Os ydych yn prynu ar-lein, talu mewn siop neu hyd yn oed yn archebu clydfwyd, gall Prynu Nawr Talu Wedyn (BNPL) ymddangos fel ffordd gyflym a hawdd i dalu. Ond mae BNPL yn ffurf o fenthyg felly mae angen i chi feddwl yn ofalus cyn ei ddefnyddio, yn enwedig os ydych yn gwario mwy nag allwch fforddio ei had-dalu.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Sut mae Prynu Nawr Talu Wedyn yn gweithio?
- Sut ydych yn talu drwy Brynu Nawr Talu Wedyn
- Beth y mae angen i chi ei wybod cyn defnyddio Prynu Nawr Talu Wedyn i fenthyg arian
- Cadw cofnod o’ch pryniadau Prynu Nawr Talu Wedyn
- Sut i wneud i Brynu Nawr Talu Wedyn weithio i chi
- Byddwch yn ofalus sut rydych yn defnyddio cynlluniau BNPL
- Beth i’w wneud os byddwch yn methu taliad neu’n methu ad-daliadau
- Beth fydd yn digwydd os byddwch yn methutaliad BNPL?
- Cymharu eich holl opsiynau benthyg
- Teclynnau defnyddiol
Sut mae Prynu Nawr Talu Wedyn yn gweithio?
Pan rydych yn cael cynnig Prynu Nawr Talu Wedyn (BNPL) wrth y ddesg dalu, cytundeb credyd yw hwn - ffurf o fenthyg.
Mae gan rhai manwerthwyr cynlluniau BNPL eu hunain, ond fel arfer caiff ei gynnal gan ddarparwr trydydd parti Fel Klarna, Clearpay neu PayPal.
Mae'r darparwyr trydydd parti BNPL hyn bellach yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) sy'n rhoi diogelwch ychwanegol i chi. Mae hefyd yn golygu bod yn rhaid iddynt wirio'ch sefyllfa ariannol cyn iddynt ddewis benthyca i chi, er mwyn sicrhau nad ydych chi'n benthyg mwy nag y gallwch fforddio ei ad-dalu.
Fodd bynnag, nid yw cynhyrchion BNPL a gynigir yn uniongyrchol gan y manwerthwr fel arfer yn cael eu rheoleiddio, sy'n golygu y gallech gael cynnig mwy nag y gallwch fforddio ei ad-dalu.
Gallwch ddysgu mwy am y diogelwch defnyddwyr hwn isod ond gallwch hefyd wirio a yw darparwr BNPL wedi'i reoleiddioYn agor mewn ffenestr newydd ar wiriwr cwmni'r FCA.
Os dewiswch ddefnyddio BNPL, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall sut mae'n gweithio a beth sy'n digwydd os na allwch fforddio ad-dalu. Er enghraifft, gallech wynebu ffioedd hwyr neu gellid trosglwyddo'r taliad i'r un nesaf.
Sut ydych yn talu drwy Brynu Nawr Talu Wedyn
Os ydych yn cael cynnig BNPL, rydych yn debygol o allu dewis rhwng dau opsiwn ad-dalu:
- Talu mewn sawl taliad hafal. Rydych yn ad-dalu cost yr eitem yn rheolaidd, fel arfer pob pythefnos neu’n fisol, neu dros ychydig wythnosau neu fisoedd.
- Talu’r swm llawn mewn cyfandaliad ar ôl cyfnod sefydlog. Rydych yn cael cyfnod di-log a dim ond yn talu ar ddyddiad y cytunwyd arno os ydych yn penderfynu cadw’r eitemau. Gall hwn fod yn ddefnyddiol os ydych am drio eitem cyn ei brynu gan allwch ddychwelyd yr eitemau heb dalu amdanynt os nad ydyn nhw’n iawn.
Beth y mae angen i chi ei wybod cyn defnyddio Prynu Nawr Talu Wedyn i fenthyg arian
Gall BNPL fod yn ffordd ddefnyddiol o ledaenu cost pryniannau os ydych chi'n ei ddefnyddio'n ofalus ac yn gallu fforddio'r ad-daliadau. Fel gydag unrhyw fath o fenthyg, mae risgiau y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt - gan nad yw rhai mathau o BNPL yn cael eu rheoleiddio yn yr un ffordd â chynhyrchion credyd defnyddwyr eraill ac nid ydynt yn destun i’r un rhybuddion.
O 15 Gorffennaf 2026 daeth rheolau newydd i rym sy'n golygu bod cynlluniau BNPL trydydd parti fel Klarna, Clearpay a PayPal bellach yn cael eu rheoleiddio gan yr FCA sy'n rhoi mwy o ddiogelwch i ddefnyddwyr.
