Pa fudd-daliadau gallaf eu hawlio pan fyddaf yn feichiog neu wedi cael babi?

Pa fudd-daliadau gallaf gwneud cais amdanynt pan rwy’n feichiog?

Presgripsiynau a thriniaeth ddeintyddol GIG am ddim

Beth ydyw?

  • Gofal deintyddol y GIG am ddim yn y Deyrnas Unedig tra byddwch yn feichiog, ac am flwyddyn wedi i’r babi gael ei eni.
  • Mae presgripsiynau am ddim i chi drwy’r adeg yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
  • Yn Lloegr, mae gennych yr hawl i gael presgripsiynau am ddim tra byddwch yn feichiog, ac am flwyddyn wedi i’r babi gael ei eni.

Pwy sy’n ei gael?

Pob menyw sydd yn feichiog neu a roddodd enedigaeth lai na blwyddyn yn ôl.

Sut i wneud cais

Cwblhewch y ffurflen Eithriad Mamolaeth (FW8) -  sydd ar gael gan eich meddyg neu fydwraig.

Pa fudd-daliadau gallaf gwneud cais amdanynt os wyf yn gweithio ac yn cael babi?

Amser o’r gwaith gyda thâl ar gyfer gofal cynenedigol

Beth ydyw?

Waeth faint o amser rydych wedi bod yn eich swydd mae gennych hawl i amser o’r gwaith gyda thâl er mwyn i chi allu mynd i’ch apwyntiadau cynenedigol.

Mae’r amser hwn i ffwrdd yn ychwanegol i’ch gwyliau blynyddol.

Mae gofal cyn geni yn cynnwys:

  • apwyntiadau meddygol a gyda bydwraig
  • apwyntiadau a argymhellwyd gan y meddyg fel dosbarthiadau ymlacio neu rianta.

Dylai’ch amser i ffwrdd gynnwys yr amser a gymerir i deithio i bob apwyntiad ac yn ôl.

Mae tad y babi neu eich partner (mae hyn yn cynnwys partneriaid o’r un rhyw) yn gymwys i gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith heb dâl i fynd gyda chi i ddau o’ch apwyntiadau cynenedigol. Mae'r uchaswm amser wedi ei gapio i chwe awr a 30 munud ar gyfer pob apwyntiad.

Pwy sy’n ei gael?

Menywod beichiog cyflogedig.

Sut i wneud cais

Dywedwch wrth eich cyflogwr pa bryd y cynhelir eich apwyntiadau cynenedigol. Rhowch gymaint o rybudd â phosibl i’ch cyflogwr i’w helpu i gynllunio gwaith.

Gall fod yn syniad da i fynd yn ystod cyfnodau tawel yn y gwaith, neu hyd yn oed y tu allan i oriau gwaith, os y gallwch.

Darganfyddwch fwy am amser i ffwrdd â thâl ar gyfer gofal cynenedigol:

  • Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ar GOV.UK
  • Yng Ngogledd Iwerddon, ar nidirect

Absenoldeb a Thâl Mamolaeth Statudol

Beth yw Absenoldeb a Thâl Mamolaeth Statudol?

Pan gewch fabi, mae gennych hawl i gael blwyddyn o absenoldeb mamolaeth a thâl gan eich cyflogwr am hyd at 39 wythnos tra byddwch ar absenoldeb, os ydych yn gymwys.

Pwy sy’n ei gael?

Menywod beichiog cyflogedig.

I gael Tâl Mamolaeth Statudol rhaid i chi:

  • ennill o leiaf £123 yr wythnos, £533 y mis neu £6,396 y flwyddyn, ar gyfartaledd.
  • fod wedi bod yn gweithio i’ch cyflogwr am o leiaf 26 wythnos

Faint yw Tâl Mamolaeth Statudol?

Cewch Dâl Mamolaeth Statudol am 39 wythnos o’ch absenoldeb mamolaeth o 52 wythnos.

