cael cyngor ar ddyledion am ddim cyn gynted ag y gallwch os ydych wedi methu mwy nag un taliad blaenoriaeth, neu'n wynebu unrhyw faterion brys, gan gynnwys:
- beilïaid yn cysylltu â chi
- derbyn gwys llys
- torri'ch nwy neu drydan i ffwrdd
- adfeddiannu'ch cartref, car neu nwyddau.
Llunio cyllideb
I gymryd rheolaeth o'ch cyllid, mae'n bwysig llunio cyllideb. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall faint o arian sydd gennych i wneud taliadau.
Mae ein Cynlluniwr Cyllideb am ddim yn eich rhoi chi mewn rheolaeth dros wariant eich cartref ac yn dadansoddi'ch canlyniadau i'ch helpu i reoli eich arian. Mae eisoes wedi helpu cannoedd ar filoedd o bobl.
Os byddwch yn cael trafferth gwneud cyllideb, neu'n dal i fod â phryderon ar ôl i chi fynd trwy'r rhifau, gallwch siarad â chynghorydd dyledion am ddim a all eich helpu.
Ceisiwch gynyddu eich incwm
Efallai y gwelwch nad yw'ch cyllideb yn cydbwyso ac mae'ch incwm yn llai na'ch treuliau neu fod gennych ddigon i fyw arno ond nad oes gennych arian parod i dalu dyledion.
Os yw hynny'n wir, efallai y bydd pethau y gallwch eu gwneud i gynyddu eich incwm neu gwtogi ar yr hyn rydych yn ei wario.
Er enghraifft, efallai y gallwch hawlio budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt, hawlio grant neu arbed arian ar eich biliau cartref trwy newid darparwyr.
Siaradwch â’r bobl y mae arnoch arian iddynt
Bydd y gefnogaeth y gall eich credydwr ei rhoi i chi ddibynnu ar bethau fel:
- y math o fil neu daliad ydyw
- faint sy'n ddyledus gennych
- faint o daliadau rydych wedi'u colli
- eich gallu i wneud ad-daliadau
- a oes angen cymorth ychwanegol arnoch oherwydd eich bod yn agored i niwed.
Bydd y camau y gall eich credydwr eu cymryd hefyd yn dibynnu ar wahanol bethau, fel a yw'n ddyled â blaenoriaeth neu'n ddyled nad yw'n flaenoriaeth neu a yw'n gytundeb credyd neu'n fil cartref.
I ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud am filiau a thaliadau gwahanol edrychwch ar ein adran erthygl ar Ddelio â dyled
Cewch gyngor cyfrinachol am ddim
Os ydych yn cael trafferth â dyled ac yn ei chael yn anodd rheoli pethau eich hun, y peth olaf efallai yr hoffech ei wneud yw siarad â dieithryn llwyr am eich problemau.
Ond gall fod y peth gorau y gallwch ei wneud, yn enwedig os ydych yn ystyried defnyddio dull ad-dalu dyled ffurfiol, fel cynllun ad-dalu dyled neu fethdaliad. Mae bob amser yn well trafod pethau â chynghorydd profiadol cyn i chi wneud penderfyniad.
Mae hyn oherwydd bod llawer o ffyrdd i ddelio â dyledion ac efallai na fyddech yn ymwybodol o'r holl opsiynau sydd ar gael i chi. Bydd y ffordd sydd orau i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.
Gall cynghorydd dyled am ddim eich helpu i benderfynu pa opsiwn sy'n iawn i chi. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallai hyn gymryd un sgwrs yn unig.
Bydd cynghorydd dyled yn:
- trin popeth rydych yn ei ddweud yn gyfrinachol
- peidio byth â'ch barnu na gwneud i chi deimlo'n ddrwg am eich sefyllfa
- awgrymu ffyrdd o ddelio â dyledion na fyddech efallai yn gwybod amdanynt
- gwirio eich bod wedi gwneud cais am yr holl fudd-daliadau a hawliau sydd ar gael i chi.
Os ydych wedi methu mwy nag ad-daliad dyled, gallai Lle i Anadlu roi amser gwerthfawr i chi ddod o hyd i ateb. Darganfyddwch fwy am Le i Anadlu a sut y gall eich helpu.