Weithiau gelwir y cynlluniau BNPL hyn yn ‘Credyd Taliad Gohiriedig’ (DPC).
Dyma beth sydd angen i chi ei wybod cyn ei ddefnyddio:
Rhowch ddigon o amser i chi’ch hunain i feddwl am sut y byddwch yn ad-dalu
Mae rhai manwerthwyr yn annog pobl i ddewis BNPL dros ffyrdd eraill o dalu gan ei wneud yn ddull dalu diofyn neu gynnig cymhelliad, fel gostyngiad neu anfon yr eitemau am ddim.
Ond mae’n bwysig rhoi ddigon o amser i feddwl am sut y byddwch yn ad-dalu, a phenderfynu os ydy BNPL yn gweithio i chi.
Gwiriwch y telerau ac amodau
Bydd angen i unrhyw gynnyrch BNPL sy'n dod o dan y rheoliadau newydd ac a gymerir allan ar neu ar ôl 15 Gorffennaf 2026 roi gwybodaeth glir i chi cyn i chi gymryd y cytundeb.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddo nodi eich amserlen dalu, unrhyw ffioedd a thaliadau am daliadau hwyr, a'ch hawliau statudol. Mae’n bwysig deall beth rydych yn cofrestru amdano gan wirio’r telerau ac amodau.
Gall gael llawer o gytundebau BNPL o symiau bach ddechrau cronni. Yn ogystal â gwirio a allwch fforddio ad-daliadau ar ben unrhyw filiau eraill, sicrhewch eich bod yn cadw cofnod o bryd mae pob taliad yn ddyledus.
Mae rhai darparwyr BNPL bellach yn cael eu rheoleiddio gan yr FCA
O 15 Gorffennaf 2026, bydd cynhyrchion BNPL a gynigir gan ddarparwyr trydydd parti fel Klarna, Clearpay a PayPal yn cael eu rheoleiddio gan yr FCA.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r darparwyr hyn wirio a allwch chi fforddio ad-dalu'r hyn sy’n ddyledus gennych cyn iddynt eich cymeradwyo. Bydd hyn yn cynnwys gwneud 'chwiliad meddal' neu mewn rhai achosion, 'chwiliad caled' ar eich adroddiad credyd am eich hanes credyd.
Nid yw chwiliad 'meddal' yn weladwy i unrhyw un ond chi a'r asiantaeth cyfeirio credyd (CRA) felly nid yw'n effeithio ar eich sgôr credyd o gwbl. Mae hefyd yn golygu na fyddant yn gwybod a allwch chi fforddio ad-dalu'r hyn sy’n ddyledus gennych.
Bydd chwiliad caled yn effeithio ar eich sgôr credyd a gall llawer o chwiliadau caled mewn cyfnod byr wneud i ddarpar fenthycwyr feddwl eich bod chi'n dibynnu gormod ar gredyd ac y gallech fod yn risg uwch. Gallwch ddarganfod mwy am hyn yn ein canllaw Sut i wirio eich adroddiad credyd am ddim.
Bydd eich darparwr BNPL yn dweud wrthych cyn i chi wneud y cais a byddant yn cynnal chwiliad caled neu chwiliad meddal. Fel arfer, dim ond chwiliad meddal fydd yn cael ei gynnal ar gyfer cytundebau BNPL sy'n rhedeg am lai na blwyddyn, ond gall cytundebau sy’n para blwyddyn neu fwy gynnwys chwiliad caled.
Mae MoneySavingExpert yn rhestru pa asiantaethau gwirio credyd mae darparwyr BNPL yn adrodd iddyntYn agor mewn ffenestr newydd Disgwylir i fwy o reoliadau BNPL cael eu cyflwyno ar ddechrau 2026.
Beth i'w wneud os caiff eich cais am BNPL ei wrthod
Os yw darparwr trydydd parti BNPL fel Klarna, Clearpay neu PayPal, yn gwrthod eich cais am gynnyrch BNPL, mae'n bwysig eich bod yn darganfod pam cyn gwneud cais eto oherwydd efallai y byddwch yn gallu gwneud rhai newidiadau.
Gallwch ddarganfod mwy yn ein canllaw Beth i'w wneud os ydych yn cael eich gwrthod am fenthyciad neu gerdyn credyd.
Mae’r rhan fwyaf o gynnyrch BNPL wedi’u cynnwys o dan adran 75
Os ydych yn talu am rywbeth sy’n costio dros £100 (felly ni fyddai eitem sy’n costio £100 yn union yn cael ei gynnwys) a hyd at £30,000 (nid £30,000.01) gyda cherdyn credyd a bod problem, er enghraifft os ydyw wedi’i dorri, gallwch wneud cwyn i’ch benthyciwr a gofyn am ad-daliad o dan Reolaeth adran 75.