Mae’r tabl isod yn dangos faint o Dâl Mamolaeth Statudol sydd yn y flwyddyn dreth 2023/24:

Cyfnod Mamolaeth Statudol Cyfnod Mamolaeth Statudol

Y chwe wythnos gyntaf

90% o’ch enillion wythnosol ar gyfartaledd cyn treth

Y 33 wythnos nesaf

£172.48 neu 90% of o’ch enillion – pa bynnag sydd leiaf

Y 13 wythnos nesaf (os y’i cymerir)

Heb dâl

Sut i wneud cais

I gael absenoldeb mamolaeth, mae rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr erbyn y 15fed wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig eich babi pa bryd y dymunwch roi’r gorau i weithio.

Mae rhaid i chi roi o leiaf 28 diwrnod o rybudd i’ch cyflogwr eich bod yn dymuno cychwyn Tâl Mamolaeth Statudol a rhoi tystiolaeth iddo eich bod yn feichiog.

Lwfans Mamolaeth

Beth yw Lwfans Mamolaeth?

Taliad bob pythefnos neu fisol gan y llywodraeth os na allwch hawlio Tâl Mamolaeth Statudol.

Pwy sy’n ei gael?

Menywod beichiog a mamau newydd nad ydynt yn gymwys ar gyfer Tâl Mamolaeth Statudol oherwydd:

  • nid ydych wedi gweithio i’ch cyflogwr yn ddigon hir
  • rydych yn hunangyflogedig
  • mae eich tâl cyfartalog yn llai na £123 yr wythnos, £533 yr wythnos neu £6,396 y flwyddyn.

Faint yw Lwfans Mamolaeth?

Mae’r swm a gewch yn seiliedig ar faint fyddwch yn ei ennill.

Gan ddibynnu ar eich enillion, yn y flwyddyn dreth 2023/24 gallech gael un ai:

  • £172.48 yr wythnos neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog (pa bynnag un sydd leiaf) am hyd at 39 wythnos
  • £27 yr wythnos am hyd at 14 wythnos.

Sut i wneud cais

Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, ffoniwch 0800 012 1888 neu lenwi'r ffurflen gais Lwfans Mamolaeth (MA1W) ar GOV.UK

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch NI Direct ar 02890 823 318 i gael ffurflen neu lawrlwytho un oddi ar nidirect

Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Statudol

Beth yw Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Statudol?

Wythnos neu ddwy o absenoldeb o’r gwaith â thâl er mwyn i chi allu helpu i ofalu am eich babi newydd.

Pwy sy’n ei gael?

Mae rhaid i chi:

  • fod yn dad biolegol neu fabwysiadwr y plentyn
  • partner y fam
  • y rhiant bwriededig – os ydych yn cael babi drwy ddirprwyaeth.

Mae rhaid i chi hefyd:

  • fod wedi gweithio i’ch cyflogwr ers 26 wythnos erbyn y 15fed wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig eich babi
  • gael eich cyflogi gan y cyflogwr hyd nes y bydd y babi’n cael ei eni
  • yn ennill o leiaf £123 yr wythnos, £533 y mis neu £6,396 y flwyddyn.

Mae rheolau gwahanol os byddwch yn mabwysiadu:

  • Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr, neu'r Alban, darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
  • Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy ar nidirect

Faint yw Tâl Tadolaeth Statudol?

Cewch Dâl Tadolaeth Statudol am wythnos neu ddwy o’ch absenoleb tadolaeth.

Yn y flwyddyn dreth 2023/24 cewch £172.48 yr wythnos neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog, pa bynnag un sydd leiaf.

Sut i wneud cais

Rhowch ffurflen SC3 i'ch cyflogwr o leiaf 15 wythnos cyn yr wythnos y mae disgwyl i'r babi gael ei eni:

  • Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, mynnwch ffurflen SC3 ar y wefan GOV.UK
  • Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, lawrlwythwch y ffurflen SC3 o nidirect

Mae reolau gwahanol os ydych yn mabwysiadu:

  • Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr, neu'r Alban, darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK.
  • Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy ar nidirect

Absenoldeb a Thâl Rhiant a Rennir

Beth yw Absenoldeb a Thâl Rhiant a Rennir?

Hyd at 50 wythnos o absenoldeb rhiant a 37 wythnos o dâl a rennir gyda’ch partner os ydych yn gymwys.

