Os na allwch dalu’ch rhent, peidiwch ag anwybyddu'r broblem. Siaradwch â’ch landlord cyn gynted â phosibl. Boed y broblem oherwydd newid mewn amgylchiadau, problem gyllidebu, neu doriad mewn budd-daliadau, y mae camau allweddol y gallwch eu cymryd i’ch helpu eich hun i gael rheolaeth unwaith eto a helpu osgoi cael eich troi allan.
Siaradwch â’ch landlord
Os ydych yn cael trafferth i dalu’ch rhent, y peth cyntaf i’w wneud yw siarad â’ch landlord neu’ch cymdeithas tai.
Mae’n ddealladwy efallai y byddwch chi’n ofni dweud y byddwch chi’n hwyr gyda’r rhent.
Ond mae’n well o lawer cael y mater allan yn yr agored cyn i chi fethu â thalu.
Pan siaradwch â’ch landlord:
- esboniwch pam y byddwch chi’n hwyr gyda’r rhent a gofynnwch am ychydig o amser ychwanegol
- byddwch yn glir ynghylch yr hyn rydych chi’n ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem er mwyn sicrhau na fydd yn digwydd eto.
Gallwch ddarganfod mwy am y help a chefnogaeth ychwanegol sydd ar gael ar hyn o bryd yn ein canllaw Coronafeirws a chostau tai
Edrychwch beth yw’r broblem a gwnewch gynllun
Mewn rhai achosion, bydd yn amlwg pam mae gennych chi broblem.
Efallai bod eich incwm neu dreuliau wedi newid yn sydyn er gwaeth.
Er enghraifft, oherwydd eich bod wedi colli’ch swydd neu fod eich partner wedi symud allan ac wedi rhoi’r gorau i gyfrannu at y rhent.
Mewn achosion eraill, efallai eich bod yn byw y tu hwnt i’ch modd. Y naill ffordd neu’r llall, bydd angen cynllun arnoch chi.
Gallai bod yn hwyr dro ar ôl tro gyda’ch rhent arwain at droi allan a geirda gwael gan eich landlord, a fydd yn ei gwneud hi’n anodd i chi ddod o hyd i eiddo arall i’w rentu.
Gallai eich landlord hefyd ddal peth o’r blaendal yn ôl i dalu rhent heb ei dalu os oes arnoch chi arian o hyd pan fyddwch chi’n symud allan.
Gall llunio cyllideb eich helpu i ddarganfod ble rydych chi'n gwario'ch arian a ble y gallech chi dorri'n ôl. Os yw'n debygol o fod yn broblem hirdymor, efallai mai ceisio cymorth ar unwaith fyddai'r ateb gorau. Cyn i faterion fynd allan o reolaeth.
Lleihau eich treuliau misol
Gall torri’n ôl fod yn anodd, ond ni fydd mor boenus â chael eich troi allan o’ch cartref.
Dyna pam mae’n hanfodol eich bod yn gweithredu nawr — gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi’ch hun:
- Allwch chi gael gwared ar unrhyw un o’ch treuliau misol rheolaidd neu dorri’n ôl ar unrhyw bethau moethus?
- Ydych chi ar y prisiau rhataf ar gyfer eich holl filiau misol?
- Os oes gennych chi ddyled cerdyn credyd, allwch chi newid i gerdyn credyd 0% ac arbed ychydig o daliadau llog i chi eich hun?
- Ydych chi’n gwario gormod ar fynd allan neu ddillad newydd? Mae’n llawer pwysicach medru talu’r rhent.
Cynyddu eich incwm presennol trwy fudd-daliadau
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Cymorth i Hawlio
Os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol am y tro cyntaf, mae gan Gyngor ar Bopeth wasanaeth pwrpasol i’ch helpu chi. Ffoniwch 0800 144 8444 yn Lloegr neu 0800 024 1220 yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth ac i ddod o hyd i’ch Cyngor ar Bopeth lleol ar eu gwefan
Yn yr Alban, ffoniwch 0800 023 2581, trwy sgwrs gwe ar wefan Cyngor ar Bopeth neu gysylltwch â’ch swyddfa leol yn uniongyrchol yn ystod eu horiau busnes arferol.
Os yw'ch amgylchiadau wedi newid a bod eich incwm wedi gostwng o ganlyniad, efallai y gallwch gael budd-daliadau i'ch helpu i dalu'ch rhent, fel elfen dai Credyd Cynhwysol.
Ond efallai na fydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn talu'ch holl gostau tai. Mae hyn yn fwy tebygol os ydych yn byw mewn tai rhent preifat.
Os bydd hyn yn digwydd efallai y gallwch wneud cais am Daliad Tai Dewisol (DHP) gan eich cyngor lleol i dalu'r diffyg mewn rhent.
Dim ond ar ôl i chi gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf y gallwch wneud cais am DHP. Gallwch hefyd gwneud cais DHP os ydych yn cael Budd-dal Tai.
Er mwyn eich helpu i baratoi cyn i chi gael eich taliad cyntaf, gall ymgynghorydd Help i Hawlio eich helpu i ddarganfod a fydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn talu am eich holl rent. Os na fydd, gallwch wneud cais am DHP trwy eich cyngor lleol os oes angen un arnoch chi.
Ble i gael cymorth a chyngor am ddim
Os ydych chi am siarad â rhywun ynglŷn â sut i ddelio â’ch landlord, gallwch ffonio Shelter neu Cyngor ar Bopeth, neu Housing Advice NI yng Ngogledd Iwerddon.
Bydd y sefydliadau hyn hefyd yn gallu siarad â chi am yr hawliau y gallwch wneud cais amdanynt i’ch helpu i gwrdd â’ch rhent os ydych ar incwm isel.
Os ydych yn barod yn mynd i ddyled gyda’ch rhent neu rydych chi’n cael trafferth gyda dyledion, siaradwch â chynghorwr dyled cyn gynted â phosibl.
Nid oes rhaid i chi boeni ar eich pen eich hun.
Os ydych chi dan fygythiad o gael eich troi allan
Os ydych chi dan fygythiad o gael eich troi allan o ganlyniad i fynd i ddyled gyda’r rhent, dilynwch y dolenni isod i weld beth yw’ch hawliau a’ch dewisiadau.
Darllenwch am gael eich troi allan o’ch cartref a beth yw eich hawliau yng Lloegr ar wefan Shelter
Darllenwch am gael eich troi allan o’ch cartref a beth yw eich hawliau yng Nghymru ar wefan Shelter Cymru
Dylech hefyd gael cyngor ar ddyledion cyn gynted ag y gallwch.