Mae diogelwch adran 75 hwn bellach wedi'i ymestyn i gynnwys eitemau y talwyd amdanynt gan ddefnyddio cynnyrch BNPL. I fod yn gymwys rhaid i'r cynnyrch BNPL:
- Fod gan ddarparwr trydydd parti BNPL fel Klarna, Clearpay neu PayPal (ni all fod yn gynnyrch BNPL a gynigir yn uniongyrchol gan fanwerthwr)
- Fod wedi'i gymryd allan ar neu ar ôl 15 Gorffennaf 2026.
Cyn i chi brynu unrhyw beth, gwiriwch pa ddiogelwch prynwr y mae eich darparwr BNPL yn ei ddarparu. Er enghraifft, bydd rhai darparwyr yn oedi taliadau tan fod y broblem wedi’i ddatrys a’n ad-dalu unrhyw daliadau rydych wedi’i wneud eisoes os yw’r anghydfod yn cael ei ddatrys o’ch plaid. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol mai polisïau yw'r rhain yn hytrach na hawliau cyfreithiol.
Cwyno am ddarparwr BNPL
Mae cynhyrchion BNPL gan ddarparwyr trydydd parti fel Klarna, Clearpay a PayPal a gymerwyd ar neu ar ôl 15 Gorffennaf 2026 yn cael eu rheoleiddio gan yr FCA.
Gallwch wirio a yw darparwr BNPL wedi'i reoleiddioYn agor mewn ffenestr newydd ar wiriwr cwmni'r FCA.
Os yw eich darparwr BNPL wedi'i reoleiddio gan yr FCA, gallwch hefyd gwyno amdano i'r Ombwdsmon Ariannol. Gallwch ddarganfod mwy am y camau y dylech eu dilyn i wneud cwyn yn ein canllaw Sut i gwyno i'ch banc, yswiriwr, benthyciwr, darparwr cerdyn neu ddarparwr buddsoddi.
Mae angen i gwmnïau BNPL hefyd weithio gyda chi i ddod o hyd i drefniadau talu amgen os ydych chi'n cael trafferth talu.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am help i glirio arian sy'n ddyledus i fenthycwyr yn ein canllaw Beth yw Lle i Anadlu a sut y gall fy helpu?
Cadw cofnod o’ch pryniadau Prynu Nawr Talu Wedyn
Mae cadw cofnod o faint rydych wedi’i wario a phryd i dalu eich ad-daliadau yn hanfodol i osgoi ffioedd ychwanegol ar gytundebau BNPL, yn enwedig os oes gennych fwy nag un cytundeb.
Mae rhai darparwyr yn cynnig mynediad i’ch cyfrif trwy eu gwefan neu ap i’ch helpu i gadw cofnod.
Sut i wneud i Brynu Nawr Talu Wedyn weithio i chi
Wrth ddefnyddio BNPL, mae yna rhai pethau gallwch ei wneud i helpu sicrhau nad ydych yn talu mwy nag sydd angen i chi:
- Cadwch lygad allan am hysbysiad gan eich darparwr yn dweud wrthych bryd mae’ch taliad nesaf yn ddyledus.
- Sicrhewch y gallwch wneud taliadau pan maent yn ddyledus. Er enghraifft, os ydych yn cael treuliau annisgwyl, a fyddwch yn methu taliad?
- Osgowch ddefnyddio BNPL os ydych mewn problem ddyled yn barod a chewch help cyn gynted ag y gallwch o gynghorydd dyled diduedd, am ddim.
- Sefydlwch Ddebyd Uniongyrchol neu defnyddiwch eich cerdyn debyd i wneud ad-daliadau. Mae gwneud ad-daliadau gyda cherdyn credyd yn meddwl bod gennych arian yn ddyledus o hyd i ddarparwr y cerdyn.
Os ydych yn wynebu costau byw uwch, darganfyddwch am ffynonellau incwm a chymorth ychwanegol yn ein hadran Help gyda chostau byw
Byddwch yn ofalus sut rydych yn defnyddio cynlluniau BNPL
Gall talu mewn rhandaliadau neu ohirio pan fydd yn rhaid i chi dalu am eich pryniant deimlo fel ffordd dda o reoli'ch arian, yn enwedig os oes angen i chi brynu hanfodion. Fodd bynnag, os ydych chi'n cael trafferth cadw i fyny â thaliadau, ceisiwch osgoi cymryd nifer o gytundebau BNPL nes eich bod chi'n ôl ar y trywydd iawn gan ei fod yn ei gwneud hi'n anoddach i chi gadw i fyny â gwahanol ddyddiadau ad-dalu.