Pwy sy’n ei gael?

Gallwch gael Tâl Rhiant a Rennir Statudol os ydych yn gyflogedig a’ch bod yn gymwys am un ai:

  • Tâl Mamolaeth Statudol neu Dâl Mabwysiadu Statudol
  • Tâl Tadolaeth Statudol a’ch partner yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, Lwfans Mamolaeth neu Dâl Mabwysiadu Statudol.

Cyn y gall y naill riant gael Absenoldeb Rhiant a Rennir neu Dâl mae rhaid i'r fam (neu'r sawl sy'n cael absenoldeb mabwysiadu) naill ai:

  • dychwelyd i'r gwaith, sy'n dod ag unrhyw absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu i ben, neu
  • rhoi ‘rhybudd rhwymol’ i’w cyflogwr o’r dyddiad pan fyddant yn bwriadu dod â’u gwyliau i ben (ni allwch newid y dyddiad a roddwch mewn rhybudd rhwymol fel rheol).

Faint yw Tâl Rhiant a Rennir Statudol?

Yn y flwyddyn dreth 2023/24 cewch £172.48 yr wythnos neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog – pa bynnag un sydd leiaf.

Sut i wneud cais

Mae rhaid i chi roi rhybudd ysgrifenedig i’ch cyflogwr os dymunwch gael Absenoldeb a Thâl Rhiant a Rennir.

Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, mae ffurflenni y gellir eu lawrlwytho y gallwch eu defnyddio i roi rhybudd ar y wefan GOV.UK

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i nidirect

Darganfyddwch fwy am Absenoldeb a Thâl Rhiant a Rennir Statudol ar y wefan GOV.UK

Absenoldeb a Thâl Mabwysiadu Statudol

Beth yw Absenoldeb a Thâl Mabwysiadu Statudol?

Pan fyddwch yn mabwysiadu neu’n cael plentyn drwy ddirprwyaeth, rydych yn gymwys i gael blwyddyn o absenoldeb o’r gwaith a hyd at 39 wythnos o Dâl Mabwysiadu Statudol.

Pwy sy’n ei gael?

Un unigolyn mewn cwpl all hawlio absenoldeb a thâl mabwysiadu. Gallai'r unigolyn arall fod yn gymwys i gael absenoldeb a thâl tadolaeth.

Mae rhaid i chi fod yn gyflogai ac wedi bod:

  • yn gweithio i’ch cyflogwr ers 26 wythnos erbyn i chi gael eich paru â phlentyn neu erbyn y 15fed wythnos cyn y dyddiad pan ddisgwylir i’ch babi gael ei eni
  • yn ennill o leiaf £123 yr wythnos, £533 y mis neu £6,396 y flwyddyn ar gyfartaledd.

Faint yw Tâl Mabwysiadu Statudol?

Telir Tâl Mabwysiadu Statudol i chi am gyfnod hyd at 39 wythnos o’ch Absenoldeb Mabwysiadu Statudol.

Mae’r tabl isod yn dangos faint o Dâl Mabwysiadu Statudol sydd yn y flwyddyn dreth 2023/24:

Absenoldeb Mabwysiadu Statudol Absenoldeb Mabwysiadu Statudol

Y chwe wythnos gyntaf

90% o’ch enillion wythnosol ar gyfartaledd cyn treth

Y 33 wythnos nesaf

£172.48 neu 90% o’ch enillion – pa bynnag sydd leiaf

Y 13 wythnos nesaf (os y’i cymerir)

Heb dâl

Sut i wneud cais

Dywedwch wrth eich cyflogwr eich bod yn bwriadu cymryd absenoldeb mabwysiadu a phryd y dymunwch iddo gychwyn.

Dylech ddweud wrth eich cyflogwr cyn pen saith diwrnod wedi i’r asiantaeth fabwysiadu ddweud wrthych fod plentyn wedi ei ddewis ar eich cyfer.

Os defnyddiwch ddirprwy i gael babi, dywedwch wrth eich cyflogwr beth yw’r dyddiad geni disgwyliedig a pha bryd rydych yn dymuno dechrau’ch absenoldeb o leiaf 15 wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig y babi.

Credyd Treth Gwaith

Mae Credyd Treth Gwaith yn daliad gan y llywodraeth i’ch helpu i ychwanegu at eich enillion os ydych yn gweithio ac ar incwm isel. Mae’n cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol.

Mae rhaid i’r rhan fwyaf o bobl nawr wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn hytrach na Chredyd Treth Gwaith.

Os ydych eisoes yn hawlio Credyd Treth Gwaith ac yn cael babi, gallai hyn fod yn gymwys fel newid mewn amgylchiadau. Bydd rhaid i chi rhoi gwybod i HMRC o’r newid hwn ac efallai y gofynnir i chi wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol.

Pa fudd-daliadau allaf gwneud cais amdanynt os nad wyf yn gweithio neu fy mod ar incwm isel?

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)

Mae’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA) yn cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol. Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle.

Fodd bynnag, os ydych wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol, efallai y byddwch yn gymwys i gael y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd. Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch gyda chostau eraill - er enghraifft, eich rhent neu fagu plant, efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol ochr yn ochr ag ESA Dull Newydd.

Cymhorthdal Incwm

Mae rhaid i’r rhan fwyaf o bobl nawr wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol yn hytrach na Chymhorthdal Incwm.

Os nad ydych yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth neu Dâl Mamolaeth Statudol a’ch bod yn ddi-waith neu ar incwm isel ac yn methu chwilio am waith, efallai y gallech gael Credyd Cynhwysol tra byddwch yn feichiog.

Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Beth yw’r Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn?

Taliad unwaith ac am byth o £500 o’r Gronfa Gymdeithasol i helpu gyda chostau’ch babi.

Os ydych yn byw yn yr Alban, disodlwyd hwn gan y Grant ‘Best Start’.

Pwy sy’n ei Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn?

Cewch y grant os mai’ch babi yw’r unig blentyn yn eich teulu sydd dan 16 oed a’ch bod chi neu’ch partner yn cael un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Credyd Pensiwn
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm
  • Credyd Treth Plant ar gyfradd uwch na’r elfen deuluol
  • Credyd Treth Gwaith sy’n cynnwys elfen anabledd neu anabledd difrifol.

Mae rhagor o reolau os ydych yn mabwysiadu neu’n dod yn ddirprwy riant. Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK

Sut i wneud cais?

Best Start Grant a Best Start Foods (yr Alban yn unig)

Mae Best Start Grant a Best Start Foods yn rhoi cefnogaeth ariannol i deuluoedd ar incwm isel yn ystod blynyddoedd cynnar allweddol bywyd plentyn.

Pwy sy’n ei gael?

Os ydych dan 18 oed, gallwch gyflwyno cais i Best Start Grant neu Best Start Foods hyd yn oed os nad ydych yn cael unrhyw daliadau neu fudd-daliadau.

Os ydych dros 18 oed, gallwch gyflwyno cais os ydych yn cael unrhyw rai o’r budd-daliadau canlynol:

  • Credyd Cynhwysol
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Budd-dal Tai
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith.

Ni allwch gael Best Start Grant na Best Start Foods os ydych yn cael Budd-dal Plant yn unig.

Mae terfynau incwm yn berthnasol hefyd os dymunwch wneud cais am Best Start Foods.

Darganfyddwch fwy am Best Start Grant, Best Start Foods a therfynau incwm ar wefan mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd

Faint yw Best Start Grant?

Yr elfen Taliad Beichiogrwydd a Babi yw:

  • £642.35 am fabi cyntaf a £321.20 am fabi newydd os oes gennych blant hŷn yn byw gyda chi.
  • £321.20 ychwanegol am unrhyw blentyn wedyn.
  • Bydd y Taliad Dysgu Cynnar yn £267.65 am bob plentyn.

Bydd y Taliad Oedran Ysgol yn £267.65 am bob plentyn.

(Ffigyrau 2023/24)

Beth yw Best Start Foods?

Cerdyn rhagdaledig yw Best Start Foods i brynu bwydydd iach i blant dan dair oed. Gellir ei ddefnyddio ar-lein neu mewn siopau. Cewch:

  • £18 bob pedair wythnos yn ystod beichiogrwydd
  • £36 bob pedair wythnos o ddiwrnod geni’ch plentyn hyd nes y bydd yn flwydd oed
  • £18 bob pedair wythnos rhwng un a thair oed.