Er y gall defnyddio cynlluniau BNPL fod yn ffordd rad o fenthyg, gall ffioedd a thaliadau talu'n hwyr gronni'n gyflym. Hefyd, po fwyaf aml y byddwch yn defnyddio rhandaliadau neu daliadau gohiriedig, y mwyaf tebygol ydynt o ymddangos ar eich ffeil credyd. Gallai hyn gael effaith negyddol ar eich statws credyd.
Gofynnwch i chi'ch hun a fyddech chi'n prynu'r eitem pe na bai'n cael ei chynnig i chi fel hyn. Neu, fel arall, a ydych chi wir ei angen?
Gwnewch gyllideb
Os ydych yn poeni am arian, ac nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, edrychwch ar yr hyn yr ydych yn ei wario a pha incwm sydd gennych yn dod i mewn i weld a allwch dorri’n ôl ar gostau.
Beth i’w wneud os byddwch yn methu taliad neu’n methu ad-daliadau
Os na fyddwch yn parhau â’ch ad-daliadau, gellir codi ffi cosb neu log (neu’r ddau) arnoch yn dibynnu ar ba fath o gontract BNPL sydd gennych. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw'r costau os byddwch yn methu taliad, gan fod cosbau'n amrywio rhwng darparwyr.
Os yw’n debygol y byddwch yn methu taliad, mae’n bwysig eich bod yn siarad â’ch darparwr cyn bod y taliad yn ddyledus. Bydd colli taliad yn effeithio'n negyddol ar eich sgôr credyd a gallai effeithio ar eich gallu i gael credyd yn y dyfodol.
Drwy siarad â’ch darparwr, gallent gynnig help gan gynnwys:
- gweithio gyda chi i ddarparu cymorth cyn i chi fethu unrhyw daliadau
- gweithio allan cynllun ad-dalu arall i helpu i wneud taliadau yn haws eu rheoli
- rhoi digon o amser i chi ad-dalu a pheidio â rhoi pwysau arnoch i ad-dalu'ch dyled o fewn amser afresymol o fyr
- gwneud yn siŵr nad yw eich balans yn mynd allan o reolaeth unwaith y bydd trefniant ad-dalu yn ei le
- adnabod ac ymateb i’ch anghenion os ydych mewn amgylchiadau bregus.
Os ydych chi’n defnyddio BNPL i dalu am siopa hanfodol, mae help ar gael yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig.
Beth fydd yn digwydd os byddwch yn methutaliad BNPL?
Os byddwch yn methu taliad ac nad ydych yn cysylltu â’ch darparwr, bydd fel arfer yn dilyn y broses hon:
- Efallai y byddant yn gofyn yn gyntaf i chi gysylltu drwy ysgrifennu atoch neu eich ffonio.
- Os na fyddwch yn delio â’r ddyled, bydd y benthyciad yn ‘ddiffygdaliad’ (neu, fel arall, rydych wedi methu â gwneud taliadau).
- Pan fydd y benthyciad wedi’i ‘ddiffygdalu’, gellir ychwanegu taliadau a llog – gan gynyddu’r hyn sy’n ddyledus gennych.
- Os nad ydych wedi ymateb o hyd, efallai y bydd eich benthyciwr yn mynd i’r llys i geisio Dyfarniad Llys Sirol (CCJ). Yn yr Alban gelwir hyn yn 'decree'. Mae CCJ yn rhoi mwy o opsiynau i'ch benthyciwr i orfodi ad-dalu'r ddyled. Gall y mesurau hyn effeithio'n ddifrifol ar eich gallu i gael credyd gyda benthycwyr eraill yn y dyfodol.
- Efallai y bydd y ddyled yn cael ei gwerthu ymlaen i asiantaeth casglu dyledion a fydd yn cysylltu â chi ac yn gofyn am daliad. Fodd bynnag, ni chaniateir iddynt symud nwyddau. Os nad ydych wedi talu’r ddyled ar ôl i Ddyfarniad Llys Sirol (CCJ) gael ei gyhoeddi, gall y benthyciwr wneud cais am warant rheolaeth a chyfarwyddo asiantau gorfodi (a elwir hefyd yn feilïaid). Dim ond ar hyn o bryd y gellir cymryd rhai nwyddau a'u gwerthu i dalu tuag at y ddyled.
Cymharu eich holl opsiynau benthyg
Mae Prynu Nawr Talu Wedyn dim ond yn un ffordd o fenthyca arian.