(Ffigyrau 2023/24)

Sut i wneud cais

Gallwch gyflwyno cais am Best Start Grant a Best Start Foods ar-lein, dros y ffôn neu drwy gwblhau’r ffurflen gais ar bapur.

I ddarganfod mwy am gyflwyno cais ar gyfer Best Start Grant a Best Start Foods ar wefan mygov.scot

Cynlluniau Cychwyn Iach (yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon)

Mae cynllun Cychwyn Iach y GIG yn talu hyd at £8.50 yr wythnos i deuluoedd cymwys sydd â phlant ifanc (neu’n disgwyl plentyn) i helpu i dalu am fwydydd ‘iach’ fel ffrwythau, llysiau a llaeth. Rydych hefyd yn cael atchwanegiadau fitaminau am ddim.

Ar gyfer beth y gellir defnyddio taliadau Cychwyn Iach?

Gellir defnyddio’r taliad wythnosol ar eich cerdyn rhagdaledig tuag at:

  • llaeth - llaeth buwch plaen, wedi'i basteureiddio'n gyfan, wedi'i sgimio neu ei sgimio wedi'i basteureiddio, ei sterileiddio, ei oes hir neu ei drin â gwres uwch (UHT)
  • ffrwythau a llysiau plaen ffres a wedi rhewi
  • fformiwla i fabanod
  • fitaminau – mae gan fenywod beichiog, menywod â phlentyn o dan 12 mis oed a phlant hyd at bedair oed sy'n cael taliadau Cychwyn Iach hawl i fitaminau Cychwyn Iach am ddim – un botel bob wyth wythnos.

Dim ond mewn siopau (nid ar-lein) sy'n gwerthu llaeth, fformiwla fabanod, ffrwythau a llysiau y gallwch ddefnyddio'r cardiau ac ni allwch dynnu arian parod o'r cerdyn.

 

Pwy sy’n gymwys am y taliadau?

Cewch y taliadau os ydych yn feichiog ers 10 wythnos o leiaf neu fod gennych blentyn sy’n iau na phedair oed a’ch bod chi a’ch teulu’n cael un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (Os ydych yn feichiog)
  • Credyd Treth Plant os yw incwm eich teulu’n £16,190 neu lai ac nid ydych yn cael Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Gwaith os ydych yn cael ychwanegiad Credyd Treth Gwaith. Gellir talu ychwanegiad i chi yn ystod y pedair wythnos wedi i chi roi’r gorau i weithio digon o oriau i fod yn gymwys am Gredyd Treth Gwaith.
  • Credyd Cynhwysol os yw’ch cartref yn ennill £408 neu lai y mis.
  • Credyd Treth Gwaith yn rhedeg ymlaen. Dyma’r taliad a gewch am bedair wythnos ar ôl i chi roi’r gorau i weithio am 16 awr neu fwy bob wythnos (oedolion sengl).
  • Credyd Pensiwn (sy’n cynnwys yr ychwanegiad Plentyn).

Rydych yn gymwys hefyd am daliadau bwyd Cychwyn Iach os nad ydych yn cael un o’r budd-daliadau hyn eich hun ond rydych yn byw gyda’ch partner ac mae ef neu hi’n cael y budd-dal.

Os ydych dan 18 oed ac yn feichiog gallwch gael taliadau Cychwyn Iach hefyd, hyd yn oed os nad ydych yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau uchod.

Faint yw taliadau bwyd Cychwyn Iach?

  • mae menywod beichiog (o'r 10fed wythnos) a phlant un i bedair oed yn cael £4.25 yr wythnos
  • Mae plant dan un yn cael £8.50 yr wythnos.

(Ffigurau 2023/24)

Sut i wneud cais

Bydd angen i chi wneud cais am eich cerdyn Cychwyn Iach ar-lein o wefan Cychwyn Iach y GIGYn agor mewn ffenestr newydd Rhaid i chi gofrestru am gerdyn hyd yn oed os oeddech wedi hawlio talebau papur yn flaenorol.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch gallwch hefyd siarad â’ch bydwraig, ymwelydd iechyd neu feddyg, neu ffoniwch Cychwyn Iach ar 0300 330 7010 neu edrychwch ar wefan Cychwyn Iach y GIGYn agor mewn ffenestr newydd

Cymorth gyda thrafnidiaeth ysgol

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu derbyn cymorth gyda chostau trafnidiaeth ysgol eich plentyn. Mae hyn yn dibynnu ar ba mor bell rydych yn byw o’r ysgol, oed y plentyn ac unrhyw anableddau.

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu derbyn cymorth ychwanegol os ydych ar incwm isel neu’n hawlio budd-daliadau.

Os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr, gallwch wirio’ch cymhwyster ar wefan eich cyngor lleol Darganfyddwch fwy am eich cyngor lleol ar wefan GOV.UK

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan yr Awdurdod Addysg

Os ydych yn byw yn yr Alban, ewch i wefan mygov.scot

Taliad Plentyn yr Alban

Os ydych yn byw yn yr Alban, rydych chi neu'ch partner yn hawlio rhai budd-daliadau penodol, a chi neu'ch partner yw'r prif berson sy'n gofalu am blentyn o dan 16 oed yna efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am daliad wythnosol o £25 am bob plentyn o dan 16 oed. 

Os byddwch yn llwyddiannus, a byddwch yn cael eich talu bob pedair wythnos. 

Pa fudd-daliadau gallaf wneud cais amdanynt ar ôl i mi gael babi?

Budd-dal Plant

Beth yw Budd-dal Plant?

Taliad rheolaidd gan y llywodraeth yw Budd-dal Plant i roi cymorth gyda’r cost o fagu plentyn.

Un unigolyn yn unig all hawlio Budd-dal Plant a gallwch hawlio am bob plentyn rydych yn gyfrifol amdano.

Pwy sy’n ei gael?

Unrhyw un sy’n gyfrifol am blentyn dan 16 (neu dan 20 os yw mewn addysg neu hyfforddiant).

Faint yw Budd-dal Plant?

Y cyfraddau ar gyfer blwyddyn dreth 2023/24 yw:

  • £24.00 yr wythnos am eich plentyn cyntaf neu’ch unig blentyn
  • £15.90 yr wythnos am unrhyw blant eraill.

Sut i wneud cais

Os ydych chi neu’ch partner yn ennill dros £50,000 y flwyddyn

Os ydych chi neu’ch partner yn ennill mwy na £50,000 y flwyddyn, bydd rhaid i chi dalu rhywfaint neu’r cyfan o’ch Budd-dal Plant yn ôl fel Treth Incwm ychwanegol. Ond gallai fod o fudd i chi serch hynny ymgeisio am help i ddiogelu’ch pensiwn y wladwriaeth.

Credyd Treth Plant

Mae Credyd Treth Plant wedi'i ddisodli gan Gredyd Cynhwysol ar gyfer pob cais newydd. Gallwch hawlio ar gyfer plant hyd nes y byddant yn cyrraedd 19 oed (neu 20 oed o dan rai amgylchiadau) os ydynt mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy llawn amser, ond nid yn y brifysgol.

Os ydych eisoes yn cael Credyd Treth Plant, bydd angen i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM pan fydd y babi wedi'i eni ac efallai y gofynnir i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle.

Os oes gennych dri neu fwy o blant, gallwch wneud cais am bob un ohonynt os cawsant eu geni cyn 6 Ebrill 2017.

Fel rheol, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar gyfer trydydd neu fabanod dilynol, ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig, gan gynnwys genedigaeth luosog, mabwysiadu neu ddod yn ofalwr carennydd.

Darganfyddwch fwy ar wefan Working Families (Opens in a new window)

Pa fudd-daliadau gallaf wneud cais amdanynt os wyf yn astudio?

A ydych wedi cael babi ac yn y coleg neu'r brifysgol? Yna gallech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol. Gallai hyn gwmpasu popeth o gostau byw a chostau dysgu i grantiau teithio a gofal plant.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.